Cynigion ar gyfer ailagor meysydd chwarae awyr agored a chanolfannau chwarae dan do: asesiad effaith integredig
Sut y bydd ailagor lleoliadau chwarae, yn dilyn eu cau o ganlyniad i’r coronafeirws, yn effeithio ar nifer o feysydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Mae'r Asesiad Effaith Integredig (AEI) hwn yn asesu effaith cynigion i ailagor meysydd chwarae awyr agored a chanolfannau chwarae dan do ar ôl iddynt gau fel rhan o'r ymateb cynharaf i’r coronafeirws. Er i'r AEI gael ei baratoi yn 2020 i lywio penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion, gohiriwyd ei gyhoeddi oherwydd pwysau'r pandemig.
Mater
Ymatebodd yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar yn gyflym i'r sefyllfa frys o ran iechyd y cyhoedd o ran pandemig COVID-19 ym mis Mawrth 2020. O 20 Mawrth 2020, roedd yn ofynnol i feysydd chwarae plant a mannau chwarae dan do gau fel rhan o'r ymateb ehangach i COVID-19. Buom yn gweithio gyda staff o bob rhan o Lywodraeth Cymru, y sector gofal plant a chwarae, Gofal Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, awdurdodau lleol ac eraill i reoli effeithiau'r pandemig ar blant, teuluoedd, gofal plant a gwasanaethau gwaith chwarae.
Cyhoeddwyd AEI ar ymateb yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar i COVID-19 ar 21 Awst 2020:
is-adran-gofal-plant-chwarae-ar-blynyddoedd-cynnar-ymateb-i-covid-19-asesiad-effaith-integredig.pdf (llyw.cymru)
Nid oedd yr AEI yn ymdrin yn benodol â chau meysydd chwarae neu ganolfannau chwarae dan do, gyda'r penderfyniadau hynny wedi'u cynnwys mewn ystyriaethau ehangach ynghylch y cyfyngiadau eang ar ryngweithio cymdeithasol a wnaed ym mis Mawrth 2020. Fodd bynnag, mae'r AEI hwn, sy'n cynnwys yr wybodaeth a ddefnyddir i lywio cyfres o benderfyniadau a wnaed i ddechrau rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 2020, yn ymwneud â'r cynigion canlynol:
- Ailagor meysydd chwarae plant;
- Ailagor mannau chwarae dan do.
Wrth i'r ymateb i COVID-19 barhau i esblygu, mae wedi cael ei ailystyried ym mhob fersiwn o'r Cynllun Rheoli Coronafeirws a newidiadau i'r Rheoliadau a chanllawiau brys cyffredinol i sicrhau y gall gweithrediadau barhau fel y bwriadwyd.
Caeodd meysydd chwarae plant a chanolfannau chwarae dan do o 20 Mawrth 2020.
Cafodd yr holl gyfyngiadau, gan gynnwys cau parciau a chanolfannau chwarae dan do, effaith ar allu plant i chwarae, yn gadarnhaol ac yn negyddol:
- Positif: Roedd gan blant fwy o amser rhydd i chwarae, gweithgareddau llai trefnus, llai o amser ysgol, llai o deithio
- Negyddol: Ni allai'r plant chwarae gyda'u ffrindiau, roedd chwarae yn yr awyr agored yn gyfyngedig gan fod parciau ar gau (yn enwedig i'r rhai heb erddi), nid oedd y plant yn gallu mynychu cynlluniau chwarae, ysgolion na lleoliadau gofal plant na chanolfannau chwarae dan do lle byddent fel arfer yn chwarae
Gellid ystyried yr effeithiau negyddol yn 'niwed economaidd-gymdeithasol a niwed cymdeithasol arall' o'r 4 niwed uniongyrchol yn deillio o’r coronafeirws a nodwyd yn ’Arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad , Ebrill 2020
- Niwed uniongyrchol i unigolion o haint SARS-CoV2 a chymhlethdodau gan gynnwys i’r rheini sy’n datblygu salwch difrifol, ac mewn rhai achosion yn drist iawn yn marw o ganlyniad;
- niwed anuniongyrchol a achosir i unigolion os yw gwasanaethau gan gynnwys y GIG yn methu ag ymdopi â’r pwysau oherwydd cynnydd sydyn yn y galw ar ysbytai, cyfleusterau gofal critigol a gwasanaethau allweddol eraill gan gleifion sydd â COVID-19;
- niwed o salwch nad yw’n gysylltiedig â COVID-19, er enghraifft os nad yw unigolion yn ceisio sylw meddygol am eu salwch yn ddigon buan a’u cyflwr yn gwaethygu oherwydd hynny, neu yn fwy cyffredinol o’r newidiadau angenrheidiol i’r modd y cyflenwir gwasanaethau’r GIG a wnaed yn ystod y pandemig yng Nghymru i roi terfyn dros dro ar weithgareddau nad ydynt yn hanfodol
- niwed economaidd-gymdeithasol a niweidion cymdeithasol eraill, er enghraifft yr effaith economaidd ar rai grwpiau economaidd-gymdeithasol nad oeddent yn gallu gweithio, effaith bod ar gau ar fusnesau neu effaith cwymp yn y galw gan eu cwsmeriaid, niwed seicolegol y polisi o gadw pellter cymdeithasol ar y cyhoedd ynghyd â llawer o effeithiau eraill.
Yn ystod y cyfnod clo, cymerwyd nifer o gamau ar draws llywodraeth ganolog a lleol a chan gyrff yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i annog a chefnogi plant i chwarae:
- Roedd lleoliadau gofal plant cofrestredig yn parhau i fod ar agor i blant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed, ac roedd ysgolion yn cefnogi'r plant hyn mewn canolfannau ar draws awdurdodau lleol. Defnyddiodd llawer o awdurdodau lleol staff gwaith chwarae i redeg canolfannau mewn ysgolion. Roedd gofal plant yn cynnwys elfen o chwarae.
- Dosbarthodd llawer o awdurdodau lleol becynnau chwarae i blant sy'n agored i niwed a allai fod wedi cael anhawster i chwarae gartref.
- Rhannodd Chwarae Cymru a sefydliadau eraill (yr Urdd, y Comisiynydd Plant, Mentrau Iaith) syniadau chwarae ar gyfryngau cymdeithasol.
