Neidio i'r prif gynnwy

Yn unol ag egwyddorion y cynllun pontio o bandemig i endemig, rydym wedi adolygu'r angen am adrodd ystadegol rheolaidd ar COVID-19. Hwn fydd argraffiad olaf yr adroddiad misol hwn, er bod y data y tu ôl iddo yn parhau i gael ei gyhoeddi ar StatsCymru yn wythnosol.

Cyflwyniad

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am ofal iechyd wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae'r datganiad yn cynnwys ffigurau ar welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, a derbyniadau cleifion cysylltiedig â COVID-19 i'r ysbyty.

Prif bwyntiau

  • Dros y 7 niwrnod diwethaf, cafodd cyfartaledd o 15 o bobl y dydd eu derbyn i'r ysbyty gyda chadarnhad neu amheuaeth o COVID-19. Mae hyn yn gostwng o’i gymharu â’r cyfartaledd o 16 ar gyfer yr wythnos hyd at 2 Awst 2022 ac mae’r lefelau yn debyg i’r hyn yr oeddent ganol mis Mai 2022.
  • Ar 9 Awst 2022, roedd 719 o welyau yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella), sef 8.1% o'r holl gleifion ysbyty. Mae hyn yn gostwng o’r ffigur o 780 ar 2 Awst 2022 (8.7% o'r holl gleifion ysbyty) ac mae’r lefelau yn debyg i’r hyn yr oeddent ganol mis Mai 2022.
  • Mae nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella) yn amrywio. Bu gostwng o 61 yn nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 dros yr wythnos ddiwethaf. Roedd hyn oherwydd ostyngiad yn nifer y cleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19 (48 yn llai o welyau yn cael eu defnyddio), cleifion sy’n gwella (4 yn llai o welyau yn cael eu defnyddio) a chleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19 (9 yn llai o welyau yn cael eu defnyddio).
  • Ar 9 Awst 2022, roedd 295 o welyau mewn ysbytai acíwt yn cael eu defnyddio gan gleifion â COVID-19 wedi’i gadarnhau ac roedd 34 (11.5%) o’r cleifion hyn yn cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19.
  • Ar 9 Awst 2022, roedd 12 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi'u cadarnhau ac achosion a amheuir). Mae hyn yn cymharu â 15 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol ar 2 Awst 2022 ac mae ar lefelau tebyg i’r hyn yr oeddent canol mis Mai 2022.

Mae ystadegau am absenoldeb staff y GIG ar gael ar StatsCymru.

Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y byddant yn newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol. Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth am y ffordd o adrodd gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Mae'r adran hon yn sôn am nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 a gafodd eu derbyn i'r ysbyty, a'r gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol sy’n cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Mae'r mathau o ysbytai y mae’r adroddiad yn eu trafod wedi newid dros amser, am fwy o wybodaeth, gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Derbyniadau i ysbytai

Image
Mae Siart 1 yn dangos bod nifer y derbyniadau COVID-19, ar ôl cyrraedd brig ym mis Ebrill 2020, wedi cyrraedd pwynt uchel ar 30 Rhagfyr 2020 cyn gostwng eto. Ar ôl cynnydd mewn derbyniadau yn gynnar ym mis Ionawr 2022, gostyngodd y cyfartaledd treigl yn gyffredinol. Yn dilyn uchafbwynt bach ym mis Mawrth/Ebrill 2022, mae'r cyfartaledd treigl wedi gostwng dros yr wythnosau diwethaf.

Derbyniadau i ysbytai'r GIG yn ôl bwrdd iechyd lleol, math o ysbyty a dyddiad (StatsCymru)

Nodiadau

Mae derbyniadau'n cyfeirio at y nifer o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty o fewn cyfnod o 24 awr rhwng hanner nos a hanner nos bob dydd, er enghraifft o 00:00 i 23:59 ddydd Llun gydag adroddiad ddydd Mawrth. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau derbyniadau.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd lle bo amheuaeth neu gadarnhad o COVID-19 yn amrywio. O ystyried hynny, gostyngodd y cyfartaledd treigl 7 diwrnod ar y cyfan rhwng Ionawr 2021 a Mehefin 2021, cyn cynyddu eto tan ganol Medi 2021. Ar ôl cyfnod o amrywio, gostyngodd y cyfartaledd yn gyffredinol rhwng fis Tachwedd 2021 a diwedd mis Rhagfyr 2021.
  • Yn 2022, mae derbyniadau wedi parhau i amrywio, gyda cynnydd ym mis Ionawr, ym mis Mawrth ac ym mis Mehefin.
  • Yn y 7 niwrnod diwethaf cafodd cyfartaledd o 15 o bobl y dydd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19. Mae hyn yn gostwng o'i gymharu â'r cyfartaledd o 16 ar gyfer yr wythnos hyd at 2 Awst.

