Bwrdd Rheoleiddiol Cymru: adroddiad ar berfformiad Mawrth 2022
Sut mae’r rheoleiddiwr tai cymdeithasol a’r sector ei hun yn perfformio a’r cynnydd sydd wedi’i wneud.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: Adroddiad blynyddol y Bwrdd Rheoleiddiol Cymru (RBW) i'r Gweinidog
Ym mis Ionawr 2016, drwy gyfrwng datganiad ysgrifenedig gan y Cabinet, sefydlodd Llywodraeth Cymru (LlC) fwrdd annibynnol sydd chadeirydd annibynnol a chwe aelod annibynnol. Mae cylch gorchwyl y Bwrdd i’w weld yn Adran 5. Yn fyr, mae’r Bwrdd yn cynghori'r gweinidog perthnasol ar berfformiad y sector tai a reoleiddir, perfformiad rheoleiddiwr tai'r llywodraeth, ac ar faterion cysylltiedig.
Annwyl Weinidog:
Rhagair y Cadeirydd/Crynodeb Gweithredol
Diolch am y cyfle i gyflwyno’n hadroddiad blynyddol. Hoffem dynnu sylw at y materion isod ar sail yr adrannau dilynol (adran 2: cymdeithasau tai; 3: y rheoleiddiwr tai; 4: materion cysylltiedig eraill ac edrych i'r dyfodol).
1. Mae Covid wedi bod yn her na welwyd ei thebyg o'r blaen, ac mae'r her honno’n parhau. Ymatebodd y cymdeithasau tai ( sef y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y LCC) yn dda ac, yn benodol, maent wedi gweithio’n dda mewn partneriaeth ar ddigartrefedd. Mae'r rheoleiddiwr wedi ymateb yn dda hefyd, gan gyflwyno rhaglen gymesur o Ddyfarniadau Interim ac Arolygon Parhad Busnes.
2. Ymddengys fod y broses lywodraethu wedi cryfhau yn y sector ac, ar hyn o bryd, dim ond dwy gymdeithas sydd wedi cael dyfarniadau ansafonol a chod newydd a gyhoeddwyd gan y corff sy’n eu cynrychioli. Rydym yn teimlo bod y sector LCC a'r rheoleiddiwr wedi gwneud yn dda wrth argymell y Fframwaith rheoleiddio newydd y gwnaethoch gytuno arno yn ddiweddar.
3. Mae'n anochel bod y pandemig wedi effeithio ar wasanaethau i denantiaid / gwsmeriaid ac mae'r Arolygon Parhad Busnes wedi bod o gymorth inni ddeall pa mor dda y mae'r sector LCC yn ymateb iddo. Cyflwynwyd yr arolygon hyn, sy’n ffordd newydd o weithio, o ganlyniad uniongyrchol i Covid 19 ac rydym yn croesawu’r ffaith y bydd yr arolwg yn parhau i esblygu ochr yn ochr â'r Fframwaith rheoleiddio newydd. Gwnaed cais am adborth oddi wrth bob landlord cymdeithasol (y LCC a’r awdurdodau lleol) yng Nghymru am gyflwr tai cymdeithasol ac rydym yn croesawu’r ffaith bod yr adborth hwnnw wedi’i gyhoeddi. Gobeithio y bydd y rheoleiddiwr yn mynd ati ar sail yr adborth hwnnw i ystyried camau i wella gwasanaethau i gwsmeriaid. Rydym yn ddiolchgar am y gwaith y mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS) yn ei wneud wrth helpu i lywio rheoleiddio o safbwynt tenantiaid, er ein bod o’r farn bod dadl gref o blaid cryfhau llais tenantiaid, nid yn unig o ran rheoleiddio ond hefyd o ran tynnu sylw at bryderon tenantiaid a chwsmeriaid yn lleol. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn deall a chydnabod y rôl y mae'r sector LCC yn ei chwarae o ran mynd i'r afael â digartrefedd, a hoffem weld data sy'n benodol i'r sector yn cael eu cyhoeddi’n amlach am y mater hwn.
4. Mae rhenti fforddiadwy wedi cael cryn sylw oherwydd bod y Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn 3.1% ar yr adeg berthnasol (Medi 2021). O ystyried yr heriau sy'n gysylltiedig â chwyddiant cynyddol, costau ynni uwch a’r pwysau cynyddol ar gostau byw i lawer o aelwydydd, mae’n galonogol gweld eich bod wedi ailedrych ar y cynnydd uchaf mewn rhenti y caiff LlC ei gyflwyno ar gyfer 2022-23 a’ch bod wedi parhau i ganolbwyntio ar fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid.