Penderfyniadau a wnaed
Wrth i gyfraddau heintio ostwng a'r sefyllfa o ran trosglwyddo yn yr awyr agored a throsglwyddo rhwng plant ddod yn fwy eglur, gwnaed y penderfyniadau canlynol i gefnogi cyfleoedd chwarae plant:
- Ar 10 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog fel rhan o'r adolygiad 21 diwrnod y byddai meysydd chwarae yn gallu ailagor yn raddol o 20 Gorffennaf 2020 ymlaen dros yr wythnosau canlynol wrth i wiriadau diogelwch a mesurau lliniaru gael eu rhoi ar waith.
- Ar 7 Awst 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog fel rhan o'r adolygiad 21 diwrnod y cytunwyd y gallai ardaloedd chwarae dan do baratoi i ailagor o 10 Awst 2020, a diwygiwyd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020/725 i restru mannau chwarae dan do fel safleoedd agored.
Paratowyd cyngor ar gyfer y cynigion hyn gan yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar oherwydd ei fod yn cyd-fynd â pholisi chwarae. Mae'r AEIau ar gyfer y cynigion hyn wedi'u cyflwyno gyda'i gilydd gan eu bod wedi'u halinio'n agos. Pan wnaed y cynigion, aseswyd tystiolaeth i edrych ar effaith y cynigion a'u cyflwyno i Weinidogion ochr yn ochr â chyngor. Wrth i amser fynd heibio, mae gwybodaeth ychwanegol wedi'i hychwanegu at yr AEI hwn i asesu effaith y penderfyniadau a wnaed ac i adlewyrchu newidiadau dilynol i gyfyngiadau coronafeirws.
Paratôdd yr Is-adran yr AEIau canlynol hefyd:
Ymateb i COVID-19: asesiad effaith integredig | LLYW.CYMRU. Roedd yr AEI hwn yn cynnwys yr ymateb cychwynnol gan gynnwys gofyn i leoliadau gofal plant a lleoliadau chwarae gyfyngu mynediad i blant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol
- Ailgychwyn ac adfer y sector gofal plant a chwarae
- Ariannu Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws ac ailagor y Cynnig Gofal Plant i Gymru
- Oedi dros dro, ailffocysu ac ailgychwyn: Rhaglenni Gweithlu a Chymorth meysydd Gofal Plant, y Blynyddoedd Cynnar a Chwarae
- Grant Darparwyr Gofal Plant a'i effaith ar leoliadau Gofal Plant a Chwarae
Asesu tystiolaeth yn y cynnig
Trosglwyddo yn yr awyr agored
Edrychodd adolygiad a gynhaliwyd ar gyfer SAGE ym mis Ebrill 2020 ar y dystiolaeth ar gyfer pwysigrwydd trosglwyddo yn yr awyr agored a throsglwyddo COVID-19 dan do, a daeth i'r casgliad nad oes tystiolaeth ar drosglwyddo yn yr awyr agored ond gellir olrhain y rhan fwyaf o drosglwyddo i drosglwyddo cymunedol mewn amrywiaeth o leoliadau dan do yn bennaf.
Mae'r mwyafrif llethol o adroddiadau achos yn dangos trosglwyddo drwy glystyrau teuluol/pobl sy'n byw ac yn bwyta gyda'i gilydd; fodd bynnag, ceir tystiolaeth hefyd o drosglwyddo cymunedol ehangach mewn amrywiaeth o leoliadau: canolfannau siopa, awyrennau, bwytai, cynadleddau, eglwysi/temlau, grwpiau teithio, teithio awyr. Mae tystiolaeth yn dod i'r fei o’r posibilrwydd fod peswch a thisian yn teithio llawer pellach nag a dybiwyd o’r blaen, felly dylid cymryd gofal rhag y risg o drosglwyddo yn yr awyr agored.
Mae cyngor gwyddonol yn awgrymu y gall y feirws oroesi am sawl diwrnod ar rai arwynebau caled, yn enwedig dan do. Caiff y risgiau hyn eu lleihau yn yr awyr agored, lle y gall golau uwchfioled a/neu law effeithio ar arwynebau.
Trosglwyddo rhwng plant
Y cyngor gwyddonol diweddaraf yw bod y risg i blant o fynd yn ddifrifol wael o COVID-19 yn isel iawn. Mae Grŵp Cynghori Technegol Cymru, sy'n rhoi cyngor gwyddonol a thechnegol i'r Llywodraeth mewn argyfwng, wedi adolygu'r dystiolaeth bresennol sy'n awgrymu, pan fo plant wedi'u heintio â'r feirws, ei fod yn cael effaith ysgafnach nag mewn oedolion. Yn gyffredinol, mae plant yn cael symptomau ysgafn neu maent yn asymptomatig. Ychydig iawn sy'n datblygu symptomau difrifol neu lefelau o haint sy'n bygwth bywyd.
At hynny, mae'r Grŵp Cynghori Technegol yn adrodd ei bod yn ymddangos bod trosglwyddo’r haint ymhlith plant o dan 12 oed yn arbennig o isel gyda thystiolaeth yn dod i’r fei bod achosion o drosglwyddo o blentyn i blentyn yn gyfyngedig. Am y rhesymau hyn, daeth y Grŵp Cynghori Technegol i'r casgliad y gall plant fod yn 'ddiogel rhag COVID' gan ddefnyddio amrywiaeth eang o fesurau. Roedd y dystiolaeth hon yn cefnogi ysgolion yn mynd yn ôl i weithredu’n llawn o fis Medi ymlaen, ond mae hefyd yn asesu'r dystiolaeth ynghylch plant yn gyffredinol ac felly’n berthnasol i'r sectorau gofal plant a chwarae ac i blant yn chwarae’n fwy cyffredinol yn y gymuned.
Pwysigrwydd chwarae
“Mae chwarae'n cynnwys ymddygiad plant sy'n cael ei ddewis yn rhydd, ei gyfeirio'n bersonol a'i gymell yn gynhenid. Fe'i cyflawnir heb unrhyw nod na gwobr allanol, ac mae'n rhan sylfaenol ac annatod o ddatblygiad iach – nid yn unig i blant unigol, ond hefyd i'r gymdeithas y maent yn byw ynddi”
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod chwarae yn werthfawr tu hwnt a’i fod yn bwysig iawn i fywydau plant yn ein cymdeithas. Credwn fod gan blant hawl sylfaenol i allu chwarae, a bod hynny’n elfen ganolog o’u mwyniant yn eu bywydau ac yn cyfrannu at eu llesiant. Credwn hefyd fod chwarae'n hanfodol ar gyfer datblygiad gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae llawer o dystiolaeth i gefnogi'r farn hon a dealltwriaeth gynyddol o gyfraniad chwarae nid yn unig i fywydau plant, ond hefyd i les eu teuluoedd a'r gymuned ehangach.
