Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Rwy’n falch o allu cyhoeddi adroddiad blynyddol cyntaf tymor y Senedd hon. Mae’r adroddiad hwn yn dangos y cynnydd yr ydym wedi’i wneud tuag at wireddu ein hamcanion llesiant ac ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu.

Rydym wedi cyflawni llawer iawn yn y flwyddyn gyntaf ers ffurfio’r llywodraeth ym mis Mai 2021, yn enwedig mewn blwyddyn pan oedd yr ymateb brys i’r pandemig yn parhau i fod yn amlwg iawn.

Diolch i ymateb rhagorol pawb yng Nghymru a llwyddiant ein rhaglen frechu, rydym wedi llwyddo i symud y tu hwnt i gyfnod argyfwng y pandemig ac rydym yn dechrau byw’n ddiogel gyda’r coronafeirws. Er hynny, mae llawer heriau sylweddol o’n blaenau fel gwlad.

Nid yw’r pandemig drosodd ac mae’n parhau i gael dylanwad ar ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau gofal. Rydym yn parhau i edrych tua’r dyfodol ac wedi lansio ein cynllun i fynd i’r afael ag amseroedd aros hir a gynyddodd yn ystod dwy flynedd gyntaf y pandemig. Bydd ein Cynllun Adnewyddu a Diwygio ym maes addysg yn sicrhau nad oes yr un dysgwr yn cael ei adael ar ôl.

Mae’r ymosodiad ar Wcráin wedi ein brawychu ni i gyd ac wedi creu argyfwng dyngarol ar ein carreg drws. Mae Cymru yn falch o fod yn genedl noddfa ac rydym wedi ein syfrdanu gan yr holl haelioni gan bobl sydd wedi agor eu cartrefi i bobl sy’n ffoi rhag y gwrthdaro. Mae miloedd o bobl o Wcráin wedi canfod diogelwch a noddfa yng Nghymru.

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pawb. Bob wythnos, mae prisiau’n cynyddu. Byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i helpu pobl Cymru drwy’r argyfwng digynsail hwn. Rydym wedi llunio polisïau a rhaglenni i helpu pobl i ymdopi â chostau pob dydd a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl ond rydym nawr yn mynd ymhellach ac yn cymryd camau wedi’u targedu i helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Nid yw’r heriau hyn yn golygu ein bod yn canolbwyntio’n llai ar yr argyfwng hinsawdd a natur, sydd wrth wraidd popeth a wnawn o hyd. Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar leihau ein hallyriadau carbon ac adfer bioamrywiaeth ein gwlad hyfryd.

Bydd y flwyddyn i ddod yn un heriol inni i gyd. Mae ein Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru yn golygu y byddwn yn gallu bwrw ymlaen â chyfres o gamau uchelgeisiol i wella bywydau pobl Cymru. Ym mis Rhagfyr, bydd blwyddyn wedi bod ers llunio’r cytundeb hwnnw, a byddwn ni’n adrodd yn fanylach ar y cynnydd sydd wedi’i wneud, i nodi’r garreg filltir honno.

Image

Mark Drakeford AS
Prif Weinidog Cymru

Cyflwyniad

Dyma adroddiad blynyddol cyntaf tymor y Senedd hon, sy’n nodi’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rydym wedi gwneud cynnydd da tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant, er gwaethaf yr heriau a achosir gan effeithiau parhaus pandemig COVID-19, yr argyfwng costau byw, a’r trychineb dyngarol yn Wcráin.

Mae nifer o ymrwymiadau sy’n cyfrannu at gyflawni ein hamcanion llesiant yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Byddwn yn adrodd yn llawn ar y Cytundeb Cydweithio yn nes ymlaen eleni i nodi blwyddyn ers ei ffurfio.

Strwythur yr adroddiad hwn

Mae’r adroddiad wedi’i strwythuro o amgylch ein deg amcan llesiant. Mae prif gorff yr adroddiad yn tynnu sylw at gyflawniadau a chamau gweithredu allweddol tuag at wireddu’r amcanion hyn. Mae’r atodiad cysylltiedig yn nodi’r cynnydd tuag at yr ystod lawn o ymrwymiadau a nodir o dan yr amcanion hyn yn y Rhaglen Lywodraethu.

Dyma’r deg amcan llesiant:

  • Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel.
  • Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed.
  • Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl.
  • Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  • Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi.
  • Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
  • Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.
  • Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang.

1. Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel

Mae’r pandemig COVID-19 wedi cael dylanwad dwfn ar bob un ohonom. Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain ymateb ein gwlad ac, er bod y bygythiad uniongyrchol i’n hiechyd wedi cilio, rydym yn parhau i fonitro ac olrhain niferoedd a chyfradd COVID-19 yn ein cymunedau. Rydym wedi cefnogi rôl hanfodol profion yn ein hymdrech i gadw pawb yn ddiogel, ac ar ddiwedd mis Rhagfyr roedd mwy na 200,000 o brofion PCR yn cael eu cynnal bob wythnos.

Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith fwy sylweddol ar rai cymunedau, ac roedd ein cynllun pontio ar gyfer y coronafeirws, Gyda’n Gilydd tuag at Ddyfodol mwy Diogel, yn nodi sut y bydd cydraddoldeb yn parhau i fod wrth wraidd ein hymateb i’r pandemig. Rydym wedi cadw presgripsiynau yn rhad ac am ddim, gan sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at y meddyginiaethau a’r cyfarpar sydd eu hangen arnynt a helpu rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed i reoli’r pwysau y maent yn ei wynebu wrth i’r argyfwng costau byw ddwysáu.

Rydym yn canolbwyntio ar atal a dulliau ataliol drwy waith cynllunio GIG ac ar draws meysydd polisi, gan gynnwys iechyd meddwl. Bydd hyn yn canolbwyntio ar ddulliau fel Pwysau Iach, Cymru Iach a sicrhau gwell canlyniadau o ran ffordd o fyw.

