Cyfarfod y Cabinet: 16 Mai 2022
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 16 Mai 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Dawn Bowden AS
- Hannah Blythyn AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
- Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helen Lentle, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gymraeg
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad
- Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
- Rhiannon Ivens, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynhwysiant a Busnes Corfforaethol
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 9 Mai / Cabinet approved the minutes of 9 May.
Eitem 2: Busnes y Senedd
2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfod Llawn a nododd fod yr amser pleidleisio wedi’i amserlennu ar gyfer 5:30pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.
Eitem 3: Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu 2022-2026 CAB(21-22)118
3.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gytuno i gyhoeddi'r Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu.
3.2 Roedd y penderfyniad i ddatblygu Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu wedi'i wneud ym mis Awst 2021. Ymatebodd y cynllun yn rhannol i argymhellion adroddiad Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu a gwerthusiad o'r rhaglen Gwella Bywydau.
3.3 Ym mis Mehefin 2021, ar ôl derbyn yr adroddiad a'r gwerthusiad, roedd y Dirprwy Weinidog wedi trafod ei 43 o argymhellion gyda'r Grŵp ac wedi cael dealltwriaeth o'r heriau a'r trafferthion a wynebir gan bobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd yn ystod y pandemig.
3.4 Roedd COVID-19 wedi effeithio'n sylweddol ar bobl ag anableddau dysgu ac roeddent wedi wynebu mwy o risgiau ac anawsterau iechyd wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Collwyd strwythurau cymorth, megis gwasanaethau dydd Awdurdodau Lleol, ac roedd pobl wedi dod yn fwyfwy agored i unigrwydd ac ynysigrwydd, tra'n wynebu anawsterau o ran cael mynediad at gyngor ac arweiniad priodol a hygyrch a'u derbyn.
3.5 Felly, roedd llawer o'r blaenoriaethau yn y cynllun yn adlewyrchu'r camau a nodwyd i leihau effaith barhaus y pandemig.
3.6 Ar ben hynny, nododd y Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu flaenoriaethau polisi strategol y Llywodraeth ar gyfer gweddill y Senedd. Datblygwyd y cynllun a'r blaenoriaethau polisi yn dilyn cydweithio a chydgynhyrchu sylweddol â phartneriaid cyflawni, gan gynnwys ymarfer ymgysylltu chwe wythnos wedi'i dargedu gyda darparwyr gwasanaethau'r sector cyhoeddus, partneriaid y trydydd sector a rhanddeiliaid. Yn ogystal â'r ymgysylltu â Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu, ymgynghorwyd ag unigolion ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
3.7 Roedd y blaenoriaethau polisi yn adlewyrchu ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i leihau anghydraddoldebau a gwella gwasanaethau i bobl ag anableddau, gan greu cymdeithas fwy cyfartal a theg. Roedd llawer o'r camau gweithredu hefyd yn adeiladu ar flaenoriaethau a nodwyd sef arloesi digidol, atal, ymyrraeth gynnar a gwella gwasanaethau.
3.8 Roedd nifer o'r blaenoriaethau yn y cynllun yn adlewyrchu camau gweithredu etifeddol o'r rhaglen tair blynedd flaenorol Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau, a ddaeth i ben yn ffurfiol ym mis Mawrth 2021, ac effeithiodd y pandemig arnynt yn sylweddol yn ystod y flwyddyn olaf.
3.9 Croesawodd y Cabinet y papur ac yn benodol y dull cydweithredol o ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu, ynghyd â'r ymrwymiad i sicrhau bod anghenion unigolion ag anawsterau dysgu o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn cael eu diwallu.
3.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd y byddai Datganiad Llafar yn cyhoeddi'r cynllun ar 24 Mai.