Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Ar 16 Tachwedd 2021, esboniais fy mwriad i adfywio Rhaglen Dileu TB Cymru. Gwnaethon ni lwyr ailwampio’n strategaeth yn 2017 pan gyhoeddon ni ein Cynllun Cyflawni cyntaf ar gyfer Dileu TB, yn nodi’n targedau ar gyfer dileu TB a sefydlu system ranbarthol. Mae ein Rhaglen yn seiliedig ar bedair prif egwyddor rheoli clefydau heintus: Ei Gadw Allan, Ei Ddarganfod yn Gyflym, Ei Atal rhag Lledaenu a Chael Gwared Arno.
Mae’r sefyllfa o ran TB yng Nghymru wedi newid ac mae llawer wedi gwella ers yr ymrwymiadau yn y Cynllun Cyflawni. Mae’r gwaith rydym wedi’i wneud ar Gynllun Cyflawni 2017 wedi’i gyhoeddi ar ein gwefannau TB.
Un o brif bwyntiau’r Cynllun Cyflawni oedd ffurfioli’r trefniadau ar gyfer mynd i’r afael ag achosion mwy tymor hir o’r clefyd. Gwnaethon ni ymrwymo i gymryd camau mwy pendant trwy lunio Cynlluniau Gweithredu fyddai’n cynnwys cyfres o fesurau wedi’u hanelu at glirio’r haint yn gyflym a chodi’r cyfyngiadau ar symudiadau ar rai o’r achosion TB henaf.
Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae 253 o Gynlluniau Gweithredu wedi’u paratoi i helpu ein ffermwyr, ac mae 127 o achosion wedi’u clirio.
Mae’r ystadegau diweddaraf am TB gwartheg yng Nghymru hyd at fis Mawrth 2022 yn dangos y cynnydd sydd wedi’i wneud:
- Mae nifer yr achosion newydd o TB wedi cwympo o 1,185 yn 2009 i 634 yn y 12 mis hyd at Fawrth 2022, gostyngiad o 46.5%.
- Mae nifer yr anifeiliaid sydd wedi gorfod cael eu difa i reoli TB wedi cwympo o 11,655 yn 2009 i 10,117 yn y 12 mis hyd at Fawrth 2022, gostyngiad o 13.2%.
- Ar 31 Mawrth 2022, roedd 988 o fuchesi o dan gyfyngiadau, o’u cymharu â’r 2,268 o fuchesi, y nifer fwyaf, oedd o dan gyfyngiadau ar 31 Mawrth 2009. Dyna ostyngiad o 56.4%.
- Ar ei uchaf, roedd 7.8% o fuchesi o dan gyfyngiadau yn Ebrill 2009. Ym mis Mawrth 2022, y ganran oedd 5.4%, gostyngiad o 30.9%.
Mae’n galonogol gweld hefyd ostyngiad tymor hir yn y prif fesurau yn y ddwy Ardal TB Uchel. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth ar ein Dangosfwrdd TB gwartheg.
Gyda fy Natganiad ym mis Tachwedd 2021, lansiais ymgynghoriad i’n helpu i adfywio’r Rhaglen Dileu TB. Cawsom 246 o ymatebion. Fe welwch grynodeb o’r ymatebion ar ein gwefan. Rwy’n ddiolchgar i bawb a ymatebodd ac rydym wrthi’n ystyried yr holl sylwadau wrth ddatblygu’r Rhaglen o’r Newydd.
Mae’r safbwyntiau a ddaeth i law ar y cynigion yn dangos nerth y teimladau ynghylch agweddau fel taliadau am wartheg sydd wedi’u heintio, profion TB a phrynu gwybodus – pob un yn elfennau pwysig o’n Rhaglen. Rwyf wedi darllen a deall y sylwadau a godwyd, ac rwy’n ystyried yr holl opsiynau, a manylion eraill fel costau, wrth benderfynu ar y camau nesaf.