5. Yn ôl yr adroddiadau, mae’r cymdeithasau’n gryf o ran eu hyfywedd ariannol. Ond wedi dweud hynny, teimlwn y gellid edrych ar y cyfleoedd amlwg sy’n gysylltiedig â benthyca, cronfeydd wrth gefn a’r amodau yn y farchnad.
6. Mae rhanddeiliaid wedi parhau i wneud cyfraniad mawr wrth inni arfer ein ffordd gydweithredol o reoleiddio tai yng Nghymru, yn enwedig drwy waith y Grŵp Cynghori ar Reoleiddio (RAG). Mae eu gwaith wedi bod yn amhrisiadwy o ran caniatáu i’r tîm rheoleiddio tai wyntyllu syniadau, o ran bod yn sianel gyfathrebu ar gyfer y sector a thenantiaid a defnyddwyr gwasanaethau, ac o ran rhoi cyngor i Fwrdd Rheoleiddio Cymru. Mae’r gwaith a wnaed ganddynt wrth helpu i lunio'r Fframwaith rheoleiddio diwygiedig wedi bod yn hollbwysig. Yn ein cyngor ni ein hunain ichi am yr adolygiad o'r Fframwaith, gwnaethom nodi fod yr ymgynghoriad wedi bod yn bositif, er ein bod yn dadlau y gallai ymgyngoriadau yn y dyfodol fod yn agored i ystod ehangach o bobl a chyrff sydd â buddiant yn y maes, o gofio bod y pwnc o ddiddordebl i gynifer o bobl yng Nghymru.
7. Mae datgarboneiddio wedi dod yn flaenoriaeth bwysig i LlC ac i bob LCC, yn enwedig o ran gwella mwy ar y stoc tai cymdeithasol a mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Rydym yn eich canmol am y penderfyniadau a wnaed hyd yma, gan gynnwys y cyllid ar gyfer y tair blynedd nesaf, ond byddai o fudd i’r LCC gael hyd yn oed yn fwy o eglurder am y cyllid a fydd ar gael iddynt, a phryd y bydd ar gael.
8. Bygythiadau a risgiau: Mae'r pandemig wedi newid yr heriau sy’n wynebu LCC yng Nghymru, mewn ffyrdd na allai neb fod wedi'u rhagweld . O'u ystyried hefyd ochr yn ochr â'r angen dybryd i ddatgarboneiddio, mae'n amlwg bod angen ailedrych ar y canllawiau risg ar gyfer y sector, a gafodd eu diweddaru ddiwethaf ym mis Mawrth 2020. Mae swyddogion wedi rhoi sicrwydd inni y bydd y canllawiau’n cael eu diweddaru ac yna’u cyhoeddi yn gynnar yn 2022.
9. Gwybodaeth at ddibenion rheoleiddio: Rydym o’r farn bod cydreoleiddio yn aeddfedu yng Nghymru. Fodd bynnag, er mwyn cael hyd yn fwy o sicrwydd, rydym yn argymell y dylid edrych ar ffynonellau eraill o wybodaeth a allai fod yn briodol. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn un o gyfarfodydd y Bwrdd Rheoleiddiol i drafod yr adroddiad hwn a'n gwaith ehangach.
Cadeirydd: Deep Sagar
Aelodau: Kevin Lawrence, Jane Mudd, a Huw Thomas 25/3/2022
Adran 2: Perfformiad y sector Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC)
1. Covid: Dangosodd pandemig Covid 19 pa mor werthfawr yw cartref diogel sydd mewn cyflwr da a hefyd y gwerth sydd i wasanaethau tai o ansawdd da. Dros y 12 mis diwethaf, gwnaeth y sector LCC barhau i weithio gyda LlC, yr awdurdodau lleol, sefydliadau yn y trydydd sector ac eraill i ddiwallu anghenion tai. Mewn cyfnod a fu’n un anodd iawn, llwyddodd y LCC i ymateb yn gadarnhaol i'r heriau a ddaeth i’r amlwg, gan weithio i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau ac atebion yn cael eu datblygu, yn enwedig i'r bobl hynny sy'n agored i niwed neu’n wynebu risg. Arweiniodd gwaith a wnaed mewn partneriaeth rhwng y LCC ac ar draws y sector tai at ganlyniadau cadarnhaol o ran rheoli digartrefedd.
