Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Gallwch helpu pobl o Wcráin drwy gynnig lle iddynt aros yn eich cartref neu mewn eiddo yr ydych yn berchen arno.

Bydd angen i chi wneud cais a darparu rhywfaint o wybodaeth sylfaenol amdanoch chi eich hun a'r llety y gallwch ei gynnig.

Byddwch yn cael £500 y mis yn ddiolch ac i’ch helpu ag unrhyw gostau. Cewch ddal i ofyn i’ch gwesteion gyfrannu swm rhesymol tuag at y biliau, ond ni chewch godi rhent.

Bydd y taliad diolch o £500 yn ddi-dreth. Ni fydd yn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau nac i ostyngiad yn eich treth gyngor.

Byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r awdurdod

Byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r awdurdod lleol perthnasol a fydd yn cynnig cymorth ymarferol drwy gydol y broses lletya.

a fydd yn cynnig cymorth ymarferol drwy gydol y broses lletya.

Mae pob cynnig yn amodol ar wiriadau diogelu ac archwiliadau eiddo, er mwyn sicrhau bod gwesteion yn cael lle diogel ac addas i aros.

Mae manylion stori Hollie a Mark ar YouTube.