Cylch Gorchwyl
Mae Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru yn dod â rheoleiddwyr, y llywodraeth a chwmnïau dŵr ynghyd i wella ansawdd dŵr afonydd.
Cynnwys
Cefndir
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru (2021-2026) yn nodi'r weledigaeth a'r uchelgais i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'n ymrwymo i sicrhau bod natur a'r hinsawdd ar agenda pob busnes yn y gwasanaeth cyhoeddus a'r sector preifat. Mae hyn yn gofyn am reoli adnoddau naturiol yn integredig er mwyn sicrhau'r manteision economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl mewn ffordd deg tra'n diogelu pob ecosystem a'r amgylchedd.
Mae amgylchedd dŵr ffyniannus yn hanfodol ar gyfer cefnogi cymunedau iach, busnesau llewyrchus a bioamrywiaeth. Rhaid inni weithredu'n awr i sicrhau bod rheoli ein hamgylchedd dŵr yn gynaliadwy o fudd i bobl a chymunedau Cymru heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol.
Y Tasglu Ansawdd Afonydd Gwell
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Ofwat, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy (y sefydliadau partner) yn cydnabod yr angen hwn i weithredu ac wedi sefydlu Tasglu Ansawdd Afonydd Gwell (y tasglu) i werthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifo yng Nghymru ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym. Mae Afonydd Cymru a'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn rhoi cyngor annibynnol i'r tasglu, gan gynnig mewnwelediad a her o safbwynt rhanddeiliaid a chwsmeriaid.
Diben
Er mwyn sbarduno ein camau i sicrhau newid a gwelliant cyflym i'r ffordd y rheolir a rheoleiddio'r amgylchedd ar orlifoedd yng Nghymru, rydym am:
- Darparu cymorth di-dor i Lywodraeth Cymru i gyflawni eu huchelgeisiau o ran natur a newid yn yr hinsawdd.
- Lleihau effaith andwyol unrhyw ollyngiadau gorlif ar yr amgylchedd drwy dargedu buddsoddiad a chymryd camau rheoleiddio lle bo angen i sicrhau gwelliannau.
- Gweithio i ddatblygu'r fframwaith rheoleiddio presennol i sicrhau bod cwmnïau dŵr a dŵr gwastraff yn rheoli ac yn gweithredu eu rhwydwaith o garthffosydd yn effeithiol. Bydd rheoleiddwyr yn defnyddio eu pwerau presennol i yrru'r canlyniadau cywir a dwyn cwmnïau i gyfrif.
- Casglu mwy o dystiolaeth o'r effaith ar ein hafonydd drwy fonitro'r gollyngiadau a'r dŵr sy'n derbyn yn well a, thrwy hyn, gyrru tuag at rwydweithiau gwirioneddol glyfar gan wneud y defnydd gorau o dechnoleg a rheoli amser real.
- Gweithio gyda chwsmeriaid i fynd i'r afael â chamddefnyddio carthffosydd.
- Gweithio gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid i wella dealltwriaeth a rôl gorlifo yng Nghymru.
Canlyniadau ac amserlenni
Er bod gwaith eisoes ar y gweill i wella gorlifiadau yng Nghymru, mae'r Tasglu wedi nodi 5 maes ar gyfer newid a gwella, a nodir isod, lle mae angen cymryd camau ychwanegol er mwyn sbarduno newid, gwelliant a buddsoddiad cyflym i gyflawni ein nodau.
- Erbyn 5 Gorffennaf 2022 bydd y Tasglu yn cyhoeddi cyfres o gynlluniau gweithredu ar gyfer gorlif stormydd ar y cyd â'n Cynlluniau Basn Afon ehangach.
- Bydd y map hwn yn cael ei lywio gan 5 cynllun gweithredu manwl sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan aelod(au) perthnasol y Tasglu.
- Mae'r cynlluniau hyn yn nodi amcanion clir a chanlyniadau mesuradwy ar gyfer cyflawni gwelliannau i reoli gorlif o'r cychwyn cyntaf hyd at y tymor hir.
Llywodraethu
- Mae'r tasglu yn adrodd i uwch gyfarwyddwyr o Lywodraeth Cymru, Ofwat, CNC a chwmnïau dŵr.
Cyfarfodydd
- Bydd y Tasglu'n cyfarfod bob pythefnos, gydag union amlder ac amseriad cyfarfodydd yn ôl disgresiwn y Cadeirydd mewn ymgynghoriad ag aelodau'r grŵp.
- Y Tasglu fydd yn goruchwylio'r gwaith o ddarparu'r map ffordd, gydag atebolrwydd am gyflawni camau gweithredu unigol/penodol yn gorwedd gydag aelod(au) priodol y Tasglu. Bydd yr holl randdeiliaid perthnasol yn cynorthwyo lle bo hynny'n briodol.
Rhanddeiliaid, arsylwyr a chynghorwyr
- Gall y cadeirydd wahodd arsylwyr a chynghorwyr i ymuno â chyfarfodydd penodol yn ôl yr angen.
- Bydd y tasglu yn cydweithio â rhanddeiliaid perthnasol i ystyried eu barn.