2. Llywodraethu: Fel bwrdd, rydym wedi pwysleisio o'r blaen pa mor bwysig yw llywodraethu o ansawdd uchel, gan gyhoeddi’n hadolygiad thematig ein hunain yn 2018, Y Pethau Iawn: Gwella trefniadau llywodraethu cymdeithasau tai yng Nghymru The Right Stuff (llyw.cymru). Mae arwyddion bod cyrff ar draws y sector wedi achub ar gyfleoedd i gryfhau trefniadau llywodraethu ac rydym yn croesawu’r ffaith bod Cartrefi Cymunedol Cymru* wedi cyhoeddi Cod Llywodraethu (Mehefin 2021). Rydym yn croesawu’r cymorth y mae’r corff hwnnw wedi’i roi i wella llywodraethu ar draws y sector. Nodwn mai dim ond dwy gymdeithas sydd wedi cael dyfarniad ansafonol gan y rheoleiddiwr.
3. Gwasanaethau i denantiaid (gweler adran 3 hefyd): Yn 2019, cyhoeddodd y Bwrdd Rheoleiddio Tai adolygiad thematig ar ymgysylltu â thenantiaid yng Nghymru, Y Pethau Iawn: Clywed Llais Tenantiaid yng Nghymru (Adolygiad ar roi tenantiaid wrth galon pethau (llyw.cymru)). Rydym yn parhau i gydweithio â Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru (TPAS Cymru) ac yn gwerthfawrogi'r wybodaeth y mae’n ei darparu am flaenoriaethau a chanfyddiadau tenantiaid. Rydym wedi nodi’r arolwg a gynhaliwyd ganddo yn ddiweddar ymhlith rhai tenantiaid, a ddywedodd eu bod yn anfodlon ag ansawdd eu tai. Rhyddhaodd Shelter Cymru** arolwg a oedd yn awgrymu bod llawer o denantiaid o’r farn bod eu tai yn anniogel. Roedd y data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2021 ynglŷn â boddhad tenantiaid cymdeithasau tai yn awgrymu bod lefel y boddhad â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn 70% neu’n is yn achos chwe LlC. (Fe'n cynghorwyd i drin y canfyddiadau olaf yn ofalus am resymau sy’n gysylltiedig â methodoleg). Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod rhyw 200 o gwynion wedi dod i law ac awgrymodd fod llawer o’r LCC yn mynnu bod yn rhaid i gwyn fynd drwy dri cham cyn y caiff y cwsmer gysylltu â'r Ombwdsmon. Mae wedi argymell bod angen i’r broses honno fod yn haws ac yn gynt. Rydym yn croesawu’r adborth a gyhoeddwyd gan LlC (Chwefror 2022) am gyflwr a chyflwr gwael tai cymdeithasol. Gobeithio y bydd y rheoleiddiwr yn ystyried a oes lle i gymryd camau ychwanegol er mwyn sicrhau gwasanaethau o ansawdd da i gwsmeriaid.
4. Rhenti fforddiadwy: Rydym o’r farn ei bod yn bwysig bod rhenti LCC yn parhau’n fforddiadwy, yn enwedig i'r bobl hynny sydd ar incwm cymharol isel. Drwy’r Grŵp Cynghori ar Reoleiddio, cawsom fudd o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y Teclyn Fforddiadwyedd Rhent sydd gan Gartrefi Cymunedol Cymru. Mae’r teclyn hwnnw’n helpu cymdeithasau i gwestiynu data am fforddiadwyedd ac i benderfynu ar renti. Cawsom wybod hefyd gan LlC fod 26 o LCC wedi cyflwyno’r cynnydd llawn o 2.7% yn 2020-21 a bod 16 ohonynt wedi cyflwyno’r cynnydd llawn o 1.5% yn 2021-22. Gwnaethom nodi, er hynny, fod Mynegai Prisiau Defnyddwyr 2022-23 y tu allan i'r terfyn polisi o 3%, a’ch bod wedi ailedrych ar y polisi rhenti ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’n galonogol gweld mai fforddiadwyedd i denantiaid sydd ar flaen eich meddyliau.