Mae hawl plant i chwarae wedi'i hymgorffori yn Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ffurfiol yn 2004, ac rydym wedi ymrwymo i wireddu egwyddorion CCUHP ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.
Mae Erthygl 31 (Hamdden, chwarae a diwylliant) yn datgan: Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a gweithgareddau hamdden eraill.
Nod Sylw Cyffredinol Rhif 17 ar erthygl 31 yw gwella'r ddealltwriaeth o bwysigrwydd erthygl 31 ar gyfer lles a datblygiad plant; er mwyn sicrhau parch at yr hawliau o dan erthygl 31 ac atgyfnerthu cymhwyso’r hawliau.
Cynnig 1: ailagor meysydd chwarae
Seiliwyd yr argymhelliad i ailagor meysydd chwarae ar ôl cydbwyso'r lles a wneir gan chwarae yn yr awyr agored a chwarae egnïol o’i gymharu â’r risg isel y caiff y feirws ei drosglwyddo yn yr awyr agored, a bod llai o risg y bydd plant yn trosglwyddo'r feirws ac y bydd plant yn profi symptomau difrifol. Cafodd y penderfyniad ei amseru i gyd-fynd â dechrau gwyliau haf yr ysgol pan fyddai galw am barciau a meysydd chwarae.
Er nad yw'r Rheoliadau'n diffinio beth yw maes chwarae, yn gyffredinol cydnabyddir eu bod yn fannau lle gall plant chwarae, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer chwarae. Gall y rhain gynnwys strwythurau awyr agored a gynlluniwyd i blant chwarae ynddynt neu arnynt. Gallant gynnwys cyfarpar fel sleidiau, bariau mwnci, fframiau dringo, tyrrau chwarae, siglenni, siglwyr, si-sos a phyllau tywod. Mae'r canllawiau'n diffinio meysydd chwarae yn y termau hyn, gan gydnabod y bydd eu hunion natur yn amrywio. Cyfleusterau awyr agored yw parciau sblasio sy'n cynnig taenellwyr, ffynhonnau, chwistrellau a dyfeisiau eraill sy'n chwistrellu dŵr y gall plant chwarae ynddynt.
Diffinnir perchenogion neu weithredwyr fel y rhai sy'n gyfrifol am reoli maes chwarae, gan gynnwys asesu cydymffurfiaeth ag unrhyw ddeddfwriaeth neu ganllawiau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, tirfeddianwyr preifat, busnesau manwerthu, tafarndai a bwytai a chyrff llywodraethu ysgolion.
Rhoddwyd disgresiwn i berchnogion a gweithredwyr sy'n gyfrifol am feysydd chwarae benderfynu pryd yr oeddent o'r farn ei bod yn ddiogel agor ar gyfer gweithgarwch a ganiateir gan ddeddfwriaeth. Cydnabuwyd y gallai fod angen amser ar berchenogion a gweithredwyr i baratoi ar gyfer agor meysydd chwarae yn ddiogel ac y byddent yn gallu agor yn hwyrach na'r dyddiad a ganiatawyd, sef 20 Gorffennaf 2020, os byddai angen rhagor o amser arnynt i baratoi.
Ledled Cymru roedd amrywiaeth yn y dyddiadau ailagor. Ailagorodd rhai awdurdodau lleol bob maes chwarae ar 20 Gorffennaf 2020, ac ail-agorodd eraill eu parciau yn raddol dros yr haf, gan roi blaenoriaeth i'r rhai mewn ardaloedd lle'r oedd plant yn llai tebygol o fod â gerddi i chwarae ynddynt.
Paratowyd Canllawiau ar ailagor meysydd chwarae plant a mannau chwarae awyr agored: coronafeirws ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud i ailagor ac fe’u cyhoeddwyd ar 20 Gorffennaf 2020. Roedd y canllawiau’n ei gwneud yn ofynnol i bob perchennog a gweithredwr gynnal asesiad risg COVID-19 a fyddai’n eu helpu i benderfynu a ddylid agor y maes chwarae a pha fesurau y dylid eu rhoi ar waith.
Cyn yr argymhelliad i ailagor meysydd chwarae, rhannwyd y canllawiau a oedd yn berthnasol yn Lloegr â rhanddeiliaid allweddol, gan ofyn am eu barn ar ba wybodaeth ychwanegol, os o gwbl, y byddai ei hangen arnynt. Gwnaeth Awdurdodau Lleol nifer o awgrymiadau a datblygwyd canllawiau Cymru gennym yn unol â'r adborth hwnnw gyda chyfraniadau ychwanegol gan Chwarae Cymru. Roedd ymgynghori ymhellach â CLlLC ac awdurdodau lleol ar y canllawiau hyn yn gadarnhaol o ran ymarferoldeb a hygyrchedd
Rhannwyd y canllawiau drafft hefyd gyda: Comisiynydd Plant Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Cyngor Partneriaeth Cymdeithasol, Fields in Trust Cymru, Un Llais Cymru, partneriaeth gofal plant CWLWM, Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru i gael eu sylwadau.
Mae'r ffyrdd y gweithredir meysydd chwarae plant wedi parhau i gael eu hadolygu ers y penderfyniad cyntaf i ganiatáu iddynt ailagor. O fis Medi 2020, roedd rhannau o Gymru yn destun cyfyngiadau symud lleol, ac ym mis Tachwedd 2020 cafwyd cyfnod atal byr o bythefnos. Arhosodd meysydd chwarae awyr agored ar agor ym mhob un o'r achosion hyn. Ym mis Rhagfyr 2020, dychwelodd Cymru i gyfnod clo cenedlaethol, yn unol â'r Lefelau Rhybudd a nodwyd yng Nghynllun Rheoli'r Coronafeirws ar gyfer Cymru. Penderfynwyd y gallai meysydd chwarae awyr agored aros ar agor hyd yn oed ar Lefel Rhybudd 4 ar sail dealltwriaeth well o'r llwybrau trosglwyddo ar gyfer COVID-19, a chan gydbwyso hynny yn erbyn y niwed economaidd-gymdeithasol ehangach, er bod angen cadw pellter cymdeithasol rhwng aelwydydd wrth ymweld â nhw. Darparwyd canllawiau a chwestiynau cyffredin fel rhan o'r wybodaeth genedlaethol am y lefel rhybudd.
