Trawsgydymffurfio: cyfyngiadau ar ddefnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion (SMR 10) (2022)
Crynodeb o'r rheolau ar ddefnyddio plaladdwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Amcan y gofynion hyn yw sicrhau bod cynnyrch amddiffyn planhigion (plaladdwyr) yn cael eu defnyddio’n gywir a gofalu nad ydyn nhw’n peryglu pobl, anifeiliaid na’r amgylchedd. Rhaid i bawb sy’n eu defnyddio ar eu tir gadw at y gofynion hyn.
Diffiniadau
Plaladdwyr yw ‘Cynnyrch Amddiffyn Planhigion’ sy’n cynnwys sylwedd actif neu baratoad sy’n cynnwys un neu fwy o sylweddau actif yn y ffurf sy’n cael ei werthu i’r defnyddiwr, ac sydd wedi’u bwriadu i:
- Amddiffyn planhigion neu gynnyrch planhigion rhag plâu a chlefydau.
- Dinistrio chwyn, planhigion diofyn amdanynt a rhannau o blanhigion.
- Dylanwadu (er enghraifft, fel rheolydd twf) ar brosesau bywyd planhigion, ond nid fel maetholyn.
- Cadw cynnyrch planhigion, ac eithrio lle ceir rheolau penodol yr CE a ddargadwyd ynghylch cadw planhigion.
Prif ofynion
- Rhaid defnyddio Cynhyrchion Amddiffyn Planhigion sydd â chymeradwyaeth dilys neu drwydded fasnachu gyfatebol.
- Rhaid bodloni’r amodau a’r rheolau ar label y cynnyrch, y gymeradwyaeth, y drwydded neu’r estyniad ar gyfer ei ddefnyddio.
- Dilynwch yr arferion gorau wrth amddiffyn planhigion gan gynnwys Cod Ymarfer ar gyfer defnyddio Cynnyrch Amddiffyn Planhigion (fel y’i diwygiwyd).
- Cadwch gofnod pan fyddwch yn defnyddio plaladdwyr. Mae hyn yn ofyn hefyd o dan SMR4.
-
Dylai gynnwys manylion:
- pryd – dyddiad ac amser trin
- ble – lleoliad a maint y darn tir sy’n cael ei drin
- pa gnwd sy’n cael ei drin
- pam – rheswm dros drin
- pa gynnyrch a ddefnyddiwyd – gan gynnwys rhif MAPP neu MAFF
- faint sydd wedi’i ddefnyddio
- y tywydd adeg rhoi’r driniaeth
- unrhyw wybodaeth berthnasol.
Archwiliadau maes
- I ofalu bod y plaladdwyr yn cael eu defnyddio at eu pwrpas ac yn unol â’r label.
- Enghreifftiau o’r hyn y mae’r gofynion neu’r amodau yn ymwneud â nhw:
- bod y cynnyrch cywir wedi’i ddefnyddio ar y cnydau priodol ac o dan yr amgylchiadau cywir
- nad yw mwy na’r dôs mwyaf a ganiateir wedi’i roi
- nad yw’r plaladdwr wedi’i roi yn amlach na’r hyn a ganiateir
- bod y cynnyrch wedi’i roi ar yr adeg cywir
- bod dillad amddiffyn wedi’u defnyddio
- bod y cnwd wedi’i gadw o’r gadwyn fwyd am y cyfnod gofynnol
- bod y plaladdwr wedi’i storio’n ddiogel (allan o afael plant, yn y cynhwysydd gwreiddiol ac wedi’i ddiogelu rhag rhew a rhag niweidio’r amgylchedd ac ati)
- bod y cynnyrch yn cael ei daflu’n ddiogel (rinsio’r cynhwysydd deirgwaith; ychwanegu golchion at y chwistrellydd wrth ei lenwi ac ati.
Arfer da
Yn ogystal â’r gofynion uchod sy’n ymwneud â Thrawsgydymffurfio, er mwyn cadw at y gyfraith, rhaid ateb y gofynion canlynol:
- Bydd yn rhaid i unrhyw un sy’n gwneud cais am gynnyrch plaladdwyr proffesiynol feddu ar dystysgrif benodol swyddogol. Mae hyn yn cynnwys contractwyr.
- Mae’n rhaid bod offer gwasgaru plaladdwyr, ac eithrio chwistrellydd cefn neu chwistrellydd llaw basio prawf sy’n cael eu cynnal gan y Cynllun Cenedlaethol Profi Chwistrellwyr. Mae’n rhaid i beiriannau gael eu graddnodi a’u hail-brofi yn rheolaidd. Mae pa mor aml y cânt eu hail-brofi yn dibynnu ar y math o beiriant.
- Dylech chwistrellu ond pan mae’r tywydd yn addas i leihau’r perygl o’r sgeintiad yn drifftio. Mae’r gyfraith yn pennu bod rhaid cadw at yr ardal darged wrth chwistrellu plaladdwyr.
Gwybodaeth pellach
- Gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2022) o fewn y pecyn hwn.
- Cewch fwy o wybodaeth am gynnyrch sydd wedi’u caniatáu a’u hawdurdodi ar wefan y Gyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegolion yn www.hse.gov.uk/pesticides
- Cewch fwy o wybodaeth am storio plaladdwyr ar daflen wybodaeth yr HSE ‘Guidance on storing pesticides for farmers and other professional users’, sydd ar gael yn www.hse.gov.uk/pubns/ais16.pdf
- Taflen yr HSE‘Code of Practice for using Plant Protection Products’: www.hse.gov.uk/pesticides/using-pesticides/ codes-of-practice/index.htm
- Ceir enghraifft o’r daflen ‘Cofnod defnyddio plaladdwyr’ ar wefan Llywodraeth Cymru: llyw.cymru/cofnod-defnyddioplaladdwyr
- Mae manylion y gofynion ar gyfer archwilio rheolaidd offer defnyddio plaladdwyr i’w cael ar wefan Llywodraeth Cymru: llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-02/ archwilio-offer-defnyddwyr-plaladdwyr-ar-fferm.pdf