Mainetti UK
Rownd derfynol
Ar ôl lansio rhaglen brentisiaethau bum mlynedd yn ôl, mae cynhyrchiant, ymgysylltiad y gweithlu a chyfraddau cadw staff wedi gwella yng nghwmni Mainetti sydd â gweithlu rhyngwladol o dros 200.
Mae cwmni Mainetti o Wrecsam yn un o brif gwmnïau’r byd ym maes ailddefnyddio, ailgylchu ac ailddosbarthu hangers dillad i gwmnïau siopau mawr ac maent yn trafod tua miliwn o hangers y dydd.
Mewn cydweithrediad â Chwmni Hyfforddiant Cambrian, mae 63 o weithwyr y cwmni'n gweithio i ennill cymwysterau sy’n amrywio o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaethau Uwch. Ymhlith y cymwysterau lefel dau a thri mae Rheoli Adnoddau Cynaliadwy, Technegau Gwella Busnes ac Arwain Tîm.
Symudodd dau o’r prentisiaid gwreiddiol ymlaen i Brentisiaethau Uwch (lefel pedwar) mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth a Rheoli Systemau a Gweithrediadau gan weithredu fel mentoriaid a modelau rôl ar yr un pryd.
Dywed rheolwr safle Mainetti, Mikolaj Pietrzyk, bod hyfforddiant yn hanfodol i’r busnes.