Ni fu'n ofynnol cau meysydd chwarae awyr agored ers iddynt allu ailagor ym mis Gorffennaf 2020. Mae rhai gweithredwyr wedi dewis cau neu gyfyngu ar fynediad ar adegau penodol, a lle bu'n ofynnol i'r busnes ehangach sy'n cynnal y man chwarae gau, (e.e. busnesau lletygarwch neu atyniadau i dwristiaid) yna cyfyngwyd ar fynediad. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gau cenedlaethol wedi'i orfodi. Dilëwyd canllawiau penodol pan symudodd Cymru i fod yn sefydlog o ran Covid o fewn telerau Cynllun Rheoli’r Coronafeirws. Ni chafodd hyn ei adfer yn ystod y cyfnod byr ar Lefel Rhybudd 2 ym mis Rhagfyr 2021.
Cynnig 2. Ailagor mannau chwarae dan do
Mae mannau chwarae dan do, a elwir weithiau'n ganolfannau chwarae dan do, yn feysydd chwarae dan do. Maent wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant i chwarae ynddynt, gyda strwythurau ac offer chwarae yn aml yn cael eu padio i leihau’r trawiad pan fo plant yn cael codwm neu'n bownsio o gwmpas. Yn ogystal â chanolfannau penodol a grëwyd at ddibenion chwarae dan do, mae cyfleusterau fel y rhain i'w gweld yn aml mewn amrywiaeth o adeiladau a gwasanaethau a ddefnyddir gan rieni gan gynnwys tafarndai, canolfannau siopa a rhai o'r atyniadau twristaidd mwy. Roedd yn ofynnol i ardaloedd chwarae dan do gau o dan Baragraff 13 o Atodlen 2 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 hyd nes y cytunwyd y gallai ardaloedd chwarae dan do baratoi i agor o 10 Awst 2020 a diwygiwyd y rheoliadau i restru Ardaloedd Chwarae Dan Do fel safleoedd agored.
Datblygwyd canllawiau ar gyfer ailagor mannau chwarae meddal i blant a mannau chwarae dan do, gan gynnwys partïon: coronafeirws ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud ac fe’u cyhoeddwyd ar 8 Awst 2020 a'u diweddaru ar 18 Medi 2020 i egluro na chaniateir partïon plant lle nad yw plant yn rhan o'r un aelwyd.
Mae’r canllawiau’n ei gwneud yn ofynnol i bob perchennog a gweithredwr gynnal asesiad risg ar gyfer COVID-19 a fydd yn eu helpu i benderfynu a ddylid agor y man chwarae a pha fesurau y dylid eu rhoi ar waith. Mae mesurau lliniaru risg yn cynnwys:
- arwyddion i bennu uchafswm nifer y defnyddwyr ar gyfer y cyfleuster neu ddarnau unigol o offer;
- pennu pa mor hir y caniateir ei dreulio yn y maes chwarae yn ystod cyfnodau prysur;
- cyfyngu ar y defnydd o rywfaint o gyfarpar i hwyluso cadw pellter cymdeithasol;
- mwy o lanhau ar gyfer yr holl offer a chyfleusterau;
- Efallai na fydd modd defnyddio rhywfaint o offer hyd yn oed gyda mesurau llym. Mae hyn yn cynnwys pyllau pêl a phyllau ewyn meddal, sy'n anoddach eu glanhau.
Mae ardaloedd chwarae dan do yn gweithredu fel busnesau. Fe'u cefnogir gan Gymdeithas Parciau Hamdden, Pierau ac Atyniadau Prydain (BALPPA). Mae BALPPA yn cynrychioli 180 o ardaloedd chwarae allan o 1,100, ac yn adrodd bod y sector yn cyflogi dros 30,000 o bobl ledled y DU. Mae’n bosibl fod hyn yn tanadrodd maint y gweithlu, gan fod ardaloedd chwarae dan do hefyd yn gweithredu fel rhan o atyniad dan do neu atyniad twristiaeth ehangach. Nid oes dadansoddiad penodol ar lefel Cymru, ond maent yn adrodd bod y rhan fwyaf o ardaloedd chwarae dan do penodedig ledled Cymru yn fusnesau bach a chanolig, sy'n rhedeg fel endidau unigol. Maent yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol ac yn cyfrannu at yr economi leol a chenedlaethol.
Mae risgiau penodol sy'n gysylltiedig â mannau chwarae dan do yn ymwneud â'r arwynebau a rennir ynddynt, a'r potensial i bobl gymysgu heb gadw pellter cymdeithasol ac wrth anadlu’n drymach oherwydd natur y chwarae. Maent hefyd dan do, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y feirws yn goroesi'n hirach y tu mewn. Fodd bynnag, mae ystod eang o atyniadau dan do wedi gallu agor yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn amodol ar weithredu mesurau iechyd a diogelwch perthnasol.
Byddai'r risg o drosglwyddo mewn mannau chwarae dan do yn cael ei lliniaru gan asesiad risg ar gyfer pob ardal chwarae a sicrwydd y byddai mesurau'n cael eu rhoi ar waith i gadw at ganllawiau iechyd y cyhoedd ar gadw pellter cymdeithasol, hylendid a glanweithdra. Byddent hefyd yn ddarostyngedig i'r rheoliadau a'r canllawiau a gyhoeddir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Bydd personau sy'n gyfrifol am feysydd chwarae dan do hefyd yn gorfod cydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 sy’n darparu dyletswydd i gymryd mesurau rhesymol er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.
Mae'r ffyrdd y gweithredir meysydd chwarae plant wedi parhau i gael eu hadolygu ers y penderfyniad cyntaf i ganiatáu iddynt ailagor. O fis Medi 2020, roedd rhannau o Gymru yn destun cyfyngiadau symud lleol, ac ym mis Tachwedd 2020 cafwyd cyfnod atal byr o bythefnos, gyda phob un ohonynt yn dod â rhai cyfyngiadau ar y niferoedd a oedd yn gallu mynd i’r mannau chwarae. Caeodd rhai mannau chwarae dan do drwy gydol y mesurau hyn.
Ym mis Rhagfyr 2020, dychwelodd Cymru i gyfnod clo cenedlaethol, yn unol â'r Lefelau Rhybudd a nodwyd yng Nghynllun Rheoli'r Coronafeirws ar gyfer Cymru. Mae'n ofynnol i fannau chwarae dan do, fel atyniadau eraill dan do, gau ar Lefelau Rhybudd 3 a 4, ond maent wedi gallu aros ar agor o'r pwynt y symudodd Cymru i Lefel Rhybudd 2 yng ngwanwyn 2021. Adolygwyd hyn wrth i Gymru symud yn ôl i Lefel Rhybudd 2 ym mis Rhagfyr 2021, ond teimlwyd y gallent aros ar agor yn amodol ar ddilyn y canllawiau a'r rheoliadau ynghylch mesurau rhesymol.
Ni fu'n ofynnol cau mannau chwarae dan do ers Gwanwyn 2021. Mae rhai gweithredwyr wedi dewis cau neu gyfyngu ar fynediad ar adegau penodol. Dilëwyd canllawiau penodol pan symudodd Cymru i fod yn sefydlog o ran Covid o fewn telerau Cynllun Rheoli’r Coronafeirws. Ni chafodd hyn ei adfer yn ystod y cyfnod byr ar Lefel Rhybudd 2 o fis Rhagfyr 2021, er bod Cerdyn Gweithredu ar gael.
Casgliad
Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi bod yn rhan o'i ddatblygu?
Yn dilyn y cynnig, buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cyfres ymarferol a hygyrch o ganllawiau lle gallai parciau awyr agored ailagor cyn i benderfyniad gael ei wneud.
Rhannwyd y canllawiau ar ganolfannau chwarae dan do gyda Chymdeithas Parciau Hamdden, Pierau ac Atyniadau Prydain (BALPPA).
Rydym yn cyfrannu at brosiect ar y cyd â Chomisiynydd Plant Cymru, Plant yng Nghymru a'r Senedd Ieuenctid ar yr arolwg Coronafeirws a Fi. Rydym yn defnyddio canlyniadau'r arolwg i ddeall effaith y coronafeirws ar blant, yn gadarnhaol ac yn negyddol, fel y gallwn ystyried hyn wrth fynd ati i gefnogi hawl plant i chwarae.
Rydym wedi cael nifer o ymholiadau gan randdeiliaid, gan gynnwys rhieni, awdurdodau lleol, lleoliadau a rhieni drwy ohebiaeth Weinidogol, ymholiadau i Lywodraeth Cymru neu'n uniongyrchol i flychau post is-adrannol. Roedd y rhain yn llywio penderfyniadau Gweinidogion a’r Cwestiynau Cyffredin.
Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn gadarnhaol ac yn negyddol?
Mae chwarae yn weithgaredd hanfodol i blant. Mae'n hanfodol i'w llesiant, eu gwydnwch a'u datblygiad a dyma'r brif ffordd y maent yn gwneud ymarfer corff. Mae chwarae yn yr awyr agored yn bwysig gan ei fod yn annog plant i ymgymryd â lefel uchel o weithgarwch ac mae Iechyd y Cyhoedd Cymru’n ei nodi fel cam tuag at blant yn cynnal pwysau iach. Mae ailagor parciau a meysydd chwarae yn debygol o gael effaith gadarnhaol sylweddol ar les plant a'u rhieni / gofalwyr. Mae'n debygol o gael yr effaith negyddol leiaf bosibl ar drosglwyddo'r feirws oherwydd yr hyn a ddeallwn am drosglwyddo yn yr awyr agored a throsglwyddo rhwng plant.
Bydd plant yn elwa ar fwy o fynediad at fannau chwarae dan do, yn enwedig dros gyfnod yr haf. Maent yn aml yn nodwedd o atyniadau twristiaeth ehangach y mae teuluoedd yn ymweld â nhw ar wyliau, ac mae mannau chwarae dan do pwrpasol yn adnodd gwerthfawr i deuluoedd ar ddiwrnodau pan fo'r tywydd yn wael. O ganlyniad, byddai manteision corfforol, datblygiadol a lles clir i blant a phobl ifanc yn sgil mwy o gyfleoedd i fod mewn mannau chwarae dan do. Mae hyn yn arbennig o wir i'r rhai sydd heb fynediad i erddi neu leoedd mwy i chwarae ynddynt. Gan fod y lleoliadau hyn dan do, mae'n bwysig bod asesiadau risg a chamau lliniaru yn cael eu cynnal i liniaru'r risg uwch o drosglwyddo wrth chwarae dan do.
Yn ogystal, gallai mwy o gyfleoedd i chwarae helpu plant i wella o oblygiadau cadw pellter cymdeithasol – ynysu posibl, lefelau gweithgarwch isel a lles corfforol a meddyliol gwael.
Mae cyfleoedd i blant chwarae hefyd o fudd i'w rhieni a'u gofalwyr sy'n deall gwerth chwarae i'w plant ac sydd eisiau darparu cyfleoedd chwarae o safon. Gall rhieni a gofalwyr hefyd gael rhywfaint o seibiant tra bod plant yn chwarae'n annibynnol, hyd yn oed pan fydd angen goruchwyliaeth, er enghraifft ar gyfer plant iau. Bydd rhieni hefyd yn cael cyfle i gymdeithasu â rhieni eraill tra bydd plant yn chwarae (er bod yn rhaid i hyn fod o fewn canllawiau cadw pellter cymdeithasol) sy'n arwain at rieni'n cefnogi ei gilydd a lles yn gwella.
Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
- yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu
- Yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Gan fod bygythiadau iechyd sy'n gysylltiedig â'r pandemig bellach wedi'u lleihau (er nad ydynt wedi'u dileu ac o bosibl bellach yn cynyddu unwaith eto), mae niwed economaidd a chymdeithasol a achosir gan ganlyniadau uniongyrchol ac anuniongyrchol y feirws bellach yn bryder polisi cyhoeddus mawr. Mae ail-agor parciau a chanolfannau chwarae dan do yn rhoi mwy o gyfleoedd i blant chwarae a bod yn egnïol.
Mae'r penderfyniadau a amlinellir uchod yn chwarae rhan bwysig o ran cefnogi egwyddor gyffredinol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n ymwneud ag ymyrryd yn gadarnhaol nawr er budd pobl a fydd yn byw yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae'r polisi'n helpu i gefnogi Amcanion Llesiant y Ddeddf, yn enwedig o ran:
- Cymru lewyrchus
- Yn cefnogi'r sector chwarae dan do i gynnal cyflogaeth a chyfrannu at yr economi.
- Yn cefnogi'r gymuned leol o amgylch parciau, wrth i deuluoedd ymweld.
