Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae colli plentyn yn brofiad annioddefol ac yn dorcalonnus i unrhyw deulu ac mae darparu cymorth ymarferol i’r teuluoedd hynny sy’n profi colled o’r fath yn parhau i fod yn bwysig i Weinidogion Cymru.
Yn 2017, cytunodd Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru i roi terfyn ar ffioedd claddu ac amlosgi ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 18 oed.
Canfu adolygiad yn 2019 fod y trefniant hwn wedi bod yn gam cadarnhaol tuag at sicrhau gwell cysondeb mewn perthynas â’r taliadau am gladdu ac amlosgi plant ledled Cymru. Fodd bynnag, roedd llawer o deuluoedd yn dal i ysgwyddo’r pwysau a'r straen a ddaw wrth boeni am dalu costau eraill sy’n gysylltiedig ag angladd.
Ers mis Ebrill 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol ychwanegol i helpu gyda’r costau hyn, ac mae £500 wedi bod ar gael i unrhyw deulu yng Nghymru sydd wedi colli plentyn. Mae hwn yn gynnig cyffredinol waeth beth yw incwm y teulu, ond nid oes rheidrwydd arnynt i dderbyn y taliad os nad yw aelodau’r teulu yn dymuno ei gael.
Cafodd dros 200 o deuluoedd y cymorth hwn yn ystod 2021-22, ac mae'r adborth gan deuluoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae'r arian wedi cael ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd, megis tuag at gofebau a cherrig beddi yn ogystal â chostau cynnal angladd.
Hoffwn ddiolch i'r holl bartneriaid sy'n helpu i ddarparu gwasanaethau tosturiol ac ymarferol i'r rheini yr effeithir arnynt gan golled mor anodd.
Byddaf yn adolygu'r dull ymhen dwy flynedd i asesu sut y mae'r cynllun yn gweithio a sicrhau ein bod yn parhau i ystyried yn ofalus pa ffordd sydd orau i gefnogi teuluoedd.