Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wrth i’r tymor ddod i ben, roeddwn i a’m cyd-Weinidogion am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am y swyddogaethau pwysig y bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig newydd yn eu cyflawni.
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel dull o gydweithredu’n rhanbarthol drwy fframwaith mwy cyson a democrataidd o ran ei reoli.
Rwyf yn ddiolchgar i’r Aelodau am gymeradwyo Rheoliadau perthnasol yr wythnos hon. Y Rheoliadau hyn, ynghyd â llond llaw o fân Offerynnau Statudol ategol, yw’r darn terfynol o ddeddfwriaeth o sylwedd er mwyn sefydlu’r fframwaith cyfreithiol i ddarparu ar gyfer y cyrff cyhoeddus pwysig hyn.
Mae pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi’u sefydlu ar sail yr ardaloedd daearyddol y gofynnodd awdurdodau lleol amdanynt, sy’n adlewyrchu trefniadau cydweithredu rhanbarthol sy’n bodoli eisoes. Rwyf o’r farn mai Cyd-bwyllgorau Corfforedig yw un o ddiwygiadau mwyaf arwyddocaol a strategol y Llywodraeth hon. Byddant yn galluogi ac yn cefnogi’r gwaith o gyflawni swyddogaethau penodol a phwysig llywodraeth leol ar raddfa ranbarthol, pan fo’r dull hwnnw’n gwneud synnwyr.
Mae’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi’i gynllunio i sicrhau hyblygrwydd ac i alluogi disgresiwn yn lleol. I raddau helaeth, aelodau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig fydd yn pennu’r ffordd y bydd yn cyflawni ei swyddogaethau ac yn gweithredu. Bydd yr hyblygrwydd hwn yn galluogi’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig i wahaniaethu rhwng ardaloedd daearyddol er mwyn diwallu anghenion penodol eu rhanbarth.
Mae gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig gyfrifoldebau sylweddol ar unwaith a fydd yn cael effeithiau gwirioneddol ar awdurdodau lleol a’r bobl sy’n byw yn eu hardaloedd. O 30 Mehefin 2022, daeth Cyd-bwyllgorau Corfforedig o dan ddyletswyddau i baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Bydd gwaith Cyd-bwyllgorau Corfforedig o lunio Cynlluniau Datblygu Strategol yn galluogi dull mwy cyson, costeffeithiol ac effeithlon o gynllunio. Bydd Cynlluniau Datblygu Strategol yn sicrhau canlyniadau cynllunio mwy effeithiol i gymunedau, drwy sicrhau bod materion allweddol, datblygiadau a seilwaith cysylltiedig yn cael eu cynllunio mewn ffordd integredig a chynhwysfawr ar draws ardal ddaearyddol ehangach.
Bydd y Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi polisïau i ddarparu ar gyfer cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth diogel, integredig, effeithlon ac economaidd yn y rhanbarth. Rhaid i’r cynlluniau hyn ddiwallu anghenion pobl sy’n byw yn y rhanbarth, sy’n gweithio ynddo, sy’n ymweld ag ef, neu sy’n teithio drwyddo. Bydd angen hefyd i’r cynlluniau fod yn gyson â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Mae’r gwaith hwn o gynllunio trafnidiaeth rhanbarthol yn ehangach yn elfen allweddol o greu rhwydwaith bysiau cydgysylltiedig ac effeithiol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol i weld a ddylid trosglwyddo swyddogaethau newydd arfaethedig ar gyfer cynllunio bysiau o awdurdodau lleol i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig.
Mae gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig bŵer i wneud unrhyw beth i wella neu hyrwyddo llesiant economaidd eu hardal. Ein disgwyliad yw y bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cynnwys trefniadau ar gyfer llywodraethu bargeinion dinesig a thwf ochr yn ochr â gwaith cynllunio strategol arall i’r rhanbarth.
Mae awdurdodau lleol yn cadw’r pwerau llesiant economaidd. Bydd cytundebau rhwng cynghorau lleol cyfansoddol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig ar y mathau o weithgarwch llesiant economaidd a fydd yn parhau ar lefel leol a’r hyn y byddai’n well i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ymgymryd ag ef er mwyn cyflawni eu dyheadau a’u huchelgeisiau rhanbarthol.
Cyd-bwyllgorau Corfforedig sy’n darparu’r fframwaith cyfreithiol i awdurdodau lleol gydweithio ar ddatblygu economaidd, gan gynnwys y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, sy’n tresmasu ar ein cyfrifoldebau datganoli ac nad yw’n darparu’r cyllid i gyd i gymryd lle cyllid yr UE. Mae ein Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, a luniwyd ar y cyd â phartneriaid yng Nghymru a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), yn bolisi arweiniol o ran y Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Nghymru. Mae’n cynnwys defnyddio strwythurau’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig i ddarparu cronfeydd yn lle cronfeydd buddsoddi rhanbarthol yr UE. Mae’r dull hwn o weithredu ledled Cymru ac yn rhanbarthol yn rhoi fframwaith strategol pwysig i gynorthwyo awdurdodau lleol yn eu gwaith ar gynlluniau buddsoddi rhanbarthol, er mwyn helpu i sicrhau’r buddsoddiad mwyaf ac osgoi dyblygu ymdrechion a llywodraethu.
Gall dau neu ragor o’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig gyflawni unrhyw un o’u swyddogaethau ar y cyd (yn ddarostyngedig i unrhyw beth yn y rheoliadau neu mewn deddfwriaeth arall sy’n eu hatal rhag gwneud hynny). Mae hynny’n galluogi gwaith ar draws rhanbarthau, ond o fewn fframwaith y Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Bydd prosiect yr OECD sy’n cefnogi llywodraethu rhanbarthol a buddsoddiadau cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys nodi meysydd penodol ar gyfer cydweithredu ar draws rhanbarthau yr hoffai’r gwahanol awdurdodau lleol eu cefnogi fel rhan o’u cynlluniau gweithredu rhanbarthol.
Byddaf yn cwrdd â phob un o’r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig i glywed am eu cynnydd ac i ddeall eu huchelgais ar gyfer cydweithredu rhanbarthol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig er mwyn cefnogi’r gwaith parhaus o’u gweithredu.