Ers fy Natganiad, mae Grŵp Ffocws NFU Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar TB gwartheg, ac ers hynny, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar y Rhaglen o'r Newydd ar gyfer Dileu TB. Rwyf wedi ymateb iddo. Rwy’n croesawu’r ddau adroddiad a hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor a’r Grŵp Ffocws am roi o’u hamser i ystyried TB Gwartheg ac i gynnig argymhellion fydd yn ein helpu i adfywio’r Rhaglen.
Ym mis Tachwedd, cyhoeddais fy mod yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen annibynnol ar Ymgysylltu â Ffermwyr i ystyried sut orau i gyfathrebu â cheidwaid gwartheg am TB i’w helpu i amddiffyn eu gwartheg rhag y clefyd, ac i gyfathrebu yn ystod achos o TB. Rwyf yn awr yn ystyried canfyddiadau eu hadroddiad a’u hargymhellion. Mae rhai agweddau’n gyffredin ag adroddiad y Pwyllgor ac adroddiad y Grŵp Ffocws.
Mae argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r Grŵp am eu hamser a'u harbenigedd a fydd yn werthfawr wrth i ni ystyried ein Rhaglen ar ei newydd wedd.
Un thema sy'n codi dro ar ôl tro yn adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yw pwysigrwydd rôl milfeddygon yn y Rhaglen Dileu TB ac, yn benodol, perthynas milfeddygon â ffermwyr o ran cyfleu gwybodaeth gywir a dibynadwy. Cyfeiriodd y Grŵp hefyd at y berthynas ehangach rhwng ffermwyr, milfeddygon, APHA a Llywodraeth Cymru, at agweddau fel y Ffurflen Riportio Clefydau a phroses y Cynllun Gweithredu, Cymorth TB, rhannu data ac at ryddid milfeddygon wrth reoli achosion o TB. Yng ngoleuni'r prinder presennol yn y capasiti milfeddygol, mae lle i barhau â'r drafodaeth hon i ddatblygu'r cynigion ymhellach fel y gallwn wneud y gorau o fewnbwn milfeddygon. Cynhelir gweithdy, dan arweiniad Cadeirydd annibynnol y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, yr wythnos nesaf yn Sioe Frenhinol Cymru i archwilio rôl milfeddygon yn y Rhaglen.
O ran y pwysau ar gapasiti milfeddygol, ym mis Tachwedd comisiynais ymchwil i edrych ar yr opsiynau ar gyfer rhoi hwb i brofion TB drwy ddefnyddio parafilfeddygon sydd wedi'u hyfforddi'n briodol. Mae'r adroddiad, a fydd ar gael ar ein gwefan cyn bo hir, o blaid ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio mwy o brofwyr TB lleyg. Byddwn yn trafod hyn â’r Partneriaid Cyflenwi Milfeddygol ac APHA dros yr haf i sefydlu cynllun peilot i dreialu hyn.
Cyhoeddais hefyd y byddem yn rhoi’r gorau’n raddol i drapio a phrofi moch daear mewn buchesi ag achosion tymor hir o TB er mwyn canolbwyntio ein hadnoddau ar frechu moch daear. Yn unol â'n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i wahardd difa moch daear, cyhoeddais fy mod yn ehangu'r Cynllun Grant Brechu Moch Daear (BVG) ac yn darparu cyllid ychwanegol. Mae'n bleser gennyf nodi diddordeb aruthrol yn y cynllun hwn ac mae pob cais am BVG wedi'i gymeradwyo, hynny mewn 42 o ffermydd, cyfanswm o dros 46km2 o arwynebedd, ledled Cymru. Mae'r gwaith pwysig hwn yn digwydd ochr yn ochr â'n prosiect brechu moch daear presennol ym Mhenrhyn Gŵyr.
Rydym yn cydnabod yr anawsterau sy’n wynebu ceidwaid sydd am fynd â gwartheg ifanc o fuchesi sydd o dan gyfyngiadau TB ac mae gennym bolisïau i ganiatáu symudiadau i Unedau Pesgi Cymeradwy. Cyflwynwyd newidiadau gennym yn 2021, i annog sefydlu unedau newydd a chynyddu’u nifer. Rydym yn parhau i drafod yn rheolaidd â chynrychiolwyr y diwydiant, sy'n cynghori ar newidiadau pellach i'r trefniadau.
