Cyfarfod y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro: 31 Ionawr 2022
Agenda a chofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Agenda
Amser | Eitem |
---|---|
13:40 |
Croeso Cofnodion a chamau gweithredu |
13:50 |
Paratoi ar gyfer y drafodaeth gyda’r Gweinidog |
14:00 |
Y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg - yr ymateb cychwynnol i argymhellion y Bwrdd |
14:30 |
Diweddariad Llywodraeth Cymru a map ffordd drafft (Hayley a Donna) |
15:10 |
Trafodaeth ynghylch rôl y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro (IYWB) cyn y Bwrdd Gweithredu |
15:40 |
Digwyddiad nesaf pob Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth (SPG): 2 Mawrth |
15:55 |
Grŵp Cynrychioli Strategol Gwaith Ieuenctid ar y cyd (JSG) |
16:10 |
Cynllun cyfathrebu a marchnata (Dareth/Ellie) |
16:20 |
Pwyllgor Pobl Ifanc: cynllun drafft ar gyfer 2022 (Catrin James) |
16:40 |
Unrhyw fater arall |
16:45 |
Diwedd |
Yn bresennol
Aelodau:
- Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
- Eleri Thomas (ET): Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent
- Simon Stewart (SS): Deon Cyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
- Sharon Lovell (SL): Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)
- Efa Gruffudd Jones (EGJ): Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- Jo Sims: Cyngor Sir Blaenau Gwent, Rheolwr y Gwasanaeth Ieuenctid
- Dusty Kennedy (DK): Academi Model Adferiad o Drawma
Llywodraeth Cymru (LlC):
- Jeremy Miles MS: Y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg
- Hayley Jones (HJ): Pennaeth y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid
- Dareth Edwards (DE): Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid
- Hannah Wharf (HW): Dirprwy Gyfarwyddwr Cymorth i Ddysgwyr
- Donna Lemin (DL): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid
Gwahoddedigion:
Catrin James: Yr Urdd, Pwyllgor Pobl Ifanc
Ymddiheuriadau:
Ellie Parker (EP): Swyddog Marchnata a Chyfathrebu’r Sector
Croeso a chofnodion
Cytunwyd bod cofnodion y 14eg o Ragfyr 2021 yn gofnod cywir a gwir.
Cam Gweithredu 1 a 2: nodwyd bod y drafodaeth ynglŷn ag Arweinyddiaeth a Rheolaeth oedd wedi ei bwriadu ar gyfer y cyfarfod hwn wedi ei gohirio tan y cyfarfod nesaf. At hynny byddai Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Tegwch mewn Addysg Llywodraeth Cymru hefyd yn cael ei wahodd i'r cyfarfod nesaf i’w gwneud yn bosibl cael dealltwriaeth gryfach o waith ieuenctid a dulliau gwaith ieuenctid yng nghyd-destun mynd i'r afael ag annhegwch mewn addysg, presenoldeb yn yr ysgol ac addysg yn y cartref.
Cam gweithredu 3: Roedd Ellie Parker wedi cael ei gwahodd i ymuno â Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth, Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu.
Paratoi ar gyfer y drafodaeth gyda’r Gweinidog
Cafodd y Bwrdd drafodaeth ynghylch blaenoriaeth eitemau i’w codi gyda’r Gweinidog, oedd yn cynnwys eu meddyliau cychwynnol ar y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ym mis Rhagfyr 2021.
Y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg
Cyflwynodd aelodau'r Bwrdd eu hunain i’r Gweinidog. Diolchodd y Gweinidog i’r Bwrdd am eu holl waith hyd yma. Cydnabu lythyr a anfonwyd gan KT yn tynnu sylw at rai pryderon ynghylch diffyg manylder yn y Datganiad Ysgrifenedig. Eglurodd y Gweinidog nad oedd newid yn lefel yr ymrwymiad clir ers dechrau’r gwaith hwn. Bwriad y diffyg manylder oedd ei gwneud yn bosibl paratoi ateb sydyn cyn y Nadolig, yr oedd ef wedi ymrwymo iddo cyn hynny. Eglurodd ymhellach na ellid yn realistig ymateb i holl gymhlethdodau’r materion yn y cyfnod hwnnw o amser, ac mai cyfle oedd y Datganiad Ysgrifenedig i fod yn agored gyda’r Bwrdd a'r sector ynglŷn â’r syniadau cychwynnol. Eglurodd hefyd y caiff yr ymrwymiad i'r gwaith hwn ei gefnogi gan £11.4 miliwn o arian newydd dros y tair blynedd nesaf.
Tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith y byddai recriwtio ar gyfer y Bwrdd Gweithredu yn dechrau mor fuan ag yr oedd modd, ac y byddent yn cael y cylch gorchwyl i yrru’r argymhellion yn eu blaen a nodi pa waith pellach oedd angen ei wneud i alluogi i hynny ddigwydd. Esboniodd y Gweinidog nad oedd bwriad i dynnu’n ôl oddi wrth yr ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen ar gyfer Llywodraethu o ran deddfwriaeth, ond bod angen gwaith trylwyr cyn y gellid symud ymlaen.
Gofynnodd EGJ i’r Gweinidog sut y gallem sicrhau y gellid cadw’r momentwm gyda golwg ar yr argymhelliad ynghylch y Gymraeg ac olrhain cynnydd yn absenoldeb, yn y tymor byr, Corff Cenedlaethol. Atebodd y Gweinidog fod arnom eisiau gweithio gyda’r Bwrdd Gweithredu i sicrhau cynnal momentwm ac arweinyddiaeth dda. Nododd bwysigrwydd cryfhau gwasanaethau Cymraeg ar draws y sector addysg yn ei gyfanrwydd.
Pwysleisiodd y Bwrdd y bu llawer o flynyddoedd o erydu gwasanaethau ieuenctid ar draws Cymru a’u bod yn gweld hwn fel yr amser i ddal i symud yn gyflym i ailfywiogi gwasanaethau i gefnogi pobl ifanc. Hefyd mae’r Bwrdd yn gweld angen cryf i sicrhau bod yr holl elfennau cymorth sydd ar gael i bobl ifanc, gan cynnwys ar draws y cwricwlwm, yn cael eu cydgysylltu.
Tynnodd SL sylw at y ffaith fod yr argymhellion i gyd yn gydgysylltiedig ac yn cynnig jig-so megis er mwyn datblygu gwasanaeth ieuenctid cynhwysol, seiliedig ar hawliau, sydd ar gael i bob person ifanc. Eglurodd KT mai un o elfennau anoddaf y gwaith oedd sefydlu gwaith ieuenctid fel rhan werthfawr o’r broses addysg. Fodd bynnag, mae gwaith ieuenctid hefyd yn torri ar draws llawer o feysydd polisi eraill a dylai gael ei weld fel gweithlu proffesiynol sy’n gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc, ac roedd argymhelliad y ddeddfwriaeth wedi ei fwriadu i wneud y gwahaniaeth hwnnw.
Dywedodd y Gweinidog ei fod yn deall bod angen negeseuon pellach i roi sicrwydd i’r sector ynghylch ei ymrwymiad i’r gwaith hwn, ac y byddai ef yn myfyrio ar y drafodaeth a gafwyd.
Nododd ET y byddai hi’n croesawu gwaith pellach ar yr adolygiad cyllid i sicrhau bod y cyllid oedd yn cael ei ddyrannu ar gyfer cynnal gwaith ieuenctid yn ddigonol i weithredu fel ysgogiad i ddenu cyllid arall a chynyddu ei effaith bosibl.
Diolchodd KT i’r Gweinidog am ei amser. Diolchodd y Gweinidog i'r bwrdd am eu gwaith a’r gonestrwydd yr oeddent yn ei gyfrannu iddo.