5. Hyfywedd ariannol: Mae hyfywedd ariannol LCC yn hanfodol i les y sector. Gwnaethom
groesawu’r Datganiadau Ariannol a gyhoeddwyd gan Gymdeithasau Tai Cymru (Cartrefi Cymunedol Cymru a LlC) ar gyfer 2020. Roedd y canlyniadau’n dangos bod gan y sector fantolen gref a bod ganddo’r gallu i ddenu buddsoddiad. Fodd bynnag, hoffem weld gwell tystiolaeth bod y sector yn manteisio ar yr holl gyfleoedd ariannol sydd ar gael. Deallwn nad yw 15 o’r cymdeithasau wedi benthyca arian ar y farchnad o gwbl, a gallai prisio stoc o’r newydd fod yn fodd i sicrhau y gellid benthyca hyd yn oed yn fwy. Mae ganddynt hefyd falansau nad ydynt yn eu defnyddio. Gwnaethom nodi bod cost gyfartalog llog yn fwy na 4% er bod y gyfradd sylfaenol yn isel ers 13 mlynedd. Yn olaf, mae gan LCC rai cronfeydd wrth gefn ac mae costau wedi cynyddu. Gobeithio y byddant yn ystyried y cyfleoedd sydd ar gael i sicrhau gwell gwerth i gwsmeriaid drwy fanteisio ar ddulliau ariannu.
*Cartrefi Cymunedol Cymru yw'r corff sy'n cynrychioli holl gymdeithasau tai Cymru.
**Mae Shelter Cymru yn elusen a gynigiodd gymorth i 16,547 o bobl y llynedd ar faterion sy’n gysylltiedig â thai.
Adran 3: Perfformiad y Rheoleiddiwr
1. Dyfarniadau Interim: Ym mis Mawrth 2020, oherwydd effaith pandemig y Coronafeirws, bu’n rhaid newid ffocws y gwaith rheoleiddio er mwyn ystyried y beichiau ychwanegol ar LCC. Cyflwynwyd proses Dyfarniadau Interim a oedd yn hoelio mwy o sylw ar ddiogelwch tenantiaid/defnyddwyr gwasanaethau ac ar gydnerthedd a hyfywedd ariannol. Mae'n bwysig cydnabod mai dim ond oherwydd ei fod wedi paratoi o leiaf un Dyfarniad rheoleiddiol ar gyfer pob LCC yn ystod y 12 mis blaenorol y llwyddodd y tîm rheoleiddio i wneud hynny. Rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Tachwedd 2021, cyhoeddwyd cyfanswm o 34 o Ddyfarniadau Interim. Roedd y rhaglen yn seiliedig ar risg, ac yn ystyried pob un o'r materion isod:
- maint y sefydliad
- cymhlethdod
- cyfradd twf datblygu
- gwybodaeth reoleiddiol
- gallu ariannol a rheolaeth ariannol.
O ystyried yr heriau sy'n parhau i wynebu'r rheoleiddiwr a'r LCC, mae'r bwrdd o'r farn bod yr uchod, ynghyd â’r Arolygon Parhad Busnes, wedi darparu gwybodaeth gywir a chyfredol am sefyllfa LCC ar hyn o bryd.
2. Arolygon Parhad Busnes: Roedd Cyflwyno Arolygon Parhad Busnes yn ffordd arloesol o ddeall y materion a oedd yn gysylltiedig â diogelwch tenantiaid a hyfywedd ariannol. Daeth pum adroddiad cryno i law Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn ystod 2020-21, ac fe’i sicrhawyd bod LCC yn ymdopi â'r heriau digynsail a oedd yn eu hwynebu. Erbyn mis Mawrth 2021, roedd yr Arolwg Parhad Busnes yn dangos bod y sefyllfa wedi gwella cryn dipyn o ran y rhan fwyaf o'r materion iechyd a diogelwch y cafwyd adroddiadau am eu cylch, o gymharu â’r sefyllfa 12 mis ynghynt*.
