Mae'r adroddiad yn monitro tueddiadau yn y sector atyniadau twristiaeth yn 2021 er mwyn darparu dealltwriaeth well o’r sector i sefydliadau diwydiant a sefydliadau'r sector cyhoeddus.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ymweliadau ag atyniadau twristiaeth
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif ganfyddiadau
- Gwnaed 17.4 miliwn o ymweliadau ag atyniadau a ddarparodd ddata yn 2021
- Roedd 64% o'r ymweliadau hyn ag atyniadau rhad ac am ddim, ac roedd 36% yn ymweliadau ag atyniadau â thâl.
- Gwarchodfeydd bywyd gwyllt neu natur oedd y math o atyniad yr ymwelwyd ag ef fwyaf, a oedd yn cyfrif am 28% o’r ymweliadau ag atyniadau yn 2021
- Cynyddodd ymweliadau ag atyniadau 68% rhwng 2020 a 2021, ond roedd ymweliadau 33% yn is o hyd na’r ymweliadau yn 2019.
- Roedd cyfran yr atyniadau a oedd ar agor bob mis yn 2021 ar ei huchaf ym mis Awst a mis Medi, pan oedd 83% ar agor
- Mae'r canlyniadau'n amrywio yn ôl y math o leoliad sydd o dan sylw. Ym mis Awst 2021, dim ond 62% o atyniadau dan do yn unig oedd ar agor, o gymharu â 95% o atyniadau awyr agored, a 93% o atyniadau sydd ag elfennau dan do ac awyr agored.
- Dywedodd tua hanner (48%) o’r atyniadau fod eu capasiti gweithredu cyfartalog pan oeddent ar agor yn 2021 rhwng 80% a chapasiti llawn.
- Adroddodd y rhan fwyaf o atyniadau y bu cynnydd mewn ymwelwyr yn ystod 2021 (85%). dywedodd 3% eu bod wedi aros yr un peth, a dywedodd 12% fod nifer eu hymwelwyr wedi gostwng.
- Cododd taliadau mynediad cyfartalog 6% i oedolion a 10% i blant.
- Mae sylwadau ansoddol yn awgrymu y bu recriwtio yn her sylweddol yn 2021. Hyd yn oed pe bai atyniadau am gyflogi mwy o staff, nid oedd pob un yn gallu llenwi'r swyddi yr oeddent yn recriwtio ar eu cyfer. Mae’r broblem hon wedi parhau i rai i mewn i 2022.
Adroddiadau
Ymweliadau ag atyniadau twristiaeth, 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.