Diweddariad Llywodraeth Cymru a’r map ffordd drafft
- Buasai’r Gangen Ymgysylltu â Ieuenctid yn brysur yn symud gwaith ymlaen ar yr argymhellion; roedd cynllun cyflawni drafft wedi cael ei gylchredeg ar gyfer sylwadau gan aelodau’r Bwrdd.
- Daw grantiau Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol (NVYO) i ben ym mis Mawrth a bydd y Sefydliad Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Strategol newydd yn cychwyn ym mis Ebrill, mae’r holl ymgeiswyr wedi cael eu hysbysu am ganlyniad y nithio.
- Caiff y meini prawf ar gyfer y Grant Cefnogi Ieuenctid eu hadolygu cyn bo hir a bydd swyddogion yn edrych i weld sut y gallant ddeall yn well y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol, yn ogystal â sut y gellid cynorthwyo awdurdodau lleol i ddod yn fwy cynhwysol yn eu gwasanaethau gwaith ieuenctid a gweithio gyda’r sector gwirfoddol yn hyn o beth.
- Mae’r tîm ehangach yn gweithio tuag at orffen y Fframwaith diwygiedig, Ymgysylltu ag Ieuenctid a Dilyniant, disgwylir dyddiad cyhoeddi oddeutu diwedd tymor y gwanwyn/dechrau tymor yr haf.
- Mae gan Is-adran y Gymraeg gyllid ychwanegol drwy gynllun lles y gaeaf ac mae swyddogion yn bwriadu ehangu’r cynlluniau peilot presennol yng Ngheredigion a Chaerffili hefyd, a’i ymestyn i Sir y Fflint. Mae’r holl arian i gael ei wario o fewn y flwyddyn ariannol hon.
- Mae swyddogion yn dal i edrych ar yr adroddiad mapio, ac yn disgwyl i’r data a’r ddogfen ddiwygiedig gael eu hanfon at y gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi i gael ei hystyried.
Cynllun Gwaith
- Aeth HJ ag aelodau’r Bwrdd drwy’r cynllun gwaith drafft; wedi ei drefnu ar gyfer 6 mis, 12 mis, a’r tymor hwy. Bydd angen blaenoriaethu gan fod y cynllun gweithredu yn uchelgeisiol.
- Rhoddodd swyddogion fwy o fanylion am bob un o'r argymhellion.
- Cwestiynau allweddol a sylwadau gan aelodau’r Bwrdd (cyffredinol):
- Angen sicrwydd ar gyfer y sector fod y dyraniad o £11.4 miliwn yn arian newydd. Awgrymwyd bod angen i'r gweinidog gyfleu'r neges hon droeon i’r sector.
Argymhelliad 1
- Beth yw rôl y Comisiynydd Plant/Plant yng Nghymru? Mae angen meddwl yn greadigol y tu hwnt i waith y Pwyllgor Pobl Ifanc fel bod pobl ifanc eraill y tu allan i’r Pwyllgor yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.
- Sut y bydd pobl ifanc yn derbyn tâl ddigonol am gyfranogi?
- Pa adnodd fydd yn tanategu cyfranogiad pobl ifanc? Gofynnodd aelodau'r Bwrdd am eglurder ynghylch y ffordd y caiff yr adnodd (£11.4 miliwn) ychwanegol ei wario/ei ddyrannu (blaenoriaethau a dilyniannu).
- Gwerthuso’r dewisiadau ar gyfer strwythur llywodraethu ac atebolrwydd i’r dyfodol yn cynnwys pobl ifanc.
Argymhelliad 2
- Ymrwymiad y Rhaglen ar gyfer Llywodraethu, angen negeseuon clir fod hyn yn cael ei symud ymlaen. Sicrhau nad yw’r argymhelliad hwn yn cael ei leihau i ddim ond mater cofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC). Y nod mewn golwg yw sefydlu sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, fel y bydd eglurder i bobl ifanc ynghylch yr hyn y gallant ei ddisgwyl oddi wrth waith ieuenctid yng Nghymru.
- Ble mae sail ddeddfwriaethol dda yn bodoli yn y DU neu yn rhyngwladol, i’w defnyddio fel man cychwyn, e.e. Yr Alban, Seland Newydd.
