Cynllun Gweithredu ar Anabledd Dysgu 2022 i 2026
Papur Cabinet CAB(21-22)118
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Angen penderfyniad
Cytuno i gyhoeddi, lansio a chyhoeddi Cynllun Gweithredu ar Anabledd Dysgu.
Crynodeb
1. Ceisir cytundeb ar gyfer cyhoeddi, lansio a chyhoeddi cynllun gweithredu trawsbynciol sy'n amlinellu blaenoriaethau polisi anableddau dysgu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill y tymor presennol o'r llywodraeth.
2. Mae'r cynllun i bob pwrpas yn olynydd i'r rhaglen tair blynedd sef Anabledd Dysgu : y Rhaglen Gwella Bywydau a ddaeth i ben yn ffurfiol ar 31 Mawrth 2021. Mae'n ymgorffori:
- Camau gweithredu etifeddol o "Gwella Bywydau", y cafodd y pandemig effaith sylweddol ar lawer ohonynt.
- gweithgareddau blaenoriaeth a nodwyd gan Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu (LDMAG) yn dilyn eu gwerthusiad ysgrifenedig o'r rhaglen Gwella Bywydau.
- blaenoriaethau polisi presennol ac arfaethedig a nodwyd gan swyddogion o bob rhan o Lywodraeth Cymru, a
- meysydd sy'n peri pryder a godwyd gan randdeiliaid, partneriaid ac ymgyngoreion yn ystod ymarfer ymgysylltu wedi'i dargedu ar y cynllun drafft.
3. Mae camau gweithredu'r cynllun hefyd yn adeiladu ar fomentwm Gwella Bywydau ac fe'u datblygwyd yn benodol i helpu pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr i fyw bywydau iach ac ystyrlon fel aelodau gwerthfawr o'r gymuned wrth inni barhau i ddod allan o'r pandemig.
4. Datblygwyd y cynllun drwy ymgynghori a chydweithio'n llawn â Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu, swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a phartneriaid rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu.
Amcan y papur
5. Mae ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau anabledd dysgu wedi'u cyflawni drwy'r rhaglen drawslywodraethol Anabledd Dysgu : Gwella Bywydau. Lansiwyd hon yn haf 2018 a daeth i ben yn ffurfiol ar 31 Mawrth 2021.
6. Roedd y rhaglen o 24 o gamau gweithredu, y cytunwyd arnynt gan y Cabinet yn 2018, yn cynnwys addysg, tai, iechyd, trafnidiaeth, cyflogaeth a gofal cymdeithasol. Y Gyfarwyddiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol arweiniodd y gwaith o gyflawni'r rhaglen.
7. Roedd cynnydd da yn cael ei wneud i gyflawni'r 24 o gamau gweithredu yn y rhaglen, ond cafodd y pandemig effaith sylweddol ar y gwaith cyflawni. Cafodd y rhaglen ei gohirio ym mis Mawrth 2020 tan fis Hydref 2020 pan gytunodd y Gweinidogion i ailddechrau rhaglen gyfyngedig yn canolbwyntio ar gamau gweithredu a fyddai'n cefnogi unigolion ag anabledd dysgu yn ystod y pandemig parhaus (mae MA/JM/3104/20 yn cyfeirio). O ganlyniad, arweiniodd effaith y pandemig a'r angen i atal y rhaglen at lawer o gamau anghyflawn a heb eu cyflawni pan ddaeth i ben.
8. Ar ôl i'r rhaglen Gwella Bywydau ddod i ben, cynhaliodd Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu (LDMAG) adolygiad a gwerthusiad o effaith ac effeithiolrwydd y rhaglen. Arweiniodd hyn at gyflwyno adroddiad yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y blaenoriaethau ar gyfer rhaglen waith strategol yn y dyfodol. Roedd y blaenoriaethau'n ceisio adeiladu ar lwyddiannau a momentwm y rhaglen Gwella Bywydau. Bydd swyddogion yn parhau i adolygu asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb er mwyn sicrhau bod y canlyniadau'n cael sylw ac i nodi lle y gallant fod yn feysydd newydd i'w hystyried.
9. Mynychodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol LDMAG ar 22 Mehefin 2021 a chadarnhaodd y byddai gwasanaethau anabledd dysgu yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth ar gyfer y tymor hwn. Cytunodd y Dirprwy Weinidog ar ddatblygu gweithred anabledd dysgu a manteisiodd ar y cyfle i sicrhau bod LDMAG yn deall yr heriau o ran adferiad. Pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog yr angen i unrhyw gynllun strategol gael ei osod yng nghyd-destun y flaenoriaeth ar gyfer adferiad yn sgil y pandemig ac i ganolbwyntio ar y camau allweddol a fyddai'n arwain at newidiadau gwirioneddol a chadarnhaol i unigolion ag anabledd dysgu a'u teuluoedd. Mae MA/JMSS/2560/21 yn cyfeirio.
Y Cynllun Gweithredu Strategol ar Anabledd Dysgu
10. Yn dilyn cytundeb y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i'r cynllun amlinellol ym mis Awst 2021, aeth LDMAG ati i ddatblygu'r cynllun gweithredu strategol, wedi'i hwyluso gan swyddogion ac mewn cydweithrediad â chydweithwyr polisi o bob rhan o Lywodraeth Cymru. Cymerodd hwn i ystyriaeth y polisi presennol a'r polisi arfaethedig, a'r angen i ganolbwyntio ar gefnogi adferiad yn sgil y pandemig. Mae pob un o'r meysydd blaenoriaeth yn y cynllun, gan gynnwys y rhai mewn addysg, tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth, wedi'u cymeradwyo gan yr arweinwyr polisi fel rhai sy'n cyd-fynd â'u polisïau presennol neu arfaethedig y cytunwyd arnynt gan eu priod weinidogion.
11. Cytunodd LDMAG ar y cynllun drafft ar gyfer ymgynghori ehangach â rhanddeiliaid yn eu cyfarfod ym mis Rhagfyr 2021. Dechreuodd ymarfer ymgysylltu chwe wythnos ar 21 Ionawr 22 ac fe ddaeth i ben ddechrau mis Mawrth. Cafodd yr ymgynghoriad wedi'i dargedu hwn o randdeiliaid, partneriaid a chysylltiadau rhwydwaith o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector dros 60 o ymatebion manwl a chynhwysfawr ac mae wedi helpu i lunio'r cynllun gweithredu strategol terfynol yn Nogfen 1.
Canlyniadau'r Ymarfer Ymgysylltu/Ymgynghori
12. Roedd cefnogaeth ysgubol i'r meysydd gweithgarwch blaenoriaeth a amlinellwyd yn y cynllun gweithredu drafft yr oedd llawer ohonynt yn adlewyrchu'r gweithgareddau blaenoriaeth a nodwyd eisoes yn lleol ac sy'n cael eu datblygu gan ddarparwyr gwasanaethau a sefydliadau cynrychioliadol i ddiwallu anghenion eu poblogaethau.
13. Roedd cefnogaeth arbennig o gryf i'r meysydd blaenoriaeth canlynol:
- Sicrhau cydweithio a chydgynhyrchu gwirioneddol wrth ddatblygu a gweithredu polisïau a gwasanaethau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, gan gynnwys ceisio barn a chynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
- Materion trosfwaol a thrawsbynciol, e.e., cydraddoldeb.
- Adfer yn sgil Covid - mynd i'r afael ag effaith y pandemig ar lais, dewis a rheolaeth, byw'n annibynnol, unigrwydd/teimlo’n ynysig a mynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u cyd-gynhyrchu o ansawdd dda; gwneud mynediad yn haws, yn fwy cyfeillgar ac yn fwy hygyrch.
- Cynlluniau i ymchwilio i ddatblygu arsyllfa anabledd dysgu i Gymru i ddarparu data a thystiolaeth gadarn i gefnogi a llywio'r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau; y flaenoriaeth gyntaf fydd sefydlu dull strwythuredig a systematig o adolygu marwolaethau unigolion ag anabledd dysgu.