Mae pob un ohonom yn ddiolchgar i GIG Cymru a’r hyn a wnaeth drosom yn ystod y pandemig. Yn gyfnewid am hynny, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r GIG a’r rhai sy’n gweithio ynddo. Byddwn yn parhau i ddarparu cyfarpar diogelu personol o ansawdd uchel i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu.

Rydym yn wynebu her fel cenhedlaeth i adfer mynediad at wasanaethau a lleihau amseroedd aros i’r hyn oeddent cyn y pandemig. Mae Ein Rhaglen i Drawsnewid a Moderneiddio Gofal a Gynlluniwyd a Lleihau Rhestrau Aros yng Nghymru, sy’n cael ei chefnogi gan £170m y flwyddyn yn ychwanegol, yn nodi ein huchelgeisiau i gynyddu capasiti a sicrhau bod pobl yn cael eu gweld gan y person iawn, y tro cyntaf.

Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu capasiti’r GIG a lleihau hyd amseroedd aros, rydym wedi sefydlu canolfannau diagnostig cyflym ar draws Cymru i gyflymu diagnosis a thriniaeth canser drwy leihau’r amser rhwng yr apwyntiad meddyg teulu cychwynnol a chael diagnosis. Bydd materion o frys clinigol yn cael blaenoriaeth wrth inni barhau i gynllunio a lleihau hyd yr amseroedd aros ar gyfer triniaethau mwy rheolaidd.

Er mwyn helpu i roi cymorth i bobl cyn gynted â phosibl, rydym wedi cyflwyno’r gwasanaeth 111 ar draws Cymru. Mae help, cyngor a chyfeirio at y gwasanaeth cywir ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos lle bynnag yr ydych yn byw yng Nghymru.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu HIV a mynd i’r afael â’r stigma annerbyniol y mae’r rheini sy’n byw gyda HIV yn dal i’w brofi. Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddwyd ymgynghoriad gennym ar y cynllun drafft sydd wedi’i gydgynhyrchu gyda sefydliadau, arbenigwyr a phobl sydd â phrofiad uniongyrchol.

Ym mis Tachwedd, gwnaethom gwblhau adolygiad gyllid hosbisau a sicrhau bod £2.2m ychwanegol ar gael i hosbisau Cymru, gan gynnwys bron i £900,000 ar gyfer darpariaeth hosbisau plant.

Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar les emosiynol a meddyliol pobl yn ogystal â’u hiechyd corfforol. Cafodd iechyd meddwl a lles flaenoriaeth gennym yng nghyllideb 2022-23 ac yn y flwyddyn hon yn unig bydd y gyllideb wedi’i chlustnodi ar gyfer iechyd meddwl a ddarperir i’r byrddau iechyd lleol yn fwy na £760m. Rydym hefyd yn buddsoddi bron i £16.5m i gyflwyno cynlluniau peilot mewngymorth mewn ysgolion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS) ledled Cymru.

Mae’r pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc ar ei newydd wedd bellach ar gael drwy’r wefan addysgol Hwb. Mae’r platfform dysgu digidol cenedlaethol yn cynnwys dolenni at ystod o wefannau, apiau a llinellau cymorth sydd wedi’u cynllunio i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc.

2. Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed

Mae’r bobl sy’n ein helpu i ofalu am aelodau mwyaf agored i niwed ein teuluoedd wedi bod ar reng flaen y pandemig. Credwn y dylai eu cyfraniad gael ei gydnabod yn llawn. Dyna pam y byddwn ni, yng Nghymru, yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal o fis Ebrill 2022. Bydd hyn yn berthnasol i weithwyr cofrestredig mewn cartrefi gofal ac mewn gwasanaethau gofal cartref i oedolion a phlant sydd wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru ac i Gynorthwywyr Personol a gyflogir gan rywun sy’n cael taliad uniongyrchol gan awdurdod lleol.

Yn ogystal, gwnaethom gyhoeddi taliad untro £1,498 (gros) i weithwyr gofal cymdeithasol, sy’n gymwys i gael y Cyflog Byw Gwirioneddol, i ddangos ein hymrwymiad i wella statws, telerau ac amodau, a llwybrau gyrfa i weithwyr gofal cymdeithasol.

Rydym hefyd yn bwrw ymlaen yn gadarn â buddsoddi yn y ffordd yr ydym yn darparu gofal cymdeithasol. Rydym eisoes wedi sefydlu Fframwaith Adfer Gofal Cymdeithasol a Chronfa Adfer Gofal Cymdeithasol gysylltiedig, sy’n werth £65m. O ran y tymor hwy, rydym wedi lansio’r Gronfa Tai â Gofal sef rhaglen gyfalaf sydd â chyllideb flynyddol o £60.5m i ariannu cartrefi cymdeithasol carbon isel arbenigol a llety i bobl ag anghenion gofal a chymorth. Bydd yn canolbwyntio ar bobl hŷn, pobl â dementia, pobl ag anabledd dysgu a phobl â heriau iechyd meddwl, yn ogystal â helpu gofalwyr di-dâl. Ein nod yw cynyddu ein stoc o dai gofal hyd at draean dros y pedair blynedd nesaf.

Gan edrych ar ddyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru, rydym wedi sefydlu Grŵp Arbenigol a fydd yn cyhoeddi ei adroddiad yr haf hwn. Bydd yn rhoi cyngor i gefnogi ein huchelgais o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol a fydd ar gael am ddim pryd bynnag a lle bynnag y bo’i angen, gan barhau fel gwasanaeth cyhoeddus.

