Araith gan Jerermy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Diolch yn fawr Victoria am y cyflwyniad hwnnw. A hoffen i ddweud ar y cychwyn mod i’n falch mai o dan awenau Sefydliad Bevan yr ydyn ni’n trafod sut mae’r system addysg yn mynd i’r afael â thlodi heddiw.
Mae’r gwaith rydych chi’n ei wneud fel sefydliad i daflu goleuni ar anghydraddoldebau yng nghymdeithas Cymru a’r angen i oresgyn tlodi a’i effeithiau, yn parhau i gael effaith sylweddol iawn yn y maes – ac ar nodyn personol rwy’n falch iawn o fod wedi cael cysylltiad hir dymor â’r sefydliad.
Rwy’n gwybod mor ddwfn yw eich ymrwymiad – felly diolch i chi am bopeth rydych chi a’ch cydweithwyr yn ei wneud, mae’n bwysicach nag erioed.
Mae rhaglen ymrwymiadau’r llywodraeth i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yn sbardun canolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud fel llywodraeth. Ac mae’n siapio sut rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymru – mae hwn yn amcan sy’n cael ei rannu.
Wrth inni symud i drydydd degawd datganoli, rwy’n credu bod llawer i’w ddathlu yn yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni ar y cyd ym maes Addysg. Mae llawer o hyn wedi arwain at ein rhaglen ddiwygio bresennol. Mae ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn addysg a gofal yn ystod plentyndod cynnar, y cwricwlwm ysgol newydd rydyn ni’n dechrau ei gyflwyno o fis Medi eleni ymlaen, ein deddf anghenion dysgu ychwanegol a’r hwb o ran y gefnogaeth rydyn ni’n ei darparu ar gyfer pob math o addysg ôl-16 a dysgu gydol oes, yn allweddol i hyn. Ond hefyd, gallwch weld yn ein polisi prydau ysgol am ddim, ein cyllid ar gyfer cost y diwrnod ysgol a’r mentrau sy’n ymwneud â’r gwasanaeth cerddoriaeth a rhoi llyfrau yn rhodd – na ddylai anfantais eich dal yn ôl rhag gwireddu eich potensial, a gallu rhagori.
Ond os ydym am greu system addysg wirioneddol ragorol a theg yng Nghymru, gan sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb, mae llawer mwy y mae angen inni ei wneud i sicrhau bod canlyniadau yn decach ac, yn enwedig, i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.
Rydym wedi gwneud cynnydd yn y maes hwn, ond y gwir amdani yw bod hynny wedi bod yn rhy araf ac mae llawer iawn mwy y mae angen inni ei wneud eto. Os edrychwch chi ar y grŵp oedran 14-16, er enghraifft, gwyddom o’n data ni, yn ogystal â’r dystiolaeth y mae Estyn ac eraill yn ei darparu, na fu digon o gynnydd dros y degawd diwethaf o ran cau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr o gefndiroedd incwm isel a’u cyfoedion nad ydynt yn byw mewn tlodi.
Ac mae’r tarfu a achoswyd gan y pandemig wedi gwneud pethau’n waeth. Mae ymchwil a gynhaliwyd gan ein prifysgolion gyda’u hysgolion partner a’u dadansoddiadau ar draws y sector yn dweud wrthym fod lles a chyrhaeddiad dysgwyr sy’n byw mewn tlodi wedi disgyn hyd yn oed ymhellach y tu ôl i ddysgwyr eraill yn ystod y pandemig. Ac mae’n rhaid inni fynd i’r afael â hyn fel rhan o’r broses adfer.
Rydym wedi cynnal dadansoddiad o’r canlyniadau ôl-16 ar gyfer y dysgwyr hynny y mae Covid wedi effeithio arnynt, gan gynnwys edrych ar eu dilyniant i ddysgu ôl-16, cadw dysgwyr ar gyrsiau a pha gymwysterau maen nhw wedi’u hennill. Ac mae hyn yn rhoi gwaelodlin inni, dros amser, i ddeall sut mae covid wedi effeithio ar gynnydd y dysgwyr hynny, a sut mae nodweddion eraill fel amddifadedd yn effeithio ar hyn. Bydd y ddealltwriaeth hon yn ein helpu i barhau i fuddsoddi mewn cymorth i’r dysgwyr hynny sydd ei angen fwyaf.
Ar draws Cymru, mae llawer gormod o amrywiaeth yng nghyrhaeddiad dysgwyr rhwng ysgolion sydd â phroffiliau economaidd-gymdeithasol tebyg ac yn enwedig rhwng awdurdodau lleol sydd â nodweddion demograffig tebyg.
Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu nad yw’r system addysg wedi gwneud digon o gynnydd - ac nad yw'r cynnydd yn ddigon cyson - i sicrhau nad yw anfantais economaidd-gymdeithasol yn dylanwadu’n gryf ar yr hyn y bydd dysgwyr yn ei gyflawni mewn addysg ac yn eu bywydau.
Ni allwn dderbyn y sefyllfa hon, ac rydw i’n benderfynol o gymryd camau radical a pharhaus i fynd i’r afael â hi. Ni allwn droi ein cefnau, ac ni fyddwn yn troi ein cefnau, ar y dysgwyr y mae tlodi’n effeithio arnynt – rydw i am weld safonau a dyheadau uchel i bawb.
Nawr mae cymwysterau yn hollbwysig er mwyn i bobl ifanc symud ymlaen i’w camau nesaf a gwireddu eu dyheadau, ond mae dangosyddion cynnydd hollbwysig eraill ochr yn ochr â hyn.
Felly, byddwn yn datblygu ystod ehangach o feini prawf ar gyfer mesur llwyddiant. A bydd y rhain yn canolbwyntio ar y canlyniadau ym mywydau dysgwyr, nid dim ond mewnbynnau a wnawn ni fel system. Mae rhywfaint o hyn yn debygol o ymwneud â chyflogadwyedd, rhywfaint ohono â thystiolaeth ynglŷn â lles, a chyflawni nodau dysgwyr unigol.
Cam ymarferol cynnar rydw i’n ei gymryd yw comisiynu adolygiad yn y maes hwn ac rwyf wedi gofyn i’m cydweithiwr Hefin David, AS Caerffili, edrych ar sut y mae darparwyr addysg yn darparu profiadau ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith, a gwneud argymhellion ynghylch ffocws, cysondeb ac effeithiolrwydd y rhain. Bydd yn gweithio gyda cholegau ond hefyd yn gweithio gyda nifer o ysgolion ar draws Cymru i ddeall sut beth yw arfer da o ran darparu addysg gyrfaoedd ac addysg gysylltiedig â gwaith, yn enwedig yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd.
Fel y Gweinidog dros Addysg a’r Iaith Gymraeg, fy nod yw sicrhau newid sylweddol o ran mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Rydw i wedi bod yn glir y dylai pob polisi addysg yng Nghymru gyfrannu at y genhadaeth hon a chael ei werthuso yn ôl yr amcan hwnnw, a byddaf yn sicrhau bod capasiti sefydliadol fy adran yn targedu'r flaenoriaeth polisi hon ac yn cyflawni’r agenda honno.
Yn yr araith hon rydw i am nodi sut y byddwn yn adeiladu ar ein polisïau presennol, lle maent wedi cael llwyddiant, rhai o’r datblygiadau polisi newydd y byddwn yn eu cyflwyno a sut rydyn ni’n bwriadu sicrhau’r newid trawsnewidiol sy’n ofynnol yn fy marn i.
Cyn imi wneud hyn, hoffwn edrych am ychydig ar yr hyn y gallwn ei ddysgu o fywyd Aneurin Bevan a’i brofiad ef o Addysg. Mewn gwirionedd, nid oedd ei brofiad o addysg ffurfiol – ar adeg wahanol iawn wrth gwrs – yn gadarnhaol iawn. Yng ngeiriau Michael Foot, roedd yn ‘casáu'r ysgol â chas perffaith’. Yn Ysgol Elfennol Sirhywi, cafodd ei fwlio gan neb llai na’r Pennaeth a dywedodd Foot ac un o’i gofianwyr eraill, Nick Thomas-Syrmonds, y gallai hyn fod wedi cyfrannu at yr atal dweud y bu’n dioddef ohono am weddill ei oes.
Yn dair ar ddeg oed, felly, rhoddodd Bevan y gorau i addysg ffurfiol ac, ar ôl cyfnod byr yn was bach i gigydd, ymunodd â’i dad a’i frodyr o dan y ddaear ym mhyllau glo Tredegar.
Ac eto, aeth yn ei flaen i fod yn un o Gymry mwyaf yr ugeinfed ganrif – yn areithiwr heb ei ail, yn feddyliwr sosialaidd dwfn ac yn bensaer y gwasanaeth iechyd gwladol. Ni adawodd i’w brofiad negyddol o addysg fygu ei ddyheadau na lladd ei gariad oes tuag at ddysgu.
Roedd ei dad – a oedd yn siarad Cymraeg ac yn eisteddfodwr – wedi plannu ynddo gariad dwfn tuag at ddarllen. Roedd cyfoeth llyfrgell gweithwyr Tredegar, a sefydlwyd drwy gyfraniadau glowyr a gweithwyr haearn y dref, yn gallu diwallu’r angerdd hwnnw, gan ddarparu’r hyn y mae Dai Smith yn ei ddisgrifio fel ‘datguddiad dwyfol’ iddo. Drwy ei aelodaeth o Ffederasiwn Glowyr De Cymru, roedd yn gallu manteisio ar ddarpariaeth addysg dosbarth gweithiol annibynnol.
Gymaint oedd ei syched am addysg nes iddo, yn 1919, ar ôl ennill ysgoloriaeth undeb, symud i Lundain i astudio gyda Jim Griffiths ac eraill o faes glo de Cymru yn y Coleg Llafur Canolog a sefydlwyd gan Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd. Gadawodd y coleg yn bropogandydd sosialaidd ymroddedig, yn barod am yr yrfa wleidyddol a ddilynodd yn fuan. Fodd bynnag, parhaodd ei ddysgu gydol ei oes fel darllenydd brwd â chariad at y celfyddydau, a rhannodd y cyfan gyda’i wraig a’i gymrawd, Jennie Lee - hithau, wrth gwrs, yn mynd ymlaen i sefydlu’r Brifysgol Agored.
Rydw i wedi sôn am brofiad Bevan oherwydd ymddengys i mi fod rhai pethau allweddol y gallwn ni eu dysgu ganddo yng nghyd-destun yr hyn rydyn ni’n ei drafod heddiw. Rhaid inni sicrhau bod profiad ein dysgwyr o oedran cynnar yn un cadarnhaol drwy’r cwricwlwm a gynigiwn iddynt, yr addysgu sy’n sail i hyn, drwy roi sylw i’w lles, y dyheadau a’r uchelgeisiau rydyn ni’n eu hannog i’w cael a’r arweinyddiaeth sy’n hwyluso hyn i gyd, fel na chollir doniau Bevans y dyfodol.
Rhaid inni hefyd sicrhau bod y dysgu’n parhau y tu hwnt i 16 oed, nid yn unig i’r rheini sydd wedi llwyddo o’r blaen ond hefyd i’r rheini, fel Bevan, nad ydynt wedi gwireddu eu potensial. Dylai’r dysgu gydol oes a’i galluogodd ef yn y pen draw i wireddu’r gallu cynhenid hwnnw fod ar gael i bawb a dylai fod wrth galon ein cymunedau ni, fel yr oedd yn Nhredegar.
Mae’r wyth maes hyn – addysg a gofal plentyndod cynnar, dysgu ac addysgu, pwysigrwydd cymuned, iechyd a lles, y cwricwlwm, dyheadau, arweinyddiaeth a dysgu gydol oes, yn ganolog i gynlluniau rydym yn eu datblygu er mwyn gwireddu safonau a dyheadau uchel i bawb.
Byddwn yn dod â nhw at ei gilydd mewn dull system gyfan sy’n cynnwys addysg a gofal yn ystod plentyndod cynnar, addysg gynradd ac uwchradd a phob math o addysg ôl-16, hyfforddiant a dysgu gydol oes. Ac yn sail i hyn oll, byddwn yn ymdrin ag addysg mewn ffordd sy’n adlewyrchu ac yn defnyddio’r gymuned ac yn cyd-fynd â datblygiadau polisi mewn meysydd allweddol eraill fel iechyd a’r economi. Dyma Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith.
A thrwy wneud hyn, byddwn yn sicrhau na fyddwn byth yn troi ein cefnau ar ein dysgwyr, beth bynnag fo’u cefndir, drwy gefnogi eu taith o addysg cyn ysgol i ddysgu gydol oes, gan gydnabod, er bod rhai’n gwneud cynnydd cyson drwy’r camau hyn, nad yw eraill yn gwneud cynnydd a bod angen ennyn eu diddordeb o’r newydd, ac efallai na fydd rhai ond yn dangos diddordeb lawer yn ddiweddarach yn y broses. Dyna pam rydw i’n sôn am ‘genedl o ail gyfleoedd, cenedl lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu’.