Wrth i ni ystyried eu ceisiadau am newid, a sicrhau nad ydynt yn cynyddu'r risg o drosglwyddo clefydau, rydym wedi cytuno i ganiatáu symud anifeiliaid rhwng unedau magu a phesgi cymeradwy heb brawf cyn symud, a chynyddu’r amser i wartheg cymwys gael prawf clir o 30 i 60 diwrnod er mwyn iddynt gael eu symud i Uned Ynysu.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynnal safonau bioddiogelwch uchel ar ffermydd yn wyneb y bygythiad gan glefydau ac mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn datblygu ffordd o ddelio â gofynion bioddiogelwch. Yn y cyfamser, rwy’n annog ceidwaid i ofyn i’w milfeddygon am gyngor ymarferol ar sut i ddiogelu buchesi rhag TB, gan gynnwys trefniadau prynu gwybodus a'r hyn y gallent ei wneud i leihau'r risg o ledaenu'r clefyd. Mae Llywodraeth Cymru’n dal i drefnu ymweliadau gan filfeddygon fel rhan o raglen Cymorth TB heb unrhyw gost i ffermwyr ac mae hyn yn gyfle gwych i geidwaid ofyn i'w milfeddyg preifat am gyngor ar sut i ddiogelu eu buches. Rwyf hefyd yn annog ceidwaid i ystyried cymryd rhan mewn cynllun achredu iechyd anifeiliaid, fel TB CHeCS.
Er gwaethaf y llwyddiant i leihau lefelau TB ers dechrau ein rhaglen, bu’n rhaid targedu gweithgarwch mewn rhai ardaloedd. Rydym wedi bod yn ystyried sut i fynd i'r afael â lefelau uchel iawn o’r haint yn rhannau o Sir Benfro, lle mae nifer yr achosion o TB a nifer y buchesi o dan gyfyngiadau wedi gwaethygu er gwaetha’r gwelliant cyffredinol. Yn unol â’r ymatebion i'n hymgynghoriad ac adroddiad y Grŵp Ffocws ar TB, byddwn yn edrych ar drefniadau llywodraethu newydd ar gyfer dileu TB ar lefel leol, gan rymuso milfeddygon a ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus a dangos arweiniad wrth reoli’r clefyd. Mae trafodaethau ar y gweill i ddatblygu prosiect peilot arbennig ar gyfer Sir Benfro, gyda'r cyfarfod ffurfiol cyntaf yn cael ei gynnal yn Sioe Sir Benfro ym mis Awst.
Gweler isod yr wybodaeth ddiweddaraf am y pynciau a drafodwyd yn yr ymgynghoriad:
Trefniadau llywodraethu a Phrofion TB
Roedd y farn a fynegwyd am drefniadau Llywodraethu'r Rhaglen Dileu TB yn un gymysg. Rwyf felly am ddechrau proses o Benodiadau Cyhoeddus i recriwtio aelodau ar Fwrdd newydd y Rhaglen Dileu TB a hefyd ystyried sut i gyfathrebu’n well â’r diwydiant. Byddwn yn annog y rhai sydd ag arbenigedd a phrofiad addas i wneud cais.
Mynegwyd cefnogaeth gref i’r syniad yn yr ymgynghoriad o sefydlu Grŵp Cynghori Technegol (TAG), gyda llawer o sefydliadau ac arbenigwyr yn cael eu cynnig i fod yn aelodau o grŵp o'r fath. Rwyf wedi gofyn i'r Athro Glyn Hewinson, Cadeirydd Sêr Cymru ar y Ganolfan Ragoriaeth TB yn Aberystwyth sefydlu grŵp o'r fath. Bydd yn ystyried yr arbenigedd sydd ei angen i'n cynghori ar agweddau technegol y Rhaglen, er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf.
