Bu Gweinidog yr Economi Vaughan Gething yn ymweld â rhai o gwmnïau mwyaf blaengar y diwydiant gofod yng Nghymru heddiw, wrth i'r lloeren gyntaf a wnaed yng Nghymru gael ei pharatoi i gael ei lansio i'r gofod yn nes ymlaen yn yr haf.
- Y Gweinidog yn ymweld â’r sector gofod wrth i'r lloeren gyntaf a wnaed yng Nghymru gael ei pharatoi i gael ei lansio i'r gofod yn nes ymlaen yn yr haf.
- Cymru yn denu cwmnïau newydd y diwydiant gofod, gyda chymorth Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn eu llwyddiant cynnar.
- Mae gan swyddi yn y diwydiant gofod y potensial i drawsnewid economi Cymru.
Y Gweinidog yn ymweld â’r sector gofod wrth i'r lloeren gyntaf a wnaed yng Nghymru gael ei pharatoi i gael ei lansio i'r gofod yn nes ymlaen yn yr haf.
Cymru yn denu cwmnïau newydd y diwydiant gofod, gyda chymorth Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn eu llwyddiant cynnar.
Mae gan swyddi yn y diwydiant gofod y potensial i drawsnewid economi Cymru.
Mae ecosystem y diwydiant gofod yng Nghymru yn tyfu'n gyflym. Er mwyn helpu i greu rhagor o swyddi â chyflog da i weithwyr medrus iawn yn niwydiannau'r dyfodol, lansiodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Gofod newydd yn gynharach eleni fel rhan o'i hymdrechion i sicrhau bod Cymru yn gweithredu ar flaen y gad yn sector gofod y byd, gyda'r nod o roi hwb i economi Cymru a chreu ffyniant ledled y wlad.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i helpu i feithrin diwydiannau'r dyfodol, a fydd yn helpu i greu'r swyddi newydd o ansawdd uchel sydd eu hangen ar ein pobl ifanc er mwyn iddynt allu adeiladu dyfodol iddynt eu hunain yma yng Nghymru.
“Mae'r sector gofod yn darparu cyfleoedd cyffrous i'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr, gwyddonwyr, technolegwyr a mathemategwyr. Dyma'r swyddi a fydd yn helpu i drawsnewid ein heconomi, gan helpu i gyflawni'r ffyniant economaidd hirdymor sydd ei angen ar ein gwlad er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus.”
Dechreuodd y Gweinidog ei daith gyda B2Space yng Nghasnewydd, sy'n datblygu lansiwr arloesol i loerennau bach, sef y “Rockoon”.
Gallai'r cysyniad hwn, sy'n defnyddio system lansio newydd sy'n seiliedig ar falŵns a ryddheir yn y stratosffer, leihau'n sylweddol yr effaith ar yr amgylchedd yn sgil y tanwydd roced a'r tanwyddau eraill a ddefnyddir wrth lansio lloerennau. Bydd arloesi o'r fath yn helpu Cymru i fod y wlad ofod gynaliadwy gyntaf yn y byd erbyn 2040, gan arwain y ffordd at ofod mwy gwyrdd.
Ymwelodd y Gweinidog â Space Forge yng Nghaerdydd hefyd, sy'n gweithio i greu'r platfform cyntaf i loerennau y gellir ei ddychwelyd i'r Ddaear a'i ailddefnyddio. Bydd yn lansio ei loeren brawf gyntaf o'r DU yn nes ymlaen eleni, a bwriedir lansio'r ForgeStar cyntaf yn 2023.
Bydd y lloeren yn manteisio ar y buddion unigryw a geir yn y gofod er mwyn creu deunyddiau nad oes modd eu creu ar y Ddaear, gan ddod â deunyddiau yn ôl i'r Ddaear a allai arwain at ddatblygiadau technolegol pwysig a lleihau allyriadau CO2 ym maes gweithgynhyrchu uchel ei werth gan hyd at 75%. Byddai'r platfform i loerennau yn dychwelyd i'r Ddaear yn 2025.
Gorffennodd y Gweinidog y diwrnod drwy ymweld â SmallSpark Space Systems yng Nghaerdydd. Cyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd sefydlodd y fenter newydd yn niwydiant Awyrofod y DU, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu technoleg moduron roced hybrid ymhellach er mwyn lleihau'n sylweddol faint mae'n ei gostio i gerbydau bach a ddefnyddir wrth lansio fanteisio ar orbit isel y ddaear. Mae'r dulliau peirianneg arloesol a ddefnyddir ganddo yn denu diddordeb o bedwar ban byd.
Mae ymweliadau'r Gweinidog yn cyd-fynd ag ymchwil a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n dangos bod pobl yn ymddiddori fwyfwy yng ngwyddoniaeth a'r ffordd y gall effeithio ar eu bywydau a mynd i'r afael â'r prif heriau sy'n wynebu cymdeithas.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae'r sector gofod yn tyfu bob blwyddyn. Dyna pam ein bod yn awyddus iawn i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn y diwydiant hwn sy'n datblygu’n gyflym – ac mae'n bleser mawr gennyf weld pa mor gyflym mae'r diwydiant yma yng Nghymru yn datblygu. Diolch i gymorth Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu helpu busnesau newydd sydd wir yn serennu yn y sector gofod i gyrraedd uchafbwyntiau newydd.
“Rydym wedi cefnogi cwmnïau megis B2Space a Space Forge i ddatblygu i fod y cwmnïau a welir heddiw. Dyma enghreifftiau disglair o'r math o gwmnïau rydym am eu denu i Gymru a'u tyfu yma. Maent yn arloesol ac yn flaengar yn y byd, gan gynnig ffyrdd hyfyw i leihau eu hôl troed carbon wrth leihau'n sylweddol y lefelau CO2 a gynhyrchir ar y Ddaear.”
“Roedd yn ddiddorol iawn gweld yr arloesi sy'n rhan o waith y cwmnïau hyn yn ystod fy ymweliadau heddiw, ac roedd yn bleser mawr gennyf glywed eu bod wedi penderfynu lleoli eu gwaith yma yng Nghymru oherwydd y seilwaith a'r cymorth a gynigir yma. Bydd gweld lansio'r lloeren gyntaf i gael ei adeiladu yng Nghymru i'r gofod yn nes ymlaen eleni yn achlysur heb ei ail.
“Mae gan Gymru lawer i'w gynnig i sector Gofod y DU, gan gynnwys seilwaith ar gyfer profi a gwerthuso technoleg newydd ym Maes Awyr Llanbedr, y gofod awyr neilltuedig ar bwys arfordir Gorllewin Cymru a'r meysydd profi yn MOD Pentywyn a Maesyfed.”