Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: Mai a Mehefin 2022
Adroddiad yn crynhoi data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru ar gyfer Mai a Mehefin 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru.
Y mis hwn rydym wedi cyhoeddi rhagor o ddata sy’n ymwneud ag ymweliadau â thudalen we’r gwasanaeth 111 a data a lenwir yn yr holiadur symptomau ar-lein ar ein gwefan StatsCymru.
Yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar lefelau perfformiad a gweithgarwch y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros ar gyfer pobl yng Nghymru. Rydym wedi ymgorffori’r mesuriadau perfformiad yma'n erbyn yr uchelgeisiau hyn yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru.
Prif bwyntiau
Ym mis Mehefin, atebwyd 88,000 o alwadau gan y gwasanaeth 111 yng Nghymru, sef cyfartaledd o 2,924 o alwadau y dydd. Cafwyd bron i 336,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru hefyd a llenwyd dros 12,000 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru).
Ym mis Mehefin, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 3,728 o alwadau coch (bywyd yn y fantol), sef 10.0% o’r holl alwadau. Mae hyn yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol. Cafodd 50.8% o alwadau coch ymateb brys o fewn 8 munud, sy’n isel mewn cyd-destun hanesyddol ac yn is na’r targed o 65%. Dyma’r ail amser hiraf ers dechrau casglu data. Dim ond o fis Mai 2019 ymlaen y mae modd cymharu data.
Ar gyfartaledd, roedd 2,953 o ymweliadau ag adrannau brys bob dydd, sef rhywfaint o gynnydd mewn gweithgarwch o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd perfformiad o ran y ddau darged - pedair awr a deuddeg awr - wedi gostwng fymryn o’i gymharu â mis Mai, roeddent y chweched a’r trydydd isaf ar gofnod yn y drefn honno. Fe wnaeth yr amser cyfartalog (canolrifol) a dreuliwyd mewn adrannau brys gynyddu rhywfaint ym mis Mehefin hefyd, a dyma oedd y cydradd-drydydd hiraf ar gofnod, sef tair awr a dau funud.
Mae’r pandemig wedi achosi cynnydd mawr mewn llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, ac ym mis Mai mae rhestrau wedi parhau i gynyddu i dros 722,000. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.
Mae gwybodaeth reoli newydd yn awgrymu bod tua 544,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru ym mis Mawrth 2022, pan oedd dros 701,000 o lwybrau cleifion agored.
Ym mis Mai, caewyd ychydig dros 73,000 o lwybrau cleifion, sy’n is na’r cyfartaledd cyn y pandemig, ond yn sylweddol uwch nag yn ystod rhan gyntaf y pandemig.
Roedd cyfran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu rhywfaint ym mis Mai i 53.9%, o 53.7% ym mis Ebrill. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog ers tro ar ôl disgyn yn sylweddol o’r lefelau cyn y pandemig. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros dros 36 wythnos yn parhau i gynyddu ym mis Mai a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed, sef ychydig o dan 261,000.
Roedd ychydig dros 65,000 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, sef yr ail ostyngiad o un mis i'r llall yn olynol, ar ôl cynnydd cyson dros y flwyddyn flaenorol. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Mai wedi gostwng o gymharu â’r mis blaenorol, ond roedd yn dal yn uchel ar 22.6 wythnos.
Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy nag 8 wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i dros 45,000 ym mis Mai, cynnydd dros y mis blaenorol.
Ar gyfer therapïau, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros wedi cynyddu rhywfaint i ychydig dros 65,000 ym mis Mai, sef y lefel uchaf erioed. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i ychydig dros 13,000.
Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd mwy o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Mai (1,646) a chaewyd mwy o lwybrau ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd ganddo ganser (11,883) nag yn y mis blaenorol. Fodd bynnag, gostyngodd perfformiad o gymharu â’r targed 62 diwrnod i’r lefel isaf ers dechrau casglu’r data cyfredol.
Gofal heb ei drefnu
Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Mehefin 2022.