Nifer y bobl yn yr ysbyty

Image
Mae Siart 2 yn dangos bod nifer y bobl yn yr ysbyty â COVID-19 wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 cyn gostwng eto. Yn dilyn cynnydd mewn derbyniadau i’r ysbyty rhwng diwedd Rhagfyr 2021 a chanol Ionawr 2022, gostyngodd nifer y gwelyau gyda chleifion cysylltiedig â COVID-19 yn gyffredinol. Yn dilyn cynnydd ar ddiwedd mis Mawrth 2022, gostyngodd nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19 cyn cynyddu eto yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Cyfnodau yn ysbytai'r GIG yn ôl bwrdd iechyd lleol, math o ysbyty a dyddiad (StatsCymru)

Nodiadau

Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai 2020 er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Bu rhai gwahaniaethau o ran adrodd gan fyrddau iechyd yn y gyfres amser sy'n cael eu hamlinellu'n fanylach yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth am y ffordd o adrodd am gleifion sy’n gwella.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau cyfnodau yn yr ysbyty.

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd cyfanswm nifer y gwelyau a oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella) o ddiwedd mis Medi 2020 a chyrraedd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 (2,879 o gleifion). O fis Ionawr 2021 i fis Mehefin 2021, gwelwyd gostyngiad cyffredinol yn nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 a chyrhaeddodd y lefelau isaf ar gofnod ar 30 Mehefin 2021 a 4 Gorffennaf 2021 gyda 86 o gleifion.
  • Mae niferoedd wedi amrywio dros y flwyddyn ddiwethaf gyda chynnydd sydyn ym mis Mehefin 2022, ond maen nhw wedi gostwng yn ddiweddar.
  • Cyrhaeddodd nifer y cleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19 a nifer y cleifion sy’n gwella o COVID-19 uchafbwynt ar wahanol adegau; gyda'r niferoedd uchaf o gleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19 yn digwydd ddechrau mis Ionawr 2021 (1,643 ar 4 Ionawr 2021) a'r nifer uchaf o gleifion sy'n gwella i’w gweld rhai wythnosau yn ddiweddarach (1,192 ar 31 Ionawr 2021).

Ar 9 Awst 2022

  • Roedd 719 o welyau yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella), sef 8.1% o'r holl gleifion ysbyty. O'r rhain, roedd 340 yn gleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19, 7 yn gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19 a 372 yn gleifion sy’n gwella. Mae hyn yn ostyngiad o’r ffigur o 780 ar 2 Awst 2022 (8.7% o’r holl gleifion ysbyty) ac mae’r lefelau yn debyg i’r hyn yr oeddent ganol mis Mai 2022.
  • Mae nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella) yn amrywio. Bu gostyngiad o 61 yn nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 dros yr wythnos ddiwethaf. Roedd hyn oherwydd gostyngiad yn nifer y cleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19 (48 yn llai o welyau yn cael eu defnyddio), cleifion sy’n gwella (4 yn llai o welyau yn cael eu defnyddio) a chleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19 (9 yn llai o welyau yn cael eu defnyddio).

Gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol

Image
Mae Siart 3 yn dangos bod nifer y gwelyau â chymorth anadlu mewnwthiol a oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion COVID-19, ar ôl cyrraedd brig ym mis Ebrill 2020, wedi cyrraedd pwynt uchel ar 12 Ionawr 2021 cyn gostwng eto. O fis Ionawr 2022, gostyngodd nifer y gwelyau â chymorth anadlu mewnwthiol gyda chleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19 ond cynyddodd ychydig ym mis Ebrill 2022 cyn gostwng eto. Mae'r ffigur hwn wedi cynyddu dros yr wythnosau diwethaf.

