Mae cynnig i gyflwyno cynllun gorfodol i ddileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yng Nghymru yn destun ymgynghoriad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw [dydd Iau, 30 Mehefin]
Mae BVD yn glefyd endemig, feiysol mewn gwartheg sy'n effeithio ar imiwnedd ac yn lleihau cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ffermydd. Mae BVD yn effeithio ar wartheg yn unig ac nid yw'n cael unrhyw effaith ar y gadwyn fwyd nac ar iechyd pobl.
Mae manteision dileu'r clefyd yn cynnwys gwella iechyd a lles yr anifeiliaid, gwella cynhyrchiant ffermydd gwartheg, lleihau'r defnydd o wrthfiotigau ac ôl troed carbon gan y diwydiant gwartheg a gwell rhagolygon masnach.
Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu gan boblogaeth fach o anifeiliaid sy'n cael eu hadnabod fel anifeiliaid sydd wedi'u Heintio'n Barhaus (PI). Mae'r rhain fel arfer wedi'u heintio yn y groth.
Bydd y cynllun gorfodol yn ei gwneud yn ofynnol i geidwaid gwartheg brofi eu buchesi yn flynyddol am BVD a chymryd camau i ynysu anifeiliaid PI. Bydd buchesi sy'n profi'n bositif yn destun cyfyngiadau symud nes eu bod yn glir.
Nod cyffredinol y cynllun yw cael gwared ar anifeiliaid PI o fuchesi Cymru a fydd yn arwain at ddileu'r clefyd yn raddol. Mae cynlluniau tebyg yn cael eu datblygu neu eisoes ar waith mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Mae cynllun gwirfoddol ar waith ar hyn o bryd, a reolir gan Gwaredu BVD, sydd i fod i ddod i ben yn gynnar yn 2023. Mae dros 80 y cant o fuchesi Cymru wedi cymryd rhan yn y cynllun gwirfoddol ac wedi cael eu sgrinio ar gyfer BVD.
Nid yw'r cynllun gwirfoddol yn ei gwneud yn ofynnol i fynd ag anifeiliaid PI o fuchesi, a gellir eu gwerthu ar hyn o bryd hefyd. Ni ellir dileu BVD heb fynd ag anifeiliaid PI o fuchesi Cymru, ac mae'r cynllun gorfodol arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob PI a nodwyd gael ei ynysu o'r brif fuches.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths:
“Byddwn yn annog ceidwaid gwartheg a phawb sydd â diddordeb yn y diwydiannau llaeth a chig eidion i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Mae gennym eisoes nifer uchel iawn o bobl yn manteisio ar y cynllun BVD gwirfoddol yng Nghymru, a'r cam nesaf i ddileu'r clefyd hwn yn llwyr yma yw ystyried gwneud y cynllun yn orfodol.
“O ganlyniad i'r nifer uchel sy'n manteisio ar y cynllun gwirfoddol, bydd llawer o geidwaid gwartheg yn gyfarwydd â’r gofynion profi.
“Bydd dileu'r clefyd yn gwella iechyd a lles anifeiliaid ac yn gwella cynhyrchiant ar y fferm.”
Bydd gwybodaeth am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru hefyd ar gael yn Sioe Frenhinol Cymru yn ogystal â rhagor o wybodaeth am BVD.
Mae'r ymgynghoriad ar gael yma Cynllun gorfodol Dolur Rhydd Feirysol Buchol