3. Rhanddeiliaid: Mae rhanddeiliaid wedi rhoi gwybod i Fwrdd Rheoleiddiol Cymru bod y sector yn croesawu'r dull gweithredu sy'n seiliedig ar risg a’i fod hefyd yn croesawu’r ffaith bod y Bwrdd wedi dangos dealltwriaeth o'r sefyllfa a oedd yn wynebu’r LCC. Mae’r Bwrdd o’r farn bod y model presennol o gydreoleiddio a hunanwerthuso** wedi sicrhau bod modd addasu a pharhau i reoleiddio mewn ffordd ystyrlon yn ystod yr argyfwng cenedlaethol hwn. Mae’r Bwrdd am ganmol y tîm rheoleiddio am sut yr aeth ati i addasu’i weithdrefnau rheoleiddio er mwyn sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar y pethau pwysicaf. Mae’n ei ganmol hefyd am beidio â gorlwytho sector a oedd yn cael ei herio gan yr argyfwng a oedd yn dod i’r amlwg. Hoffai’r Bwrdd hefyd ddiolch i'r tîm rheoleiddio am ei waith caled, am ei ymroddiad ac am feddwl mewn ffordd arloesol yn ystod y 12 mis diwethaf.
4. Cyngor a sylwadau: Mae’r Bwrdd yn croesawu barn rhanddeiliaid bob amser ac mae hynny wedi bod yn bwysicach nag erioed yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Wrth inni ymgysylltu â nhw ynglŷn â’r adolygiad o'r Fframwaith rheoleiddio, mynegodd rhai rhanddeiliaid awydd am fwy o naratif i gyfiawnhau’r Dyfarniadau rheoleiddiol/i esbonio’r ymresymu a oedd yn sail iddynt. Mae hwn yn fater yr ydym wedi'i drafod fel bwrdd ac mae’n bwysig pwysleisio bod dyfarniadau rheoleiddiol yn "adroddiadau eithriadau" ac nad oes unrhyw bryderon rheoleiddiol o bwys os nad oes un o’r safonau rheoleiddiol wedi'u rhestru yn y Dyfarniad. Felly, yr unig Ddyfarniadau rheoleiddiol nad ydynt yn manylu ar y gwelliannau sydd eu hangen yw'r rheini lle y bodlonwyd yr holl safonau rheoleiddio. O'r herwydd, dylai'r Dyfarniadau rheoleiddiol hyn fod yn hunanesboniadol ac nid ydym o’r farn bod angen naratif cysylltiedig. Er hynny, mae'n ofynnol i bob LCC gyhoeddi ei Ddyfarniad rheoleiddiol yn llawn ar ei wefan (ar yr un diwrnod ag y’i cyhoeddir gan LlC) ac i gyfeirio darllenwyr yn glir at ei ddogfen hunanwerthuso. Mae’r ddogfen honno’n manylu ar sut y mae’r sefydliad yn cael ei lywodraethu a sut y mae’n darparu gwasanaethau ac yn rhoi manylion ei hyfywedd ariannol. Mae’n ymdrin hefyd ag unrhyw newidiadau perthnasol (sy’n gysylltiedig â'r agweddau hynny) ers i'r Dyfarniad diwethaf gael ei gyhoeddi. Rydym o’r farn bod y broses hon yn parhau i roi'r cyd-destun angenrheidiol i randdeiliaid ar gyfer Dyfarniadau rheoleiddiol, os oes angen cyd-destun. Ar fater gwahanol ond cysylltiedig, byddem yn awgrymu, ar ôl cynnal ymgyngoriadau yn y dyfodol, y dylai'r Rheoleiddiwr gyhoeddi adroddiad am yr ymgynghoriad ar ei wefan a fydd yn cynnwys (os ceir caniatâd) atebion penodol i'r cwestiynau y bernir eu bod yn hollbwysig. Nodwn fod crynodeb wedi'i gyhoeddi yn ddiweddar o'r ymgynghoriad ar yr Adolygiad Fframwaith.
5. Y Fframwaith: Dros y flwyddyn ddiwethaf yn benodol, mae diwygio'r Fframwaith rheoleiddio wedi bod yn elfen bwysig o waith y Rheoleiddiwr a'r Bwrdd. Roeddem yn gwerthfawrogi'r cydweithredu a fu â’r sector wrth inni ymgynghori am y Fframwaith Rheoleiddio a'r Dyfarniadau diwygiedig. Rydym wedi cyflwyno sylwadau ar wahân am yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar gyfer y cyflwyniad i’r Gweinidog. Fodd bynnag, o feddwl am esblygiad rheoleiddio yma yng Nghymru, mae'n amlwg bod y Fframwaith a'r Dyfarniadau rheoleiddio diwygiedig yn adlewyrchu aeddfedrwydd y berthynas rhwng y Rheoleiddiwr a'r sector. Ategir hynny gan egwyddorion cydgynhyrchu ac mae wedi'i seilio’n gadarn ar sylfaen o herio mewn ffordd adeiladol, ac o fod yn agored ac yn dryloyw.
