Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y gweinidog

Wrth i ni gwblhau rhaglen atgyfnerthu'r gwanwyn a gweithio tuag at ddechrau ymgyrch newydd yn yr hydref, mae'n amser da i adolygu a myfyrio ar ein cynnydd. Fel y rhagwelwyd, mae COVID-19 yn parhau i fod yn rhan o'n bywydau wrth i ni geisio bwrw ymlaen a dysgu sut i fyw ochr yn ochr ag o. Wrth i ni gyhoeddi'r strategaeth ddiweddaraf hon, rydym unwaith eto'n gweld cynnydd mewn achosion a phwysau parhaus ar ein GIG, gyda'r sefyllfa'n debygol o waethygu wrth i ni symud i'r hydref a'r gaeaf. Rydym yn gweld effaith ymchwydd o achosion COVID-19 a'r ffliw yn hemisffer y de a rhaid i ni gymryd hynny fel rhybudd a chynllunio yn unol â hynny. 

Bydd ein rhaglen frechu yn cael ei llywio bob amser gan y dystiolaeth glinigol a gwyddonol ddiweddaraf a'r cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a Phrif Swyddog Meddygol Cymru. 

Mae'r strategaeth hon yn nodi ein cynlluniau ar gyfer hydref-gaeaf 2022 i 2023 a sut y byddwn yn cynnig brechlynnau rhag y ffliw a COVID-19 i'r rhai sy'n gymwys, gan fod yn barod i gynyddu ein capasiti'n gyflym, pe bai angen, mewn ymateb i unrhyw don pandemig coronafeirws sylweddol yn y dyfodol neu mewn ymateb i amrywiolyn newydd. Rydym yn disgwyl i COVID-19 a'r ffliw gylchredeg y gaeaf hwn a rhaid inni fod yn barod ar gyfer gweithgarwch ffliw llawer uwch neu annhymhorol. 

Felly, eleni, er mwyn amddiffyn pobl Cymru a'n gwasanaethau iechyd a gofal, rwyf am sicrhau bod cynifer o bobl gymwys â phosibl yn manteisio ar frechlynnau rhag y ffliw a COVID-19. Er mwyn helpu i wneud hyn, os yw argaeledd brechlynnau ffliw a COVID-19 yn caniatáu, bydd rhai grwpiau agored i niwed yn cael cynnig y ddau frechlyn yn yr un apwyntiad. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn sicrhau eich bod yn gwybod ble a sut y gallwch gael y ddau frechlyn sydd eu hangen i'ch cadw chi ac eraill yn ddiogel yr hydref a'r gaeaf hwn. 

Mae rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith yr hydref hwn yn gam mawr tuag at raglen frechu gwbl integredig sy'n cynnig profiad gwell, sy’n fwy cyfleus i gleifion ac sy’n sicrhau effeithlonrwydd gwasanaethau yn y GIG. Bydd y newidiadau tymor hwy hyn yn gweithredu'r arferion da a'r gwersi i’w dysgu o'r rhaglenni brechu presennol a'r rhaglen COVID-19. 

Rydym wedi derbyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu i gynnig pigiad atgyfnerthu COVID-19 yn yr hydref i breswylwyr a staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, pawb sy’n 50 oed a hŷn a'r rhai rhwng 5 a 49 oed mewn grwpiau risg clinigol.

Yng Nghymru, rydym unwaith eto yn ymestyn y cynnig o frechlyn rhag y ffliw i bob oedolyn rhwng 50 a 64 oed. Cyflwynwyd hyn am y tro cyntaf y llynedd. Rwy'n falch bod cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn golygu bod yr oedran ar gyfer cael brechlyn COVID-19 a brechlyn rhag y ffliw yn cyd-fynd yn agosach ar gyfer 2022, gyda’r ddau frechlyn ar gael i bawb dros 50 oed, fel y bydd pawb yng Nghymru sy'n wynebu'r risg fwyaf o ganlyniad i’r ffliw neu COVID-19 yn gymwys i gael brechlynnau sy'n eu diogelu rhag y ddau feirws anadlol sy’n gyffredin dros y gaeaf.

Rhaid inni ddysgu byw gyda coronafeirws endemig, yn y ffordd yr ydym wedi bod yn byw gyda'r ffliw ers blynyddoedd lawer. Ond mae mwy y gallwn ni ei wneud, a mwy y mae'n rhaid i ni ei wneud, i leihau nifer y marwolaethau y gellir eu hatal a salwch difrifol a achosir gan y ffliw. Un ffordd bwysig o wneud hynny yw drwy'r amddiffyniad a gynigir drwy frechu. Mae’n hanfodol sicrhau bod cynifer o bobl gymwys â phosibl yn dod ymlaen i gael eu brechiadau ffliw a COVID-19 er mwyn diogelu unigolion, cymunedau a'n gwasanaethau iechyd a gofal yn ystod y gaeaf hwn.  

Ein bwriad yw amddiffyn pobl rhag heintiau ac atal a lleihau effaith tonnau pellach o heintiau yn y dyfodol. Gobeithiwn, wrth wneud hynny, na fydd angen inni weithredu cynlluniau ymchwydd ar gyfer y GIG eto y gaeaf hwn, ond mae'n bosibilrwydd y mae'n rhaid inni fod yn barod ar ei gyfer. Mae derbyn y gwahoddiad i gael brechlyn yn benderfyniad y gallwn ni i gyd ei wneud i amddiffyn ein hunain a'n teuluoedd a pharhau i ddiogelu Cymru.