Galwadau i wasanaeth 111
Ar 16 Mawrth 2022, cafodd gwasanaeth llinell gymorth 111 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ei gyflwyno ledled Cymru.
Ym mis Mehefin, atebwyd 88,000 o alwadau gan y gwasanaeth 111 yng Nghymru, sef cyfartaledd o 2,924 o alwadau y dydd. Cafodd bron i 18,000 o alwadau eraill eu terfynu gan y galwr cyn cael eu hateb. O’r rhain, cafodd 5,000 eu terfynu o fewn 60 eiliad i’r negeseuon awtomatig, gan awgrymu bod eu hanghenion yn debygol o fod wedi cael eu diwallu. Cafodd 13,000 o alwadau eu gadael ar ôl 60 eiliad ac ystyrir y rhain yn alwyr yr oedd yn fwy tebygol bod dal angen gwasanaeth arnynt ar ôl y negeseuon, ond nad oeddent yn gallu mynd drwodd neu eu bod wedi penderfynu peidio ag aros.
O'r galwadau a atebwyd, ar gyfer 1,176 ohonynt, nododd y galwr ei fod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad.
Cafwyd bron i 336,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru a llenwyd dros 12,000 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru) ym mis Mai.
Cyhoeddir rhagor o ddata ar StatsCymru.
Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans
Mae ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ac ar StatsCymru.
Gweithgaredd
Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru
Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.
Ym mis Mehefin, gwnaethpwyd ychydig dros 37,000 o alwadau brys i’r gwasanaethau ambiwlans. Roedd hyn yn gyfartaledd o 1,249 o alwadau y dydd, cynnydd o 42 (3.4%) o alwadau y dydd ar gyfartaledd o gymharu â’r mis blaenorol, ond 133 (9.6%) yn llai o alwadau y dydd ar gyfartaledd na’r un mis y llynedd.
Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys). Roedd 124 o alwadau coch yn cael eu gwneud bob dydd ar gyfartaledd ym mis Mehefin. Dyma’r trydydd mis ar ddeg yn olynol lle cafwyd dros 100 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd i'r gwasanaeth ambiwlans lle’r oedd bywyd yn y fantol.
Ym mis Mehefin, roedd cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol (galwadau coch) yn 10.0%, cynnydd ers y mis blaenorol (9.6%).
Perfformiad
Targed
- Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol – mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru
Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.
Ym mis Mehefin, cyrhaeddwyd 50.8% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud. Roedd hyn 3.7 pwynt canran yn is nag yn y mis blaenorol, a 9.8 pwynt canran yn is nag ym mis Mehefin 2021.
Mae canolrif yr amser ymateb dros y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Ym mis Mehefin, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol ‘coch’ oedd 7 munud a 55 eiliad. Roedd hyn 33 eiliad yn arafach na’r mis blaenorol.
Dyma’r ail amser hiraf ers dechrau casglu data. Dim ond ym mis Hydref 2021 oedd y ffigur hwn yn uwch. Dim ond o fis Mai 2019 ymlaen y mae modd cymharu data.
Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Mehefin, roedd canolrif yr amser ymateb ar gyfer galwadau ambr ychydig o dan 1 awr a 35 munud. Roedd hyn bron i 17 munud yn arafach nag ym mis Mai, a bron i 35 munud yn arafach nag ym mis Mehefin 2021.
Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty
Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth reoli.
Gweithgaredd
Sylwer: Mae’r Siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.
Ym mis Mehefin, roedd bron i 89,000 o ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru. Roedd hyn yn gyfartaledd o 2,953 o ymweliadau ag adran achosion brys y dydd; 16 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol, ond 184 yn llai na’r un mis y llynedd.
Ym mis Mehefin, derbyniwyd bron 14,000 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Roedd hyn 1.1% yn is na’r mis blaenorol, ond 15.5% yn is na’r un mis yn 2021.
Perfformiad
Targedau
- Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
- Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru
Ym mis Mehefin, roedd 66.4% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn 0.2 pwynt canran yn is na’r mis blaenorol, a 5.2 pwynt canran yn is na’r un mis y llynedd.