- Cymru iachach
- Hyrwyddo iechyd a lles da i blant a’u teuluoedd.
- Gwella lefelau gweithgarwch corfforol mewn plant.
- Gwella sgiliau cymdeithasol a gwybyddol.
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- Mae ailagor mannau chwarae awyr agored yn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael mynediad i chwarae yn yr awyr agored waeth beth fo'i sefyllfa o ran tai neu incwm ei deulu, sy'n lleihau'r bwlch rhwng y lleiaf a'r mwyaf difreintiedig yn ein cymunedau.
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Caniatáu i'r plant gyfarfod â'i gilydd a chyfathrebu a chwarae, gan rannu profiadau diwylliannol a dysgu oddi wrth ei gilydd.
Rydym yn ymwybodol o effeithiau cymdeithasol, datblygiadol a lles cyfnodau estynedig o ynysu ar blant, sy'n debygol o gael eu lliniaru gan fynediad i fannau chwarae.
Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben?
Isod, mae'n amlinellu'r data rydym yn ei gasglu i lywio penderfyniadau ynghylch ein hymateb, ac i fonitro a gwerthuso effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac effaith ein gweithredoedd.
- Arolwg Coronafeirws a fi sy'n cael ei redeg gan Gomisiynydd Plant Cymru.
Ym mis Mai 2020, gweithiodd y Comisiynydd Plant gyda Llywodraeth Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru a Plant yng Nghymru i lansio arolwg 'Coronafeirws a fi' i gael gwybod am brofiadau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r canlyniadau'n cael eu cyhoeddi fesul cam ar wefan y Comisiynydd Plant. - Rydym yn cynnal trafodaethau parhaus gydag awdurdodau lleol a Chwarae Cymru, sy'n rhoi gwybod i ni sut y mae'r canllawiau wedi'u rhoi ar waith ledled Cymru.
- Mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r cyfryngau prif ffrwd a'r cyfryngau cymdeithasol er mwyn deall barn y cyhoedd ac i lywio canllawiau a chwestiynau cyffredin.
Asesiad o'r effaith ar hawliau plant
1. Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc.
Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar fywydau plant, yn gadarnhaol ac yn negyddol?
Gan fod bygythiadau iechyd sy'n gysylltiedig â'r pandemig bellach wedi'u lleihau (er nad ydynt wedi'u dileu a’u bod o bosibl yn cynyddu unwaith eto erbyn hyn), mae niwed economaidd a chymdeithasol a achosir gan ganlyniadau uniongyrchol ac anuniongyrchol y feirws bellach yn bryder polisi cyhoeddus mawr. Mae ail-agor parciau a chanolfannau chwarae dan do yn rhoi mwy o gyfleoedd i blant chwarae a bod yn egnïol.
Mae chwarae yn weithgaredd hanfodol i blant. Mae'n hanfodol i'w lles, eu gwydnwch a'u datblygiad a dyma sut y maent yn ymarfer corff yn bennaf. Mae chwarae y tu allan yn bwysig gan ei fod yn annog lefel uchel o weithgarwch ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei nodi fel cam tuag at bwysau iach i blant. Mae parciau a meysydd chwarae yn rhan sylfaenol o chwarae yn yr awyr agored i blant, ac mae rhieni'n eu hystyried yn fannau 'diogel' i chwarae. Pan gânt gyfle i chwarae yn yr awyr agored, mae plant yn debygol o fod yn gorfforol egnïol drwy redeg, neidio, dawnsio, dringo, palu, codi, gwthio a thynnu. Mae chwarae yn yr awyr agored yn cyfrannu at ystwythder, cydbwysedd, creadigrwydd a chanolbwyntio. Mae plant yn rhoi gwerth mawr ar gael lleoedd da i chwarae ac yn aml yn ystyried parciau a meysydd chwarae fel canolbwynt yn eu cymunedau. Credir bod cymysgu yn yr awyr agored yn llai o risg na dan do, felly mae chwarae yn yr awyr agored yn rhoi'r manteision chwarae i blant gyda’r risg lleiaf bosibl. Mae ailagor parciau a meysydd chwarae yn debygol o gael effaith gadarnhaol sylweddol ar les plant a'u rhieni / gofalwyr. Mae'n debygol o gael yr effaith negyddol leiaf bosibl ar drosglwyddo'r feirws oherwydd yr hyn a ddeallwn am drosglwyddo yn yr awyr agored a throsglwyddo rhwng plant.
Bydd plant yn elwa ar fwy o fynediad i fannau chwarae dan do, yn enwedig dros gyfnod yr haf. Maent yn aml yn nodwedd o atyniadau twristiaeth ehangach y mae teuluoedd yn ymweld â nhw ar wyliau, ac mae mannau chwarae dan do pwrpasol yn adnodd gwerthfawr i deuluoedd ar ddiwrnodau pan fo'r tywydd yn wael. O ganlyniad, byddai manteision corfforol, datblygiadol a lles clir i blant a phobl ifanc yn sgil mwy o gyfleoedd i fod mewn mannau chwarae dan do. Mae hyn yn arbennig o wir i'r rhai sydd heb fynediad i erddi neu leoedd mwy i chwarae ynddynt. Gan fod y lleoliadau hyn dan do, mae'n bwysig fod asesiadau risg a chamau lliniaru yn cael eu cynnal i liniaru'r risg uwch o drosglwyddo wrth chwarae dan do.
Yn ogystal, gallai mwy o gyfleoedd i chwarae helpu plant i wella o oblygiadau cadw pellter cymdeithasol – ynysu posibl, lefelau gweithgarwch isel a lles corfforol a meddyliol gwael.
Mae cyfleoedd i blant chwarae hefyd o fudd i'w rhieni a'u gofalwyr sy'n deall gwerth chwarae i'w plant ac sydd eisiau ddarparu cyfleoedd chwarae o safon. Gall rhieni a gofalwyr hefyd gael rhywfaint o seibiant tra bod plant yn chwarae'n annibynnol, hyd yn oed pan fydd angen goruchwyliaeth, er enghraifft ar gyfer plant iau. Bydd rhieni hefyd yn cael cyfle i gymdeithasu â rhieni eraill tra bydd plant yn chwarae (er bod yn rhaid i hyn fod o fewn canllawiau cadw pellter cymdeithasol) sy'n arwain at rieni'n cefnogi ei gilydd a’u lles yn gwella.