Trosolwg a lle rydyn ni nawr

Mae ein rhaglen genedlaethol ar gyfer brechu rhag y ffliw wedi bod yn rhedeg ers llawer hirach na'r rhaglen COVID-19. Yn y DU, mae brechiad ffliw blynyddol wedi'i gynnig i unigolion yn y grwpiau risg uchaf ers y 1960au ac i bawb dros 65 oed ers dros 20 mlynedd. Dechreuodd y rhaglen brechu rhag y ffliw ar gyfer plant 10 mlynedd yn ôl ac erbyn hyn mae'n cynnwys plant rhwng 2 a 15 oed, gyda'r rhan fwyaf o'r grŵp hwn yn cael brechlyn rhag y ffliw yn yr ysgol. Rydym wedi dysgu llawer o wersi o'r rhaglen ffliw sy'n sail i'n rhaglen COVID-19 lwyddiannus. Er enghraifft, mae gan ein rhaglen ffliw gysylltiadau cryf â byrddau iechyd, timau nyrsio mewn ysgolion, meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru, sy'n rhoi dros filiwn o frechiadau rhag y ffliw bob hydref a gaeaf. Helpodd y profiad hwn i sefydlu'r rhaglen COVID-19 yn gyflym ac yn ddiogel, gan roi’r prif ddos a’r dos atgyfnerthu i bawb yn y boblogaeth a oedd am eu cael. 

Cyn y pandemig, achosodd y ffliw bwysau sylweddol ar ein GIG yn ystod y gaeaf. Mae'r pandemig wedi ein gwneud yn llawer mwy ymwybodol bod brechu yn achub bywydau ac yn lleihau nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty. Efallai na fydd brechu yn eich atal rhag dal coronafeirws na'r ffliw, ond maent yn ei gwneud yn llawer llai tebygol y byddwch yn ddifrifol wael neu fod angen i chi fynd i'r ysbyty o ganlyniad i hynny.
Mae'r ffliw a coronafeirws yn afiechydon anadlol sy'n ffynnu yn ystod y gaeaf. Mae brechlynnau ar gael ar gyfer y ddau, gyda’r rhai hynny sydd mewn mwyaf o berygl o gael salwch difrifol o ganlyniad i’r heintiau hyn yn gymwys i gael eu brechu. Mae rhai gwahaniaethau o ran cymhwysedd ar gyfer y ddau frechlyn, ond mae pobl 50 oed a hŷn yn gymwys i gael y ddau. Mae’r cymhwysedd oedran cyfatebol yn rhoi cyfle i weinyddu’r ddau frechlyn ar yr un pryd, gan gynyddu’r nifer sy’n manteisio arnynt a rhoi gwell amddiffyniad iechyd i’n cymunedau.

Ar anterth pandemig y coronafeirws, roedd pobl yn blaenoriaethu cael eu brechu. Nifer y brechlynnau ffliw a roddwyd yn nhymor 2021 i 22 oedd yr uchaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru.   Mae’n bwysig bod lefelau uchel o bobl yn manteisio ar y brechlyn a bydd parhau i sicrhau hyn yn flaenoriaeth allweddol yr hydref hwn i leihau salwch difrifol a marwolaeth, ac i leihau nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty yn ystod cyfnod pan fydd y GIG a gofal cymdeithasol unwaith eto yn rheoli achosion o COVID-19 yn y gaeaf ochr yn ochr â feirysau eraill y gaeaf a fydd yn rhoi pwysau ar wasanaethau. Gan fonitro'r data o Awstralia yn awr, rydym yn disgwyl y gallem weld llawer mwy o weithgarwch ffliw ac y bydd y coronafeirws a'r ffliw yn cylchredeg ar yr un pryd yn ystod y gaeaf, a hynny ar adeg pan fyddant yn peri'r bygythiad mwyaf. Dyma un o'r rhesymau pam rydym yn integreiddio ein dull o ymdrin â brechlynnau COVID-19 a’r ffliw. 

Rydym wedi cyhoeddi strategaethau COVID-19 ar adegau allweddol drwy gydol y rhaglen i nodi ein cynlluniau ac i egluro'r hyn y gallwch ei ddisgwyl. Yn yr un modd, ar gyfer y rhaglen ffliw, defnyddiwyd Cylchlythyrau Iechyd Cymru blynyddol i'r Prif Swyddog Meddygol nodi ei flaenoriaethau a'i ddisgwyliadau ar gyfer y GIG.  
Yn ein strategaeth ddiwethaf a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022, gwnaethom nodi y byddem yn edrych ar ddarpariaeth ein gwasanaethau brechu yn y dyfodol. Wrth i ni symud i sefyllfa lle mae COVID-19 yn endemig, rydym yn disgwyl y bydd y rhaglen frechu COVID-19 yn dod yn rhaglen reolaidd. Gyda chyngor diweddar y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu gallwn weld hyn yn dechrau digwydd, ar yr amod bod y sefyllfa gyffredinol yn parhau'n sefydlog. Rydym hefyd yn cadw'r gallu i weithredu capasiti ymchwydd os bydd angen i ni ymateb i don COVID-19 newydd a sylweddol, neu achosion o amrywiolyn newydd, er ein bod yn gobeithio na fydd angen y capasiti hwn eto. Mae'r strategaeth hon yn amlinellu ein nodau ar gyfer elfennau ffliw a COVID-19 y rhaglen. 

Yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, rydym wedi cwblhau'r cynnig o bigiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn ddiweddar i'r bobl hynaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae bron i 85% o oedolion 75 oed a throsodd a bron i 84% o breswylwyr cartrefi gofal wedi manteisio ar y cynnig o bigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn. 

