Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae gweithwyr cymdeithasol yn cyflawni rôl hanfodol yn ein cymunedau, gan gefnogi pobl i fod â rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Maent wrth wraidd ein system gofal cymdeithasol ac yn allweddol i gyflawni gofal effeithiol, sy’n gwneud gwir wahaniaeth i unigolion ac i’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.
Mae gwaith cymdeithasol yn newid: mae anghenion pobl yn newid, ac mae achosion yn fwy cymhleth. Mae’r pandemig wedi ychwanegu pwysau at waith cymdeithasol ac mae heriau recriwtio a chadw staff yn cynyddu.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r sector i lunio cynllun gweithlu gwaith cymdeithasol, sydd i’w gyhoeddi'r haf hwn. Fodd bynnag, i adeiladu capasiti yn y system, mae angen inni gefnogi mwy o bobl i hyfforddi fel gweithwyr cymdeithasol.
Y llynedd, cadarnhawyd y byddem yn cyflwyno newid i wella’r pecyn o gymorth ariannol sydd ar gael i weithwyr cymdeithasol sy’n astudio ar gyfer y cymhwyster ôl-raddedig. Cyflwynwyd is-ddeddfwriaeth ym mis Mai i wneud hyn o fis Medi 2022 ymlaen.
Rydym nawr yn mynd cam ymhellach ac yn cyflwyno cynnydd i’r pecynnau o gymorth ariannol sydd ar gael i israddedigion ac ôl-raddedigion drwy’r Bwrsari Gwaith Cymdeithasol, sy’n cael ei reoli gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Bydd israddedigion cymwys sy’n astudio ar gyfer y radd mewn gwaith cymdeithasol yn gallu cael hyd at £3,750 y flwyddyn dros y cwrs tair blynedd drwy’r Bwrsari Gwaith Cymdeithasol. Mae’r cymorth hwn yn ychwanegol i’r cyllid sydd ar gael drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Bydd gan ôl-raddedigion cymwys fynediad at becyn gwerth cyfanswm o £12,715 y flwyddyn ar gyfer eu cwrs dwy flynedd, sy’n cynnwys cynnydd o fwy na 50% i’r Bwrsari Gwaith Cymdeithasol. Bydd mwy o fanylion am y cyllid newydd hwn ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Er bod y pecynnau ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion yn gweithio’n wahanol iawn, rydym wedi gwneud gwelliannau i’r ddau.
Fel y nodir yn Cymru Iachach, ein huchelgais gyffredinol ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yw parch cydradd rhwng y proffesiynau. Mae’r newid hwn yn adlewyrchu symudiad sylweddol tuag at hyn ar gyfer ôl-raddedigion, drwy gynyddu’r cyllid grant sydd ar gael a lleihau’r elfen benthyciad. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o fwy na 50% ar y bwrsari presennol ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion.
Wrth wneud y newidiadau hyn rydym wedi edrych yn fanwl ar y cymorth sydd ar gael drwy Fwrsari’r GIG. Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y bydd adolygiad yn cael ei gynnal i Fwrsari’r GIG i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben. Byddwn hefyd yn ystyried a oes angen newidiadau pellach i’r Bwrsari Gwaith Cymdeithasol, ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion, ochr yn ochr ag adolygu Bwrsari’r GIG.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.