Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Yn gynharach eleni, nes i addo y byddwn i’n sefydlu Comisiwn i edrych ar ddyfodol ein hiaith ni mewn cymunedau. Dyma wireddu hynny heddiw.
Nid creu sefydliad newydd ry’n ni y bore’ma, nage dyna’r Comisiwn, ond grŵp o arbenigwyr i ddweud y gwir yn blaen wrthon ni am sut mae’r economi, penderfyniadau polisi a demograffig yn effeithio ar ddyfodol y Gymraeg yn ein cymunedau.
Ac o’n rhan ni fel Llywodraeth Cymru, mae ‘da ni uchelgais mawr ar gyfer ein hiaith ni, a bydda i fel Gweinidog y Gymraeg yn gwreiddio’r uchelgais ‘na mewn tystiolaeth a realiti.
Yn realiti bywydau’r bobl sy’n defnyddio’n hiaith ni.
Yn realiti’r anawsterau a’r heriau ni’n gorfod eu hwynebu.
Ac mae’r heriau hynny sy’n wynebu cymunedau Cymraeg wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwetha.
Ry’n ni yn Llywodraeth Cymru wedi cymryd sawl cam yn barod i daclo’r rhain: ry’n ni ‘di cyhoeddi polisïau newydd ym maes ail gartrefi er enghraifft, a’r mis nesa byddwn ni’n cyhoeddi ein Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg. A bydda i’n sôn yn fanylach am hwnnw mewn sesiwn benodol pnawn ‘ma. Felly croeso i chi ddod at hwnnw pnawn ‘ma.
Un peth y bydda i’n ei ddweud p’nawn ma yw bod na ‘filiwn o bobl yn dweud eu bod nhw’n gallu siarad Gwyddeleg, ond bod llai nag wyth deg mil yn ei siarad hi bob dydd.
Ac un peth bydda i’n gofyn pnawn yw beth fydd y sefyllfa o ran o ran y Gymraeg yn 2050?
Ond mae’n amlwg i fi bod angen meddwl o’r newydd am anghenion y Gymraeg mewn sawl maes polisi yn sgil Covid-19 ac effaith newidiadau cymdeithasol diweddar ar ein cymunedau impact Brexit a phethe eraill.
Nes i gyhoeddi un ymateb i hyn fis Gorffennaf y llynedd (Effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg: ymateb y llywodraeth). Roedd hynny’n ymateb i adroddiad ymchwil gymdeithasol roedden i yn y Llywodraeth wedi ei gomisiynu.
Ac fe nethon ni gomisiynu fe am fod cryfhau seiliau cymunedol ein hiaith ni yn ganolog i weledigaeth Cymraeg 2050. Ac ma isie mwy o hynny. Ac mae mwy yn dod.
A bydd dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar filoedd o benderfyniadau unigol—dewisiadau unigol, blaenoriaethau cyrff a chwmnïau, a chamau polisi llywodraethau ar bob lefel. Mae hyn yn rhan o gyfrifoldeb sy gyda ni ar y cyd fel dinasyddion Cymreig. Ry’n ni i gyd angen gweithio gyda’n gilydd o blaid y Gymraeg.
Dyna pam dwi ‘di sefydlu’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, er mwyn cyfrannu at y broses ‘ma o ddatblygu polisïau newydd. Y nod yw cryfhau’n hiaith ni mewn cymunedau sy’n cael eu hystyried yn draddodiadol yn gadarnleoedd y Gymraeg.
Mae sefydlu’r Comisiwn hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i brif-ffrydio’r Gymraeg ar draws pob elfen o’n gwaith ni. Neud yn siŵr bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yng nghyd-destun gwaith pob tîm, ym mhob adran ar draws y Llywodraeth, bob tro.
Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cyhoeddi adroddiad o fewn dwy flynedd. Adroddiad a fydd yn ystyried ymyraethau posibl.
Bydd e hefyd yn gwneud argymhellion polisi.