Mae'r ffigurau hyn yn gymharol debyg i rannau eraill o'r DU, ac mae'n bwysig ein bod yn deall y ffactorau hynny sy'n dylanwadu ar y niferoedd sy'n manteisio ar y brechlyn yn y gwahanol grwpiau yn ein cymdeithas. Felly, byddwn yn gweithio gyda'n Pwyllgor Brechu Teg i adolygu'r dystiolaeth, ac i ystyried sut y gallwn gynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar raglenni brechu yn y dyfodol drwy ehangu mynediad i'r brechlyn ymhellach – bydd hyn yn cynnwys ystyried amser yr apwyntiadau, effaith heintiadau blaenorol a brechiadau blaenorol, a deall effaith blaenoriaethau newidiol pobl yn ogystal ag effaith dod â’r cyfyngiadau coronafeirws i ben ar draws y DU.

Ein blaenoriaethau

Bydd ein rhaglen frechu yn cael ei llywio bob amser gan y dystiolaeth glinigol a gwyddonol ddiweddaraf a'r cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a Phrif Swyddog Meddygol Cymru.

Rydym am i bawb sy'n gymwys i gael brechlyn ddod ymlaen a chael eu brechu i amddiffyn eu hunain ac eraill. Ar gyfer yr hydref a'r gaeaf hwn, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod cynifer o bobl gymwys â phosibl yn manteisio ar y brechlynnau ffliw a COVID-19, yn enwedig y rhai sydd mewn mwyaf o berygl o gael salwch difrifol.

Byddwn yn monitro'r niferoedd sy'n manteisio ar y ddau frechlyn, gan olrhain grwpiau risg allweddol er mwyn sicrhau bod pobl a chymunedau yng Nghymru yn cael yr amddiffyniad gorau. Byddwn yn gweithredu i gynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar y brechlyn pryd bynnag y bydd hynny’n angenrheidiol. Gwyddom fod darparu brechlynnau mor agos i gymunedau â phosibl a chyfathrebu yn glir ynghylch pwy sy'n gymwys i gael brechlynnau rhag y ffliw a COVID-19, a beth yw manteision brechu, yn helpu pobl i ddod ymlaen i’w cael. 

Mae gennym dair prif flaenoriaeth ar gyfer rhaglen frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol; y rhain fydd yr ymgyrchoedd brechu a ddefnyddiwn: 

Ein blaenoriaethau

  • Amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf
  • Amddiffyn plant a phobl ifanc
  • Gadael neb ar ôl

Amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf

Er na allwn ragweld yn union beth fydd yn digwydd gyda'r coronafeirws na'r ffliw eleni, gwyddom fod yn rhaid i'r henoed, y rhai sy'n agored i niwed a'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf barhau i fod yn flaenoriaeth i ni ar gyfer brechu. O ystyried y dystiolaeth o Awstralia a phryder ein Prif Swyddog Meddygol, rydym yn disgwyl i'r gaeaf hwn fod yn un anodd arall. 

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi darparu ei gyngor terfynol yn ddiweddar ar bigiadau atgyfnerthu'r hydref ar gyfer COVID-19. Maent wedi parhau i ganolbwyntio ar unigolion y mae risg iddynt, a phobl sy'n gofalu am y rhai sy'n agored i niwed. Mae gan ein GIG gynlluniau ar waith i gynnig pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref i'r oedolion canlynol yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu: 

  • Preswylwyr a staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i bobl hŷn
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • Pobl rhwng 5 a 49 oed mewn grŵp risg clinigol, gan gynnwys menywod beichiog 
  • Pobl rhwng 5 a 49 oed sydd yn gyswllt cartref i bobl sydd ag imiwnedd isel, fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd
  • Pobl 16a 49 oed sy’n ofalwyr

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu hefyd yn rhoi cyngor ar y brechlyn ffliw ac mae gan ein GIG gynlluniau ar waith i gynnig y brechlyn ffliw i'r oedolion canlynol yn unol â’r cyngor hwn: 

  • Pobl 50 oed a hŷn 
  • Staff mewn cartrefi nyrsio a chartrefi gofal sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â chleientiaid 
  • Staff sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen y GIG/gwasanaethau gofal sylfaenol, gweithwyr gofal iechyd sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â chleifion
  • Staff sy'n darparu gofal cartref 
  • Pobl chwe mis oed i 49 oed mewn grŵp risg glinigol 
  • Unigolion sy'n ddigartref 
  • Menywod beichiog 
  • Gofalwyr 
  • Pobl ag anabledd dysgu 
  • Pobl â salwch meddwl difrifol 

Rydym yn parhau i ddisgwyl i bawb sy'n gweithio gyda'n dinasyddion mwyaf agored i niwed gael eu brechu. Mae hyn yn cynnwys yr holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol; sydd â rhwymedigaeth broffesiynol i gael eu brechu i amddiffyn eu hunain ac eraill, oni bai bod ganddynt reswm meddygol sy'n eu hatal rhag cael eu brechu. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau cadernid ein gwasanaethau iechyd a gofal drwy leihau salwch staff yn ystod yr hyn a ddisgwylir fydd yn hydref a gaeaf anodd. Mae gan gyflogwyr rôl bwysig i'w chwarae o ran annog staff i gael eu brechu rhag COVID-19 a'r ffliw. Gall cyflogwyr helpu drwy hyrwyddo brechiadau a rhoi amser i ffwrdd o'r gwaith gyda thâl i staff er mwyn iddynt allu mynd i apwyntiadau brechu. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i annog pobl i gael eu brechu o'u gwirfodd a gwneud yn siŵr bod pobl yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniad hyddysg ynghylch cael eu brechlu rhag COVID-19 a’r ffliw.
Nid oes unrhyw gynlluniau i frechu pobl nad ydynt yn rhan o'r grwpiau a argymhellir, fodd bynnag, bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn parhau â'i adolygiad treigl o raglenni brechu a'r sefyllfa epidemiolegol. Pe baem yn gweld amrywiolyn newydd yn ymddangos yn yr hydref a'r gaeaf sy'n arwain at gynnydd yn y niferoedd sy’n cael eu derbyn i’r ysbytai a chynnydd mewn marwolaethau, yna byddai'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ystyried manteision rhaglen frechu ehangach. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn cael cyngor pellach a byddwn yn addasu ein rhaglen ar y sail honno fel y gwnaethom gyda'r rhaglen COVID-19 ar wahanol adegau. 