O ran ein plant a’n pobl ifanc, gwyddom fod ein rhaglen Dechrau’n Deg hynod lwyddiannus yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. O ddechrau’r tymor nesaf, byddwn yn dechrau ehangu gwasanaethau Dechrau’n Deg i 2,500 yn ychwanegol o blant o dan bedair oed fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau darpariaeth blynyddoedd cynnar i blant dwy flwydd oed ledled Cymru. Byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar sicrhau mynediad cyfartal i’n cymunedau mwy difreintiedig a’n nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ogystal, ehangwyd ein Cynnig Gofal Plant fel bod rhieni ar absenoldeb mabwysiadu yn gallu elwa arno o fis Ebrill 2022 a byddwn yn ei ehangu ymhellach i gefnogi rhieni sydd mewn addysg neu hyfforddiant o fis Medi 2022.

Rydym wedi anrhydeddu ein hymrwymiad i gynnig yr un amddiffyniad i bob plentyn yng Nghymru rhag ymosodiad ag oedolion. Ym mis Mawrth 2022, daeth deddfwriaeth i rym ac ymunodd Cymru â mwy na 60 o wledydd i wneud cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon.

Rydym yn bwrw ymlaen â’n hymrwymiad i ddileu elw preifat o ofal cymdeithasol a datblygu ein strategaeth ehangach i gadw teuluoedd gyda’i gilydd lle bynnag y bo modd ac i leihau nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n derbyn gofal oddi cartref. Rydym wedi cefnogi datblygiad 6 chanolfan ranbarthol yn 2021-22 i ddiwallu anghenion plant ag anghenion cymhleth mor agos i’w cymunedau cartref â phosibl.

Mae’r rhai sy’n gadael gofal yn aml yn wynebu heriau eithriadol wrth iddynt ddod o hyd i’w ffordd yn y byd – nid oes ganddynt bob amser y rhwydwaith o gymorth i’w helpu sydd gan lawer o bobl ifanc wrth iddynt ddod yn oedolion. Dyna pam y byddwn yn treialu incwm sylfaenol ar gyfer grŵp o bobl ifanc sy’n gadael gofal. Mae ein dull gweithredu wedi denu cryn ddiddordeb rhyngwladol ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein pobl ifanc gyntaf i’r cynllun yn ystod y misoedd nesaf.

3. Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol

Rhaid i adferiad cryf yng Nghymru sy’n addas ar gyfer y tymor hir fod yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd, gyda buddsoddiad yn niwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.

Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi buddsoddi mwy na £2.6bn i gefnogi busnesau, gyda’r nod o’u helpu i oroesi ac i ddiogelu swyddi pobl. Darparwyd y prif becynnau cymorth economaidd drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd, y Gronfa Adferiad Diwylliannol a’r grantiau cysylltiedig ag ardrethi annomestig. Cafodd y rhain eu goruchwylio gennym ni, ond eu talu i eiddo busnes cymwys drwy’r awdurdodau lleol. Roedd ein cymorth economaidd yn ychwanegiad hanfodol at gynlluniau Llywodraeth y DU o ran diogelu swyddi yma yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gydag undebau llafur, cyflogwyr yn y sector cyhoeddus ac eraill i hyrwyddo a galluogi gwaith teg, ac i fynd i’r afael â chamfanteisio ar weithwyr a chaethwasiaeth fodern. Cyflwynwyd Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i’r Senedd ym mis Mehefin. Ar ôl ei basio’n gyfraith, bydd yn creu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol statudol ac yn gosod dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol newydd ar y llywodraeth a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Helpodd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol ni i lunio ein hymateb i’r pandemig. Mae wedi cyfarfod yn aml dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae wedi bod yn gyfrwng hanfodol inni allu rhannu gwybodaeth a cheisio cyngor ac arbenigedd gan bartneriaid cymdeithasol, gan gynnwys Undebau Llafur a chynrychiolwyr cyflogwyr, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r pwysau sy’n wynebu busnesau, gweithwyr a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.Rhaid i adferiad cryf yng Nghymru sy’n addas ar gyfer y tymor hir fod yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd, gyda buddsoddiad yn niwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.

Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi buddsoddi mwy na £2.6bn i gefnogi busnesau, gyda’r nod o’u helpu i oroesi ac i ddiogelu swyddi pobl. Darparwyd y prif becynnau cymorth economaidd drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd, y Gronfa Adferiad Diwylliannol a’r grantiau cysylltiedig ag ardrethi annomestig. Cafodd y rhain eu goruchwylio gennym ni, ond eu talu i eiddo busnes cymwys drwy’r awdurdodau lleol. Roedd ein cymorth economaidd yn ychwanegiad hanfodol at gynlluniau Llywodraeth y DU o ran diogelu swyddi yma yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gydag undebau llafur, cyflogwyr yn y sector cyhoeddus ac eraill i hyrwyddo a galluogi gwaith teg, ac i fynd i’r afael â chamfanteisio ar weithwyr a chaethwasiaeth fodern. Cyflwynwyd Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i’r Senedd ym mis Mehefin. Ar ôl ei basio’n gyfraith, bydd yn creu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol statudol ac yn gosod dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol newydd ar y llywodraeth a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Helpodd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol ni i lunio ein hymateb i’r pandemig. Mae wedi cyfarfod yn aml dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae wedi bod yn gyfrwng hanfodol inni allu rhannu gwybodaeth a cheisio cyngor ac arbenigedd gan bartneriaid cymdeithasol, gan gynnwys Undebau Llafur a chynrychiolwyr cyflogwyr, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r pwysau sy’n wynebu busnesau, gweithwyr a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Newidiodd y pandemig y ffordd rydym i gyd yn byw, yn gweithio ac yn teithio ac er ei bod wedi bod yn gyfnod anodd inni i gyd, mae’r patrymau gwaith newydd hyn hefyd wedi dangos rhai manteision cymdeithasol ac amgylcheddol posibl. Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd ein Strategaeth Gweithio o Bell gan nodi ein cynlluniau i gefnogi targed o 30% ar gyfer gweithio o bell. Yn Llywodraeth Cymru, byddwn yn arwain drwy esiampl ac yn anelu at sicrhau na fydd mwy na 50% o’n gweithlu yn gweithio o swyddfa ganolog ar unrhyw un adeg. Mae rhwydwaith o 25 o ganolfannau peilot gweithio o bell bellach ar agor gan ddarparu mannau i weithio o bell mewn cymunedau lleol.

Mae’r stryd fawr leol yn bwysig ac ym mis Rhagfyr cadarnhawyd bod Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a Cambria Cydfuddiannol Ltd (CCL), wedi cyhoeddi ei bwriad i ddatblygu ei dull o ddarparu banc cymunedol yng Nghymru, a fydd yn anelu at ddarparu gwasanaethau bancio manwerthu pob dydd mewn cymunedau ar draws Cymru.

Gan adeiladu ar lwyddiant y Fforwm Gofal Cymdeithasol, a’n helpodd i ddarparu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal, rydym yn sefydlu Fforwm Manwerthu, sy’n gweithio i ymgorffori gwaith teg yn ein gweledigaeth ar gyfer manwerthu.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r sgiliau a’r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl i sicrhau cyflogaeth o ansawdd da mewn economi sero net. Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau yn cynnwys pum maes gweithredu allweddol:

  • pobl ifanc yn gwireddu eu potensial
  • mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd
  • hyrwyddo gwaith teg i bawb
  • cefnogi pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor i weithio
  • meithrin diwylliant dysgu am oes

4. Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i gefnogi economi ddi-garbon, sy’n strategaeth 10 mlynedd, ochr yn ochr â’r gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr 2021. Mae hyn yn dangos mor agos y mae ein buddsoddiadau’n cyd-fynd â’n hymdrechion i gefnogi ein targed sero net ar gyfer 2050.

Rydym yn parhau i gyflawni ein huchelgais ar gyfer rhwydweithiau trafnidiaeth rhanbarthol integredig cynaliadwy yng Nghymru drwy ein rhaglenni Metro. Mae cynlluniau peilot bysiau Fflecsi yn darparu gwasanaethau bws i bobl ledled Cymru, a hynny ar adegau ac mewn lleoedd sy’n addas iddyn nhw. Mae gwelliannau i orsafoedd yn mynd rhagddynt ar draws rhaglenni’r Metro, gan gefnogi gwell cyfleusterau teithio llesol mewn cyfnewidfeydd allweddol fel y gall pobl ddewis ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio.

Er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar y car preifat, mae arnom angen system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n gweithio i bawb yng Nghymru. Rhaid i hyn gynnwys gwasanaeth bws sy’n rhoi blaenoriaeth i ddarparu gwasanaeth addas a dibynadwy uwchlaw elw preifat. Mae ein hymgynghoriad Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn: Cynllunio Bysiau fel Gwasanaeth Cyhoeddus yn nodi ein cynlluniau i ailgynllunio gwasanaethau bysiau yng Nghymru a chreu gwasanaeth mwy cydgysylltiedig sy’n diwallu anghenion pobl.

Rydym yn hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn ehangach ac yn bwrw ymlaen ag argymhellion adroddiad Comisiwn Burns ar Goridor Casnewydd yr M4. Ym mis Mawrth 2022, lansiwyd cynllun gennym a oedd yn darparu teithio am ddim ar fysiau yng Nghasnewydd. Treialwyd hyn i annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio gwyrddach. Rydym hefyd wedi darparu £1m i annog mwy o bobl i feicio drwy dreialu cynlluniau benthyca beiciau trydan, sy’n cynnig amrywiaeth o feiciau trydan â chymorth batri ar fenthyciad tymor canolig i’r trigolion, a hynny am ddim.

Gall teithio llesol o’r math hwn hefyd gyfrannu at wella iechyd corfforol a meddyliol. Er mwyn annog pobl i feicio yn hytrach na defnyddio ceir ar gyfer teithiau byr, rydym yn buddsoddi £50m mewn llwybrau beicio a chyfleusterau beicio newydd.

Mae lleihau teithio diangen i’r gwaith hefyd yn gofyn am fuddsoddi yn y seilwaith digidol yng Nghymru. Rydym wedi darparu band eang gigabit wedi’i ddiogelu at y dyfodol i bron i 30,000 o safleoedd drwy gyflwyno ein cynllun band eang ffibr llawn ein hunain gydag Openreach, ac rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i ychwanegu at gynllun talebau band eang gigabit Llywodraeth y DU. Hyd yma, mae’r ychwanegiad hwn wedi helpu mwy na 2,000 o gartrefi a busnesau i gael eu cysylltu.

Rydym wedi nodi ein huchelgais i ddiwygio’r ffordd y caiff amaethyddiaeth ei chefnogi yn y dyfodol, gyda mwy o bwyslais ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel a gwobrwyo ffermwyr am ehangu’r dull o sicrhau canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol cysylltiedig. Er mwyn cyflawni hyn, mae gwaith ymgysylltu’n parhau â’r gymuned ffermio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a byddwn yn cyflwyno Bil Amaethyddiaeth yn ddiweddarach yn 2022.

Rydym wedi atgyfnerthu ein hymrwymiad i ymestyn Cynllun y Taliad Sylfaenol, sef prif ffynhonnell cymorth ffermio uniongyrchol, ac i ymestyn contractau Glastir tan ddiwedd 2023. Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithredu cyfnod pontio wrth symud tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol.

5. Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn

Wedi inni ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019, gwnaethom gyhoeddi Cymru Sero Net ym mis Hydref, sy’n nodi sut y byddwn yn cyflawni ein hymrwymiadau o ran cyllidebu carbon. Mae hyn yn rhan o’n targed cyfreithiol rwymol o gyrraedd sero net erbyn 2050.

