Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch sut y byddwn yn cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru nawr yn gallu cael mynediad at Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.

Mae’r ymrwymiad hwn mewn ymateb i’r pwysau cynyddol o ran costau byw ar deuluoedd a’n huchelgeisiau cyffredin o:

  • mynd i'r afael â thlodi plant
  • sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol

Mae manteision ehangach hefyd i brydau ysgol am ddim, gan gynnwys:

  • hyrwyddo bwyta'n iach ar draws yr ysgol
  • cynyddu'r amrywiaeth o ddewisiadau bwyd
  • gwella sgiliau cymdeithasol amser bwyd
  • gwella ymddygiad a chyrhaeddiad

Ni fydd hyn yn effeithio ar blant hŷn sy’n derbyn neu’n gymwys i wneud cais am brydau ysgol am ddim ar hyn o bryd.

Cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim i bawb

Efallai y gofynnir i chi gofrestru eich plentyn ar gyfer prydau ysgol am ddim i bawb.

Bydd hyn yn galluogi ysgol eich plentyn i gyfri cyfanswm nifer cynyddol y plant sydd angen prydau bwyd. Dylai ysgol neu awdurdod lleol eich plentyn roi rhagor o wybodaeth i chi am hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar fudd-daliadau cysylltiedig eraill.

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol am ragor o wybodaeth.

Cymorth ychwanegol

Hyd yn oed os yw'ch plentyn eisoes yn derbyn Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, mae angen i chi wirio a ydych yn gymwys i gael gafael ar gymorth ehangach. Gallech gael hyd at £200 drwy'r Grant Hanfodion Ysgol a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol.