Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data am awdurdodau’r heddlu, tân a pharciau cenedlaethol ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Refeniw

Yn 2021-22, bu cynnydd o 4.3% i £9.5 biliwn yng nghyfanswm gwariant refeniw gros awdurdodau lleol Cymru. Roedd gwariant gros y pen yn £2,996 neu £124 yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

Cyn effaith y dirwasgiad a'r mesurau cyni a ddaeth yn ei sgil, adroddwyd yn rheolaidd am gynnydd blynyddol o 5% neu 6% ond ers 2010-11, dim ond yn ystod pedair blynedd yn unig y gwelwyd twf sy'n uwch na 2%. 

Mae hyn wedi cael effaith amrywiol gan ddibynnu ar y maes gwasanaeth, er bod newidiadau o ran dosbarthu yn golygu y dylid bod yn ofalus wrth ddadansoddi dros gyfnod o amser. Yn gyffredinol, mae gwasanaethau statudol fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi cael eu diogelu (ac ym maes gwasanaethau cymdeithasol y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn gwariant) ond, mewn gwasanaethau eraill fel llyfrgelloedd, ffyrdd a thrafnidiaeth a chynllunio, gwelwyd gostyngiadau cyffredinol ers 2010-11. Addysg a gwasanaethau cymdeithasol sydd i gyfrif yn awr am 67% o wariant cyffredinol awdurdodau unedol o'i gymharu â 59% yn 2010-11 a 60% ym 1999-2000.

Cyfalaf

Bu cynnydd o 11.4% mewn gwariant cyfalaf yn 2021-22 i £1,475 miliwn neu £465 y pen o'r boblogaeth. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o £151 miliwn ar y flwyddyn flaenorol.

Yn gyffredinol, mae gwariant cyfalaf yn fwy anwadal a gall gael ei effeithio'n sylweddol gan fuddsoddiadau mawr neu addasiadau. Cynyddodd gwariant yn 2021-22 yn rhannol oherwydd cynnydd mawr mewn tai, sy'n cynrychioli 25% o'r gwariant cyfalaf.

Cafodd y rhan fwyaf o'r gwariant cyfalaf hwn ei wario gan awdurdodau unedol. Adroddodd awdurdodau’r heddlu, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol wariant o £61 miliwn, £11 miliwn a £3 filiwn yn eu trefn.

Adroddiadau

Refeniw a gwariant cyfalaf alldro awdurdodau lleol: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 424 KB

PDF
Saesneg yn unig
424 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.