6. Adnoddau: Wrth inni ddod allan o'r pandemig, mae’r Bwrdd yn gadarn o blaid ailgydio mewn busnes fel arfer pryd bynnag y bo modd. Mae’n bosibl, felly, y byddwn yn dechrau cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb unwaith eto: gwelwyd eu heisiau’n fawr yn ystod y 24 mis diwethaf (ond rydym yn deall yr angen i gydymffurfio â chanllawiau LlC ar y mater hwn). Wrth i'r tîm rheoleiddio weithio i weithredu'r safonau rheoleiddio diwygiedig, hoffem ailbwysleisio’r sylwadau a wnaed mewn adroddiadau blaenorol am yr angen parhaus i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael ar gyfer y swyddogaeth fel y bo modd ailgydio’n fuan yn y mentrau a’r rhyngweithio â'r sector y bu’n rhaid eu gohirio. Dylid sicrhau hefyd fod digon o adnoddau ar gyfer unrhyw ymrwymiadau gwaith ychwanegol.
*Roedd gwelliant o ran "gwaith atgyweirio brys" yn llai amlwg ac mae’n bosibl bod hynny’n cyd-fynd â’r darlun sy'n dod i'r amlwg am broblemau a gafodd LCC gyda gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae’n bosibl mai’r anawsterau a gafwyd o ganlyniad i'r pandemig sydd i gyfrif am hynny i raddau helaeth, ond mae’r ffynonellau'n cynnwys:
- Yr Arolwg Cyntaf ymhlith Holl Denantiaid Cymru ar Ganfyddiadau Tenantiaid a gynhaliwyd gan TPAS Cymru ym misoedd Gorffennaf/Awst 2021. Dangosodd yr arolwg hwnnw mai’r materion yr oedd tenantiaid cymdeithasol a phreifat yn fwyaf anfodlon yn eu cylch oedd effeithlonrwydd ynni a lleithder a llwydni.
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dywedodd wrth y Bwrdd ym mis Awst 2021 fod y rhan fwyaf o’r cwynion a gaewyd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol yn ymwneud â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw (ynghyd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol).
- Landlordiaid cymdeithasol: arolwg boddhad tenantiaid (LlC, Mai 2021). Er bod cyfraddau boddhad gyda gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn parhau'n weddol uchel (uwchlaw 61%), dangosodd yr arolwg hwn fod cryn wahaniaeth ar draws yr holl LCC. Fodd bynnag, fe'n cynghorwyd i drin canfyddiadau'r arolwg yn ofalus. Rydym yn disgwyl yn eiddgar am y cyhoeddiad nesaf ym mis Ebrill 2022 ac rydym wedi cael gwybod y bydd yn arolwg hwnnw’n fwy cadarn a safonedig.
**Ymddiriedir mewn LCC i werthuso’u perfformiad eu hunain yn unol â safonau perfformiad a gaiff eu gosod o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996. Fe’u gelwir yn "ganlyniadau cyflawni". Disgwylir i’r broses hunanwerthuso fod yn ddigon cadarn ac yn ddigon da o ran ei hansawdd a’i safon i ddarparu tystiolaeth am effeithiolrwydd pob LCC (Cylchlythyr Cymdeithasau Tai LCC 02/15). Deallwn fod y cylchlythyr hwnnw wedi'i ddisodli erbyn hyn.
Adran 4: Materion cysylltiedig eraill ac edrych i'r dyfodol
1. Datgarboneiddio: Rydym yn gwerthfawrogi cyhoeddiad LlC am 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd i'w rhentu a fyddai’n bodloni'r gofyniad sero net, ac yn falch o weld bod y strategaeth wedi’i chyhoeddi ym mis Hydref 2021, a bod £150 miliwn arall ar gael ar gyfer y rhaglen ôl-osod ar ei newydd wedd. Fodd bynnag, wrth reoleiddio, bydd yn bwysig ystyried y gwaith cynllunio y mae LCC yn ei wneud a'u gallu i gynnal a chadw a gwella’u tai er mwyn ôl-osod yn eu stoc. Gan fod y mater hwn yn peri pryder amlwg i'r rhan fwyaf o’r LCC, byddai o gymorth pe bai Llywodraeth Cymru yn parhau i fod hyd yn oed yn fwy clir am y cymorth sydd ar gael i LCC, a phryd y bydd ar gael.
