Heddiw, aeth Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, ar ymweliad â'r Cae Ras yng Nghas-gwent i weld sut mae Rasio Ceffylau yng Nghymru yn adfywio yn dilyn y pandemig COVID-19, ac i glywed am ddyheadau ar gyfer twf yn y dyfodol.
Cafodd y tri cae rasio yng Nghymru dros £1.6 miliwn o gyllid gan Gronfa Chwaraeon Gwylwyr Lywodraeth Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Cyflwynwyd y gronfa i gefnogi lleoliadau pan fu'n rhaid cynnal chwaraeon y tu ôl i ddrysau caeedig er mwyn atal lledaeniad coronafeirws.
Yn gyffredinol, buddsoddodd Llywodraeth Cymru dros £20 miliwn mewn caeau rasio, clybiau chwaraeon a sefydliadau cenedlaethol ar draws 7 o chwaraeon i'w helpu drwy gyfnodau o'r pandemig, pan oedd y cyfyngiadau angenrheidiol yn atal gwylwyr rhag mynychu gemau a digwyddiadau.
Roedd y buddsoddiad yn diogelu cannoedd o swyddi yn y sector chwaraeon, yn rhoi sefydlogrwydd ariannol i'r chwaraeon a gefnogir ac yn diogelu chwaraeon ar lawr gwlad rhag canlyniadau posibl yr effaith gyffredinol ar gyllidebau refeniw.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
“Fel chwaraeon eraill, mae rasio ceffylau wedi wynebu dwy flynedd heriol. Rwy'n falch iawn o glywed am y gwahaniaeth wnaeth y Gronfa Chwaraeon Gwylwyr i rasio yng Nghymru.
“Rydym i gyd yn ymwybodol iawn bod chwaraeon wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol drwy gydol y pandemig, a dyna pam y gwnaethom weithredu'n gyflym i ddarparu y Gronfa Chwaraeon Gwylwyr i'r chwaraeon fyddai eu refeniw'n dioddef o ganlyniad i hyn.
“Rwy'n falch iawn bod y dyfodol bellach yn edrych yn llawer mwy disglair ac y gallwn glywed carnau ceffylau ar ein caeau rasio unwaith eto. Rwy'n gobeithio y gallwn weithio gydag Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i ddatblygu'r diwydiant hwn ymhellach yng Nghymru.
Meddai Phil Bell, Cyfarwyddwr Gweithredol Caeau Rasio Cas-gwent a Ffos Las:
"Roedd y cyfnod o gynnal cyfarfodydd ras y tu ôl i ddrysau caeedig yn un anodd i bawb dan sylw, ac roeddem yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy'r cyfnod hwn ac yn y misoedd ers hynny. Mae cymuned rasio ceffylau Cymru yn cyflawni llawer mwy na'r disgwyl o fewn y gamp yn ehangach, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo'r gamp ymhellach ac annog y rhai sy'n gwylio a pherchnogion i ystyried dod i rasio, neu gael ceffylau wedi'u hyfforddi yng Nghymru.