Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bod gwneuthurwr grisiau ym Mhowys yn ehangu ei weithrediadau ar safle newydd, gan helpu i ddiogelu swyddi a chreu cyfleoedd cyflogaeth newydd, diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Bydd Boys and Boden Limited o'r Trallwng, masnachwr adeiladu rhanbarthol ers 1895, yn defnyddio Grant Datblygu Eiddo gwerth £232,000 gan Lywodraeth Cymru i ehangu is-adran gweithgynhyrchu grisiau'r busnes, Pear Stairs, ar hen safle Laura Ashley yn y Drenewydd.
Bydd y symudiad yn rhoi mwy o le angenrheidiol i Pear Stairs, sy'n gwneud ac yn danfon grisiau ledled y DU. Bydd hefyd yn gweld safle'r Drenewydd sydd mewn cyflwr gwael yn cael ei ailwampio'n llwyr.
Bydd gweithlu Pear Stairs yn cynyddu bron 40% o ganlyniad, gyda 25 o staff newydd yn cael eu recriwtio. Bydd Boys and Boden Limited yn parhau yn y Trallwng.
Dywedodd Dean Hammond, Rheolwr Gyfarwyddwr Boys and Boden Limited:
"Bydd maint y cyfle y gellir ei wireddu drwy symud i'r safle newydd yn y Drenewydd yn ein galluogi nid yn unig i ddiogelu 62 o swyddi presennol ein gweithwyr coed medrus, dylunwyr CAD, amcangyfrifwyr a staff gweinyddol, ond hefyd i gynyddu'r gweithlu 40 y cant drwy greu 25 o swyddi newydd. Rydym yn disgwyl yn llwyr y bydd hyn yn rhoi cyfle i Pear Stairs adennill ei safle fel cyflenwr grisiau gorau'r DU.
"Rydym wedi mynd yn rhy fawr i’n safle presennol yn Mill Lane, y Trallwng, drwy dwf parhaus o flwyddyn i flwyddyn, ac mae ein ffatri newydd wedi'i chynllunio mewn ffordd sy’n ystyried ein cynlluniau i ehangu nawr ac yn y dyfodol. Bydd yn darparu amgylchedd gwaith eithriadol i'n staff, a fydd yn eu galluogi i ddarparu ein cynnyrch o safon mewn ffordd fwy effeithlon ac effeithiol.
"Mae'n gyfnod cyffrous iawn, ac rydym yn falch o fod yn un o'r prif gyflogwyr sydd wedi hen ennill eu plwyf yn yr ardal ac yn un sy’n poeni am sut rydym yn cefnogi cymunedau Canolbarth Cymru.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Boys and Boden Limited gyda'r cyfle prin i brynu safle newydd o'r maint hwn, a fydd yn caniatáu iddo barhau i weithgynhyrchu yng Nghymru. Bydd hefyd yn creu swyddi newydd gwerthfawr yn y Drenewydd a'r ardal gyfagos ac yn hwyluso twf y busnesau ar adeg hollbwysig i'r cwmni.
"Mae gan Boys and Boden Limited hanes hir a chyfoethog dros ben, ac rwy'n croesawu'n fawr eu hymrwymiad i Bowys ac i Gymru. Mae'r cwmni'n gyflogwr pwysig yn y Canolbarth, a bydd y cyhoeddiad hwn yn rhoi hwb i'r economi leol.
"Mae cefnogi ein busnesau i ehangu a thyfu eu gweithluoedd yn hanfodol i'n huchelgeisiau ar gyfer economi fwy llewyrchus yng Nghymru ar ôl y pandemig.
"Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Boys and Boden Limited a'i adran Pear Stairs ar gyfer y dyfodol.