2. Bygythiadau a risgiau: Nid yw canllawiau LlC ar gyfer LCC am risgiau yn y sector tai wedi cael eu diweddaru ers mis Mawrth 2020. Mae swyddogion wedi rhoi sicrwydd inni y bydd canllawiau wedi'u diweddaru yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2022. Fodd bynnag, er ein bod wedi dadlau bod y sector yng Nghymru wedi perfformio'n dda yn wyneb heriau Covid 19, mae materion eraill wedi dod i'r amlwg. Mae mwy a mwy o ddisgwyliadau ar LCC, nid yn unig o ran cyfrannu at ddarparu tai cymdeithasol ychwanegol ond hefyd o ran yr agenda ddatgarboneiddio a materion sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd. Mae bygythiadau eraill yn wynebu LCC hefyd, er enghraifft, cael gafael ar ddeunyddiau crai, yr angen i ddenu a chadw staff medrus (yn ogystal â phrinder llafur yn yr economi ehangach), costau uwch a phroblemau yn y gadwyn gyflenwi. Fel y nodwyd mewn ymchwil a wnaed yng Nghymru yn ddiweddar o dan brosiect Tyfu Tai Cymru gan y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) Cymru (https://www.cih.org/policy/tyfu-tai-cymru), mae’r datblygiadau hyn yn debygol o effeithio ar bob LCC o ran ei allu i ddarparu cartrefi newydd, i ôl-osod mewn stoc sydd eisoes yn bod, ac i wneud gwaith cynnal a chadw o ddydd i ddydd.
3. Digartrefedd*: Rydym yn cydnabod y gwaith cadarnhaol a wnaed gan LlC ac eraill ar ddigartrefedd yn ystod Covid. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn deall a chydnabod y rôl y mae'r sector LCC yn ei chwarae o ran mynd i'r afael â digartrefedd, a byddem yn falch o weld data penodol ar gyfer y sector yn cael eu cyhoeddi’n amlach am y mater hwn. Byddem yn croesawu rhagor o eglurder am y cyfraniad y mae LCC unigol yn ei wneud drwy eu polisïau gosod i fynd i'r afael â digartrefedd a hoffem weld dyraniadau tai yn cefnogi amcan ehangach Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Awgrymwn fod Llywodraeth Cymru yn annog cyswllt agosach rhwng swyddogion er mwyn annog arferion gorau a chydweithio mewn perthynas ag atal a mynd i'r afael â digartrefedd.
4. Gwybodaeth at ddibenion rheoleiddio: Rydym wedi nodi gwerth yr Arolwg Parhad Busnes o ran dangos rhai o'r heriau sydd wedi bod yn wynebu LCC. Mae'r Rheoleiddiwr wedi dysgu oddi wrth y data hynny ond mae angen iddo barhau, ar y cyd â’r sector, i ystyried a yw’r holl ddata priodol y mae eu hangen arno er mwyn rheoleiddio’n effeithiol ar gael iddo (sef "data sydd â phwrpas ac sy’n gymesur" yn ôl un o’r rhanddeiliaid). Cawsom rywfaint o adborth oddi wrth randdeiliaid am yr angen i gael gwell gwybodaeth am allu i ariannu/anghenion ariannu ac am wasanaethau i denantiaid/gwsmeriaid mewn perthynas â gwaith atgyweirio, gwaith cynnal a chadw ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym yn cymeradwyo’r ffaith bod y Rheoleiddiwr yn mynd ati’n barhaus i gydreoleiddio ac ymgynghori gyda’r LCC a rhanddeiliaid eraill; er mwyn cael mwy o sicrwydd am ganlyniadau rheoleiddio, awgrymwn fod y Rheoleiddiwr yn ystyried pa ffynonellau gwybodaeth oddi wrth drydydd partïon y gallai eu hystyried yn swyddogol yn ei fethodoleg. Mae’r enghreifftiau'n cynnwys data oddi wrth yr Ombwdsmon, benthycwyr a thenantiaid, a thystiolaeth ehangach.
