Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Cynllun uwch-noddwyr Cymru ar gau ar gyfer ceisiadau newydd trwy’r llwybr fisa hwn.

Mae'r estyniad i'r cynllun Cartrefi i Wcráin ar gyfer plant cymwys yn caniatáu i rai plant a phobl ifanc nad ydynt yn teithio nac yn ymuno gyda'u rhiant neu warcheidwad cyfreithiol wneud cais am gael dod i'r DU.

Mae’r rheolau mewnfudo ar gyfer y llwybr hwn yn cael eu gwneud yn ôl disgresiwn Llywodraeth y DU, a gallent newid. 

Mae’r canllawiau llawn ar gyfer awdurdodau lleol i'w gweld ar wefan Llywodraeth y DU.

Gwybodaeth benodol i Gymru

Fel y nodwyd, mae canllawiau Llywodraeth y DU at ei gilydd yn berthnasol i Gymru, er eu bod wedi'u drafftio ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau mewn perthynas â deddfwriaeth, a gwiriadau a phrosesau sy'n wahanol yng Nghymru. Amlinellir rhai o'r gwahaniaethau hynny isod, a bydd rhywfaint o’r wybodaeth hon yn ddefnyddiol mewn trafodaethau â’r rheini sy’n manteisio ar y cynllun fisa. 

Deddfwriaeth a chanllawiau:

Cymeradwyo noddwyr yng Nghymru

Yn ogystal â chanllawiau Llywodraeth y DU ar gymeradwyo noddwyr, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol Cymru gwblhau gwiriadau manylach y DBS ar bob aelod dros 16 oed ar yr aelwyd sy’n noddi ni waeth a yw'r sawl sy’n croesawu unigolyn yn berthynas neu’n berson hysbys arall. Mae hyn yn unol â gofynion Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 a'r bwriad yw darparu lefel ychwanegol o ddiogelu i'r broses gymeradwyo.

Asesu addasrwydd y trefniadau noddi

Mae adran asesu addasrwydd y trefniadau noddi yn nghanllawiau Llywodraeth y DU yn rhoi’r cyd-destun i rai o'r cymhlethdodau sydd i'w hystyried cyn y gall awdurdodau lleol benderfynu cefnogi’r nawdd neu roi feto arno. Dylai’r asesiadau ar addasrwydd gael eu cynnal gan weithwyr cymdeithasol cofrestredig.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Chodau, Rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig, yn tynnu sylw at bwysigrwydd creu a chynnal cofnodion, gan gynnwys cynlluniau'n ymwneud â phlant. Er bod y rheoliadau maethu preifat yn darparu'r sail ddeddfwriaethol fwyaf priodol ar gyfer nawdd o dan y cynllun hwn, gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r fframweithiau fel y nodir yn Rhannau 3, 4 a 6 o Ddeddf 2014 ar gyfer pob cais ar y sail bod plant sydd wedi'u dadleoli o Wcráin ac sy’n teithio heb riant neu warcheidwad cyfreithiol yn agored i niwed. Felly, dylid eu hystyried fel plant sydd ag anghenion gofal a chymorth neu blant ag anghenion cymorth.

Cymorth ar ôl cyrraedd a gwiriadau cyson

Mae plant sy'n teithio drwy'r llwybr hwn yn debygol o fod wedi profi trawma o ganlyniad iddynt fod wedi’u gwahanu oddi wrth eu rhiant neu eu gwarcheidwad cyfreithiol, ac o ganlyniad i sgil-effaith byw mewn amgylchedd dan straen rhyfel. Mae eu hanghenion a'u hanesion unigol hefyd wedi dylanwadu ar eu datblygiad. Bydd gallu noddwyr i ddiwallu anghenion eu gwestai ifanc yn dod yn gliriach ar ôl iddynt gyrraedd, ac yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, o ran a ydynt wedi cyrraedd yng nghwmni perthynas sy’n oedolyn ai peidio. Mae hyn yn golygu y bydd angen gwahanol fathau a lefelau o gymorth, arweiniad a chyngor ar bob trefniant.

Mae gan blant hawl statudol i gael eiriolaeth drwy Ddeddf 2014. Gellir cynnig eiriolaeth 'cynnig gweithredol' i blant nad ydynt yn derbyn gofal, ond a all fod ag anghenion gofal a chymorth (Deddf 2014, Rhannau 3 a 4) yn unol â Fframwaith Safonau a Chanlyniadau Cenedlaethol yr Eiriolaeth Proffesiynol Annibynol ar gyfer Gwasanaethau Eirioli i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru. Nid oes gan blant yng Nghymru system ar gyfer Gwarcheidiaeth ar hyn o bryd. Felly, os yw'r plentyn i gael yr un hawliau o dan CCUHP â phlant eraill yng Nghymru, mae’n hanfodol bod gweithwyr cymdeithasol yn gwneud atgyfeiriadau at wasanaethau eirioli ac, os bydd angen, fod yr eiriolwr yn defnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd.

Penderfyniad i roi plentyn dan ofal awdurdod lleol

Pan fydd awdurdod lleol o'r farn ei bod er budd gorau'r plentyn i ddiogelu eu lles a darparu llety i'r plentyn, mae hyn yn debygol o fod o dan adran 76(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Pan fydd unrhyw blentyn sy'n cyrraedd Cymru o dan y llwybr fisa hwn yn derbyn gofal, rhaid i’r awdurdod lleol wneud hysbysiad uniongyrchol i Lysgenhadaeth Wcráin trwy consul_gb@mfa.gov.ua. Dylid anfon copi o’r hysbysiad hefyd i Lywodraeth Cymru drwy cymorth@noddfa.llyw.cymru.

Pan fydd awdurdod lleol wedi penderfynu bod angen i blentyn dderbyn gofal, mae Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i gefnogi'r lleoliadau hynny ac i gefnogi’r plant hynny sy’n gadael gofal.

Plant yn symud i ardal awdurdod lleol gwahanol

Pan fydd plentyn cymwys dan oed neu blentyn yng Nghymru y tu allan i'r cynllun ar gyfer Plant Cymwys Dan Oed yn symud i ardal awdurdod lleol gwahanol, mae angen diweddaru system y Ffowndri

Y Ffowndri

Mae system ddata'r Ffowndri i'w defnyddio gan awdurdodau lleol Cymru at ddibenion prosesu'r cynllun ceisiadau newydd yn unig. Mae’r Ffowndri yn system ryngweithiol o fwriad, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) pan fydd gwiriadau boddhaol wedi'u cwblhau, er mwyn i blentyn/plentyn a pherthynas(au) sy’n oedolyn (oedolion) gael eu fisa ar gyfer plant cymwys dan oed a chaniatâd i deithio.

Gellir gweld tudalen lanio'r Ffowndri drwy dudalen hafan Cartrefi i Wcráin: Homes for Ukraine Homepage.

Mae cofrestru fel defnyddiwr newydd yn cael ei gwblhau drwy: Register as a New User Homes for Ukraine Service Desk Service project.

Ceir canllawiau ar ofyn am fynediad a mynediad at ddata (sy'n golygu gwahanol gamau a phrosesau) drwy: Homes for Ukraine How to Access Data.

Mae gweinyddwyr Llywodraeth y DU hefyd ar gael i gynorthwyo ag ymholiadau sy'n ymwneud â chael mynediad at y Ffowndri: rcorry.ctr@palantir.com a Nicholas.Ditchburn@levellingup.gov.uk.