Ein huchelgais

Byddwn yn cynnig y brechlyn COVID-19 i bawb sy'n gymwys erbyn diwedd mis Tachwedd

Byddwn yn cynnig y brechlyn rhag y ffliw i bawb sy'n gymwys erbyn diwedd mis Rhagfyr 

Ein huchelgais yw sicrhau bod 75% yn manteisio ar y brechlyn COVID-19 a'r brechlyn rhag y ffliw 

Ein huchelgais yw sicrhau bod 80% o’r grŵp risg clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn manteisio ar y brechlyn COVID-19 a'r brechlyn rhag y ffliw

Mae'r dull rydym yn ei gynnig yn gyson â'r dull a ddefnyddiwyd yn y cerrig milltir strategaeth COVID-19 blaenorol. Y nod yw bod 75% yn manteisio ar y brechlynnau rhag COVID-19 a'r ffliw. Nid yw'n darged ar gyfer cydweinyddu’r ddau frechlyn nac yn darged cyfunol ar gyfer y nifer sy'n manteisio arnynt. Mae hyn yn cyd-fynd â charreg filltir Sefydliad Iechyd y Byd y bydd 75% o bobl 65 oed a throsodd yn manteisio ar y brechlyn ffliw. 

Y rheswm dros y targed uwch ar gyfer y grŵp risg clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) yw bod yr unigolion hyn mewn perygl arbennig os ydynt yn cael clefyd anadlol. Gwneir ymdrechion penodol i gynnig y ddau frechlyn i bobl sydd â COPD, gyda’r bwriad o sicrhau’r amddiffyniad mwyaf iddynt yn erbyn salwch difrifol eleni. Byddwn yn monitro effeithiolrwydd ein dull ar gyfer y grŵp hwn eleni gyda’r bwriad y bydd yn hysbysu cynlluniau cyflawni ehangach yn y dyfodol. 

Rydym yn canolbwyntio ar feithrin hyder pobl i fanteisio ar frechlynnau drwy ein strategaeth gyfathrebu fel bod pobl yn deall pwysigrwydd brechu ac yn manteisio ar y cynnig. Mae hyn ochr yn ochr â'r ymrwymiad parhaus i 'adael neb ar ôl', gyda byrddau iechyd yn cynnal ymarferion i fynd yn ôl at bobl a sicrhau bod brechlynnau’n parhau i fod ar gael i unrhyw un sydd am eu cael.

Amddiffyn plant a phobl ifanc

Drwy gydol y pandemig, parhaodd y rhaglen frechu reolaidd ar gyfer babanod a phlant cyn oed ysgol. Dyma pa mor bwysig yw brechu o ran amddiffyn plant a phobl ifanc. Plant sydd â'r gyfradd uchaf o heintiau o'r ffliw a gall y ffliw fod yn ddifrifol iddynt. Mae’r cymhlethdodau’n cynnwys broncitis, niwmonia a heintiau yn y glust. Bydd cael brechlyn rhag y ffliw yn helpu i amddiffyn plant rhag cael y ffliw, ond bydd hefyd yn helpu i'w hatal rhag ei ledaenu i'w teuluoedd, eu ffrindiau a'r boblogaeth ehangach.

Mae gan ein GIG gynlluniau ar waith i gynnig brechlyn rhag y ffliw i'r plant canlynol yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu: 

  • Plant dwy a thair oed 
  • Plant ysgolion cynradd o’r dosbarth derbyn i Flwyddyn 6 (cynhwysol) 
  • Plant a phobl ifanc ysgolion uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 (cynhwysol) 
  • Pobl chwe mis oed i 49 oed mewn grŵp risg glinigol 

Mae parhau i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag y ffliw yn un o'n blaenoriaethau. I blant ifanc, rhoddir y brechlyn ffliw fel chwistrell trwyn. Mae'r brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn darparu'r amddiffyniad gorau rhag y ffliw i blant 2 oed a hŷn. 

Bydd cymhwysedd plant i gael y brechlyn COVID-19 yn newid ar gyfer rhaglen yr hydref. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi darparu eu cyngor terfynol yn ddiweddar ar bigiadau atgyfnerthu'r hydref. Yn unol â hyn, mae gan ein GIG gynlluniau ar waith i gynnig pigiad atgyfnerthu i'r plant canlynol yn yr hydref: 

  • Pobl 5 i 49 oed mewn grŵp risg clinigol
  • Pobl rhwng 5 a 49 oed sy'n gysylltiadau cartref i bobl ag imiwnedd gwan neu ofalwyr 

Bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn parhau i adolygu'r sefyllfa o ran brechu plant a phobl ifanc.