- Awgrymwyd y gallai'r bwrdd roi diffiniad o waith ieuenctid ar gyfer deddfwriaeth.
Argymhelliad 5
- Does dim eglurder a yw'r argymhelliad i greu corff cenedlaethol wedi cael ei dderbyn. Efallai na fydd creu corff cenedlaethol yn dibynnu ar ddeddfwriaeth. Sefydlodd y Comisiwn Cam-drin Domestig gorff tra’n disgwyl am ddatblygu sail ddeddfwriaethol iddo; sefydlu diwylliant o newid.
- Gall corff cenedlaethol ei hun ddatblygu ei strwythurau ei hun: edrych ar Asiantaeth Ieuenctid Cymru fel man cychwyn.
Argymhelliad 6
- Mae consortia addysgol rhanbarthol yn canolbwyntio ar ysgolion (yr eithriad yw gwaith Anghenion Dysgu Ychwanegol) a byddai gwaith ieuenctid yn mynd ar goll o fewn y consortia. Edrych ar y Grŵp Cynrychiolaeth Strategol Gwaith Ieuenctid ar y cyd a modelau rhanbarthol eraill, e.e. mae fforymau rhanbarthol o fewn gwaith eiriol (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, NYAS). yn gweithio’n wirioneddol dda.
Argymhelliad 9
- Egwyddorion cynllunio gwasanaeth fel egwyddor sylfaenol; y cam cychwynnol (cyn manyleb) yn edrych yn greadigol ar yr hyn ddylai’r canlyniad fod.
Argymhelliad 10
- Cerdyn Hawliau Ieuenctid: disgrifiodd swyddogion gyfarfod diweddar gyda Siaradwyr ar gyfer Ysgolion ynghylch eu Cerdyn Ieuenctid. Teimlai DK yn ansicr a fyddai'r cerdyn yn bodloni bwriadau cynllun Hawliau Ieuenctid Cymru.
Pwyllgor Pobl Ifanc
Ymunodd Catrin James â’r alwad i siarad drwy ei phapur ar y camau nesaf ar gyfer y Pwyllgor Pobl Ifanc:
- Angen adnewyddu/ychwanegu at yr aelodaeth. Bylchau a ganfuwyd:
- siaradwyr Cymraeg
- ardaloedd gwledig
- anableddau cudd neu gorfforol
- gofalwyr a rhai yn gadael gofal
- Bydd y Pwyllgor Pobl Ifanc yn cymryd rhan mewn recriwtio Cadeirydd ar gyfer y Bwrdd Gweithredu newydd.
- Angen arweiniad ynghylch y cyfnod trosglwyddo.
- Mae’n well gan y Pwyllgor Pobl Ifanc arweiniad clir manwl i gynorthwyo eu trafodaethau.
Digwyddiad pob SPG nesaf: 2 Mawrth
Trafodwyd pwysigrwydd cyfleu negeseuon ynghylch statws adroddiad y Bwrdd ac eglurder ynghylch y dyraniad cyllid newydd.
Cam gweithredu: cyfarfod pellach o’r Bwrdd i’w drefnu i gynllunio’r digwyddiad pob Grŵp Cyfranogi’r Strategaeth (Cangen Ymgysylltu ag Ieuenctid).
Cynllun cyfathrebu a marchnata
Roedd EP yn methu â bod yn bresennol yn y cyfarfod ond byddai’n croesawu adborth ar y cynllun cyfathrebu a marchnata drafft.
Cam gweithredu: cyfarfod pellach o’r Bwrdd i’w drefnu i gynllunio’r digwyddiad pob Grŵp Cyfranogi’r Strategaeth (Cangen Ymgysylltu ag Ieuenctid).
Grŵp Cynrychiolaeth Strategol Gwaith Ieuenctid ar y cyd
Cadarnhaodd KT y byddai ef yn ymuno â’r Grŵp Strategol ar y cyd nesaf ar y 4ydd o Fai.