Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi
Heddiw, ryw’n lansio ein "Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol newydd i Gymru ar gyfer 2020–2030" yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae digwyddiadau’n rhan hanfodol o’r economi ymwelwyr ac, fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru “yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i helpu ein diwydiannau twristiaeth, chwaraeon a chelfyddydau i adfer yn sgil profiadau’r pandemig”. Ni ellir diystyru’r effaith y mae’r pandemig wedi ei chael – roedd y sector digwyddiadau ymhlith y cyntaf i gau a’r olaf i agor, a gwnaethom gydnabod pwysigrwydd digwyddiadau i economi Cymru, a llesiant y genedl, drwy ddarparu bron £24 miliwn i fwy na 200 o fusnesau unigol yn y sector digwyddiadau, a hynny drwy gynnal tair rownd gyllido o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol.
Cafodd y strategaeth flaenorol, “Strategaeth Digwyddiadau Mawr ar gyfer Cymru 2020–2020” ei lansio yn 2010. Ers hynny, rydym wedi gwneud cynnydd cryf drwy weithio ar draws y sector, a ledled Cymru, i ddatblygu portffolio nodedig o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon ac, yn fwy diweddar, rydym wedi mentro i’r farchnad digwyddiadau busnes am y tro cyntaf. Rydym wedi cydweithio â pherchenogion digwyddiadau lleol a rhyngwladol, wedi defnyddio ein lleoliadau a’n tirweddau naturiol o’r safon uchaf, ac wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, cymunedau ac asiantaethau digwyddiadau ledled Cymru i ddatblygu a thyfu digwyddiadau cynaliadwy sy’n dwyn buddion economaidd, yn tynnu sylw at ein cenedl, yn codi ein proffil ac yn ein helpu i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Bydd y strategaeth newydd yn adeiladu ar y llwyddiannau hyn. Ei nod yw sicrhau ein bod yn ehangu’r cyfraniad y mae digwyddiadau eisoes yn ei wneud tuag at gyflawni saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), ac mae’n seiliedig ar egwyddor partneriaeth. Rydym wedi cydweithio’n agos â’r sector wrth ei datblygu, gan adeiladu ar y sylfeini cydweithredol cadarn hynny a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig. Mae’n nodi uchelgeisiau clir i sicrhau y dilynir dull Cymru gyfan o gefnogi digwyddiadau sydd wirioneddol Gymreig, manteisio i’r eithaf ar asedau presennol, a chyflawni ystod ddaearyddol a thymhorol o ddigwyddiadau domestig a rhyngwladol ar draws ein sectorau chwaraeon, busnes a diwylliannol a ledled Cymru.
Mae’r strategaeth wedi cael ei datblygu mewn ymgynghoriad â’r sector a byddwn ni nawr yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun gweithredu er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, sef bod ‘Cymru’n cynnal digwyddiadau heb eu hail sy’n hybu llesiant ei phobl, ei lleoedd a’r blaned’.