Lloyds Banking Group
Rownd derfynol
Mae prentisiaethau wrth galon y cynllun Helpu Prydain i Ffynnu gan Grŵp Bancio Lloyds. Lansiwyd y cynllun yn 2012 ac mae’r cwmni wedi creu 600 o brentisiaethau yng Nghymru, gyda 150 o brentisiaid wedi’u recriwtio eleni.
Bu cynllunwyr prentisiaethau mewnol yn cydweithio â’r partner hyfforddi, Coleg Caerdydd a’r Fro, i greu llwybrau pwrpasol i ddysgwyr ym meysydd Gwasanaethau Ariannol, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Gweinyddu Busnes a Rheoli Timau.
Trwy gydweithio fel hyn, gellir cynnwys sesiynau wyneb yn wyneb, e-ddysgu a dysgu fel grŵp/yn unigol ac mae hyb mewnol yn help i greu cymunedau dysgu sy’n cefnogi’i gilydd.
Dywedodd Rheolwr Prentisiaethau'r Grŵp yng Nghymru, Sharon Morgan: “Rydyn ni wrth ein bodd â’n cynllun prentisiaethau. Mae’r prentisiaid yn cael dylanwad sylweddol a phendant ar y Grŵp, gan ein helpu i gynyddu sgiliau ein gweithwyr, datblygu cymwysterau proffesiynol a denu doniau newydd.”