- Cyflawni'r camau iechyd a fydd yn lleihau anghydraddoldebau iechyd, digwyddiadau andwyol y gellir eu hatal a marwolaethau y gellir eu hosgoi; yn benodol, gwella mynediad at wiriadau iechyd, lleihau'r angen i fynd i'r ysbyty mewn unedau arbenigol a lleihau hyd arosiadau.
- Gweithredu Fframwaith Lleihau Ataliaeth Llywodraeth Cymru ac ymagweddau at Gymorth Ymddygiadol Cadarnhaol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
- Hwyluso sgiliau byw'n annibynnol: Sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth a hunan-eiriolaeth penodol ar gael; atal dirywiad yn y gwasanaethau hyn a datblygu gwasanaethau eiriolaeth generig nad ydynt yn diwallu anghenion unigolion.
- Datblygu gwell gwasanaethau anabledd dysgu integredig i blant a phobl ifanc ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau pontio.
- Cynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau dysgu drwy swyddi a phrentisiaethau â chymorth.
- Gwella mynediad at gysylltiadau trafnidiaeth da.
Effaith
14. Bydd cyflawni'r camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun gweithredu yn llwyddiannus yn cael effaith fuddiol iawn ar iechyd a llesiant pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
15. Bydd arweinwyr polisi a swyddogion yn parhau i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid perthnasol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru ac ehangder y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i weithredu'r camau hyn, gwella gwasanaethau ac addasu/datblygu dulliau pwrpasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n diwallu anghenion unigolion yn llawn.
16. Mae camau gweithredu unigol yn cyd-fynd yn llwyr ag amcanion y Rhaglen Lywodraethu, sef creu cymdeithas fwy cyfartal a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae ffocws sylweddol ar atal ac ymyrraeth gynnar sy'n arwain at ostyngiad mewn anghydraddoldebau a brofir gan bobl ag anableddau dysgu. Byddwn yn parhau i adolygu materion cydraddoldeb trawsbynciol wrth gyflwyno'r cynllun gweithredu, gan ailedrych unwaith eto ar asesiadau effaith a gynhaliwyd wrth ddatblygu'r rhaglen Gwella Bywydau.
17. Mae'r deg maes blaenoriaeth a restrir uchod yn adlewyrchu'r materion a ddaeth i'r amlwg yn ystod adolygiad cynhwysfawr 2018 a arweiniodd at y Rhaglen Gwella Bywydau ac sydd wedi'u gwaethygu gan y pandemig. Mae'r themâu hyn wedi dod i'r amlwg hefyd mewn ymchwil i asesu effaith Covid-19 ar fywydau pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd.
18. Mae'r cynllun yn cynnwys y camau strategol a fydd yn cyflawni yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a amlinellir uchod. Mae camau gweithredu etifeddol eraill Gwella Bywydau hefyd yn parhau i gael eu cyflawni yn ystod tymor presennol y llywodraeth, ac mae llawer ohonynt wedi'u diweddaru a'u haddasu i adlewyrchu blaenoriaethau adfer yn sgil COVID. Mae hyn yn cynnwys camau gweithredu ym maes gofal cymdeithasol, tai, addysg a chyflogaeth.
19. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys ffocws ar sicrhau bod cydweithio a chyd-gynhyrchu, ymgorffori a chynnwys llais a barn pobl sydd â phrofiad bywyd yn ganolog wrth ddatblygu polisïau, cynllunio gwasanaethau a gwneud penderfyniadau. Rhaid i hyn hefyd gynnwys sicrhau hygyrchedd llawn i bobl ag anableddau dysgu drwy ddarparu dogfennau hawdd eu darllen a chreu digon o amser ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu â phobl ag anghenion ychwanegol.
Y camau nesaf
20. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr polisi ar draws Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cyflawni a gweithredu cysylltiedig a fydd yn nodi'r camau gweithredu manwl a fydd yn sail i'r blaenoriaethau strategol yn y cynllun gweithredu ac yn sicrhau bod amcanion y cynlluniau'n cael eu cyflawni'n llwyddiannus.