Gwelyau'r GIG yn ôl defnydd, bwrdd iechyd lleol, math o ysbyty a dyddiad (StatsCymru)

Nodiadau

Ystyr mai’r rhif gwaelodol yw nifer y gwelyau oedd ar gael cyn y pandemig. Fel arfer mae 152 o welyau gofal critigol yng Nghymru. Mae nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn cynnwys capasiti ar gyfer ymchwydd dros dro, a gwelyau y tu mewn a’r tu allan i amgylchedd gofal critigol. Mae cleifion COVID-19 yn y siart hon yn cynnwys cleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19, cleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19, a chleifion sy’n gwella. Rhwng 26 Mai 2020 ac 17 Ionawr 2021 cafodd rhai cleifion eu categoreiddio fel rhai ‘sy’n gwella’. O 18 Ionawr 2021, cafodd y cleifion hyn eu categoreiddio fel cleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19. Ni chafodd y newid hwn effaith ar gyfanswm nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol.

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn gyffredinol o fis Medi 2020, gan gyrraedd 150 ar 12 Ionawr 2021. Ar ôl hynny, gostyngodd y niferoedd i’r lefel isaf a welwyd ers dechrau cofnodi. Am sawl diwrnod yn ystod mis Mai 2021 a mis Mehefin 2021, cofnodwyd mai dim ond 1 gwely yn unig lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol oedd yn cael ei ddefnyddio.
  • Rhwng diwedd mis Mehefin 2021 a chanol mis Medi 2021, bu cynnydd yn nifer y gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol a oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 hyd at lefelau a oedd yn debyg i’r hyn yr oeddent ddiwedd mis Chwefror 2021. Er amrywiadau dyddiol, bu gostyngiad cyffredinol yn nifer y gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol oedd yn cael eu defnyddio rhwng dechrau mis Tachwedd 2021 a diwedd mis Rhagfyr 2021. Ar ôl cyfnod o sefydlogrwydd, mae’r lefelau wedi parhau i ostwng i lefelau a welwyd yng nghanol mis Gorffennaf 2021.

Ar 9 Awst 2022

  • Roedd 12 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi'u cadarnhau ac achosion a amheuir).
  • Roedd 159 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn cael eu defnyddio gan gleifion nad oeddent yn gysylltiedig â COVID-19.
  • Roedd 52 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol gwag y gellid eu staffio.

Mae gwybodaeth am ofal iechyd a gyflwynir ar ddangosfwrdd COVID-19 Llywodraeth y DU ac ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

Cleifion COVID-19 sy’n cael triniaeth yn weithredol ar gyfer COVID-19

Prif bwyntiau

  • Mae canran y cleifion sy'n cael eu trin am COVID-19 mewn gwelyau gofal critigol yn sylweddol uwch na'r ganran o gleifion sy’n cael eu trin am COVID-19 mewn gwelyau cyffredinol ac acíwt. Ers dechrau adrodd, mae canran y cleifion sy'n cael eu trin am COVID-19 mewn gwelyau gofal critigol wedi amrywio rhwng 33.3% a 100%, ac mae’r ganran wedi amrywio mewn gwelyau cyffredinol ac acíwt rhwng 6.9% a 44.9%.

Ar 9 Awst 2022

  • Roedd 295 o welyau mewn ysbytai acíwt yn cael eu defnyddio gan gleifion â COVID-19 wedi’i gadarnhau ac roedd 34 (11.5%) o’r cleifion hyn yn cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19.
  • Roedd 11 o welyau gofal critigol mewn ysbytai acíwt yn cael eu defnyddio gan gleifion â COVID-19 wedi’i gadarnhau ac roedd 7 (63.6%) o’r cleifion hyn yn cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19.

Nodiadau

Casgliad data newydd ydy hwn. Gofynnwyd i fyrddau iechyd gategoreiddio cleifion mewnol â COVID-19 wedi’u cadarnhau yn ôl a ydynt yn cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19 ai peidio. Mae’r cleifion sy ddim yn cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19 ydy'r rhai lle mae'r haint yn atodol i'r prif reswm dros fod yn yr ysbyty.