Yn 2019, canolrif yr amser a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022. Yn y data diweddaraf ar gyfer mis Mehefin, canolrif yr amser aros oedd 3 awr a 2 funud. Dyma oedd yr amser aros cydradd-drydydd hiraf ar gyfartaledd (canolrif) ar gofnod, ac roedd un munud yn arafach na’r mis blaenorol.
Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr.
Ym mis Mehefin, treuliodd plant (0-4 oed) 2 awr a 27 munud yno ar gyfartaledd. Treuliodd oedolion 85 oed a hŷn gyfartaledd o 7 awr a 8 munud mewn adrannau brys, yr isaf y mae wedi bod ers mis Medi y llynedd.
Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru
Ym mis Mehefin, roedd bron i 10,300 o gleifion yn aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 26 yn fwy na’r mis blaenorol.
Gofal wedi’i drefnu
Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Mai 2022.
Atgyfeiriadau cleifion allanol
Gweithgaredd
Atgyfeiriadau cleifion allanol ar StatsCymru
Ar gyfartaledd, roedd 3,907 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Mai. Mae hyn yn gynnydd o 13.0% (449 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Ebrill, a’r uchaf ers mis Hydref 2019.
Perfformiad
Targedau
Neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol erbyn diwedd 2022 (targed newydd wedi’i sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl Wythnos ar StatsCymru
Ym mis Mai, cynyddodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol i ychydig o dan 96,000. Mae hyn wedi cynyddu’n ddramatig yn ystod y pandemig, er ei fod wedi gostwng ers y brig o dros 101,000 ym mis Hydref 2021.
Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi
Gweithgaredd
Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru
Sylwer: Mae’r pwynt isel ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.
Ym mis Mai, roedd bron i 110,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef cynnydd o 0.4% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Hefyd, roedd ychydig dros 65,000 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, cynnydd o 2.4% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Dyma oedd y lefel uchaf erioed.
Perfformiad
Targedau
- Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
- Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
- Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu Gwanwyn 2024 fel dyddiad targed i gyflawni'r targedau hyn.
Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru
Noder: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.
Ddiwedd mis Mai, roedd dros 45,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig. Roedd hyn yn gynnydd o 0.6% o’i gymharu â’r mis blaenorol ac roedd 8.7% yn uwch na mis Mai 2021.
Ddiwedd mis Mai, roedd ychydig dros 13,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Roedd hyn 0.3% yn llai na’r mis blaenorol.
Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 (2.8 wythnos ar gyfartaledd) ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018 (3.6 wythnos ar gyfartaledd). Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer y ddau wasanaeth wedi cyrraedd uchafbwynt ym mis Mehefin 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau).
Ym mis Mai, 5.7 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig. Roedd hyn yn ostyngiad o 6.2 wythnos yn y mis blaenorol. 5.5 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer gwasanaethau therapi. Roedd hyn yn ostyngiad o 6.4 wythnos yn y mis blaenorol.
Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth
Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau agored a chaeedig ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw’r rheini sy’n aros ar y rhestr aros ar y rhestr aros am driniaeth, ac mae llwybrau sydd wedi’u cau yn golygu’r rheini sydd wedi’u tynnu oddi ar y rhestr aros.
Mesurir gweithgarwch yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegwyr Llywodraeth Cymru.
Mae gwybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn cael ei chyhoeddi am y tro cyntaf hefyd, ar gyfer nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru.
Gweithgaredd
Targedau
- Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn Gwanwyn 2025 (targedau newydd wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
- 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio
- Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Ym mis Mai, roedd mwy na 722,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth - y ffigur uchaf ers dechrau casglu data cymaradwy yn 2011. Roedd hyn 2.1% yn uwch nag yn y mis blaenorol ac roedd 56.4% yn uwch nag ym mis Chwefror 2020.
