Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd am wybod ein bod yn rhoi caniatâd i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Mae Victoria Prentis AS, Gweinidog Gwladol y Deyrnas Unedig dros Ffermio, Pysgodfeydd a Bwyd wedi gofyn am gytundeb i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022 ("y Rheoliadau") a fydd yn gymwys i Brydain Fawr.

Caiff yr OS uchod ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 22(3) a 54(3) o Reoliad  (UE) 2017/625  Senedd Ewrop a'r Cyngor (“Rheoliadau’r Rheolaethau Swyddogol”).

Mae'r OS yn diwygio Deddfwriaeth yr UE ac yn darparu ar gyfer trefn ar gyfer Prydain Fawr sy’n seiliedig ar risg i bennu pa mor aml y cynhelir gwiriadau. Bydd yn caniatáu newid pa mor aml y cynhelir gwiriadau o iechyd planhigion ar lwybrau mewnforio penodol, gan ddibynnu ar lefel y risg i iechyd planhigion ym Mhrydain Fawr.  Bydd yr offeryn yn gymwys yn yr un modd ag i fewnforion o wledydd y tu allan i’r UE ag i nwyddau blaenoriaeth uchel o aelod-wladwriaethau’r UE, y Swistir a Liechtenstein.

Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 30 Mehefin 2022 i ddod i rym ar 22 Gorffennaf 2022.

Unrhyw effaith y gallai'r Offeryn Statudol ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Gwnaeth diwygiadau blaenorol i’r Amodau Ffytoiechydol gywiriadau yr oedd eu hangen i'r drefn rheoleiddio iechyd planhigion. Eu heffaith oedd ehangu cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru drwy roi swyddogaethau heb lyffethair iddynt (yn rhinwedd eu swydd fel 'Awdurdod Cymwys' i Gymru). Bydd y Gweinidog am nodi nad yw'r Rheoliadau yn trosglwyddo unrhyw swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol.

Pwrpas y diwygiadau

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer trefn ar gyfer Prydain Fawr sy’n seiliedig ar risg i bennu pa mor aml y cynhelir gwiriadau. Bydd yn caniatáu newid pa mor aml y cynhelir gwiriadau o iechyd planhigion ar lwybrau mewnforio penodol, gan ddibynnu ar lefel y risg i iechyd planhigion ym Mhrydain Fawr.  Bydd yr offeryn yn gymwys yn yr un modd ag i fewnforion o wledydd y tu allan i’r UE ag i nwyddau blaenoriaeth uchel o aelod-wladwriaethau’r UE, y Swistir a Liechtenstein.

Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi manylion tarddiad, diben ac effaith y diwygiadau, ar gael yma:

The Official Controls (Plant Health) (Frequency of Checks) Regulations 2022 (legislation.gov.uk)

Pam mae caniatâd wedi’i roi

Mae caniatâd wedi'i roi i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn mewn perthynas â Chymru, ac ar ei rhan, er hwylustod, sicrhau effeithlonrwydd a diogelu bioddiogelwch drwy gyflwyno mesurau amddiffyn nwyddau planhigion sydd mewn perygl ledled y DU. Mae'r gwelliannau wedi'u hystyried yn llawn ac nid oes unrhyw gwahaniaeth o ran polisi.