Ym mis Tachwedd 2021, cynhaliwyd y gynhadledd hinsawdd fyd-eang COP26 yn Glasgow a chafodd Llywodraeth Cymru ei chynrychioli’n dda o fewn dirprwyaeth y DU. Roedd hyn yn rhoi Cymru ar lwyfan y byd yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a gwnaed cynnydd byd-eang ystyrlon ar fethan, cyllid byd-eang, a’r newid i ddulliau ynni mwy adnewyddadwy a charbon isel. Rhoddodd Llywodraeth Cymru arweiniad rhyngwladol drwy ddod yr unig wlad yn y DU i ymuno â’r Gynghrair y Tu Hwnt i Olew a Nwy.

Cynhaliwyd COP Cymru ochr yn ochr â COP26, gyda rhaglen wythnos lawn o ddigwyddiadau rhithwir yn edrych ar y camau gweithredu ar yr hinsawdd ledled Cymru.

Bydd y sector cyhoeddus yn parhau i arwain y ffordd. Er enghraifft, o fis Ionawr 2022 mae’n ofynnol i bob adeilad ysgol a choleg newydd gyrraedd targedau carbon sero net. Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi galluogi Ysbyty Treforys, Abertawe, i greu ei fferm solar ei hun, sydd eisoes wedi rhagori ar y disgwyliadau drwy ddarparu digon o drydan nid yn unig i gyfrannu at ei anghenion pŵer dyddiol, ond hefyd i ddarparu ar gyfer 100% o’i alw am 50 awr. Mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan hefyd wedi’u gosod ar draws ystad y GIG i gynyddu’r defnydd o gerbydau trydan a lleihau allyriadau carbon.

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol ynni adnewyddadwy i symud oddi wrth y defnydd o lo, olew a nwy ar gyfer cynhyrchu ynni. Rydym yn darparu £31m i brosiect Morlais, cynllun ynni llanw mawr oddi ar arfordir Ynys Môn. Ei nod yw datblygu technolegau cynhyrchu ynni o’r llanw drwy ddarparu cysylltedd grid. Bydd hyn o fudd i’r amgylchedd drwy ddarparu mathau mwy cynaliadwy o ynni, a bydd hefyd yn creu swyddi.

Rydym yn blaenoriaethu ynni’r haul ac wedi dyfarnu bron i £2.35m ar gyfer ehangu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned.

Tair ysgol, cartref gofal ac amlosgfa yng Nghasnewydd fydd yr adeiladau cyntaf i gael gosod paneli solar fel rhan o’r prosiect hwn. Rhagwelir y bydd hyn yn arbed 3,700 tunnell o garbon ac yn arwain at filiau ynni is.

Mae effeithiau’r newid yn yr hinsawdd eisoes yn dechrau cael effaith ar Gymru wrth i’r perygl lifogydd gynyddu. Mewn ymateb i hyn, cyhoeddwyd ein rhaglen lifogydd fwyaf erioed, gan fuddsoddi mwy na £214m dros dair blynedd. Bydd hyn yn ariannu mesurau lliniaru a rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru.

Mae tomenni glo yn etifeddiaeth o orffennol glofaol Cymru, ac ym mis Mai cyhoeddwyd Papur Gwyn a oedd yn nodi ein cynlluniau ar gyfer darparu dull cyson o reoli, monitro a goruchwylio tomenni sborion glo. Roedd hyn yn dilyn adroddiad Comisiwn y Gyfraith a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022. Rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid mewn Tasglu i ddarparu dull cyson o ymdrin â’r drefn arolygu bresennol. Mae’r rhaglen arolygu eisoes wedi nodi gwaith cynnal a chadw sydd ei angen i sicrhau sefydlogrwydd safleoedd, ac rydym wedi ymrwymo £44.4m dros y tair blynedd nesaf i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn.

Mae gwarchod yr amgylchedd naturiol a diogelu bioamrywiaeth yn hanfodol i iechyd y blaned yn y dyfodol. Lansiwyd Fy Nghoeden, Ein Coedwig, gan gynnig coeden am ddim i bob cartref yng Nghymru ym mis Mawrth 2022. Cyhoeddwyd tri safle ar gyfer coedlannau coffa, a hynny yn Wrecsam, Dyffryn Tywi a Chaerffili, i gofio pawb a fu farw yn ystod y pandemig. Yn ogystal, lansiwyd Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd i wella’r coetiroedd presennol a chreu rhai newydd fel rhan o’n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Coedwig Genedlaethol yng Nghymru.

6. Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi

Gwyddom fod y pandemig wedi effeithio’n arbennig o wael ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys yn addysgol. Cyhoeddwyd ein cynllun Adnewyddu a Diwygio ym mis Mehefin 2021 i gefnogi lles a chynnydd dysgwyr mewn ymateb i COVID-19 a chefnogwyd hyn gan £278m o gyllid yn 2021-22.

Rydym wedi penodi a chadw dros 1,800 o staff mewn ysgolion i gefnogi dysgwyr fel rhan o’r ymateb adfer a dilyniant ers y pandemig i sicrhau nad oes yr un dysgwr yn cael ei adael ar ôl.

Rydym yn edrych tua’r dyfodol hefyd drwy archwilio ffyrdd o foderneiddio’r diwrnod ysgol a’r flwyddyn ysgol fel eu bod yn gweithio’n well i ddysgwyr, eu teuluoedd a’r gweithlu addysg. Rydym wedi cynnal prosiectau peilot mewn 13 o ysgolion ac un coleg i dreialu diwrnod ysgol estynedig. Cymerodd dros 1,800 o ddysgwyr ran mewn treial 10 wythnos a oedd yn darparu pum awr ychwanegol yr wythnos i ddysgwyr.

Bydd ein Cwricwlwm newydd i Gymru, a gyflwynir fis Medi 2022, yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyrraedd eu llawn botensial mewn bywyd.

Fel rhan o’n hymrwymiad i leihau anghydraddoldebau, bydd pob disgybl ysgol gynradd yn cael cinio ysgol am ddim erbyn mis Medi 2024. Ni ddylai unrhyw blentyn yng Nghymru fynd yn llwglyd a byddwn yn sicrhau y bydd pob plentyn oedran cynradd yn cael o leiaf un pryd iach y dydd.