Nid oes diffiniad safonol ar gyfer ‘yn cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19’ ac mae rhai gwahaniaethau ar draws Byrddau Iechyd a lleoliadau yn y dulliau a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad. Mae gwaith yn parhau i ddeall ansawdd a chysondeb y data, ond ystyrir bod y ffigurau'n addas ar gyfer darparu amcangyfrif lefel uchel.

Mae'r ffigurau ar gyfer cleifion mewn ysbytai acíwt yn unig. Nid yw cleifion ysbytai cymunedol, ysbytai maes ac unedau iechyd meddwl, a chleifion yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi'u cynnwys.

Mae'r ffigurau ar gyfer cleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19. Nid yw achosion lle ceir amheuaeth o COVID-19 a chleifion sy'n gwella o COVID-19 wedi'u cynnwys.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y byddant yn newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Mae’n bosibl y bydd data hanesyddol wedi'u diwygio ac na fyddant, felly, yn union yr un fath â'r hyn a gyhoeddwyd o’r blaen.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Ar 13 Mawrth 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y dylai pob gweithgarwch nad oedd yn frys stopio er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig.

Yn dilyn gwaith dilysu pellach, penderfynwyd nad oedd data derbyniadau a chyfnodau yn yr ysbyty cyn 1 Ebrill 2020 yn addas i’w cyhoeddi. Felly, mae’r gyfres amser yn dechrau ar 1 Ebrill 2020.

Mae ffigurau ar weithgarwch a chapasiti ysbytai a defnydd gwelyau yn cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen ac unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaen, ac yn eithrio data o ysbytai preifat.

Derbyniadau i ysbytai

Mae derbyniadau'n cyfeirio at nifer y cleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty o fewn cyfnod o 24 awr rhwng hanner nos a hanner nos bob dydd, er enghraifft o 00:00 i 23:59 ddydd Llun gydag adroddiad ddydd Mawrth. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Diffinnir derbyniad sy'n gysylltiedig â COVID-19 fel derbyniad brys i unrhyw arbenigedd meddygol ac mae naill ai:

  • o fewn 14 diwrnod i gymryd sampl COVID-19 positif; neu
  • lle cymerir sampl COVID-19 ar ddiwrnod cyntaf y derbyniad, p'un a yw'r canlyniad yn bositif neu’n negatif

Bwriad y meini prawf ar gyfer derbyniadau meddygol brys yw rhoi brasamcan o nifer y cleifion lle bo amheuaeth o COVID-19.

Ni ddylai cleifion a drosglwyddir rhwng ysbytai o fewn yr un sefydliad gael eu cyfrif yn nifer y derbyniadau.

Noder nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gallu darparu data ar nifer y cleifion a dderbyniwyd i Ysbyty Glan Clwyd yn ystod misoedd Gorffennaf 2021, Awst 2021 a Hydref 2021 oherwydd mater yn ymwneud â phrosesu data. I gael gwybod mwy am y dyddiadau penodol, darllenwch y nodyn ar StatsCymru.

O 3 Gorffennaf 2020, diweddarwyd y canllawiau i gynnwys derbyniadau brys yn unig yn y ffigurau derbyniadau sy’n gysylltiedig â COVID-19.

O 29 Mehefin 2020 ymlaen, newidiodd y canllawiau hefyd i ofyn yn benodol i fyrddau iechyd eithrio trosglwyddiadau rhwng ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol o'r ffigurau derbyniadau. Cyn hyn, mae'n bosibl bod rhai trosglwyddiadau wedi cael eu cofnodi fel derbyniadau newydd.

O 29 Mehefin 2020, roedd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ddim ond yn cael eu cynnwys mewn derbyniadau COVID-19 os oeddent yn derbyn canlyniad prawf positif am COVID-19 wrth gyrraedd yr ysbyty.

Ar ôl ailgyflwyno triniaethau dewisol o fis Mehefin 2020 ymlaen, cafodd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ac yr amheuid bod ganddynt COVID-19 eu cofnodi i ddechrau ymhlith y derbyniadau COVID-19, hyd yn oed os oeddent yn cael prawf negatif yn nes ymlaen. Arweiniodd hyn at ymchwydd yn nifer yr achosion lle’r oedd amheuaeth o COVID-19 yn yr ysbyty ar yr adeg adrodd.