Mae adroddiad ymchwil Covid 19 and Children’s Play gan y Play Safety Forum (a gyhoeddwyd yn gyntaf ar 17 Mehefin ac a ddiweddarwyd ar 9 Medi 2020) yn cynnwys y canlynol sy'n awgrymu y byddai ailagor cyfleusterau chwarae o fudd mawr i blant:
- ‘evidence on the risks posed by play deprivation is growing and should be of concern
- depending on personal circumstances, children are affected in differing degrees by COVID- 19 restrictions
- risks posed by outdoor play have received little direct attention
- the risk in schools to pupils and teachers is said to be low and it can reasonably be projected that the risk of outdoor play will be much lower still’.
Yn dilyn y penderfyniad a'i roi ar waith, mae'r adroddiadau canlynol yn cadarnhau'r penderfyniad:
Mae Adroddiad Blynyddol 2020 gan y Children and Young People’s Mental Health Coalition (Medi 2020) yn rhannu gwybodaeth am bwysigrwydd chwarae yn yr awyr agored ar gyfer iechyd a lles plant ac yn ymchwilio i sut mae chwarae wedi newid yn ystod pandemig y coronafeirws, gydag ymchwil yn dangos gostyngiad mewn chwarae â chyfoedion a chwarae mewn meysydd chwarae yn Lloegr.
Mae adroddiad gan UNICEF yn dangos cysylltiadau cryf rhwng hapusrwydd plant a pha mor aml y maent yn chwarae yn yr awyr agored. Mae adroddiad Worlds of Influence: Understanding What Shapes Child Well-being in Rich Countries yn nodi bod plant sy'n byw mewn cymdogaethau â lleoedd i chwarae yn tueddu i fod yn hapusach na'r rhai nad ydynt yn byw mewn cymdogaethau felly.
Nododd yr arolwg Coronafeirws a fi a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ym mis Medi 2020, er bod y cyfyngiadau'n effeithio ar bawb, fod plant yn cael profiadau gwahanol iawn. Mae rhai wedi dioddef profedigaeth, trallod a phryder. Mae llawer wedi hiraethu am eu ffrindiau, eu teuluoedd ac yn teimlo eu bod yn methu gormod o’u haddysg. Ar yr un pryd, mae llawer o blant yn disgrifio sut maen nhw wedi gwerthfawrogi cyfle i dreulio mwy o amser gyda'u teulu, i chwarae ac ymlacio mwy, neu i ddysgu mewn ffordd wahanol. Mae llawer yn dweud eu bod wedi cael pleser wrth fwynhau'r awyr agored mewn gerddi a chael ymarfer corff bob dydd. Mae dros hanner y plant yn dweud eu bod yn chwarae mwy nag arfer (53%) gydag amrywiaeth eang o chwarae ar-lein ac all-lein yn cael ei ddisgrifio gan gynnwys chwarae yn yr awyr agored, chwarae dychmygol, chwarae gyda theganau neu gemau, chwaraeon a chwarae creadigol. Dywedodd plant hefyd eu bod yn ymlacio mwy.
Nododd adroddiad atodol Coronafeirws a Fi: Profiadau plant o Gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol fod plant o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn fwy tebygol na phlant o gefndiroedd eraill o gael profiadau negyddol yn y cyfnod clo. Roeddent yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn chwarae llai, yn llai tebygol o fod yn ymarfer corff y tu allan ac yn fwy tebygol o ddweud eu bod eisiau help i fwyta bwyd iach a chadw’n egnïol.
Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar wahanol grwpiau o blant (e.e. plant sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, plant sy'n byw mewn tlodi, plant ag anabledd, plant sy'n byw mewn cartrefi Cymraeg eu hiaith a phlant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac ati)
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod pandemig y coronafeirws wedi effeithio'n fwy negyddol ar blant o gefndiroedd difreintiedig. Bydd ailagor meysydd chwarae, yn enwedig meysydd chwarae awyr agored sy'n rhad ac am ddim, o fudd arbennig i blant difreintiedig: plant mewn tlodi, plant o gefndir du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, plant nad oes ganddynt ardd i chwarae ynddi. Bydd hefyd o fudd i’r rhai sy’n unig blentyn, nad ydynt efallai wedi ymwneud llawer wyneb yn wyneb â phlant eraill yn ystod y cyfnod clo.
Yn dilyn y penderfyniad, ym mis Medi 2020, adroddodd yr arolwg Coronafeirws a fi, a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru, er bod y cyfyngiadau'n effeithio ar bawb, bod plant yn cael profiadau gwahanol iawn. Mae rhai wedi dioddef profedigaeth, trallod a phryder. Mae llawer wedi hiraethu am eu ffrindiau, eu teuluoedd ac yn teimlo eu bod yn methu gormod o’u haddysg. Ar yr un pryd, mae llawer o blant yn disgrifio sut maen nhw wedi gwerthfawrogi cyfle i dreulio mwy o amser gyda'u teulu, i chwarae ac ymlacio mwy, neu i ddysgu mewn ffordd wahanol. Mae llawer yn dweud eu bod wedi cael pleser wrth fwynhau'r awyr agored mewn gerddi a chael ymarfer corff bob dydd. Mae dros hanner y plant yn dweud eu bod yn chwarae mwy nag arfer (53%) gydag amrywiaeth eang o chwarae ar-lein ac all-lein yn cael ei ddisgrifio gan gynnwys chwarae yn yr awyr agored, chwarae dychmygol, chwarae gyda theganau neu gemau, chwaraeon a chwarae creadigol. Dywedodd plant hefyd eu bod yn ymlacio mwy.
Nododd adroddiad atodol Coronafeirws a Fi: Profiadau plant o Gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol fod plant o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn fwy tebygol na phlant o gefndiroedd eraill o gael profiadau negyddol yn y cyfnod clo. Roeddent yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn chwarae llai, yn llai tebygol o fod yn ymarfer corff y tu allan ac yn fwy tebygol o ddweud eu bod eisiau help i fwyta bwyd iach a chadw’n egnïol.
2. Pa dystiolaeth ydych chi wedi'i defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan blant neu eu cynrychiolwyr?
Isod, amlinellir y data rydym yn eu monitro i lywio penderfyniadau ynghylch ein hymateb, ac i fonitro a gwerthuso effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac effaith ein gweithredoedd.
Aseswyd yn y cynnig
1. Rydym yn cynnal trafodaethau parhaus gydag awdurdodau lleol a Chwarae Cymru sy'n rhoi gwybod i ni sut mae'r canllawiau wedi'u rhoi ar waith ledled Cymru.
