Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ar gyfer economi ddi-garbon (WIIS). Mae'r strategaeth yn sefydlu'r canlyniadau y mae'n rhaid i fuddsoddi mewn seilwaith eu galluogi, tra'n cydnabod ein hymrwymiad cyffredinol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Cynlluniwyd y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) gan Lywodraeth Cymru i hybu buddsoddiad mewn seilwaith a bydd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni'r canlyniadau a nodir yn y WIIS. Pan lansiwyd MIM yn 2017, gwnaethom ymrwymiad i fod mor dryloyw â phosibl am ein camau gweithredu. Un agwedd yn unig oedd hon a fyddai'n gwahaniaethu rhwng  MIM a'r math hanesyddol o PFI sydd bellach wedi colli ei henw da. 

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi Adroddiad Blynyddol cyntaf MIM – dogfen sy'n disgrifio ein gweithgareddau dros y cyfnod o fis Mehefin 2021 i fis Mehefin 2022. Mae'r adroddiad yn disgrifio yn fanwl: 

  • Prif nodweddion MIM 
  • Manylion prosiectau MIM presennol 
  • Y partïon sy'n ymwneud â phrosiectau MIM a'u priod rolau. 
  • Manylion y contractau cyhoeddedig 
    • Enillion ar fuddsoddiad (gan gynnwys enillion ecwiti a Buddion Cymunedol) 

Pan wnaethom ein hymrwymiad i dryloywder, fel cam cyntaf, cyhoeddwyd fersiynau templed o ddogfennau contract MIM a chanllawiau cysylltiedig, gan gynnwys templed o Gytundeb y Prosiect a fyddai'n cael ei lunio rhwng Awdurdod y sector cyhoeddus a Chwmni Prosiect MIM. 

Ochr yn ochr â chyhoeddi Adroddiad Blynyddol MIM, mae'r Llywodraeth heddiw yn cyhoeddi copi wedi'i lofnodi o Gytundeb y Prosiect ar gyfer deuoli adrannau 5 a 6 o gynllun MIM yr A465. Ymrwymwyd i'r contract hwn ym mis Hydref 2020.

Rydym hefyd yn cyhoeddi heddiw gopi wedi'i lofnodi o'r Cytundeb Partneriaeth Strategol sy'n sail i fuddsoddiad MIM yn y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Ymrwymwyd i'r contract hwn ym mis Medi 2020 ac mae'n ganolog i'r gwaith o ddarparu llif ychwanegol o ysgolion a cholegau, gan gydategu buddsoddiad sylweddol draddodiadol drwy'r rhaglen gyfalaf.

Mae caffael Canolfan Ganser newydd Felindre gan ddefnyddio'r MIM yn parhau i wneud cynnydd da. Mae'r Adroddiad yn rhoi gwybodaeth gryno, o gofio bod y caffael hwn yn dal i fynd rhagddo.

Gyda chytundeb ein partneriaid, mae gwybodaeth sy'n sensitif yn fasnachol wedi'i hepgor o'r Cytundebau cyhoeddedig. 

Gallwch weld y dogfennau drwy glicio ar y ddolen isod: 

https://llyw.cymru/y-model-buddsoddi-cydfuddiannol-ar-gyfer-buddsoddi-mewn-seilwaith