Cyhoeddir y data bob chwarter ac mae’n cynnwys disgrifiad o’r gwariant, enw'r cyflenwr, dyddiad y trafodiad, cyfeirnod y trafodiad a’r swm mewn GBP (£).
Mae nifer cyfyngedig o enwau cyflenwyr heb eu cyhoeddi, a hynny ar sail eithriadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Lle bo enw cyflenwr wedi’i ddileu, nodir hynny â’r geiriau ‘enw’r cyflenwr wedi’i ddileu’ a bydd dyddiad y trafodiad, cyfeirnod y trafodiad a’r cyfanswm yn cael eu cyhoeddi.
Rydym wedi darparu crynodeb o’r trafodiadau sydd wedi’u gwneud ar gardiau sydd wedi’u neilltuo i gyflenwr penodol sydd â chytundeb gyda Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi darparu crynodeb o’r trafodiadau sydd wedi’u had-dalu neu sydd i’w had-dalu i Lywodraeth Cymru. Mae yna nifer o resymau dros ad-daliadau, er enghraifft nwyddau’n cael eu dychwelyd gwasanaeth yn cael ei ganslo, symiau wedi’u codi mewn camgymeriad. Mae’n bosibl i ad-daliad gael ei brosesu mewn mis gwahanol i’r trafodiad y mae’n berthnasol iddo. Caiff ad-daliadau hefyd eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrif banc Llywodraeth Cymru yn hytrach na thrwy’r cerdyn caffael.