Nifer y bobl yn yr ysbyty

Mae nifer y bobl sydd yn yr ysbyty am resymau’n gysylltiedig â COVID-19 yn golygu nifer y gwelyau wedi’u staffio a ddefnyddir gan glaf sy'n bodloni'r diffiniad o glaf sydd lle bo ‘Cadarnhad’ neu ‘Amheuaeth’ neu sy’n ‘Gwella’ fel y nodir isod.

Ni fydd claf yn cael ei ddiffinio fel claf y cadarnhawyd bod ganddo COVID-19 hyd nes y bydd wedi cael prawf positif; a bydd yn parhau i gael ei ddiffinio felly hyd nes y bodlonir y meini prawf israddio. (Gweler yr adran ar wella o COVID-19 isod).

Diffinnir claf fel un yr amheuir bod ganddo COVID-19 os yw'n aros am ganlyniad prawf ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty o dan arbenigedd meddygol neu os yw'n dod yn symptomatig ar ôl cael ei dderbyn am unrhyw reswm arall. Mae hyn hefyd yn cynnwys cleifion sy’n cael prawf negatif ond sy’n parhau i arddangos symptomau COVID-19, cleifion sy’n cael canlyniad positif lefel isel cyn cael ail brawf, a chleifion COVID-19 sydd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty ond sy’n cael eu haildderbyn i’r ysbyty gyda symptomau COVID-19 cyn cael ail brawf.

Diffinnir claf fel un sy’n gwella o COVID-19 os yw naill ai'n cael canlyniad prawf negatif fel cadarnhad ei fod bellach yn glaf sy’n gwella o COVID-19, neu os yw'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • wedi cwblhau 10 diwrnod ar ôl prawf COVID-19 positif
  • wedi dangos gwelliant clinigol yn ei gyflwr, gydag o leiaf rywfaint o adferiad anadlol
  • dim twymyn (> 37.8°C) am 48 awr
  • dim imiwnoataliaeth gwaelodol difrifol

Mae claf nad yw’n gysylltiedig â COVID-19 yn glaf nad yw'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf a ddisgrifir uchod ar gyfer cadarnhad, amheuaeth neu sy’n gwella. Os yw claf wedi cael haint COVID-19 yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty ac wedyn yn bodloni'r meini prawf israddio a nodir uchod, dylid ei gofnodi fel claf nad yw’n gysylltiedig â COVID-19.

O 24 Mawrth 2022 ymlaen, mae’r byrddau iechyd wedi bod yn gweithredu’r canllawiau profi COVID-19 wedi’u diweddaru ar draws yr ystad ysbytai. Bydd pob claf yn parhau i gael ei brofi wrth gael ei dderbyn. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol mwyach i brofi cleifion sy’n parhau’n asymptomatig yn ystod eu harhosiad. Bydd hyn yn golygu na fydd nifer o achosion deilliadol / nosocomiaidd yn cael eu dal mwyach, a bydd hyn yn cael effaith ar y ffigurau a adroddir.

Roedd rhai byrddau iechyd wedi dosbarthu rhai cleifion yn anghywir fel rhai a oedd yn gwella o COVID-19 yn hytrach na chleifion heb COVID-19. Cleifion â COVID-19 wedi’i gadarnhau oedd y rhain, nad oeddent wedi cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19 ac a oedd wedi cwblhau 10 diwrnod ar ôl prawf COVID-19 positif. Arweiniodd hyn at gynnydd mwy yn nifer y cleifion y dosbarthwyd eu bod yn gwella nag y dylai fod wedi bod. O 16 Chwefror 2022, ailadroddwyd canllawiau i ddatrys hyn, a arweiniodd at ostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sy’n gwella o COVID-19 a chynnydd cyfatebol mewn cleifion heb COVID-19.

O 18 Ionawr 2022, er mwyn sicrhau adroddiadau cywir a chyson am gleifion sy’n gwella o COVID-19, ailgyhoeddwyd canllawiau ar gyfer adrodd trwy’r SITREP dros y byrddau iechyd. Gofynnwyd i fyrddau iechyd sicrhau bod y maen prawf israddio yn cael ei newid o fod angen ar y claf 14 diwrnod ar ôl prawf COVID-19 positif i fod angen 10 diwrnod.