Gadael neb ar ôl

Mae'r egwyddor o adael neb ar ôl wedi bod yn nodwedd drwy gydol rhaglen frechu COVID-19. Bydd hefyd yn nodwedd o Raglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol. Mae'n golygu na fydd y cyfle i unigolion cymwys ddod ymlaen i gael eu brechu yn dod i ben ac y bydd y GIG yn parhau i geisio sicrhau bod lefelau uchel o bobl yn manteisio ar y brechlyn drwy sicrhau ei fod ar gael ac yn hygyrch.  

Mae brechiad rhag y ffliw a COVID-19 ar gael i bob person cymwys. Mae'r egwyddor hon yn parhau i fod yn allweddol yn ein strategaeth frechu. Rydym yn monitro'r niferoedd sy'n manteisio ar y brechlyn ac yn monitro’r tueddiadau i sicrhau bod pawb yn cael mynediad teg a chyfle teg i fanteisio ar y cynnig o frechlyn. 

Er enghraifft, mae'r data ar hyn o bryd yn dangos bod llai o bobl iau yn manteisio ar y brechlyn COVID-19 a llai o staff gofal cymdeithasol yn cael eu brechu rhag y ffliw. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall y rhwystrau i frechu er mwyn datblygu ymyriadau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn yn y grwpiau hyn. Mae gennym rôl i'w chwarae o ran sicrhau bod y penderfyniad i wrthod y cynnig o frechlyn yn ddewis gwybodus yn hytrach nag oherwydd diffyg mynediad neu gamwybodaeth am effeithiolrwydd neu effaith imiwneiddio. Rydym hefyd wedi cefnogi ymgyrch ‘timau stryd’ Diogelu Cymru, menter meithrin cysylltiadau lle mae ‘timau stryd’ yn siarad â phobl mewn cymunedau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol i ddeall y rhwystrau i frechu, sy'n gam cyntaf hollbwysig tuag at gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn a sicrhau brechu teg.  

Gwyddom fod COVID-19 yn effeithio ar wahanol grwpiau poblogaeth yng Nghymru mewn gwahanol ffyrdd ac mae'r GIG wedi gweithio'n agos gyda grwpiau ac arweinwyr cymunedol, gan ymateb i faterion lleol fel:

  • Cam-wybodaeth am frechlynnau sy'n arwain at betruster ymhlith rhai grwpiau cymunedol
  • Diffyg cludiant i ganolfannau brechu sy'n golygu nad yw rhai yn gallu mynd i’w hapwyntiad brechu
  • Drwgdybiaeth o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n golygu bod rhai pobl yn teimlo'n bryderus ynghylch mynd i ganolfannau brechu torfol 
  • Cyfyngiadau amser sy'n golygu bod eraill yn canfod na allent flaenoriaethu apwyntiad brechu

Gyda chymorth partneriaid, datblygwyd ymyriadau i fynd i'r afael â rhwystrau o'r fath. Er enghraifft:

  • Cyd-gynhyrchu gwybodaeth ffeithiol i fynd i'r afael â phryderon
  • Cynnal gweminarau 
  • Cynnwys arweinwyr cymunedol i helpu i gynyddu gwybodaeth a sicrhau eu bod yn cael eu derbyn
  • Defnyddio canolfannau gyrru-i-mewn a cherdded i mewn sy'n gweithredu oriau agor hir mewn sawl ardal sy'n caniatáu i bobl ddewis yr amser gorau i fanteisio ar y cynnig o frechlyn
  • Gwneud defnydd helaeth o glinigau symudol a chlinigau dros dro mewn canolfannau siopa, canolfannau ffydd a chanolfannau cymunedol gan ddod â’r gwasanaeth brechu'n nes at gymunedau
  • Cynnig clinigau cymunedol llai sy'n rhoi cyfle i'r rhai hynny sy'n profi rhwystrau ieithyddol neu ddiwylliannol penodol fanteisio ar y cynnig o frechlyn

Bydd y modelau cyflawni arloesol ac effeithiol hyn yn parhau wrth inni gynnwys COVID-19 yn ein rhaglen frechu bresennol, gan ehangu llwyddiant y rhaglen i frechlynnau eraill er mwyn sicrhau bod y nifer fwyaf o bobl yn manteisio arni.  

Wrth inni ddechrau cyflwyno Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol yn ystod yr hydref, bydd byrddau iechyd yn adeiladu ar y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gydag amryw o bartneriaid a lleisiau cymunedol i annog y rhai sy'n gymwys i ddod ymlaen i gael eu brechu, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi cael brechlyn COVID-19 eto. Mae rhai o'r camau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd gan fyrddau iechyd i feithrin cysylltiadau â chymunedau a grwpiau heb eu gwasanaethu'n ddigonol yn cynnwys:  