Eleni, gwnaethom ddarparu 139 o gynlluniau Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf a darparwyd 7,740 o leoedd i blant.

Cyflwynodd y Rhaglen hyd at 185,760 o brydau iach a 92,880 awr o weithgarwch corfforol.

Mae ein henw da rhyngwladol am greu cerddoriaeth yn rhan o bwy ydym ni yng Nghymru, ac rydym am sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fod yn rhan o’r traddodiad diwylliannol gwych hwnnw. Er mwyn sicrhau nad yw arian yn rhwystr i bobl ifanc fynd ar drywydd diddordeb mewn cerddoriaeth, rydym wedi lansio’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol ac wedi cyhoeddi’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth. Bydd ein hysgolion yn chwarae rhan ganolog yn hyn, gyda chymorth £13.5m dros y tair blynedd nesaf.

Gwnaethom gyflwyno Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a basiwyd ym mis Mehefin 2022, gan ddwyn yr holl sectorau addysg ôl-orfodol ynghyd am y tro cyntaf. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr o bob oed ar draws pob lleoliad yn cael eu cefnogi â’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo drwy gydol eu bywydau a’u gyrfaoedd.

Yn allweddol i hyn fydd cyflawni ein Gwarant i Bobl Ifanc, a fydd yn rhoi’r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb dan 25 oed. Erbyn diwedd mis Mawrth 2022, roedd dros 2,700 o bobl ifanc wedi defnyddio’r gwasanaeth. Bydd y rhaglen uchelgeisiol yn helpu i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll yng Nghymru ar ôl y pandemig. Rhwng 2021 a 2023 byddwn yn buddsoddi £2.8bn yn y warant.

Mae hyn yn cynnwys gwario £366m dros y tair blynedd nesaf tuag at ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Bydd hyn yn helpu i gefnogi’r garreg filltir genedlaethol o sicrhau bod leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed Cymru mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050, a dileu’r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r gyfradd yn y DU erbyn 2050.

Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi lansio cronfa gwerth £1m i gefnogi hyd at 500 o bobl ddi-waith a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ddechrau eu busnes eu hunain.

7. Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math

Gwnaethom gyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol, a gydgynhyrchwyd gyda phobl o gymunedau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Nod y cynllun yw mynd i’r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol. Mae’r camau gweithredu’n canolbwyntio ar y ddwy flynedd nesaf, gyda’r weledigaeth o ddod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030.

Er mwyn gwella argaeledd, ansawdd a hygyrchedd y dystiolaeth sydd ei hangen i lywio’r broses o lunio polisïau yn y dyfodol ac i roi darlun gwybodus anghydraddoldebau ledled Cymru, rydym wedi sefydlu tair uned dystiolaeth benodol ar gyfer Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd o fewn Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi ei gwneud yn orfodol i addysgu hanes a phrofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol fel rhan o hanes Cymru yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Rydym hefyd wedi ariannu prosiectau peilot i helpu i wella cynrychiolaeth yn y sector diwylliant a’r rhwydwaith amgueddfeydd ac wedi cefnogi Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu eu Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltu, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022.

Dylai pawb yng Nghymru deimlo’n ddiogel ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr trais domestig yn cael eu cefnogi wrth roi tystiolaeth mewn achosion o gam-drin domestig. Ym mis Mai, cyhoeddwyd ein strategaeth gryfach ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Rydym wedi buddsoddi mwy na £400,000 mewn 13 o gyfleusterau newydd ar draws Cymru, sef y cyntaf o’u math yn y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod lleisiau dioddefwyr wrth wraidd y broses gyfiawnder ac yn meithrin amgylchedd diogel ar gyfer rhoi tystiolaeth.

Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn chwarae rhan bwysig o ran meithrin ymddiriedaeth mewn cymunedau ac atal troseddu. Rydym wedi cadw’r 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yr oeddem eisoes wedi’u hariannu yng Nghymru ac erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon, bydd 100 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol wedi eu recriwtio ac yn eu swyddi ar draws Cymru.

Ynghyd â’r Panel Arbenigol LHDTC+ rydym wedi parhau i ddatblygu’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ a fydd yn cael ei gyhoeddi eleni. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o gamau radical a fydd yn ceisio sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.

Mewn ymateb i Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19, sefydlodd y Prif Weinidog y Tasglu Hawliau Anabledd, a ddaeth â phobl anabl â phrofiad byw, y llywodraeth a sefydliadau cynrychiadol ynghyd i edrych ar sut y gallwn fynd i’r afael â’r materion a dileu’r rhwystrau sy’n effeithio ar fywydau llawer o bobl anabl yng Nghymru.

Rydym wedi uwchraddio gorsafoedd trenau i’w gwneud yn fwy hygyrch i bobl anabl ac wedi sicrhau bod cerbydau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes yn cydymffurfio â gofynion symudedd. Mae £10m wedi helpu i ddarparu mynediad heb risiau mewn 11 o orsafoedd ar draws y rhwydwaith gan gynnwys:

  • Caerffili
  • Cathays
  • Trefforest
  • Tref y Barri
  • y Fflint
  • Cwmbrân
  • y Fenni
  • Dinbych-y-pysgod
  • y Drenewydd
  • Llanelli
  • Llwydlo

Mae’r Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o sefydliadau a busnesau ac wedi gweithio’n agos gyda gwasanaeth Busnes Cymru. Roedd yr hyrwyddwyr yn hanfodol i sicrhau bod y Warant i Bobl Ifanc a rhaglenni cyflogadwyedd eraill wedi’u cynllunio a’u gweithredu gydag ymwybyddiaeth o’r rhwystrau a brofir gan bobl anabl.

Rydym yn gofalu am ein gilydd yng Nghymru, a chymunedau gwydn a chefnogol yw sylfaen ein cymdeithas. Rydym yn parhau i gefnogi sector gwirfoddol Cymru a byddwn yn buddsoddi bron i £30m dros y tair blynedd nesaf.