Er mwyn sicrhau bod nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19 yn cael eu cofnodi'n gywir ac yn gyson yn y data ar gyfnodau yn yr ysbyty, atgoffwyd pob bwrdd iechyd i ddilyn y canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar SITREP, a gofynnwyd iddynt sicrhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol i'w hadroddiadau dyddiol wedi cael eu gweithredu erbyn 12 Ebrill 2021. Yn groes i'r canllawiau, roedd rhai byrddau iechyd yn cyfrif cleifion arhosiad hir a oedd wedi gwella'n llwyr o COVID-19 yng nghategori gwella o COVID-19, yn hytrach na'r categori cleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19, a oedd wedi chwyddo nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19. Arweiniodd y newid hwn at ostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sy'n gwella (gostyngiad o tua 123 o gleifion ar y pwynt gweithredu). Er bod yr effaith wedi’i gweld ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, gwelwyd yr effeithiau pennaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

O 8 Mawrth 2021, sicrhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fod eu data yn fwy cydnaws â’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar y sefyllfa (SITREP). Cafodd y newid hwn effaith fach ar y ffigurau ar gyfnodau yn yr ysbyty, a arweiniodd at gynnydd bach yn nifer y cleifion gyda COVID-19 a gadarnhawyd a gostyngiad bach yn nifer y cleifion COVID-19 sy’n gwella.

O 1 Chwefror 2021, ailadroddwyd canllawiau i fyrddau iechyd y dylai cleifion a oedd eisoes yn yr ysbyty ac wedi dal COVID-19, ond sydd bellach wedi gwella ac sydd yn ôl yn eu lleoliad gwreiddiol, gael eu hadrodd fel rhai nad ydynt yn COVID-19. Gall hyn fod wedi effeithio ar nifer fach o gleifion oedd mewn ysbytai acíwt neu leoliadau iechyd meddwl a gallai fod wedi arwain at ostyngiad yn nifer y cleifion sy'n gwella a chynnydd yn nifer y cleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19.

O 16 Tachwedd 2020, cynhwysir data o ysbyty Athrofaol y Faenor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hyn wedi arwain at gynnydd o oddeutu 450 yng nghyfanswm nifer y gwelyau sydd ar gael.

Cafodd data o unedau iechyd meddwl eu cynnwys yn ôl-weithredol o 10 Gorffennaf 2020 am y tro cyntaf yn natganiad 20 Awst 2020. Roedd cynnwys gwelyau iechyd meddwl wedi cael effaith fach ar ffigurau a oedd yn dangos nifer y gwelyau llawn gyda chleifion COVID-19, ond effaith fawr ar yr holl welyau llawn gyda chleifion heb COVID-19 a gwelyau gwag, gan nad yw’r rhan fwyaf o welyau iechyd meddwl yn cynnwys cleifion COVID-19. Caiff data unedau iechyd meddwl eu cyflwyno bob dydd Gwener, a chaiff y sefyllfa ar y dydd Gwener ei defnyddio fel procsi ar gyfer yr wythnos ganlynol, oni bai bod yr amgylchiadau’n newid yn ddirfawr.

Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai 2020 er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, a hynny’n aml er mwyn adsefydlu. Bu rhai gwahaniaethau o ran adrodd gan fyrddau iechyd yn y gyfres amser sy'n cael ei hamlinellu isod.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar y adrodd cleifion sy’n gwella.

O ran adrodd am gleifion sy’n gwella, dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan adrodd am gleifion a oedd yn gwella o 7 Mehefin 2020 ymlaen, ond cofnodwyd y rhain yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau cyn hynny. Roedd Caerdydd a'r Fro yn cyfrif cleifion a oedd yn gwella fel cleifion heb COVID-19 rhwng 1 Mai 2020 a 22 Mai 2020. Ar ôl newid y canllawiau, rhoddodd Caerdydd a'r Fro y cleifion hyn mewn categori arall fel cleifion COVID-19, gan eu cofnodi yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau, tan i'r categori gwella gael ei gyflwyno ar 26 Mai 2020.

Ers Mehefin 2020, mae ysbytai wedi dechrau cau rhywfaint o’r capasiti ychwanegol a oedd wedi’i sefydlu ar gyfer cynnydd yn nifer y cleifion yn sgil pandemig COVID-19.

Gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol

O 18 Ionawr 2021, ni chyfrifir unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n ‘gwella’ gan fod angen lefel uchel o ofal arnynt o hyd. Caiff unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn ‘gwella’ ei gyfrif nawr o dan ‘wedi'u cadarnhau’. Arweiniodd y newid hwn at gynnydd yn nifer y cleifion COVID-19 ‘wedi’u cadarnhau’ a oedd yn defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt gweithredu) ac nid oedd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion sy’n ‘gwella’. Ni chafodd y newid hwn unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

O 13 Tachwedd 2020 ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio a gafodd eu cynnwys fel gwelyau oedd ar gael. Mae gwelyau wedi’u staffio yn golygu’r rheini y gellir eu staffio adeg y cyfrifiad. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.

O 19 Hydref 2020, mae data ar gyfer gwelyau gofal critigol arbenigol (fel y rhai Llosgi a Phlastig yn Nhreforys) a gwelyau acíwt arbenigol eraill (fel rhai mamolaeth) dros safleoedd acíwt eraill wedi eu cynnwys. Mae’r gwelyau hyn wedi cael eu cynnwys yn y data gan eu bod yn rhan o’r stoc o welyau sydd ar gael, a gellid eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19 mewn amgylchiadau eithriadol. Nid oes cleifion COVID-19 yn y mwyafrif o’r gwelyau hyn. Nid yw cynnwys y rhain felly yn cael fawr o effaith ar nifer y gwelyau â chleifion COVID-19 ond mae’r effaith yn fwy ar nifer y gwelyau gweigion a’r rheini sydd â chleifion sydd ddim â COVID-19.

Cymaroldeb

Gweler dangosfwrdd Llywodraeth y DU am wybodaeth am ofal iechyd ar lefel y DU. Sylwer: mae'r data gofal iechyd a gyflwynwyd yn dangosfwrdd y DU yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Mae’r data ar gyfer Cymru ar ddangosfwrdd y DU yn cynnwys data ar gyfer ysbytai acíwt yn unig a ddarparwyd yn wreiddiol er mwyn gallu cymharu'n well â gwledydd eraill. Ond mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes ac unedau iechyd meddwl er mwyn darparu darlun mwy cynhwysfawr o'r system yng Nghymru. O 11 Rhagfyr 2020 ymlaen, diweddarwyd data ar gyfer Lloegr a gyflwynwyd ar ddangosfwrdd y DU er mwyn cyd-fynd â chyhoeddiadau GIG Lloegr ac o ganlyniad diwygiwyd y gyfres amser gyfan ar gyfer yr eitem hon. Mae’r data ar gyfer Lloegr ar ddangosfwrdd y DU yn awr yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes ac unedau iechyd meddwl. Oherwydd y newid hwn i’r dull adrodd, rydym yn adolygu cyfaddasrwydd y data a ddarperir ar hyn o bryd ar gyfer Cymru. Cyhoeddir amcangyfrifon o nifer y bobl a gafodd y coronafeirws yng Nghymru a Lloegr hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr Arolwg o Heintiadau Coronafeirws

Sylwch fod y data gwyliadwriaeth gofal iechyd a gyflwynir yn nangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r hyn sydd yn y cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio data a gesglir yn systematig drwy ICNET, y system data rheoli heintiau mewn ysbytai a ddefnyddir ledled Cymru. Mae'n cynnwys cleifion mewnol mewn ysbytai sydd wedi cael cadarnhad o’u prawf drwy labordy ac nid yw'n cyfrif unrhyw gleifion a gafodd eu derbyn a'u rhyddhau yr un diwrnod.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio data a geir o wybodaeth reoli ddyddiol a ddarperir gan fyrddau iechyd. Darparwyd canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar gwblhau a chyflwyno’r data. Gall dulliau casglu data amrywio o un bwrdd iechyd i’r llall. Mae'n cynnwys cleifion yr amheuir bod y clefyd arnynt, cleifion y cadarnhawyd ei fod arnynt a chleifion sy’n gwella ohono. Mae hefyd yn cynnwys cleifion nad yw COVID-19 arnynt.

Bydd y diffiniad culach a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn debygol o arwain at nifer lai o dderbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID o gymharu â'r hyn a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n ddull systematig o gynnal gwyliadwriaeth ar gleifion y mae angen iddynt aros yn yr ysbyty os cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Os oes gennych ymholiad am y data, cysylltwch â:
Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 182/2022