Rydw i hefyd yn argyhoeddedig y dylai’r cynllun gael ei gyd-lunio, ei gyd-berchnogi a’i gyd-gyflwyno gan yr holl bartneriaid yn y system addysg. Mae arnom angen yr hyn y mae’r addysgwr o Ganada, Michael Fullan, wedi’i alw’n ‘glymblaid arweiniol’ sy’n dod â’r holl egni, talentau a galluoedd arwain yn ein system ynghyd gyda phwrpas a phenderfyniad cyffredin – dyma ein cenhadaeth genedlaethol. Byddwn yn gweithio gyda’r sector i ddatblygu’r glymblaid arweiniol hon dros y misoedd nesaf.
Ni fyddwn yn llwyddo yn yr ymdrech hon, fodd bynnag, dim ond drwy gael dull gweithredu cyson, unedig, sy’n cael ei arwain ar y cyd. Mae arnom angen y polisïau cywir hefyd, sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth, sy’n cael eu gweithredu’n drylwyr ac sy’n parchu’r ymreolaeth rydyn ni am i’n gweithwyr addysg proffesiynol ei hymarfer.
Yn fy natganiad yn y Senedd yn ôl ym mis Mawrth, dechreuais nodi beth fydd rhai o’r polisïau hyn ac yn awr rydw i am ddefnyddio gweddill yr araith hon i ganolbwyntio ar bolisïau eraill, a gwneud rhai cyhoeddiadau ynghylch sut y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw.
Bydd defnyddio’r grant datblygu disgyblion mewn ffordd effeithiol yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn ac rydym eisoes wedi dechrau gweithio gyda’n partneriaid yn yr awdurdodau lleol a’r consortia i gysoni’r defnydd o’r grant amddifadedd disgyblion â’r wyth maes polisi y cyfeiriais atynt yn gynharach.
Ac mae sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau i’w datblygiad addysgol yn hollbwysig. Mae angen un system gyfannol arnom ar gyfer addysg a gofal yn ystod plentyndod cynnar. Mae’r blynyddoedd cynnar yn gyfnod allweddol ar gyfer datblygiad gwybyddol, cymdeithasol, corfforol, cyfathrebu, emosiynol ac ymddygiadol pob plentyn ac rydym yn gwybod bod gwahaniaethau sylweddol yn y meysydd hyn o ran plant o gartrefi incwm isel.
Rydym yn ehangu’r cynnig gofal plant, yn buddsoddi mwy yn Dechrau’n Deg ac yn ymestyn ei gyrhaeddiad, yn cynyddu’r gwariant ar ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu drwy’r cynllun cyflawni Siarad gyda Fi ac yn rhoi mwy o gefnogaeth i raglenni magu plant. Bydd cyfanswm o £805.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglenni hyn rhwng 2022-23 a 2024-2025.
Gan adeiladu ar hyn, a gweithio gyda Phlaid Cymru, o fis Medi 2022 ymlaen, byddwn yn dechrau cyflwyno ein cynnig i ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd.
Y dylanwadau mwyaf ar lwyddiant dysgwyr yw ansawdd y dysgu a’r addysgu maen nhw’n eu profi ac, yn enwedig i’n dysgwyr iau, yr amgylchedd maen nhw’n ei brofi gartref ac yn y gymuned.
Rydw i eisoes wedi nodi rhai o’r camau rydym yn eu cymryd i gefnogi ein hysgolion i ganolbwyntio ar y gymuned ac rydw i f wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi mewn ysgolion cymunedol, gan gydleoli gwasanaethau allweddol, a sicrhau ymgysylltiad cryfach â rhieni a gofalwyr y tu allan i oriau traddodiadol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i edrych ar ddiwygio’r diwrnod a’r flwyddyn ysgol fel y gellir defnyddio amser ysgol yn y ffordd orau i gefnogi ein holl ddysgwyr, yn enwedig y rheini sy’n byw mewn tlodi, gan gynnwys mynediad at gyfleoedd dysgu cyfoethocach y mae dysgwyr o gefndiroedd mwy cefnog yn eu derbyn fel rhan arferol o dyfu i fyny.
Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn gwella’n barhaus ansawdd y dysgu a’r addysgu y mae dysgwyr o aelwydydd incwm isel yn ei brofi gan ein bod yn gwybod bod hyn yn cael dylanwad mawr ar eu cynnydd. Rydw i’n pryderu bod ysgolion yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig weithiau’n ei chael hi’n anodd recriwtio a chadw’r athrawon y mae arnynt eu heisiau. Rydw i am edrych ar sut y gallwn gymell athrawon – gan gynnwys y rhai sydd wedi cymhwyso’n ddiweddar – i addysgu yn yr ysgolion sy’n gwasanaethu ein dysgwyr mwyaf difreintiedig, felly rwy’n comisiynu ymchwil gychwynnol ar hyn, gyda’r bwriad o lansio cynllun peilot wedyn i brofi rhai dulliau gweithredu.
Mae hefyd yn hanfodol bwysig ein bod yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol i weithwyr addysg proffesiynol – athrawon, darlithwyr a staff cymorth – i gefnogi eu gwaith yn mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Hoffwn ddweud wrthych yn awr am rai o’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni hyn.
Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn darparu dros £0.5 miliwn i alluogi ein gwasanaethau gwella ysgolion i gynnig rhaglen dysgu proffesiynol ddigidol, rad ac am ddim, i ddarparwyr addysg sy’n canolbwyntio ar sut i wella cyrhaeddiad a chefnogi lles dysgwyr o gefndiroedd incwm isel. Caiff hyn ei lansio ym mis Ionawr 2023 a bydd yn cynnig y wybodaeth orau bosib, seiliedig ar dystiolaeth, i weithwyr proffesiynol.
Bydd llawer o’r wybodaeth honno wedi’i seilio ar dystiolaeth ymchwil uchel ei pharch, o ansawdd uchel, gan yr Education Endowment Foundation. Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi ein bod yn sefydlu partneriaeth strategol gydag EEF.
Fel rhan o hyn, byddwn yn gofyn iddynt edrych ar eu pecyn adnoddau addysgu a dysgu, sy’n rhoi tystiolaeth hygyrch i weithwyr proffesiynol ar strategaethau dysgu ac addysgu effeithiol, a’i addasu’n benodol ar gyfer ein cyd-destun ni yma yng Nghymru, a sicrhau ei fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddwn hefyd yn gofyn iddynt rannu gyda’n hysgolion yr arbenigedd y maen nhw wedi’i ddatblygu o ran y ffordd orau o ddefnyddio’r pecyn a monitro ei effaith.
Rydym yn bwriadu gweithio gydag EEF i ddatblygu astudiaethau achos o ysgolion Cymru lle mae’r strategaethau a ddisgrifir yn y pecyn wedi cael eu defnyddio’n effeithiol. Gobeithio eich bod yn cytuno bod y bartneriaeth hon gyda sefydliad mor brofiadol ac uchel ei barch yn y maes hwn yn gyffrous.
Ochr yn ochr â hyn, fel rhan o’r cyfleoedd dysgu proffesiynol cyfoethog rydyn ni’n eu cynnig i’n hathrawon, rydym wedi datblygu rhaglen meistr genedlaethol mewn addysg ar y cyd â’n sefydliadau addysg uwch. Rwyf bellach wedi gofyn i brifysgolion weithio gyda ni i ddatblygu llwybr ar wahân o fewn y rhaglen meistr sy’n canolbwyntio’n benodol ar degwch mewn addysg. Bydd yn cynnwys modiwl sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Bydd hwn ar gael o 2023 ymlaen.
Gwyddom o dystiolaeth ryngwladol fod angen inni wella sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu ein dysgwyr, gan gynnwys eu sgiliau darllen. I Aneurin Bevan, chwaraeodd byd llyfrau a darllen ran hanfodol yn ei daith, a gwyddom fod bod yn ddarllenydd brwd a medrus mor bwysig o ran datblygu’r llythrennedd sy’n sylfaen hanfodol ar gyfer cynnydd mewn addysg.
Mae’r cynllun gweithredu darllen a llafaredd a gyhoeddais yr hydref diwethaf yn nodi ein blaenoriaethau yn y maes hwn. Yn ddiweddar, rydw i wedi cyhoeddi £5 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer rhaglenni darllen ledled Cymru a fydd yn darparu llyfr i bob dysgwr ochr yn ochr â chynllun cymorth darllen wedi’i dargedu, sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr y blynyddoedd cynnar a dysgwyr difreintiedig.