Roedd dros 176,000 o lwybrau yn aros dros flwyddyn ym mis Mai, sydd wedi bod yn sefydlog ar y cyfan dros y 12 mis diwethaf. Roedd ychydig dros 65,000 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, sef yr ail ostyngiad o un mis i'r llall, ar ôl cynnydd cyson dros y flwyddyn flaenorol.
Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor.
Nid oes gennym ystadegau swyddogol ynghylch nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu a’i chyflwyno am y tro cyntaf y mis hwn, yn awgrymu bod tua 543,773 o gleifion unigol ar restrau aros yng Nghymru ym mis Mawrth, pan oedd yr ystadegau Gwladol yn adrodd bod dros 701,000 o lwybrau cleifion agored.
Yn wahanol i’r Ystadegau Gwladol mewn mannau eraill yn y datganiad hwn, sydd wedi’u hasesu’n annibynnol yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar wybodaeth reoli sydd newydd ei chasglu. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi'u cymhwyso, nid yw sicrwydd ansawdd ar lefel yr Ystadegau Gwladol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddeall cryfderau a chyfyngiadau'r data hwn ymhellach a bydd hyn yn cael ei gyfleu wrth i ni ddysgu mwy. Am y rhesymau hyn mae mwy o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrif hwn na'r ffigurau eraill yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae lefel diddordeb y cyhoedd mewn deall nifer y cleifion yn ogystal â nifer y llwybrau cleifion yn ychwanegu digon o werth i warantu ei fod ar gael nawr.
O blith y 722,000 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Mai, roedd 53.9% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn 0.2 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol, 1.2 pwynt canran yn uwch na’r un mis y llynedd, ond 30.5 pwynt canran yn is na mis Chwefror 2020.
Ym mis Mai, roedd ychydig o dan 261,000 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos. Roedd hyn yn 36.1% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn yn 2,670 (neu 1.0%) yn fwy o lwybrau yn aros nag yn y mis blaenorol a 14.2% yn uwch na’r un mis y llynedd.
Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth wedi bod tua 10 wythnos cyn y pandemig rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ym mis Mai, roedd canolrif yr amser aros yn 22.6 wythnos, sef gostyngiad o 23.0 wythnos yn y mis blaenorol.
Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru
Sylwer: Nid yw Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi gallu darparu data llwybrau sydd wedi cau ers mis Medi 2018. Mae data ar gyfer y bwrdd iechyd hwn wedi’u heithrio o gyfanswm Cymru yn y siart er mwyn ei gwneud hi’n bosibl dadansoddi tueddiadau. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.
Cafodd dros 73,000 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Mai. Mae hyn yn gyfartaledd o 3,477 o lwybrau cleifion wedi’u cau am bob diwrnod gwaith – cynnydd o 1.4% ers y mis blaenorol, a 15.1% yn uwch na’r un mis y llynedd.
Gwasanaethau canser (ystadegau arbrofol)
Mae Ystadegau arbrofol (ONS) yn ystadegau swyddogol sydd yn y cyfnod profi ac nid ydynt wedi'u datblygu'n llawn eto.
Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.
Gweithgaredd
Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru
Ym mis Mai, dechreuodd 1,646 o lwybrau, lle’r oedd cleifion newydd gael diagnosis o ganser, eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Roedd hyn yn gynnydd o 15.1% o’i gymharu â’r mis blaenorol ac yn gynnydd o 2.4% ers mis Mai 2021.
Cafodd 11,883 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 12.8% yn fwy na’r mis blaenorol.
Ym mis Mai, agorwyd 14,776 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn yn gynnydd o 1,962 (15.3%) o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Perfformiad
Targed
- Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
- Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.
Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru
Ym mis Mai, roedd 53.0% o’r llwybrau (872 allan o 1,646) wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Dyma’r gyfran isaf i gael ei chofnodi. Roedd hyn 3.5 pwynt canran yn is nag yn y mis blaenorol, a 15.7 pwynt canran yn is nag ym mis Mai 2021.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Hoffem gael adborth gennych
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
Diweddariad nesaf
19 Awst 2022
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Rhys Strafford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 172/2022