Mae ymgyrch sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru wedi helpu rhagor na 100 o bobl i gael gwaith yn sector Bwyd a Diod Cymru yn ystod tri mis peilot yr ymgyrch.
Cafodd ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru ei lansio yn gynharach eleni i annog pobl i ystyried gyrfa yn niwydiant bwyd a diod Cymru ac i ddangos y cyfleoedd cyffrous ac amrywiol y mae’r diwydiant yn eu cynnig.
Yn sgil llwyddiant yr ymgyrch i helpu pobl i gael hyd i waith, mae hi wedi cael ei hestyn tan ddiwedd mis Tachwedd.
Gan gydweithio’n glos â busnesau, targedwyd amrywiaeth o dalentau, gan gynnwys y rheini oedd newydd adael yr ysgol, graddedigion o golegau a phrifysgolion a phobl oedd am weld newid byd. Lansiwyd hysbysfwrdd swyddi ar-lein oedd yn rhestru llu o swyddi gweigion yn y diwydiant.
Gyda chyfnod newydd ar ddechrau yn dilyn ei lwyddiant dechreuol, y prosiect fydd yn gyfrifol am Hyb Gyrfaoedd Bwyd a Diod 2022 yn y Sioe Frenhinol. Bydd yr hyb yn denu llu o bartneriaid ac yn fan cynnal trafodaethau i’ch ysbrydoli, ac yn helpu pobl o bob grŵp oed i ddewis a chynllunio ar gyfer cyfleoedd yn y diwydiant a chystadlu amdanynt.
Mae Llywodraeth Cymru bellach am adeiladu ar lwyddiant y peilot tri mis a helpu mwy o bobl i gael gwaith yn y diwydiant bwyd a diod.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, a fydd yn ymweld â’r Hyb Gyrfaoedd Bwyd a Diod heddiw:
Rwy’n falch iawn bod ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru wedi helpu mwy na 100 o bobl i gael gwaith yn y diwydiant bwyd a diod – dyna o leiaf un person bob dydd yn ystod peilot tri mis yr ymgyrch. Rydyn ni’n estyn y cynllun gan obeithio y daw mwy o bobl i ymuno â’r sector.
Mae’n wych clywed busnesau’n siarad â sut angerdd am y gyrfaoedd maen nhw’n eu cynnig ac mae’r hyb yn y Sioe Fawr yn allweddol i helpu pobl i ddysgu mwy am y rolau a’r cyfleoedd amrywiol, cyffrous a deniadol sydd ar gael.
O ddechrau bach, mae Peter’s Food wedi tyfu i fod yn un o gyflogwyr mwyaf Cymru ac yn un o’r dosbarthwyr cigoedd oer mwyaf yn y DU. Fel un o’r busnesau sy’n cymryd rhan yn y prosiect, dywedodd Deborah Jones, y Swyddog Hyfforddi:
Mae llawer o gyfleoedd gwaith yn Peter’s Food, fel swyddi cynhyrchu a swyddi yn y stafell gig ac yn ein swyddfeydd.
Felly mae buddsoddi yn ein gweithwyr yn bwysig iawn i ni. Mae’n eu gwneud yn fwy hyderus yn eu swyddi ac maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu trysori gan eu bod yn gallu mynd yn eu blaenau ac ennill mwy o wybodaeth.
Yn y cyfamser, mae Avara Foods yn un o nifer o gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru sy’n cynnig prentisiaethau. Dywedodd Andrew, prentis peirianneg blwyddyn gyntaf:
Mae Avara wedi bod yn wych am drefnu i ‘nghael i i fynd yn ôl i’r coleg ac ailhyfforddi a meithrin y sgiliau sydd eu hangen i fod yn beiriannydd amrywiol ei sgiliau.
Cefais fy nenu i’r diwydiant bwyd am fod yr hyfforddiant sgiliau heb ei ail. Rwy’n hoffi’r amrywiaeth o beiriannau rydyn ni’n cael gweithio arnyn nhw ac yn wir, maen nhw wrthi’n cael eu huwchraddio. Felly mae cyfleoedd i weithio gyda roboteg, trydaneg a pheirianneg mecanyddol.
Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn ffynnu ar y funud. Yn ogystal â rhoi bwyd ar fyrddau’r genedl, mae’r diwydiant hefyd yn rhoi cynnyrch ardderchog Cymru ar lwyfan y byd.
Cynyddodd allforion bwyd a diod Cymru i £641m yn 2021, yr uchaf erioed. A Chymru welodd y cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth ei hallforion bwyd a diod o blith pedair gwlad y DU rhwng 2020 a 2021, gyda chynnydd o £89 miliwn, twf o 16.1%.
Ragor o wybodaeth am Weithlu Bwyd Cymru a’r swydd gwag yn y diwydiant.