Fel rhan o weithio tuag at ddull ysgol gyfan o ymdrin â darllen a llafaredd, rydym hefyd yn ehangu prosiect a fydd yn cefnogi dros 2,000 o blant i wella eu sgiliau iaith, cyfathrebu a darllen. Mae’r prosiect, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor, yn darparu rhaglen iaith a llythrennedd ddwys a rhyngweithiol i blant 7-11 oed yn Gymraeg ac yn Saesneg, naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu’r tu allan iddi. Cafodd ei lansio’n wreiddiol i gefnogi dysgwyr gyda dysgu o bell a bydd y rhaglen yn awr yn cael ei hehangu i helpu i wella sgiliau llythrennedd dysgwyr yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno’r prosiect mewn mwy o ysgolion, ehangu’r prosiect yn Gymraeg a darparu gwersi ychwanegol i blant a rhieni ddysgu gyda’i gilydd gartref.
Yn olaf, mewn perthynas â dysgu ac addysgu. Mae’r dystiolaeth ryngwladol yn dangos mai gan lawer o’r gwledydd sy’n mabwysiadu grwpiau o ddysgwyr cyrhaeddiad cymysg am gyn hired â phosib – fel arfer tan 14/15 oed pan fyddant yn dechrau astudio am gymwysterau cenedlaethol - y mae’r systemau addysg mwyaf cyfartal.
Mae’r ymrwymiad hwn i addysgu ar sail cyrhaeddiad cymysg yn gallu cynyddu cyrhaeddiad cyffredinol dysgwyr ac osgoi effeithiau niweidiol setio, sy’n aml yn arwain at roi dysgwyr o aelwydydd incwm isel yn y grwpiau isaf. Nid yw’n syndod bod ymchwilwyr wedi canfod bod hyn yn mygu dyheadau a chyrhaeddiad y dysgwyr hyn.
Gwyddom fod setio a mathau eraill o grwpio dysgwyr ar sail cyrhaeddiad yn cael eu defnyddio’n eang yn ein system yng Nghymru, ond nid oes gennym dystiolaeth ymchwil gadarn ar hyn a’i effeithiau. Felly, byddaf yn comisiynu arbenigwyr blaenllaw yn y maes hwn i gynnal adolygiad cychwynnol o dystiolaeth mewn perthynas â Chymru. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio’n benodol ar i ba raddau y mae dysgu ac addysgu cyrhaeddiad cymysg eisoes yn digwydd, beth yw’r manteision ond hefyd beth yw’r heriau a pha ddysgu proffesiynol fyddai ei angen ar weithwyr addysg proffesiynol.
Os ydym am symud i’r cyfeiriad hwn, bydd angen inni wrando’n ofalus ar farn a phrofiad ein plant a’n pobl ifanc, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym am ei ddatblygu yng Nghymru yn fwy cyffredinol, yn unol â’n hymrwymiad i gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a chyda phartneriaid gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru. Rydw i wedi gofyn i’m swyddogion ddatblygu canllawiau i ddarparwyr addysg ar y ffordd orau o wrando ar ddysgwyr o gefndiroedd incwm isel, gweithredu ar hynny a rhoi adborth iddynt.
Wrth gwrs, mae angen i’r holl ystyriaethau hyn fod ar flaen y diwygiadau pwysig rydym yn eu gwneud i roi ein Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith. Mae wedi’i gynllunio a’i fwriadu i sicrhau safonau a dyheadau uwch i bawb, ac mae hynny’n sicr yn cynnwys y rheini y mae tlodi’n effeithio ar eu cyrhaeddiad. Gall ysgolion gynllunio eu cwricwla eu hunain gan ystyried anghenion eu dysgwyr, eu rhieni a’u gofalwyr, a’u cymunedau.
Er mwyn cyflawni hyn a chael budd gwirioneddol o’n diwygiadau, rydym wedi annog ysgolion i gydweithio yn eu clwstwr lleol, gan gynnwys cydweithio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd. Cyn diwedd y mis hwn, byddaf yn cyhoeddi cyfarwyddyd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion weithio gydag ysgolion y tu allan i’w clwstwr lleol, i sicrhau ein bod yn adeiladu ac yn rhannu arferion effeithiol ledled Cymru. Fy ngham nesaf fydd nodi ein rhaglen fonitro genedlaethol er mwyn deall cynnydd dysgwyr ym mhob cyfnod, mewn ffordd sy’n cefnogi addysgu a dysgu o ansawdd uchel, ac nad yw’n annog ymarferwyr i ‘addysgu ar gyfer profion’.