Mae Cynllun Adfer ar ôl Covid i’r Trydydd Sector wedi’i lunio mewn cydweithrediad â Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac mae’n pennu blaenoriaethau ar y cyd. Ym mis Awst 2021, lansiwyd trydydd cam Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector, gan sicrhau bod £6.5m ar gael i helpu sefydliadau hyfyw yn y sector gwirfoddol i ddatblygu’r cynaliadwyedd a’r gwydnwch sydd eu hangen ar gyfer y tymor hir.

8. Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu

Mae datblygu Amgueddfa i’r Gogledd yn rhan raglen fwy o weithgarwch sy’n ymwneud ag ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Yn 2021-2022, ymgynghorodd Amgueddfa Cymru â chymunedau lleol, cynhaliodd astudiaeth ddichonoldeb a datblygodd weledigaeth ar gyfer yr Amgueddfa newydd.

Yn y celfyddydau perfformio, mae Theatr Clwyd yn adnabyddus am greu theatr o’r radd flaenaf ac mae’n denu dros 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Rydym wedi darparu hyd at £22m gyllid cyfalaf i gefnogi’r gwaith ailddatblygu trawsnewidiol. Mae hyn yn cynnnwys targed di-garbon sydd ar flaen y gad yn y diwydiant, a mannau pwrpasol ar gyfer creu theatr, dysgu, teuluoedd a llesiant.

Darparwyd cyllid gennym i ganiatáu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd yn ystod ei chanmlwyddiant, er mwyn sicrhau y gallai cymaint o bobl â phosibl gael mynediad i’n diwylliant unigryw a rhannu’r dathliad.

Mae ein treftadaeth ddiwydiannol wedi siapio tirwedd Cymru a gwnaethom gefnogi’r cais i wneud tirwedd lechi’r Gogledd-orllewin yn Safle Treftadaeth y Byd. Roeddem wrth ein bodd pan gafodd y safle ei ychwanegu at Restr Treftadaeth y Byd UNESCO y llynedd, gan ei wneud yn bedwerydd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru.

Mae ein hiaith wedi helpu i’n ffurfio fel cenedl. Ym mis Mawrth, gwnaethom gyhoeddi Cymraeg 2050: Cynllun gweithredu strategaeth y Gymraeg 2022 i 2023, sy’n nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd i symud tuag at ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’n hiaith erbyn 2050.

Er mwyn ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, rydym wedi cyhoeddi 11 o brosiectau cyfalaf mewn naw awdurdod lleol. Mae’r prosiectau’n cynnwys sefydlu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd, cynyddu capasiti mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg presennol, sefydlu canolfannau trochi Cymraeg newydd ac ymestyn y ddarpariaeth trochi Cymraeg bresennol.

Darperir cyllid hefyd i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ar gyfer prosiectau sy’n cynnwys creu cyrsiau blasu ar-lein i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddysgu Cymraeg, heb orfod bod yn rhugl yn Saesneg.

Bydd ein Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg, y buom yn ymgynghori arno yn gynharach eleni, yn chwarae rhan hanfodol yn ein ffordd o feddwl wrth inni ddatblygu pecyn o ymyriadau i gefnogi a gwarchod ein cymunedau unigryw.

Ym mis Chwefror 2022, amlinellwyd ein cynlluniau cychwynnol ar gyfer ardoll ymwelwyr – gan roi pwerau i awdurdodau lleol godi arian yn lleol i’w ailfuddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith lleol sy’n annog dull mwy cynaliadwy o ymdrin â thwristiaeth. Bydd ymgynghoriad ar y cynlluniau hyn yn cael ei lansio yn ystod y misoedd nesaf.

9. Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod tai diogel a fforddiadwy ar gael i bobl Cymru.

Rydym wedi lansio cynlluniau i ymdrin â’r materion cymhleth sy’n ymwneud â pherchnogaeth ail gartrefi, gan gynnwys mynd i’r afael â’r broblem tai anfforddiadwy sy’n effeithio ar lawer o gymunedau lleol. Mae tair elfen i’n dull gweithredu: mynd i’r afael â fforddiadwyedd ac argaeledd tai; diwygio’r fframwaith rheoleiddio; a sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg i’r cymunedau lle mae ganddynt ail gartrefi.

Rydym wedi cynyddu’r lefel uchaf y gall awdurdodau lleol bennu premiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor i 300% (i fyny o 100%) o fis Ebrill 2023. Mae camau eraill yn cynnwys cyllid i sicrhau bod eiddo gwag hirdymor yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.

Dylai ein cartrefi fod yn fan sy’n rhoi sicrwydd inni yn hytrach na bod yn destun pryder.

Mae gennym ddull deublyg o fynd i’r afael â diogelwch adeiladau – cyweirio adeiladau amlfeddiannaeth presennol sydd â diffygion diogelwch tân a diwygio’r gyfundrefn ddiogelwch yng Nghymru.

Rydym wedi darparu £375m dros y tair blynedd nesaf i gyflawni ein rhaglen diogelwch adeiladau ac rydym wedi sefydlu Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, sy’n cynnal arolygon manwl o adeiladau i nodi diffygion.

Bydd y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid, a lansiwyd ym mis Mehefin 2022, yn helpu lesddeiliaid sy’n methu â gwerthu eu heiddo ac sydd mewn caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i faterion yn ymwneud â diogelwch tân.

Mae creu mwy o dai cynaliadwy yn flaenoriaeth – rydym wedi buddsoddi £250m yn ychwanegol yn 2021-22 tuag at sicrhau 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu. Bydd pob cartref cymdeithasol newydd yn awr yn cael ei adeiladu yn unol â safonau ansawdd ac amgylcheddol a fydd yn lleihau faint o ynni a ddefnyddir ganddynt, gan fynd i’r afael â’r galw am dai yng Nghymru yn ogystal â’r argyfwng hinsawdd.

