Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 21 Gorffennaf).
Dywedodd llefarydd o Lywodraeth Cymru:
Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud i leihau’r amseroedd aros hiraf gyda nifer y llwybrau sy’n aros am fwy na dwy flynedd wedi gostwng 4.4% - yr ail ostyngiad misol yn olynol ar ôl dwy flynedd o gynnydd cyson ers i’r pandemig ddechrau.
Er gwaethaf y cynnydd hwn mewn galw, ym mis Mai cafodd niferoedd enfawr o gleifion eu gweld gyda’r nifer uchaf o driniaethau cleifion mewnol ac allanol yn cael eu cynnal (24,167) ers dechrau’r pandemig. Mae’r ffigur hwn yn rhan o gyfanswm o bron i 365,000 o ymgyngoriadau cleifion (ddim yn cynnwys apwyntiadau GP neu therapïau) a gynhaliwyd gan y GIG yng Nghymru, y pedwerydd uchaf ers dechrau’r pandemig yn ôl ym mis Mawrth 2020.
Ym mis Mai, dechreuodd 1,646 pobol driniaeth canser, 15% mwy nag ym mis Ebrill 2022. Ar ben hyn caewyd 11,883 o lwybrau ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd ganddo ganser, cynnydd o 13% o’i gymharu â mis Ebrill 2022.
Mae galw eithriadol o uchel o hyd ar wasanaethau’r GIG ledled Cymru gydag atgyfeiriadau’n cynyddu 16.7% ym mis Mai 2022 wrth i fwy o bobl geisio cymorth ar gyfer eu cyflyrau yn dilyn y pandemig.
Mae galw cynyddol o hyd am ofal mewn argyfwng ac mae pwysau’n cael eu dwysáu oherwydd heriau gyda llif cleifion drwy’r system ysbytai, yn ogystal â chyfyngiadau staffio gan gynnwys cynnydd mewn salwch COVID-19. Ym mis Mehefin, cyfran yr holl alwadau a oedd yn bygwth bywyd ar unwaith oedd 10%, sef yr eildro yn unig ers newid y categori dros dair blynedd yn ôl.
Mae 263 o glinigwyr ambiwlans ychwanegol wedi eu recriwtio dros y ddwy flynedd diwethaf a heddiw rydym wedi cyhoeddi £3 miliwn ychwanegol i recriwtio tua 100 o staff rheng flaen ychwanegol i helpu i wella amseroedd ymateb ar gyfer y rhai sydd wedi’u hanafu fwyaf difrifol a’r rhai mwyaf sâl dros gyfnod y gaeaf. Cytunwyd hefyd ar gynllun gwella newydd ar gyfer ambiwlansys gan brif weithredwyr Byrddau Iechyd yr wythnos diwethaf ac rydym yn disgwyl gweld gwelliant ym mherfformiad trosglwyddo cleifion ambiwlans o ganlyniad.