Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton, yn atgoffa pobl i ddilyn camau syml i amddiffyn eu hunain rhag y risg o ddal COVID-19.
Mae'r rhain yn cynnwys cael eich brechu, gwisgo masgiau wyneb mewn mannau caeedig gorlawn a chymryd prawf llif unffordd os oes gennych symptomau.
Daw ei sylwadau wrth i achosion coronafeirws gynyddu unwaith eto yng Nghymru. Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod gan un person ym mhob 30 COVID-19.
Mae achosion o'r isdeipiau omicron BA.4 a BA.5 wedi cynyddu ledled y DU. BA.5 bellach yw’r prif fath ar draws Cymru.
Dywedodd Syr Frank:
Nid yw’r pandemig ar ben. Er ein bod yn dysgu byw'n ddiogel gydag o, mae angen i ni feddwl o hyd am gymryd y camau syml i'n helpu ni i gadw'n ddiogel a chyfyngu ar ledaeniad coronafeirws.
Mae cyflwyno'r brechlyn yn llwyddiannus wedi lleihau achosion o salwch difrifol yn sylweddol, ond mae'r feirws yn dal i ledaenu'n gyflym yn ein cymunedau.
Er nad yw'n orfodol mwyach, dylai pobl barhau i wisgo masg mewn lleoliadau iechyd a gofal ac mewn mannau gorlawn dan do, yn ogystal â chofio'r holl gamau syml eraill y gallant eu cymryd i atal y lledaeniad, yn enwedig o amgylch pobl sy'n fwy agored i niwed.
Gallwn barhau i ddiogelu ein gilydd a diogelu Cymru drwy wneud y canlynol:
- Cael ein brechu
- Sicrhau hylendid dwylo da
- Aros gartref a chyfyngu ar ein cysylltiad ag eraill os ydyn ni’n sâl
- Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau gorlawn dan do
- Cwrdd ag eraill yn yr awyr agored os yw’n bosibl
- Pan fyddwn dan do, cynyddu’r awyru a gadael awyr iach i mewn
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod profion llif unffordd ar gael am ddim tan ddiwedd mis Gorffennaf.
Yr wythnos nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei strategaeth frechu gyda manylion y dos atgyfnerthu nesaf yn yr hydref.
Ychwanegodd y Prif Swyddog Meddygol:
Y brechlyn yw'r ffordd orau i amddiffyn eich hun ac eraill rhag coronafeirws. Er nad yw'r brechlyn yn atal trosglwyddiad yn llwyr, mae'n cynnig amddiffyniad rhag salwch difrifol ac yn lleihau'r risg o fynd i'r ysbyty.
Mae’r brechlyn yn dal i fod ar gael i chi os nad ydych wedi cael eich cwrs llawn, neu os oeddech yn rhy sâl i gael pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn, a byddwn yn annog rhieni i feddwl am fanteisio ar y brechlyn i'w plant dros fisoedd yr haf i helpu i leihau unrhyw darfu ar eu haddysg yn ystod tymhorau’r hydref a'r gaeaf. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno pigiadau atgyfnerthu’r hydref yng Nghymru.
Mae rhai o'n hysbytai yn adrodd am fwy o achosion COVID-19 ac wedi penderfynu cyfyngu ar ymweliadau ar hyn o bryd. Os ydych chi'n ymweld â lleoliad iechyd, gwisgwch fasg. Os ydych chi'n teimlo'n sâl, ewch i adrannau achosion brys dim ond os yw'n argyfwng go iawn. Gallwch gael cyngor gan GIG 111 Cymru dros y ffôn neu ar-lein a gall eich fferyllydd lleol hefyd roi cyngor a meddyginiaeth ichi.