5. Llais y tenant/cwsmer: Tan 2016, roedd y Bwrdd yn cael gwybodaeth oddi wrth Banel Cynghori Tenantiaid (grŵp o denantiaid) a oedd yn rhoi adborth o safbwynt y cwsmer. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Bwrdd wedi dibynnu'n bennaf ar y rheoleiddiwr a TPAS Cymru i gael gwybodaeth am fuddiannau tenantiaid/cwsmeriaid. Mae TPAS Cymru yn gwneud gwaith arwrol ond nodwyd y gellid rhoi rheolaeth lawn i denantiaid/cwsmeriaid pe bai strwythur neu fformat newydd yn cael ei gyflwyno. Rydym yn gobeithio y bydd LlC yn ystyried o ddifrif yr apêl a wnaed yn ddiweddar gan ddau ymgynghorydd iddi gefnogi llais newydd i denantiaid/gwsmeriaid. Hoffem hefyd gyfeirio at argymhelliad y Bwrdd yn 2019 Bwrdd Rheoleiddiol Cymru: adroddiad ar berfformiad (llyw.cymru)
6. Dyfodol rheoleiddio: Yn 2019 tynnodd y Bwrdd sylw at "annhegwch" y canlyniadau i denantiaid awdurdodau lleol a LCC o dan y trefniadau rheoleiddio presennol. Ers hynny, deallwn fod LlC wedi gwneud rhywfaint o waith cynnar ar ystyried “rheoleiddio maes”, fel y’i gelwir, sef rheoleiddio’r maes tai cymdeithasol yn ei gyflawnder, ar gyfer gwasanaethau tenantiaid a ddarperir gan y LCC a chan yr awdurdodau lleol. Hoffem hefyd annog LlC i fynd ati’n barhaus i ailedrych ar yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer rheoleiddio er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n effeithiol a bod rheoleiddio tai yng Nghymru yn gallu darparu’r Fframwaith rheoleiddio diwygiedig a pharhau i esblygu er mwyn rhoi mwy o sicrwydd a gwella hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.
7. Capasiti Bwrdd Rheoleiddiol Cymru: Mae dwy swydd ar gyfer aelodau annibynnol wedi bod yn wag ers mis Chwefror 2021. Rydym yn argymell bod proses recriwtio i lenwi'r holl swyddi gwag i aelodau yn cael ei chwblhau cyn gynted â phosibl.
*Yn 'Inside Housing' ar 27/1/2021, gofynnwyd i Reoleiddiwr tai cymdeithasol Cymru, "Beth yw'r 'risgiau' mwyaf yn y sector ar hyn o bryd?" Dywedodd Emma Williams, cyfarwyddwr tai ac adfywio LlC, mai’r risg fwyaf yw digartrefedd, a chyfeiriodd at y rôl 'hanfodol' sydd gan landlordiaid i'w chwarae o ran darparu cymorth i denantiaid.
Adran 5: Cylch Gorchwyl Bwrdd Rheoleddiol Cymru (cymeradwywyd gan y Bwrdd a LlC ar 13/4/2021)
Diben y Bwrdd yw:
- archwilio perfformiad a gweithgarwch rheoleiddiol Llywodraeth Cymru, a'r sector, drwy ystyried adroddiad blynyddol, ac adroddiadau a chanllawiau eraill gan y Rheoleiddiwr, ynghyd â chyhoeddiadau eraill am berfformiad y sector;
- ceisio cyngor/persbectif ychwanegol ar berfformiad y sector oddi wrth ystod eang o sefydliadau, yn ôl yr angen;
- defnyddio'r wybodaeth honno i:
- hysbysu’r Gweinidog am berfformiad y rheoleiddiwr a'r sector,
- cynghori'r Gweinidog ar oblygiadau polisi cysylltiedig,
- cynghori'r Gweinidog ar newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio,
- cynghori'r Gweinidog ar yr angen am ymchwil ychwanegol, yn ôl yr angen.
Nodyn: Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi helpu gyda’r adroddiad hwn ac, yn benodol, Bob Smith (cyn-aelod o'r bwrdd), Tai Cymunedol Cymru, CIH Cymru, Crisis, y Rhwydwaith Ansawdd Tai, Shelter Cymru, y Gorfforaeth Cyllid Tai, TPAS Cymru, Tai Pawb, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyllid y DU.