Yn ogystal, bydd yn cynnig dadansoddiad o ganlyniadau’r cyfrifiad yn ein cymunedau Cymraeg. Oherwydd popeth sydd ‘di digwydd dros y blynyddoedd diwetha’ ers i ni gychwyn ar daith Cymraeg 2050 yn haf 2017, mae’n anodd gwybod yn union beth i'w ddisgwyl. Ond beth bynnag yw’r canlyniadau, bydd angen eu dadansoddi’n onest, ac edrych hefyd ar ffynonellau eraill, fel yr arolwg defnydd iaith er enghraifft. Bydd hynny’n sicrhau ein bod ni’n deall yn well beth yw sefyllfa gyfredol ein hiaith ni.
A bydd gwneud hyn yn gallu ein helpu ni i adnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, hynny yw ardaloedd le mae angen cefnogi a chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol ddaearyddol.
Dy’n ni ddim yn sôn am Gaeltacht i Gymru yw hyn. Iaith genedlaethol yw’r Gymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd, ble bynnag ni’n byw yng Nghymru. Ond er mwyn i’n hiaith ni barhau i ddatblygu fel iaith genedlaethol, rhaid inni gymryd camau er mwyn ei chryfhau hi fel iaith gymunedol mewn rhannau o Gymru lle mae hynny o dan fygythiad.
Dyna pam ry’n ni’n mynd i adnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol. Mae’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg fel iaith gymunedol yn gallu bod yn wahanol iawn mewn gwahanol rannau o Gymru wrth gwrs. Efallai y bydd angen math o ymyrraeth mewn un ardal neu ardaloedd penodol sy’n greiddiol i barhad y Gymraeg fel iaith gymunedol yno, ond fod yr amodau cymdeithasol mewn cymunedau eraill yn wahanol. Polisi cenedlaethol yw ein polisi iaith ni. Ond ddyle hynny ddim ein rhwystro ni rhag ymyrryd yn effeithiol ar lefel ardal pan fydd hynny angen.
Wedi i’r Comisiwn gyflwyno argymhellion ynghylch y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, bydd y Comisiwn yn ystyried dyfodol ein hiaith ni fel iaith gymunedol mewn ardaloedd eraill o Gymru.
Dr. Simon Brooks, sydd wrth fy ochr i fan hyn, fydd Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Simon oedd awdur yr adroddiad, Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru, gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru er mwyn ystyried ymyraethau posibl yn y maes ail gartrefi. Diolch i ti am yr adroddiad, a diolch i ti ymlaen llaw am y gwaith y byddi di’n ei wneud o hyn allan!
Bydd gan y Comisiwn ddeg aelod yn ogystal â Simon.
Bydd yr aelodau’n rhannu o’u profiadau a’u harbenigedd o sawl maes polisi pwysig, gan gynnwys yr economi, tai, addysg, llywodraeth leol, adfywio cymunedol, technoleg, cynllunio ieithyddol a sawl peth arall.
Rwy’n falch heddiw o gyhoeddi pwy ydyn nhw:
- Talat Chaudhri
- Lowri Cunnington Wynn
- Cynog Dafis
- Meinir Ebbsworth
- Delyth Evans
- Dafydd Gruffydd
- Myfanwy Jones
- Shan Lloyd Williams
- Cris Tomos
- Rhys Tudur
Yn ogystal â rhannu o’u harbenigedd nhw, maen nhw hefyd yn rhannu o’u hamser, ac am hynny rwy’n diolch i bob un ohonoch chi. Bydd eich gwaith chi yn hanfodol i ddyfodol ein hiaith ni.
Dwi’di dweud dweud sawl gwaith bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol hi. Bydd rhaid i ni fod yn ddewr a mynd i’r afael â phethe all fod yn anodd gyda’n gilydd. Dwi’n siŵr y bydd rhai o’r pethe y bydd y Comisiwn yn eu dweud wrthon ni yn heriol ond dyna’r peth: dyna fydd yn helpu i ni ddod o hyd i’r atebion mwya’ effeithiol hefyd! Felly, dwi’n edrych ymlaen at gyfraniad y Comisiwn i’r drafodaeth, at drafod gyda’r Comisiwn, ac, yn bwysicach na hynny i gyd, y gweithredu sydd i ddod.