Rwyf wedi gofyn i'r Athro Hewinson sicrhau bod y TAG yn rhoi blaenoriaeth i ystyried ein trefn brofi TB, fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Ffocws ar TB. Bydd goblygiadau i newid ein trefn brofi, ac mae angen inni ddeall yn llawn ganlyniadau unrhyw newid.
Ymhlith y meysydd eraill rwy'n rhagweld y bydd TAG am eu hystyried i ddechrau y mae asesu effaith rhai arferion ffermio, megis gwasgaru slyri, ar drosglwyddo TB a’i barhad, ac opsiynau ar gyfer defnyddio brechlyn gwartheg, pan gaiff ei drwyddedu.
Taliadau TB
Enynnodd y cwestiynau am Daliadau TB yn yr ymgynghoriad ddiddordeb mawr. Cyflwynwyd tri chynnig: prisiadau tabl, prisiadau tabl ynghyd â thaliad chwyddo i aelodau cynllun achredu iechyd anifeiliaid cymeradwy, ac ardoll o dan reolaeth y diwydiant.
Er bod y safbwyntiau'n amrywio, y cynnig a enynnodd y gefnogaeth fwyaf oedd grŵp annibynnol dan reolaeth y diwydiant ynghyd ag ardoll, ac yna prisiadau tabl â thaliad chwyddo am fod yn aelod o gynllun achredu. Roedd llai o gefnogaeth i’r cynnig i gyflwyno prisiad tabl yn unig, oherwydd bod llawer yn teimlo y byddai hynny’n anfanteisiol i stoc o’r ansawdd uchaf.
Mae hwn yn faes cymhleth a byddem, felly, yn hoffi ystyried, drwy mwy o drafod gyda’r diwydiant a ffermwyr, pa mor ymarferol fyddai’r cynnig i gyflwyno ardoll, a’r cynnig i gyflwyno prisiadau tabl ynghyd â thaliad chwyddo, er mwyn gweld a allai hynny gynnig yr arbedion cost y mae angen inni eu gwneud mewn perthynas â thaliadau TB, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn cydbwyso’r angen i wobrwyo arferion ffermio da a rhoi arferion atal a rheoli clefydau ar waith.
Prynu Gwybodus
Calonogol oedd gweld cefnogaeth ymatebwyr i ddangos buchesi heb TB ar ibTB a gorchymyn darparu ac arddangos gwybodaeth yn y man gwerthu. Roedd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn gefnogol i weithredu o blaid prynu gwybodus ond roedd Pwyllgor ETRA yn cydnabod bod angen systemau data priodol er mwyn i'r cynllun weithio.
Mae'r adroddiadau hyn wedi dangos yr angen i ymchwilio ymhellach i Brynu Gwybodus a'i ganlyniadau posibl, gan gydnabod bod angen cydweithio â Defra oherwydd maint y fasnach drawsffiniol.
Wrth i ni ystyried y mater, mae tystiolaeth epidemiolegol ddiweddar o’r mannau lle ceir y lefelau uchaf yn y Gogledd yn dangos cyfraniad symud gwartheg at ledaenu TB gwartheg. Rwy'n parhau i apelio ar geidwaid i wneud cymaint o ymchwil â phosibl cyn prynu gwartheg, gan asesu'n llawn y risg bosibl o ddod ag anifeiliaid newydd i'w buchesi.
I gloi, mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud a byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu a mireinio ein gwaith ymhellach. Bydd y ffocws cychwynnol ar ddatblygu Cynllun Peilot yn Sir Benfro, sefydlu'r TAG a Bwrdd Rhaglen i ystyried cynnwys rhanddeiliaid a chyfathrebu ehangach.
Byddaf yn cyhoeddi Cynllun Cyflawni newydd yn ddiweddarach eleni, fydd yn nodi'r camau nesaf ar gyfer y Rhaglen.
Yr wyf yn hyderus trwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn gyflawni ein nod cyffredin o sicrhau Cymru heb TB.