Rydw i am droi yn awr at y rôl y bydd addysg ôl-16 a dysgu gydol oes yn ei chwarae yn ein dull system gyfan. Mae gennym draddodiad balch o ddysgu oedolion a dysgu cymunedol yng Nghymru ac mae llawer y mae ein sector addysg bellach, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, awdurdodau lleol a phrifysgolion eisoes yn ei wneud i ehangu mynediad i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi cyrraedd eu potensial yn 16 oed.
Mewn ymateb i’r tarfu a achoswyd gan y pandemig ar ddysgwyr sy’n symud o addysg cyn-16 i addysg ôl-16, rydym wedi cyflwyno cynllun pontio ôl-16 sydd wedi cael ei gefnogi gan £45.9m o gyllid ychwanegol rhwng 2020/21 a 2022/23 ac sydd wedi annog cydweithio da rhwng darparwyr.
Ond mae llawer mwy y gall y sector ôl-16 ei wneud i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Yn fy natganiad llafar eglurais ein bwriad i ehangu gwaith rhwydwaith Seren fel ei fod yn cyrraedd mwy o ddysgwyr sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.
Yn y bil sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd, rydym yn gosod dyletswydd ddeddfwriaethol ar y comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil i ehangu cyfle cyfartal a gwella mynediad, cyfraddau cadw a llwyddiant ar gyfer pob dysgwr ôl-16, gan gynnwys y rheini o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion adeiladu ar waith cychwynnol ar dracio dysgwyr a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim pan oeddent yn 16 oed er mwyn inni allu monitro eu cynnydd drwy addysg ôl-16.
Bydd hyn yn cynnwys rhannu data gydag UCAS ar gymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim er mwyn i brifysgolion, gan gynnwys ein prifysgolion ni yng Nghymru, allu olrhain yn well gynnydd dysgwyr sydd, neu sydd wedi bod, yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chymryd hynny i ystyriaeth yn eu cynigion.
Fy nod oedd galluogi hyn i fod ar gael ar gyfer y system glirio eleni a bob amser o hynny ymlaen ar gyfer prosesau recriwtio – a gallaf gadarnhau heddiw y bydd y trefniadau hyn ar waith nawr yn y drefn glirio ym mis Awst. Bydd hwn yn arf pwysig ar gyfer ehangu mynediad i addysg uwch.
Mae angen inni wrando ar brofiadau’r dysgwyr hyn a’u deall, ac rydym ni a CCAUC wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid, ac yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi set ddrafft o egwyddorion ar gynnwys dysgwyr ôl-16 a phartneriaethau myfyrwyr. Un o’r meysydd pryder y mae dysgwyr yn aml yn tynnu sylw ato yw eu hanghenion iechyd a lles. Mae’r sector addysg bellach wedi cydweithio i ymateb i’r anghenion hyn, ac rydym wedi darparu cyllid i gefnogi’r cydweithio hwn. Gallaf gyhoeddi nawr y byddwn yn dyrannu £4m ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon, i gefnogi lles yn y sector addysg bellach.
Yn ein Rhaglen Lywodraethu, fe welwch ein hymrwymiad i gynnig ystod eang o gymwysterau a llwybrau cymwysterau o ansawdd, gwerth a bri cyfartal i ddysgwyr cyn-16 ac ôl-16. Bydd hyn yn cynnwys ehangu’r ystod o gymwysterau galwedigaethol ‘a wnaed yng Nghymru’ sy’n diwallu anghenion ein heconomi. Gan weithio gyda Phlaid Cymru, yn ddiweddar cyhoeddais adolygiad o gymwysterau galwedigaethol a fydd yn adrodd yn ôl yn haf 2023.
Dylai cymwysterau galwedigaethol fod ar gael i bob dysgwr i ddiwallu ei ddiddordebau, ei anghenion a’i ddyheadau dysgu. Rwy’n hyderus y bydd cymwysterau o’r fath yn ein galluogi ni i ymgysylltu â grŵp ehangach o ddysgwyr, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd incwm isel. Mae angen hefyd inni sicrhau bod sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn ganolog ym mhob llwybr cymwysterau.
Byddwn hefyd yn ystyried sut y gallwn ddarparu cyngor gyrfaoedd annibynnol mwy dwys i ddysgwyr o gefndiroedd incwm isel, fel rhan o’r cynnig y dylem ei wneud i bob dysgwr mewn perthynas â’r llwybrau cymwysterau ehangach hyn.