21. Bydd arweinwyr polisi unigol yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflawni'r camau gweithredu o fewn eu cylch gwaith, tra bydd LDMAG yn goruchwylio'r cynllun gweithredu gan adrodd yn uniongyrchol i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
22. Caiff cynnydd ei fonitro ac adroddir arno'n flynyddol gydag adolygiad ffurfiol o'r cynllun i'w gynnal ar ddiwedd yr ail flwyddyn (gwanwyn 2024), er mwyn sicrhau canolbwynt parhaus ar faterion cyfredol a materion blaenoriaeth sy'n dod i'r amlwg.
Cyllid ac Adnoddau
23. Cytunwyd ar £700,000 o fewn BEL 0661 – Cyllideb Anabledd Dysgu Pobl Hŷn, Gofalwyr a Phobl Anabl i gyflawni'r camau iechyd a etifeddwyd o'r Rhaglen Gwella Bywydau flaenorol. Mae £1 miliwn ychwanegol y flwyddyn, 2022-23 i 2024-25, wedi'i nodi o BEL 0920 : Cronfa Diwygio Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i ymgymryd â gweithgareddau penodol o fewn y portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae manylion terfynol y dyraniad cyllid ychwanegol hwn yn cael eu pennu ar hyn o bryd a byddant yn destun cyngor ar wahân i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
24. O ran y camau addysg a amlinellir yn y cynllun (5.1 a 5.2) mae cyllid o £21.1m y flwyddyn, 2022-23 i 2024-25, o fewn BEL 5115 Anghenion Dysgu Ychwanegol o MEG y Gymraeg ac Addysg i wella bywydau plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys cyllid i gefnogi'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol sy'n cael ei rhoi ar waith yn raddol. Dyrennir swm pellach o £13.9m y flwyddyn, 2022-23 i 2024-25, o BEL 5271 Lleoliadau Arbenigol Ôl-16 ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu neu anableddau i gael mynediad at ddarpariaeth addysg bellach arbenigol.
Risgiau
25. Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cytuno i ddatblygu cynllun gweithredu ym mis Awst 2021 (MA/JMSS/2560/21) sydd wedi cael ei gyfathrebu'n eang i randdeiliaid.
26. Roedd y penderfyniad i gytuno ar ddatblygu cynllun gweithredu yn dilyn arfarniad o'r opsiynau a oedd yn cynnwys cyflwyno cynnig dwy flynedd cyfyngedig yn canolbwyntio ar gamau gweithredu etifeddol Gwella Bywydau yn unig. Cynigir ymagwedd olynydd llawn ffurfiol at Wella Bywydau a datblygu'r cynllun gweithredu pedair blynedd yn awr. Mae'r penderfyniad hwn wedi'i gyhoeddi a'i gyfathrebu'n eang yn gyhoeddus, gan gynnwys drwy ymarfer ymgysylltu pellgyrhaeddol wedi'i dargedu â rhanddeiliaid.
27. Gall penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r cynllun mor hwyr â hyn arwain at feirniadaeth i Lywodraeth Cymru a'r Gweinidogion ac mae Grŵp Cynghori'r Gweinidog yn debygol o herio penderfyniad o'r fath.
Cyfathrebu a chyhoeddi
28. Disgwylir i Ddatganiad Llafar sy'n cyhoeddi'r Cynllun Gweithredu ar Anabledd Dysgu gael ei roi gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ddydd Mawrth 24 Mai 2022.
29. Rhagwelir y caiff y cynllun ei gyhoeddi, gan gynnwys mewn fformat hawdd ei ddarllen, i gyd-fynd â'r datganiad llafar.
Argymhelliad
Cytuno ar gyhoeddi a lansio Cynllun Gweithredu ar Anabledd Dysgu 2022-2026.
Eluned Morgan AS / Julie Morgan AS
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Mai 2022