Yr hydref diwethaf, lansiwyd yr ail gylch o gyllid ar gyfer y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio i brofi dulliau arloesol o ddatgarboneiddio cartrefi Cymru. Bydd £50m y flwyddyn am y tair blynedd nesaf yn gwella effeithlonrwydd ynni tai.

Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddwyd ein Cynllun Gweithredu: Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd sy’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal. Achosodd y pandemig newid radical yn ein dull o ymdrin â digartrefedd, ac ers dechrau’r cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, rydym wedi mabwysiadu dull ‘neb heb help’.

Lansiwyd Cynllun Lesio Cymru, gwerth £30m dros y pum mlynedd nesaf, yn genedlaethol ym mis Ionawr. Bydd yn cynyddu mynediad at dai fforddiadwy o safon yn y sector rhentu preifat.

Bydd lleihau terfynau cyflymder i 20mya yn gwella diogelwch ac yn helpu i wneud ein strydoedd yn fwy croesawgar i bawb, ac yn enwedig i blant, cerddwyr a beicwyr. Mae wyth ardal breswyl yn profi cynigion i wneud 20mya yn derfyn cyflymder safonol ledled Cymru mewn ardaloedd preswyl. Cyhoeddwyd ein hymateb i’r ymgynghoriad ym mis Mawrth 2022.

10. Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang

Mae profiad y pandemig wedi dangos yr hyn y gallwn ei wneud drosom ein hunain yng Nghymru pan fydd penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud yn agos atom. Yng Nghymru, ni sy’n gwybod orau beth sy’n gweithio i Gymru. Dyna pam yr ydym wedi sefydlu Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae gan y comisiwn ddau amcan eang – ystyried a datblygu opsiynau ar gyfer diwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, ac ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

O ran diwygio’r Senedd, byddwn yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth mewn ymateb i’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Pleidleisiodd y Senedd i gymeradwyo argymhellion y Pwyllgor ym mis Mehefin 2022, ac rydym wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth o fewn 12 i 18 mis.

Y tu hwnt i waith y comisiwn, rydym wedi ymestyn etholfraint yng Nghymru i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed yn etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol. Cymerodd pedwar awdurdod lleol ran mewn cynlluniau peilot pleidleisio hyblyg yn etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022. Cafodd y cynlluniau peilot eu cynllunio i’w gwneud yn haws i bobl bleidleisio drwy gynnig hyblygrwydd ynghylch pryd a lle y gellir bwrw pleidleisiau drwy ddod â’r blwch pleidleisio yn nes at fywydau pobl o ddydd i ddydd.

Yn lleol ac yn genedlaethol, rydym am sicrhau ein bod yn rheoli ein materion dinesig yn deg ac yn agored. Rydym wedi cyhoeddi cynlluniau i ymgynghori ar becyn o ddiwygiadau i wneud y dreth gyngor yn decach. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth o ddiwygiadau posibl, gan gynnwys ailbrisio ac adolygu ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Mae’r cynllun hwnnw yn parhau i gefnogi tua 270,000 o aelwydydd, ac mae hynny wedi dod yn fwyfwy pwysig yn ystod yr argyfwng costau byw.

Bydd Taith, ein Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu yn rhoi cyfle i ddysgwyr deithio. Rydym wedi buddsoddi hyd at £65m yn y rhaglen hon a gall sefydliadau addysg wneud cais am gyllid fel bod myfyrwyr yn cael y cyfle i dreulio amser dramor.

Adolygu’r Amcanion Llesiant

Cafodd ein 10 amcan llesiant eu pennu yn ein Rhaglen Lywodraethu gychwynnol ym mis Mehefin 2021. Ychwanegwyd camau pellach yn y Rhaglen Lywodraethu a ddiweddarwyd ac a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021.

Bydd yr amcanion hyn yn ein galluogi i sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan fynd i’r afael â’r heriau eithriadol y mae Cymru’n eu hwynebu a chreu sylfaen gynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol adeiladu arni.

Roedd y Rhaglen Lywodraethu ddiwygiedig yn ehangu ac, mewn rhai achosion, yn mireinio’r camau rydym yn eu cymryd i gyflawni’r amcanion yn ymarferol. Bydd y camau diwygiedig hyn yn ein galluogi i ysgogi cynnydd pellach yn erbyn yr amcanion a chreu canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru, yn awr ac yn y dyfodol. Maent yn mabwysiadu ffordd o weithio radical a blaengar i fynd i’r afael â’r heriau dybryd sydd o’n blaenau, gan sicrhau y byddwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ledled Cymru.

Roedd yr adolygiad o wariant tair blynedd a gynhaliwyd fel rhan o’n Cyllideb ar gyfer 2022-23 yn blaenoriaethu’r Rhaglen Lywodraethu (a oedd yn cynnwys ein hamcanion llesiant), a daeth i ben pan gyhoeddwyd y Gyllideb Derfynol ym mis Mawrth 2022. Bydd y Rhaglen Lywodraethu yn parhau i fod yn ganolog i’r buddsoddi a wneir yn ystod tymor y llywodraeth hon.

Mae’r Cabinet yn gyfrifol ar y cyd am ein hamcanion llesiant a’r camau cysylltiedig. Maent yn gydgysylltiedig ac wedi’u seilio ar y meysydd sydd wedi’u datganoli inni o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae pob amcan llesiant yn cyfrannu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol at y saith nod llesiant, gan atgyfnerthu ei gilydd fel set sy’n cyd-fynd yn agos â’i gilydd. Mae llawer o’r camau hefyd yn cyfrannu at sawl amcan llesiant.

Wedi blwyddyn o dymor y Senedd hon, rydym wedi adolygu ein hamcanion llesiant ac rydym o’r farn eu bod yn parhau i fod yn feysydd lle gallwn wneud y cyfraniad mwyaf i’r nodau llesiant.

WG45043