Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach: 11 Gorffennaf 2022
Crynodeb o gyfarfod y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach a gynhaliwyd yn bersonol ar 11 Gorffennaf 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Catherine Smith, Hybu Cig Cymru
- Charles Whitmore, Cyfiawnder Masnach Cymru
- Henry Clarke, Acuity Law
- Paul Brooks, y Sefydliad Allforio
- Yr Athro Nick Pidgeon, Prifysgol Caerdydd
- Richard Rumbelow, Made UK
- Shavanah Taj, TUC Cymru
Y diweddaraf am drafodaethau cytundebau masnach Llywodraeth y DU
Welsh Government’s Head of Trade Policy provided an update on the UK Government’s Free Trade Agreement “FTA” negotiations including Australia, New Zealand, CPTPP, Canada, Mexico, Gulf Cooperation Council and India.
Trafodaeth Bord Gron ar Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP)
Cafwyd trafodaeth bord gron i ddilyn a ganolbwyntiodd ar drafodaethau Llywodraeth y DU i ymuno â'r CPTPP. Fe wnaeth y drafodaeth gwmpasu’r canlynol:
- effaith y gwrthdaro rhwng Wcráin a Rwsia ar bartneriaid masnachu
- manteision y Cytundebau Masnach Rydd dwyochrog presennol gyda gwledydd CPTPP fel Awstralia, Japan a Seland Newydd o'i gymharu â manteision cytundeb CPTPP amlochrog
- trefniadau rheolau tarddiad ac a ydynt yn debygol o fod o fudd i fusnesau'r DU
- effaith bosibl y CPTPP ar weithwyr
- effaith bosibl trefniadau Setlo Anghydfodau Gwledydd sy’n Buddsoddi (ISDS)
- sylwadau ynghylch y DU yn symud oddi wrth reoliadau'r UE, o ystyried mai'r UE yw marchnad allforio fwyaf Cymru
Proses hysbysu Sefydliad Masnach y Byd
Cyflwynodd Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru y sesiwn drwy ddarparu trosolwg byr o broses hysbysu Sefydliad Masnach y Byd.
Trafododd y grŵp sut i gyflwyno hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau, yn enwedig busnesau bach a chanolig a sefydliadau, ar sut i nodi a mynd i’r afael â rhwystrau i fasnachu.
Nwyddau amgylcheddol
Cyflwynodd Pennaeth Nwyddau Diwydiannol Llywodraeth Cymru y sesiwn.
Fe wnaeth y drafodaeth gwmpasu’r canlynol:
- diffinio nwyddau amgylcheddol
- gwasanaethau amgylcheddol
- cryfder penodol prifysgolion Cymru mewn ymchwil amgylcheddol
- enghreifftiau posibl o nwyddau amgylcheddol yng Nghymru
Diweddariad ar Brosiect Cyfiawnder Masnach Cymru
Rhoddodd Charles Whitmore, cydymaith ymchwil ar gyfer Canolfan Llywodraethiant Cymru ac arweinydd ar y gwaith o gyflawni Prosiect Cyfiawnder Masnach Cymru, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am y prosiect.
Mae Cyfiawnder Masnach Cymru yn brosiect peilot sy’n cael ei redeg rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru a gwaith ar y cyd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar ymgysylltu â chymdeithas sifil ar y newidiadau cyfreithiol a gweinyddol sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r UE (Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru) a Masnach Deg Cymru.
Nod Cyfiawnder Masnach Cymru yw mynd i'r afael â bwlch gwybodaeth a sgiliau Polisi Masnach drwy ddarparu cyfleoedd i rwydweithio, rhannu gwybodaeth a chael hyfforddiant.