Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn ymwneud â'n Arweiniad drafft ar arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG) 2022.

Trosolwg

Mae'r ddogfen hon yn fersiwn ddrafft o'n canllawiau wedi'u diweddaru ar arfarnu trafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n ddiweddariad ar ganllawiau WelTAG 2017

Rydym wedi diweddaru'r canllawiau er mwyn eu cysoni â Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru – Llwybr Newydd. Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn rhoi cynaliadwyedd a hygyrchedd wrth wraidd gwaith cynllunio trafnidiaeth yng Nghymru.  Mae'n gosod targedau ar gyfer trafnidiaeth fwy cynaliadwy er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon. Er mwyn cyflawni'r targedau hyn, mae angen inni feddwl yn wahanol am y ffordd rydym yn cynllunio ac yn datblygu prosiectau trafnidiaeth a buddsoddiad mewn trafnidiaeth.

Mae WelTAG 2022 yn defnyddio dull rhesymegol, fesul cam o gynllunio a dylunio prosiectau, rhaglenni a pholisïau trafnidiaeth. Mae'n dangos sut i'w cysoni â'n blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru a chyflawni uchelgeisiau llesiant ehangach gan gynnwys lleihau allyriadau carbon. Mae'n ymgorffori'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy yn y broses gynllunio.

Mae newidiadau pwysig yn WelTAG 2022. Mae'r rhain yn cynnwys aliniad agosach â'n blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth, ffocws cryfach ar lesiant a dull gweithredu cymesur newydd, sy'n addas ar gyfer prosiectau llai o faint yng Nghymru.

Datblygwyd y drafft hwn gan ddefnyddio adborth anffurfiol gan awdurdodau lleol, timau Llywodraeth Cymru, ymgynghorwyr trafnidiaeth, cynrychiolwyr defnyddwyr trafnidiaeth ac amrywiaeth o sefydliadau eraill ond mae'n bwysig yn awr gael ystod ehangach o fewnbwn.

Gwnaethom hefyd nodi angen posibl i ddefnyddio WelTAG ar lefel fwy strategol, neu ar lefel rhaglen, er mwyn ymdrin ag ymyriadau rhanbarthol neu grwpiau o ymyriadau teithio cynaliadwy llai. Mae’n debygol y bydd hyn yn lleihau’r gwaith sydd ei angen ar lefel cynllun unigol.

Yn ogystal ag adborth ar y canllawiau drafft, rydym hefyd yn croesawu adborth ar sut y gellid gwella’r prosesau llywodraethu ar gyfer WelTAG. Yn ystod trafodaethau gwnaethom nodi sawl enghraifft o astudiaethau nad ydynt yn cyd-fynd â pholisi na chanllawiau Llywodraeth Cymru. Felly, ochr yn ochr â’r canllawiau drafft newydd, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu atgyfnerthu’r prosesau llywodraethu sy’n ymwneud â llunio a chymeradwyo astudiaethau WelTAG ar gyfer prosiectau sy’n ceisio cyllid a chymorth Llywodraeth Cymru. Diben hyn yw nodi cyfleoedd i wella’r ffordd y caiff astudiaethau eu comisiynu a’u cymeradwyo, er mwyn sicrhau eu bod o ansawdd uchel a’u bod yn diwallu anghenion pob defnyddiwr ac yn cynnig gwerth am arian.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1:

Mae WelTAG 2022 yn rhoi llai o bwyslais ar ddefnyddio cymarebau cost a budd, a mwy o bwyslais ar arfarnu llesiant yn seiliedig ar yr uchelgeisiau a'r targedau yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. A oes gennych unrhyw sylwadau ar y dull hwn?

Cwestiwn 2:

Mae WelTAG 2022 yn cyflwyno cam newydd, sef Cam 0 yr Achos dros Newid, ac yn awgrymu y dylai gael ei wneud gan y tîm mewnol.  A oes gennych unrhyw sylwadau ar hyn?

Cwestiwn 3:

A fyddai’n fuddiol defnyddio WelTAG ar lefel strategol neu ar lefel rhaglen? Os byddai, pa fath o ymyriadau trafnidiaeth all fod ar eu hennill o ddefnyddio WelTAG mewn ffordd strategol?

Cwestiwn 4:

Mae WelTAG 2022 yn rhoi canllawiau ar gysoni gwaith cynllunio trafnidiaeth a gwaith cynllunio defnydd tir.  Beth yw'r materion allweddol a sut y gallem ymdrin â nhw yn y canllawiau?

Cwestiwn 5:

Mae WelTAG 2022 yn cyflwyno dull arfarnu cymesur drwy dair lefel o fanylder, WelTAG Byr, WelTAG Safonol a WelTAG Manwl. Dylai'r rhan fwyaf o brosiectau yng Nghymru, gan gynnwys y rhan fwyaf o brosiectau teithio llesol, ddefnyddio WelTAG Byr. A oes gennych unrhyw sylwadau ar y dull gweithredu hwn?

Cwestiwn 6:

Rydym yn datblygu canllawiau technegol i ategu'r prif ganllawiau.   A allwch awgrymu tablau neu dempledi penodol a fyddai'n ddefnyddiol? Pa bynciau penodol a fyddai'n cael budd o ganllawiau pellach?

Cwestiwn 7:

A oes gennych unrhyw sylwadau eraill neu adborth arall ar ganllawiau drafft WelTAG 2022?

Cwestiwn 8:

A oes gennych unrhyw awgrymiadau o ran sut y gellid gwella’r prosesau llywodraethu ar gyfer WelTAG er mwyn sicrhau bod astudiaethau o ansawdd uchel a’u bod yn diwallu anghenion defnyddwyr ac yn cynnig gwerth am arian?

Cwestiwn 9:

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r WelTAG 2022 yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Pa effeithiau rydych chi’n credu y byddai?  Sut y gellid gynyddu effeithiau positif a lliniaru effeithiau negyddol?

Sut i ymateb

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 3 Tachwedd 2022.

Gallwch ymateb drwy un o’r ffyrdd a ganlyn:

Llenwi ein ffurflen ar-lein

Llwytho ein ffurflen ymateb ar-lein i lawr a’i hanfon dros e-bost i weltag@llyw.cymru

Llwytho ein ffurflen ymateb ar-lein i lawr a’i phostio at:

Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gludo data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni. 

I gael mwy o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae’n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Comisiynydd Gwybodaeth

Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

 

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data dros unrhyw ddata personol rydych yn eu darparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â sut i arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau pellach. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol). Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

I ddangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw neu gyfeiriad gael ei gyhoeddi, rhowch wybod inni’n ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG44550

Gellir cael y ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille ac mewn ieithoedd eraill yn ôl y gofyn.