Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Bydd yr aelodau wedi rhannu'r ymdeimlad dwfn o bryder wrth glywed y newyddion yr wythnos diwethaf ynglŷn â TATA Steel, a'r ffaith bod eu dyfodol ym Mhort Talbot o dan fygythiad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod wrthi yn cynnal trafodaethau â TATA, Llywodraeth y DU a'r undebau llafur ers nifer o fisoedd, mewn perthynas â chynlluniau'r cwmni i newid i ddyfodol carbon isel. Ym mis Mai, cyfarfu'r Prif Weinidog a minnau â TV Narendran, Prif Swyddog Gweithredol a Rheolwr Gyfarwyddwr TATA Steel Ltd, a Dr Henrik Adam, Cadeirydd TATA Steel UK i drafod yr heriau sy'n wynebu'r sector dur a'r angen dybryd am gymorth ariannol i alluogi symud i ddur carbon isel.
Rwyf wedi cwrdd â’r Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS i hyrwyddo’r achos dros weithredu ar frys er mwyn sicrhau cytundeb sy'n cynnwys pecyn cydlynol gan Lywodraeth Cymru a'r DU. Cwrddais i hefyd ag Ysgrifennydd Gwladol blaenorol Cymru i atgyfnerthu'r pwyntiau hyn. Oherwydd y rôl ganolog y bydd Trysorlys EM yn ei chwarae wrth ddarparu unrhyw gymorth ariannol, cyfarfu'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ddiweddar â Phrif Ysgrifennydd, Trysorlys EM i ofyn i’r Trysorlys weithio gyda ni ar y mater hwn.
Bu'r Prif Weinidog hefyd yn trafod y mater ag Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar y pryd yn gynharach yn y mis er mwyn ceisio cael cytundeb ar fesurau ymarferol i gyflymu'r cynnydd ar y mater.
Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ohebiaeth bellach i Brif Weinidog y DU, Canghellor y Trysorlys a’r Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS i bwysleisio’r ffaith y byddai oedi pellach yn peri risg o gynyddu costau a rhagor o bryder i'r gweithlu a'r gymuned leol. Byddaf yn codi'r materion hyn pan fyddaf yn cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru.
Yn y dyddiau yn dilyn y cyhoeddiad, cwrddodd fy swyddogion â'r cwmni, Llywodraeth y DU a’r undebau llafur er mwyn deall y sefyllfa ddiweddaraf yn well. Ein ffocws yw archwilio pob opsiwn er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus, carbon isel i ddur Cymru. Mae'r nod yn gwbl bosib, ond mae angen gweithredu a chydweithredu gan Lywodraeth y DU. Ni ellir gohirio'r holl waith manwl sydd ei angen yn yr wythnosau nesaf nes bod Prif Weinidog newydd wedi cael ei ddewis ac rydym yn disgwyl i gynnydd gael ei wneud yn y cyfamser. Mae gwneud dur o bwys sylfaenol i Economi Cymru a'r DU a bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i sefyll dros ein diwydiant dur a'r gweithlu ymroddedig a medrus y mae'n ei gyflogi.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.