  • Ymgysylltu'n agos â nyrsys ysgol a swyddogion ieuenctid yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i roi cyngor, dolenni cyswllt, dogfennau hawdd eu darllen a fideos ar y broses frechu i rieni, plant a phobl ifanc.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gwneud gwaith allgymorth drwy ei dîm allgymorth Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yn ogystal â thimau Cydlyniant Cymunedol awdurdodau lleol a'r trydydd sector.
  • Mae cerbydau brechu symudol yn cael eu defnyddio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i dargedu ardaloedd fel parciau busnes diwydiannol, archfarchnadoedd, hosteli a chymunedau sy’n ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Mae ffocws penodol ar glinigau Banciau Bwyd wedi bod yn effeithiol iawn o ran cyrraedd y rhai nad ydynt eto wedi derbyn eu dos cyntaf neu eu hail ddos o'r brechlyn COVID-19.
  • Mae nifer o glinigau brechu dros dro yn cael eu defnyddio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy'n cael eu hysbysebu'n lleol mewn 17 o ieithoedd gwahanol. Mae dau glinig penodedig wedi cael eu cynnal ym Magwyr ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin. Anfonwyd llythyr at yr holl bobl o Wcráin y gwyddys sydd wedi ymgartrefu yn yr ardal, gan eu gwahodd i fanteisio ar y cynnig o frechlyn mewn canolfan brechu torfol.
  • O ystyried natur wledig Powys, mae'r bwrdd iechyd lleol yn galluogi pobl i gael mynediad i'w hapwyntiad brechu gyda chymorth gan sefydliadau fel Trafnidiaeth Gymunedol.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i gynnal eu hymgyrch 'lleisiau nas clywir yn aml' i dargedu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol fel y rhai sy'n ddigartref, yn Deithwyr, yn Geiswyr Lloches, cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig, gofalwyr, pobl â nam ar eu synhwyrau, cyfathrebu-iaith, cymunedau Trawsryweddol a phobl â chyflyrau iechyd meddwl. Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio gyda 'Cymru Ddiogelach' i frechu gweithwyr rhyw ac mae POD synhwyraidd wedi'i greu yng nghanolfan brechu torfol y Bae.
  • Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe'n defnyddio timau ymweld â'r cartref i helpu i gefnogi unigolion sy’n profi gorbryder difrifol ac maent yn parhau i weithredu eu gwasanaeth ‘immbulance’ i fynd â brechlynnau i leoliadau lleol fel canolfannau siopa, clybiau rygbi a phyllau nofio lleol.

Drwy gydol y pandemig, mae'r Pwyllgor Brechu Teg, gan ddefnyddio data a mewnwelediadau ymddygiadol, wedi cynghori ar ymyriadau pwrpasol i feithrin cysylltiadau â chymunedau nad ydynt wedi'u gwasanaethu'n ddigonol, a bydd yn parhau i fonitro'r niferoedd sy'n manteisio ar y brechlyn a monitro tueddiadau i weld a oes mwy y gallwn ei wneud. Mae'r pwyllgor yn cael ei lywio gan y dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael, gan gynnwys adroddiad gwyliadwriaeth chwarterol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar nifer y bobl sy'n manteisio ar frechlynnau yn ôl rhyw, amddifadedd economaidd-gymdeithasol ac ethnigrwydd. 

Er mwyn cefnogi'r broses o gyfuno apwyntiadau brechlynnau rhag y ffliw a COVID-19 o dan Raglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol, rydym yn ehangu cylch gwaith y Pwyllgor Brechu Teg i gynnwys y ffliw. Bydd hyn yn hwyluso ffocws rheolaidd ar ddata ynglŷn â’r niferoedd sydd wedi manteisio ar y brechlyn a’r rhwystrau posibl i frechu i gefnogi ein nod o sicrhau bod pob person cymwys yn cael mynediad teg a chyfle teg i fanteisio ar y cynnig o frechlyn yng Nghymru.

Ein huchelgais 

  • Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl a sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn manteisio ar frechlynnau yng Nghymru er mwyn amddiffyn unigolion, eu teuluoedd a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Pa frechlyn fydda i'n ei gael ble?

Caiff gwahanol frechlynnau eu rhoi mewn gwahanol leoedd, a hynny am wahanol resymau, megis oedran cleifion, math o frechlyn a'r gweithlu sydd ar gael. Bydd y rhan fwyaf o frechiadau rhag y ffliw yn cael eu rhoi mewn lleoliadau gofal sylfaenol, gan gynnwys meddygfeydd a fferyllfeydd. Bydd byrddau iechyd yn rhoi'r rhan fwyaf o frechiadau COVID-19 mewn canolfannau brechu. Dyma rydym wedi dod i'w ddisgwyl ac wedi arfer ag ef ar gyfer y ffliw a COVID-19. Mae cael model darpariaeth gyfunol yn gweithio'n dda ar gyfer ein rhaglenni brechu, gan gefnogi'r GIG i ddefnyddio modelau sy'n addas i'w cymunedau, a’u galluogi i gyrraedd cymunedau a helpu pobl i gael mynediad at eu brechlynnau.

Wrth roi’r cyngor diweddaraf ar bigiadau atgyfnerthu COVID-1 9 ar gyfer yr hydref, dywedodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) y dylid cydweinyddu’r brechlyn COVID-19 a’r brechlyn ffliw lle bo hynny'n bosibl. Lle gallwn wneud hyn byddwn yn gwneud hynny. Y llynedd, cafodd llawer o weithwyr gofal iechyd a phreswylwyr cartrefi gofal eu brechlyn COVID-19 a’u brechlyn ffliw ar yr un pryd. Roedd gwneud hyn yn ffordd effeithlon i'n GIG ddarparu’r brechlynnau, gan roi mwy o amddiffyniad i gleifion mewn un apwyntiad, a bod yn fwy cyfleus i unigolion.

Eleni, byddwn yn adeiladu ar hyn ac yn anelu at gydweinyddu’r brechlyn ffliw a’r brechlyn COVID-19 i'r rhai sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD). Mae COPD yn gyflwr sy'n effeithio ar y system anadlu, sy'n golygu eu bod mewn perygl arbennig o gael salwch difrifol os ydynt yn cael feirws anadlol.  Dyna pam rydym wedi penderfynu targedu’r rhaglen i gydweinyddu’r ddau frechlyn hyn at unigolion sydd â COPD. 

