Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn fy natganiad i'r Cyfarfod Llawn ar 28 Mehefin, bu imi gadarnhau fy mod wedi ysgrifennu at bob datblygwr yng Nghymru yn eu gwahodd i gyfarfod i drafod eu cynlluniau a'u hamserlenni i atgyweirio materion diogelwch tân yn yr adeiladau yr oeddent yn helpu i'w hadeiladu.
Estynnwyd y gwahoddiad i 47 o ddatblygwyr yn y lle cyntaf, gan gynnwys y rhai sydd wedi ymrwymo i addewid diogelwch adeiladau Llywodraeth y DU. Atebodd 42 ohonynt a chadarnhaodd 28 nad oes ganddynt unrhyw adeiladau canolig neu uchel yng Nghymru; rydym yn aros am gadarnhad bod hyn yn wir gan un datblygwr arall.
Cynheliais gyfarfod bord gron ar 11 Gorffennaf gyda'r 13 datblygwr arall. Mae pob un ohonynt wedi cadarnhau eu bwriad i lofnodi Cytundeb Datblygwyr Llywodraeth Cymru, sy'n eu hymrwymo i adfer adeiladau y maent wedi'u datblygu sydd yn 11 metr o uchder neu'n fwy, sydd wedi nodi problemau diogelwch tân.
Mae'r cytundeb wedi'i rannu â'r datblygwyr. Bydd manylion y datblygwyr sy'n llofnodi'r cytundeb yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.
Bydd fy swyddogion yn cael cyfarfodydd dilynol gyda phob un o'r datblygwyr yn unigol i gynnal trafodaethau manwl am yr ymrwymiadau cytundebol ffurfiol ac amserlen ar gyfer y gwaith sydd i'w wneud.
Rwy'n bendant y dylai datblygwyr gymryd cyfrifoldeb am y gwaith adfer ond bydd swyddogion yn cynnal cyfarfodydd sicrwydd rheolaidd i sicrhau eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaethau cytundebol.
Yr wyf wedi'i gwneud yn glir nad wyf yn disgwyl i lesddeiliaid dalu'r gost o atgyweirio materion diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol amdanynt yn wreiddiol a'm bod yn disgwyl i ddatblygwyr ysgwyddo eu cyfrifoldebau. Yr wyf am ganmol yr holl ddatblygwyr sydd wedi ymrwymo i wneud hyn.
Nid yw pum datblygwr wedi rhoi'r sicrwydd yr wyf ei angen eto naill ai nad oes ganddynt unrhyw ddatblygiadau canolig neu uchel yng Nghymru neu, os oes ganddynt, eu bod yn barod i gyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas â'r datblygiadau hyn.
Y pum datblygwr sydd eto i ateb yw: Laing O'Rourke, Westmark, London Square, Weston Homes a Kier (Tilia erbyn hyn).
Heddiw, rwy'n galw'n gyhoeddus ar y datblygwyr hyn i ymateb i'm llythyr ac i gwrdd â mi i roi'r sicrwydd sydd ei angen ar lesddeiliaid yng Nghymru – a minnau.
I'r rheini nad ydynt yn fodlon gweithio gyda Llywodraeth Cymru i unioni materion diogelwch tân yn eu hadeiladau, yr wyf yn barod i ddefnyddio pob cyfrwng sydd ar gael imi i sicrhau bod datblygwyr yn trafod hyn a'u bod yn ymrwymo i adfer eu hadeiladau lle bo problemau diogelwch tân wedi'u nodi, neu eu bod yn wynebu canlyniadau.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.