Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i ni nesáu at brif gyfnod gwyliau’r haf, ac yng nghyd-destun ceisiadau am gymorth marchnata ychwanegol rydym wedi’u cael oddi wrth lawer o’n rhanddeiliaid o ddiwydiant ar yr adeg hon, rwy’n falch o rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ag Aelodau ynghylch y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal gan Croeso Cymru ar hyn o bryd. Bydd rhoi’r rhain ar waith, o dan y brand Cymru Wales, yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i gynorthwyo busnesau ymhellach i adfer ar ôl y pandemig.

Gan gynnwys ymgyrch marchnata newydd, “Croeso”, ac offerynnau a fydd yn helpu gweithredwyr i wella’u dulliau hyrwyddo a’u sgiliau eu hunain, cyflwynwyd yr ystod hon o waith i gefnogi’r sectorau twristiaeth a lletygarwch sy’n chwarae rhan mor sylweddol yn yr economi ehangach yng Nghymru. Y mis hwn, bydd yr ymgyrch Croeso, gan ddefnyddio brand Cymru Wales, a’i ffocws ar dirwedd, diwylliant ac antur, yn dangos i unrhyw un sy’n ystyried cael gwyliau’r profiadau amrywiol fydd ar gael yng Nghymru yn ystod yr haf hwn.

Yn sgil y pandemig, mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld diwydiant ffyniannus ac adferiad cryf ar draws y sectorau hyn sydd, gyda’i gilydd, yn cynnwys mwy nag un rhan o ddeg o weithlu Cymru. Rydym yn gwbl ymwybodol bod busnesau’n wynebu heriau dros y tymor byr a’r hirdymor, megis yr argyfwng costau byw, costau ynni, a bylchau mewn sgiliau a swyddi. Cafodd y gwaith hwn ei gynllunio er mwyn helpu i sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn weladwy fel cyrchfan wyliau bosibl ar gyfer eleni a’r tu hwnt, gan ysgogi diddordeb defnyddwyr a hybu ymholiadau ynghylch archebu lleoedd.

Mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r Baromedr Busnes https://llyw.cymru/baromedr-twristiaeth-cam-yr-mehefin-2022, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos bod mwy na 75% o fusnesau twristiaeth yng Nghymru wedi profi nifer tebyg o ymwelwyr, neu gynnydd ynddynt dros hanner tymor mis Mai. Fodd bynnag, rydym yn gwybod o’r 900 o fusnesau hynny y gwnaethom gyfweld â nhw fod heriau ar y gorwel hefyd sy’n gysylltiedig â’r rhagolygon ar gyfer yr haf hwn, fel sy’n wir ledled y DU, o safbwynt gweithredwyr a defnyddwyr. Y llynedd, nododd yr adolygiad o weithgareddau y cynllun adfer bwysigrwydd rheoli ac ysgogi galw yn ystod cyfnodau allweddol ar sail rhagolygon. O ganlyniad i adborth a gafwyd gan randdeiliaid megis yr hyn a nodir uchod, a hinsawdd o gystadleuaeth frwd iawn gan gyrchfannau eraill yn y DU, bydd gweithgareddau ymgyrch Croeso ar waith yn ystod yr haf hwn.

Mae hysbyseb Croeso, sydd wedi bod ar y teledu, fideo ar-alwad a chyfryngau digidol ers dechrau mis Mehefin yn dangos diwrnod enghreifftiol yng Nghymru rhwng toriad y wawr a machlud yr haul. Gan ddefnyddio lleoliadau a chynhyrchion o bob rhan o’r wlad, mae’r cynnwys yn rhoi sylw i amrywiaeth o brofiadau, o fordeithiau gwylio dolffiniaid a llety gwych i fwyta allan a gigiau cerddoriaeth.

Yn draddodiadol, nid yw Croeso Cymru wedi cynnal ymgyrch ar yr adeg hon o’r flwyddyn, ac mae’r gweithgareddau ychwanegol hyn yn cyd-fynd â’r cymorth arall rydym yn ei ddarparu i’r diwydiant yn ei flwyddyn gyntaf o adfer. Mae hyn yn cynnwys cydweithio â Cyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn helpu i hyrwyddo ac annog hyfforddiant digidol er mwyn galluogi gweithredwyr i gadw rheolaeth ar eu gweithgareddau marchnata, a hefyd i’w gwneud yn bosibl cyflwyno Cyfnewidfa Dwristiaeth Prydain Fawr (TXGB) ar gyfer busnesau yng Nghymru. Mae TXGB, sy’n gysylltiedig â VisitBritain ac sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Tourism Northern Ireland, yn cynnig mynediad gwell at sianelau gwerthu ar-lein ar gyfraddau comisiwn is, fel y gall busnes hyrwyddo’i gynnig mewn modd costeffeithiol ac ysgogi archebion mwy uniongyrchol.

Nod gweithgareddau Croeso Cymru yw sicrhau bod proffil Cymru’n parhau i fod yn amlwg drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod y 12 mis diwethaf, byddwch wedi gweld ffocws cryf – fel y nodir yn y strategaeth Croeso i Gymru ynghyd â’i phwyslais ar fynd i’r afael â’r tair prif her (sef natur dymhorol, gwariant a dosbarthiad) – ar hyrwyddo ymweliadau y tu allan i’r cyfnodau gwyliau prysuraf. Er enghraifft, denodd Ymgyrch y Gaeaf sylw cadarnhaol gan y diwydiant a’r cyfryngau am roi sylw i brofiad gaeafol ac am ei dull o amlygu croeso a chynhwysiant Cymru.

Bydd cyfleoedd hefyd i ddangos y croeso hwnnw yn ein gwaith i fanteisio i’r eithaf ar ddigwyddiadau mawr dros y misoedd i ddod, o ddigwyddiad reslo rhyngwladol enwog y WWE a fydd yn dod i Gaerdydd fis Medi, i Gwpan y Byd FIFA yn Qatar ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr. Wrth i gefnogwyr pêl-droed wylio’r ornest o bedwar ban byd, bydd yn llwyfan wych ar gyfer codi ymwybyddiaeth o’r profiadau anhygoel y mae Cymru’n eu cynnig i ymwelwyr, ar draws ein holl gynulleidfaoedd p’un ai’n rhai sefydledig neu’n rhai newydd, gartref a thramor.