Nid yw brechlynnau'n orfodol, felly ni fydd yn orfodol i unigolion gael dau frechlyn yn yr un apwyntiad, ond os cynigir y ddau i chi, rydym yn eich annog i ddewis cael y ddau er mwyn cael mwy o amddiffyniad. Gall cydweinyddu’r brechlynnau ffliw a COVID-19 fod yn fwy cyfleus i lawer o bobl, yn enwedig ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwch yn cael llythyr yn eich gwahodd i gael eich brechiad COVID-19 pan fydd un yn barod i chi. O ran COVID-19, mae angen i oedolion adael cyfnod o 28 diwrnod rhwng cael haint COVID-19 a chael eu brechu. Mae pigiadau atgyfnerthu’r gwanwyn wedi'u cynllunio a'u hamseru'n ofalus i sicrhau bod digon o amser yn cael ei adael rhwng y ddau ddos.

Efallai eich bod eisoes yn gwybod a ydych yn gymwys i gael brechlyn ffliw ai peidio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn ffliw ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gwyddom ei bod yn bwysig bod pobl yn gallu mynd i'w hapwyntiad brechu ar adeg ac mewn lle sy'n gyfleus i'w hamgylchiadau a’u hanghenion. Rydym yn parhau i ofyn i bobl flaenoriaethu apwyntiadau lle bynnag y bo modd, ond rydym yn deall nad yw hyn bob amser yn bosibl.

Ein huchelgais 

Byddwn yn gweithio i sicrhau bod brechlynnau ffliw a COVID-19 yn cael eu cydweinyddu lle bynnag y bo’n bosibl, ac yn targedu cleifion â COPD yn benodol o ystyried eu risg gynyddol.

Cyflenwad

Cyn belled ag y bydd cyflenwad y brechlyn COVID-19 yn parhau, byddwn yn sicrhau bod fformiwleiddiad digonol a phriodol o’r brechlyn ar gael ar gyfer y prif ddosau, a’r pigiadau atgyfnerthu. Caiff ein brechlynnau COVID-19 eu caffael gan Lywodraeth y DU ar ran y Pedair Gwlad i sicrhau dull cost-effeithlon. Byddwn yn ystyried y cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch argaeledd ac addasrwydd brechlynnau, ac yn gweithio gyda rhannau eraill o'r DU i sicrhau bod y brechlyn mwyaf priodol ar gael, gan gynnwys brechlynnau newydd sy'n cael eu datblygu i dargedu amrywiolion. 

Bob blwyddyn, caiff brechlynnau ffliw eu hadolygu i dargedu’r mathau o ffliw a ragwelir y bydd yn cylchredeg. Mae'r brechlynnau sy'n cael eu defnyddio yn Awstralia ar hyn o bryd yn cyfateb yn dda i'r mathau sy'n cylchredeg, sy'n cynyddu effeithiolrwydd y rhaglen frechu. Yn amodol ar y cyflenwad o frechlynnau ffliw sydd ar gael, byddwn yn gweithio gyda byrddau iechyd, meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol, sy'n caffael brechlyn y ffliw yn uniongyrchol, i sicrhau bod cyflenwadau digonol a phriodol o frechlynnau ar gael. Mae'r brechlyn ffliw a ddefnyddir ar gyfer plant 2-15 oed yn cael ei gaffael gan Lywodraeth y DU ar ran y Pedair Gwlad i sicrhau dull cost-effeithlon. Byddwn yn parhau i edrych ar ffyrdd arloesol o sicrhau mai'r cyflenwad o frechlynnau ffliw yw'r mwyaf effeithlon ar gyfer cynyddu'r nifer sy'n cael y brechlyn.

Edrych ymlaen

Mae gan ein GIG gynlluniau yn eu lle i ddarparu rhaglen frechu’r gaeaf yn erbyn clefydau anadlol a amlinellir yn y strategaeth hon. Mae cynlluniau hefyd yn eu lle rhag ofn y bydd angen i ni gynyddu capasiti mewn ymateb i amrywiolyn newydd neu don newydd amlwg yn y pandemig. Gobeithiwn nad oes angen inni ddefnyddio'r cynlluniau hynny, ond mae'r GIG yn barod. 

Cyn belled â bod sefyllfa COVID-19 yn parhau'n sefydlog, gobeithiwn mai eleni fydd blwyddyn gyntaf rhaglen pigiadau atgyfnerthu flynyddol integredig ar gyfer COVID-19 a'r ffliw ar gyfer rhai grwpiau cymwys. Ni fydd angen brechlyn ar bawb eto eleni.  Fodd bynnag, bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac adolygu ymateb iechyd y cyhoedd. 

Ar hyn o bryd, mae GIG Cymru yn darparu nifer o raglenni brechu. Mae llawer o'r rhaglenni cyn COVID-19 yn llwyddiannus iawn o ran lleihau marwolaethau ac afiachusrwydd o glefydau y gellir eu hatal drwy frechu. Fodd bynnag, mae cyfleoedd i wella ar draws yr holl raglenni brechu yng Nghymru gan gynnwys y rhaglen brechu rhag COVID-19 a’r rhaglenni brechu mwy sefydledig, megis y ffliw a'r rhaglenni imiwneiddio pediatrig.

Integreiddio rhaglenni COVID-19 a’r ffliw eleni yw'r cam cyntaf yn ein rhaglen trawsnewid brechu. Drwy’r rhaglen trawsnewid brechu rydym yn edrych ar ddarpariaeth ein gwasanaethau brechu yn ei gyfanrwydd ac yn y tymor hwy i sicrhau bod ein gwasanaethau'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae gwasanaethau brechu yn hanfodol i'n hamddiffyn rhag clefydau difrifol ac mae angen i unigolion ymddiried a chael hyder yn yr wybodaeth a ddarperir i gytuno i gael eu brechu. Yn yr hydref byddwn yn cyhoeddi Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol i Gymru. Mae'r Fframwaith yn cael ei ddatblygu ar y cyd â'r GIG. Drwy'r broses hon byddwn yn nodi ac yn defnyddio'r hyn sy'n gweithio'n dda ar hyn o bryd a gwersi a ddysgwyd o'r pandemig i bontio i sefyllfa well o ran busnes fel arfer drwy integreiddio'r holl raglenni brechu presennol. Bydd y Fframwaith yn cael ei gymhwyso ar draws y GIG yng Nghymru fel bod gan bobl Cymru ddarpariaeth ddynodedig a di-dor ar gyfer brechu er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag firysau.   

