Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr ar 28 Mehefin. Mae’r canlyniadau cyntaf hyn yn cynnwys amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhyw a grwpiau oedran pum mlynedd.

Mae’r SYG wedi cyhoeddi bwletin ystadegol sy’n crynhoi’r prif bwyntiau ar gyfer Cymru.

Newid yn y boblogaeth

  • Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, maint y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru oedd 3,107,500. Dyma'r boblogaeth fwyaf a gofnodwyd erioed drwy gyfrifiad yng Nghymru. 
  • Mae poblogaeth Cymru wedi cynyddu 44,000 (1.4%) ers y cyfrifiad diwethaf yn 2011, pan oedd yn 3,063,456.
  • Roedd cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru rhwng 2011 a 2021 (1.4%) yn is na'r gyfradd rhwng 2001 a 2011, pan gynyddodd y boblogaeth 5.5%.
  • Roedd cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr, lle cynyddodd y boblogaeth 6.6% (bron i 3.5 miliwn).
  • Roedd mwy o farwolaethau na genedigaethau yng Nghymru rhwng 2011 a 2021. Mae'r twf yn y boblogaeth ers 2011 oherwydd mudo net positif (oddeutu 55,000 o breswylwyr arferol) i mewn i Gymru.

Poblogaethau awdurdodau lleol

  • Yr awdurdodau lleol â’r cyfraddau uchaf o dwf yn y boblogaeth ers 2011 oedd Casnewydd (9.5%), Caerdydd (4.7%) a Phen-y-bont ar Ogwr (4.5%).
  • Roedd gan sawl awdurdod lleol boblogaethau is yn 2021 nag yn 2011. Roedd y cyfraddau mwyaf o leihad yn y boblogaeth ers 2011 yng Ngheredigion (5.8%), Blaenau Gwent (4.2%) a Gwynedd (3.7%).

Poblogaeth yn ôl oedran

  • Roedd mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn y grwpiau oedran hŷn. Cyfran y boblogaeth a oedd yn 65 oed neu hŷn oedd 21.3% (i fyny o 18.4% yn 2011).
  • Roedd canran fwy o'r boblogaeth yn 65 oed a throsodd yng Nghymru nag yn holl ranbarthau Lloegr, heblaw am Dde-orllewin Lloegr, lle roedd 22.3% o'r boblogaeth yn y grŵp oedran hwn. 
  • Mae maint y boblogaeth 90 oed neu hŷn (29,700, 1.0%) wedi cynyddu ers 2011, pan oedd 25,200 (0.8%) yn 90 oed neu hŷn.

Dwysedd y boblogaeth

  • Ar gyfartaledd roedd 150 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr yng Nghymru yn 2021, yn sylweddol is na dwysedd y boblogaeth yn Lloegr (434 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr).
  • Yr awdurdod lleol mwyaf poblog yng Nghymru oedd Caerdydd (2,572 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr), a’r awdurdod lleol lleiaf poblog oedd Powys (26 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr).

Nifer y cartrefi

  • Roedd 1,347,100 o gartrefi ag o leiaf un preswylydd arferol yng Nghymru ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Mae hyn yn gynnydd o 44,400 (3.4%) ers 2011, pan oedd 1,302,676 o gartrefi. 

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg y SYG.

Mae disgwyl i amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi heb eu talgrynnu gael eu cyhoeddi o fis Hydref. Bydd hyn hefyd yn cynnwys dadansoddiad o'r boblogaeth fesul blwyddyn oedran unigol, yn hytrach na grwpiau oedran eang.

Bydd cyhoeddiadau pellach o ddata Cyfrifiad 2021 o fis Hydref, gan gynnwys gwybodaeth am bynciau fel y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth am y data a’r dadansoddiadau fydd ar gael, gweler cynlluniau cyhoeddi’r SYG.

Mae’r SYG yn bwriadu cyhoeddi adroddiadau yn cymharu amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 â'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ac amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol diweddaraf y SYG, gan gynnwys esboniadau o unrhyw wahaniaethau, yn ddiweddarach eleni.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y statws parhaus o’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i’r SYG ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Martin Parry
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
National statistics

 

 

 

SB 15/2022