Mae’n bleser gennyf gadarnhau cyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021 i 2022 a luniwyd gan Yasmin Khan a Nazir Afzal OBE, y Cynghorwyr Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Mae’r adroddiad hwn yn un o ofynion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Mae’r adroddiad yn disgrifio cynnydd y Cynghorwyr Cenedlaethol yn erbyn yr amcanion a osodwyd ganddynt i’w hunain yn eu Cynllun Blynyddol ar gyfer 2021 i 2022. Mae’r adroddiad hefyd yn crynhoi’r sefyllfa hyd at ddiwedd eu tymor ar 31 Gorffennaf 2022.
Dyma fydd yr adroddiad olaf gan Yasmin a Nazir yn Gynghorwyr Cenedlaethol ar y cyd, gan gefnogi Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) er mwyn sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Yasmin a Nazir am eu cyfraniad aruthrol i’r agenda trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, ac am y gefnogaeth y maent wedi’i rhoi imi a’m swyddogion ers iddynt gael eu penodi yn 2018.
Mae Yasmin a Nazir wedi dod â chyfoeth amhrisiadwy o wybodaeth, arbenigedd ac arweinyddiaeth er mwyn annog newid ar gyfer dioddefwyr, goroeswyr a’r sector arbenigol. Maent wedi rhoi cyfarwyddyd a sefydlogrwydd drwy gyfnod tu hwnt o heriol ac ar adeg pan fo trais yn erbyn menywod a merched, a hynny’n gyfiawn, ar flaen cydwybod y cyhoedd.
Mae eu cefnogaeth wedi bod yn hanfodol drwy gydol y pandemig COVID-19, gan roi dioddefwyr a goroeswyr yn ganolog i’n dull o weithio. Maent wedi rhoi cysondeb i’n rhanddeiliaid a’u defnyddwyr gwasanaeth drwy gyfnod anodd a chythryblus.
Wrth i’r telerau presennol ddirwyn i ben, mae ymarfer penodiadau cyhoeddus wedi’i gwblhau yn ddiweddar. Cyhoeddais yn gynharach y mis hwn y bydd Yasmin Khan a Johanna Robinson yn ymgymryd â rôl Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer y tymor nesaf. Edrychaf ymlaen at weithio gydag Yasmin a Johanna er mwyn parhau â’r gwaith hanfodol hwn.
Hoffwn ddiolch yn bersonol i Nazir am y brwdfrydedd a’r egni y mae wedi’i roi i’r rôl Cynghorydd Cenedlaethol ar y cyd ers 2018 gan barhau i fod yn gefnogwr brwd o’r agenda hon yng Nghymru.