Byddwn yn darparu ystod ehangach o ddewisiadau o ansawdd uchel a statws uchel ar gyfer dysgwyr ôl-16 gan gynnwys mynediad i fyd gwaith. I’r perwyl hwn, rwyf am sicrhau ein bod yn cynnig y cyngor a’r gefnogaeth orau bosib iddynt ar gyfer y dewisiadau a wnânt. Bydd y gwaith rydw i wedi gofyn i Hefin David ei arwain ar ein rhan yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at gyflawni hyn.
Rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru’n wlad ‘ail gyfle’ sy’n darparu cyfleoedd dysgu gydol oes a darpariaeth ddysgu gadarn i oedolion ac yn y gymuned. Byddwn yn ehangu cyfleoedd dysgu gydol oes gan alluogi dysgwyr nad ydynt wedi gwireddu eu potensial cyn hyn i ennill sgiliau a chymwyseddau newydd, er enghraifft drwy ddefnyddio cyfrifon dysgu personol.
Rydw i’n credu y dylai dysgu fel teulu fod yn rhan bwysig o’r ddarpariaeth hon ac y dylai adeiladu ar yr amrywiaeth o raglenni magu plant rydyn ni’n eu hariannu a’r pwysigrwydd a roddir ar gryfhau’r amgylchedd dysgu gartref ar gyfer dysgwyr oed ysgol. Bydd gwaith ein hysgolion bro yn helpu i hwyluso hyn, a gwyddom hefyd fod modelau rhagorol ar gael mewn addysg bellach, megis y rhaglen teuluoedd yn dysgu gyda’i gilydd, a ddatblygwyd gan Goleg Caerdydd a’r Fro. I gyfrannu at ein gwaith yn y maes hwn, byddaf yn gofyn i’r Sefydliad Dysgu a Gwaith adeiladu ar y gwaith cychwynnol y mae wedi’i wneud ar ddysgu teuluol ac ystyried y cyd-destun sy’n bodoli ar ôl y pandemig.
Mae’n hanfodol nawr inni integreiddio’r holl ddatblygiadau polisi hyn mewn dull system gyfan, wedi’i gefnogi gan strategaeth weithredu a fydd yn ein galluogi i sicrhau momentwm parhaus tuag at y nod terfynol – sef creu’r system addysg a dysgu gydol oes ardderchog a chyfartal sy’n uchelgais i ni yng Nghymru. Fel y dadleua Michael Fullan ‘does dim atal ar bwrpas moesol ynghyd ag addysgeg bwerus’.
Byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn yn ddi-baid. Rydym, felly, wedi cytuno ag Estyn y bydd yn cynyddu ei waith yn monitro gwaith ysgolion, gwasanaethau gwella ysgolion a darparwyr ôl-16 yn y maes hwn, fel y gallwn gael gwerthusiad annibynnol o’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud.
Ac rydw i am sicrhau bod arweinwyr addysgol sydd eisoes wedi llwyddo yn y maes hwn yn gallu ein helpu ni i gefnogi arweinwyr sydd wedi dechrau ar y daith i wireddu safonau a dyheadau uchel ar gyfer pawb ond sy’n wynebu heriau. Byddaf yn enwi grŵp bach o’r arweinwyr hyn y byddwn yn eu gwahodd i weithio gyda ni fel hyrwyddwyr cyrhaeddiad ac a fydd yn gallu ein helpu i rannu gwybodaeth ac arferion gorau. Bydd hyn yn cynnwys cynllun peilot i ddarparu cymorth gan gymheiriaid y gellir ei gynnig i uwch arweinwyr ysgolion sy’n gweithio yn y sefyllfaoedd economaidd-gymdeithasol mwyaf heriol.
Ym marn Aneurin Bevan, 'os yw rhyddid i gael ei achub a’i ehangu, rhaid rhoi terfyn ar dlodi’. Yn yr oes gythryblus hon, mae’r neges honno yr un mor berthnasol nawr ag erioed. Rydw i’n credu, fel chithau, rwy’n siŵr – y gall y system addysg chwarae ei rhan lawn ar y daith tuag at y Gymru decach yr ydym i gyd am ei gweld, drwy drechu’r effaith niweidiol a gaiff tlodi ar gyrhaeddiad. A gwireddu safonau a dyheadau uchel i bawb.
Diolch am wrando. Rwy’n edrych ymlaen at eich cwestiynau ac at weithio gyda chi dros y blynyddoedd nesaf i wireddu’r uchelgais hwn. Diolch yn fawr.