Tîm Cefnogi Ysgol Glan Clwyd
Teilyngwr
Tîm Cefnogi Ysgol Glan Clwyd: Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy
Mae’r Tîm Cefnogi yn Ysgol Glan Clwyd yn cynnwys unigolion ysbrydoledig, egnïol ac angerddol sy’n sensitif ac yn ddiduedd yn eu cefnogaeth i ddisgyblion a rhieni. Maent ar gael yn gyson ar gyfer y dysgwyr mwyaf bregus, gan ddarparu clust i wrando a chefnogaeth ymhell y tu hwnt i 9 i 5.
Mae gan y tîm sgiliau rhyngbersonol rhagorol ac maent yn fwy na pharod i fynd i wersi i gefnogi disgyblion.
Mae'r tîm yn achub ar gyfleoedd i ddysgu a gwella'n barhaus er budd y dysgwyr yn eu gofal.