Yr egwyddorion dylunio ar gyfer y Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol yw:

  • Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn: lle mae pobl yn cydnabod pwysigrwydd brechu, yn gallu cael mynediad at eu cofnod, yn gwybod pa frechiadau y mae disgwyl iddynt eu cael ac yn gallu nodi ffyrdd o gael eu brechu mor agos i'w cartrefi â phosibl.
  • Cynhwysiant ac ymgysylltu sy'n ganolog i gynllunio a darparu gwasanaethau: seilwaith a systemau lleol a chenedlaethol yn eu lle i alluogi cynhwysiant ac ymgysylltu i fod wrth wraidd ein gwasanaethau brechu yng Nghymru.
  • Fframwaith a ddatblygwyd yn ganolog a ddarperir yn lleol: fframwaith cenedlaethol trosfwaol gyda hyblygrwydd ar gyfer ymyriadau wedi'u teilwra ar lefel leol i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol.
  • Dulliau sy'n seiliedig ar werthoedd sy'n darparu adenillion ar fuddsoddiad: cydnabod elfen gwerth cynhenid brechu wrth atal clefydau a sicrhau gwerth am arian yn y dulliau a ddefnyddir.
  • Dull sy'n seiliedig ar ddata a thystiolaeth: data amserol, cywir a mewnwelediadau ymddygiadol a ddarperir i sicrhau bod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn arloesol ac yn effeithiol.
  • Gweithio mewn partneriaeth: Ymgysylltu parhaus ac ystyrlon â phartneriaid i sicrhau gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n sicrhau canlyniadau a gwerth am arian.
  • Gwelliant parhaus: gwerthuso dulliau gweithredu yn rheolaidd i ddeall effaith ar ymddygiadau, rhannu arfer gorau ac addasu’r modelau gweithredu pan fo angen.
  • Atebion digidol i gefnogi gweithrediad gwasanaethau a gwella profiad cleifion: gydag atebion digidol yn cydymffurfio â safonau gorau'r diwydiant, gan gynnwys o ran y Gymraeg, tra'n cefnogi mynediad i'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.

Yr arferion da presennol fydd sylfaen y broses o drawsnewid gwasanaethau, yn ogystal â gwybodaeth pobl allweddol sy'n gweithio yn y gwasanaethau hyn, ac mae'r angen i fanteisio ar eu harbenigedd yn hanfodol.  

Ein huchelgais

Ein huchelgais ar gyfer y rhaglen trawsnewid brechlynnau yw sicrhau canlyniadau sy'n arwain y byd mewn clefydau y gellir eu hatal drwy frechu drwy sefydlu Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol i Gymru erbyn 2023.

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar raglen frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol

Mae'n bwysig bod pobl yn gwneud dewisiadau am frechlyn COVID-19 ar sail gwybodaeth gywir a dibynadwy. Rydym yn parhau i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru er mwyn gwneud yn siŵr bod gwybodaeth o'r fath ar gael yn hawdd, wedi'i theilwra yn ôl oedran ac amgylchiadau. Mae'n hanfodol bod pobl yn teimlo eu bod yn cael gwybodaeth am effeithiau'r brechlyn, a ydynt yn gymwys i'w gael ai peidio a'u bod yn gwybod sut i gael eu brechlyn pan gânt eu galw.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wybodaeth i gleifion am COVID-19 a'r ffliw, a chwestiynau cyffredin defnyddiol am frechlynnau a diogelwch.

Mae gennym fodel cyflenwi cyfunol a gall lleoliadau canolfannau brechu newid, a bydd rhai byrddau iechyd yn defnyddio canolfannau mwy lleol yn hytrach na chanolfannau mwy o faint. Bydd gan fyrddau iechyd yr wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau lleol ar eu gwefannau a'u cyfryngau cymdeithasol fel y bydd pobl yn gwybod ble a sut i gael y brechiad sy'n cael ei gynnig iddynt.

Rydym wedi ymrwymo o hyd i fod yn dryloyw a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am gynnydd. Byddwn yn:

  • Rhyddhau crynodeb wythnosol o ddata ar frechiadau COVID-19. Caiff ei gyhoeddi ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd hyn yn dangos cyfanswm y brechiadau cronnol a roddir, er y bydd nifer wirioneddol y bobl a frechwyd yn uwch oherwydd bod data'n cael ei gofnodi'n barhaus.
  • Rhyddhau adroddiadau monitro rheolaidd ar y ffliw. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan ffliw Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd yn crynhoi gweithgarwch y ffliw ac yn dangos cyfradd y nifer sy'n cael eu brechu fesul grŵp yn ystod tymor yr hydref a'r gaeaf.
  • Rhyddhau adroddiad monitro mwy i gefnogi ein gwaith ‘gadael neb ar ôl’ ar gyfer brechiadau COVID-19, a bydd hwn hefyd yn cael ei gyhoeddi ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Cyhoeddi Datganiadau Gweinidogol yn esbonio pan y ceir datblygiadau newydd neu newidiadau i Raglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol.
  • Cyhoeddi diweddariadau brechu unwaith y tymor.