Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Ym mis Hydref y llynedd ymrwymais i gynnal adolygiad o’r cyrff y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn berthnasol iddynt.
Ers i'r Ddeddf gael ei gwneud yn gyfraith, mae tirwedd y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi newid, felly mae'n gywir ein bod yn asesu a ddylid dynodi cyrff cyhoeddus ychwanegol yn gyrff y mae'r Ddeddf yn berthnasol iddynt. Mae gwaith Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad Felly, beth sy'n wahanol? Canfyddiadau Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yr Archwilydd Cyffredinol (Mai 2020) ac adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (5ed Senedd) Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol – y stori hyd yma (Mawrth 2021) wedi llywio'r penderfyniad i gynnal adolygiad.
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau ar ymestyn y ddyletswydd llesiant yn (rhan 2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i wyth corff cyhoeddus ychwanegol.
Mae’r ymgynghoriad yn nodi’r meini prawf a ddefnyddiwyd i ddewis y cyrff y bydd dyletswydd llesiant y Ddeddf yn berthnasol iddynt. Mae’r rhain yr un meini prawf a ddefnyddiwyd i sefydlu’r 44 corff a restrir yn y Ddeddf ar hyn o bryd.
Mae ein cynigion i ymestyn y ddyletswydd llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ategu ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i roi sail statudol i bartneriaethau cymdeithasol drwy Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Bydd y Bil, a gyflwynwyd ar 7 Mehefin, yn gosod partneriaeth gymdeithasol wrth galon datblygiad cynaliadwy, ac mae’r rhestr o gyrff y cynigir y dylai’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol statudol sydd wedi’i chynnwys yn y Bil fod yn berthnasol iddynt wedi’i ddiffinio gan y rhestr o gyrff y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn berthnasol iddynt.
Byddwn yn gweithio gyda’r cyrff, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac Archwilio Cymru i ddeall goblygiadau cost posibl y cynigion hyn, ac i ddod o hyd i ffyrdd o rannu’r hyn a ddysgwyd gan y rheini y mae’r Ddeddf wedi bod yn berthnasol iddynt ers 2016.
Cynhelir yr ymgynghoriad ar y cyrff ychwanegol o 14 Gorffennaf i 20 Hydref 2022. Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn llesiant Cymru i ymateb ac edrychaf ymlaen at ystyried yr ymatebion.
Mae’r ymgynghoriad ar gael yn: https://llyw.cymru/cyrff-cyhoeddus-ychwanegol-syn-ddarostyngedig-ir-ddyletswydd-llesiant-rhan-2-o-ddeddf-llesiant.