2. Mae Llywodraeth Cymru yn monitro cyfryngau prif ffrwd a'r cyfryngau cymdeithasol i ddeall barn y cyhoedd ac i lywio canllawiau a chwestiynau cyffredin.
3. Adroddiad ymchwil Covid 19 and Children’s Play gan y Play Safety Forum (Mehefin 2020)
Aseswyd ar ôl gweithredu
4. Arolwg Coronafeirws a fi, a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru. Ym mis Mai 2020, gweithiodd y Comisiynydd Plant gyda Llywodraeth Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru a Plant yng Nghymru i lansio arolwg 'Coronafeirws a fi' i gael gwybod am brofiadau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r canlyniadau'n cael eu cyhoeddi fesul cam ar wefan y Comisiynydd Plant.
5. Ymchwil ac erthyglau ar effaith coronafeirws ar allu plant i chwarae
- Mae’r Children and Young People’s Mental Health Coalition yn rhannu gwybodaeth am bwysigrwydd chwarae yn yr awyr agored ar gyfer iechyd a lles plant yn ei Adroddiad Blynyddol 2020.
- Mae adroddiad gan UNICEF yn dangos cysylltiadau cryf rhwng hapusrwydd plant a pha mor aml y maent yn chwarae yn yr awyr agored. Worlds of Influence: Understanding What Shapes Child Well-being in Rich Countries
- Are the kids alright? Social isolation can take a toll, but play can help Awstralia (The Conversation - Pasi Sahlberg a Sharon Goldfeld)
3. Sut ydych chi wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc? Os nad ydych wedi gwneud hynny, esboniwch pam.
Ni wnaethom ymgynghori â phlant a phobl ifanc ynghylch ailagor parciau a chanolfannau chwarae dan do gan fod y manteision yn cael eu cydnabod yn eang.
Yn dilyn y penderfyniad, ymgynghorwyd â phlant a phobl ifanc drwy'r arolwg Coronafeirws a fi a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru. Ym mis Mai 2020, gweithiodd y Comisiynydd Plant gyda Llywodraeth Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru a Phlant yng Nghymru i lansio arolwg 'Coronafeirws a fi' i gael gwybod am brofiadau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Gweler 1 a 2 uchod.
4. Pa dystiolaeth arall fyddai'n llywio'r asesiad?
Rydym yn cadw mewn cysylltiad â chydweithwyr Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru sy'n cydgysylltu gwaith ymchwil a dadansoddi sy'n gysylltiedig â COVID-19, er mwyn sicrhau bod tystiolaeth berthnasol yn llywio polisi a'n hasesiadau yn barhaus. Rydym hefyd mewn cysylltiad rheolaidd â dadansoddwyr y llywodraethau drwy Grŵp Trawslywodraethol y DU ac Iwerddon ar gyfer Dadansoddi’r Blynyddoedd Cynnar, ac rydym yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â chyllidwyr ymchwil blaenllaw (ee. Sefydliad Nuffield) ac academyddion i ofyn am eu barn (ee. David Dallimore, Luke Sibieta, ac ati) ac Rydym yn sicrhau bod tystiolaeth berthnasol ar effaith esblygol y pandemig yn cael ei ddefnyddio i’r eithaf ac yn llywio ein cynlluniau.
5. Esboniwch pa effaith mae’r cynnig yn debygol o’i chael ar hawliau plant.
Isod, ceir tabl o erthyglau’r CCUHP sy’n fwyaf perthnasol i’r penderfyniadau uchod.
Rhif yr erthygl |
Disgrifiad |
Cyswllt â phenderfyniadau |
---|---|---|
2 |
Mae'r Confensiwn yn berthnasol i bob plentyn heb wahaniaethu, beth bynnag fo'i ethnigrwydd, rhyw, crefydd, iaith, galluoedd neu unrhyw statws arall, beth bynnag yw eu barn neu eu dywed, beth bynnag fo'u cefndir teuluol. |
Ailagor mannau chwarae yn yr awyr agored ac o dan do er lles pob plentyn. Mae meysydd chwarae yn yr awyr agored yn arbennig o lesol i blant o deuluoedd ag incwm isel sy’n fwy tebygol o fod o grwpiau lleiafrifol.
|
3 |
Ym mhob penderfyniad a chamau gweithredu sy’n ymwneud â phlant, rhaid i les pennaf y plentyn fod yn brif ystyriaeth.
|
Mae pob penderfyniad wedi canolbwyntio ar alluogi pob plentyn i gael mynediad at fannau chwarae cyn gynted ag y bo modd, gan gadw’r risgiau cyn ised â phosibl ond yn cydnabod manteision chwarae o ran llesiant. |
6 |
Mae gan bob plentyn hawl i fyw. Rhaid i Lywodraethau wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu i’w potensial llawn.
|
Mae chwarae yn caniatáu i blant gyrraedd eu llawn botensial. |
15 |
Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl dynol i gael rhyddid i ymgysylltu.
|
Mae parciau a meysydd chwarae yn fannau lle mae plant yn cyfarfod a chymdeithasu â’i gilydd |
23 |
Mae gan blentyn sydd ag anabledd yr hawl i fyw bywyd llawn a gweddus gydag urddas ac yn annibynnol, cymaint â phosibl, ac i chwarae rhan weithredol yn y gymuned. Rhaid i Lywodraethau wneud popeth a allant i gefnogi plant anabl a’u teuluoedd.
|
Mae rhannau hygyrch ac offer ar gyfer plant ag anableddau mewn llawer o feysydd chwarae yn yr awyr agored. Mae ailagor y rhain yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i chwarae i blant anabl. |
24 |
Mae gan bob plentyn hawl i’r iechyd gorau posibl. Rhaid i Lywodraethau ddarparu gofal iechyd o safon, dŵr yfed glân, bwyd maethlon, ac amgylchedd glân ac addysg ar iechyd a lles er mwyn i blant allu cadw’n iach. |
Mae cael mynediad at fannau chwarae yn gwella lles ac iechyd corfforol a meddyliol plant. |
31 |
Mae gan bob plentyn hawl i chwarae ac ymroi i weithgareddau adloniadol.
|
Mae ailagor mannau chwarae yn yr awyr agored a dan do yn darparu cyfleusterau i bob plentyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r rhai nad oes ganddynt fynediad at ardd i chwarae ynddi. |