Mae bwrdd newydd yn cael ei sefydlu i adolygu'r cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i ddysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru.
Sharron Lusher, a fu’n Bennaeth Coleg Sir Benfro ac yn Gadeirydd Colegau Cymru, fydd yn cadeirio'r bwrdd.
Bydd yr adolygiad yn dechrau ym mis Gorffennaf 2022, a bydd yn ystyried y camau y mae angen eu cymryd i ehangu'n sylweddol yr ystod o gymwysterau galwedigaethol Cymreig sydd ar gael, yn ôl anghenion dysgwyr a'r economi yng Nghymru. Bydd yr adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yn cael ei oruchwylio gan grŵp llywio o gyrff rhanddeiliaid, dan gadeiryddiaeth arweinydd yn y maes sydd wedi'i leoli yng Nghymru.
Mae'r adolygiad yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg:
Dw i wrth fy modd bod Sharron Lusher wedi cytuno i gadeirio'r Bwrdd Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol. Bydd ei harbenigedd mewn addysg bellach, busnes ac arweinyddiaeth yn werthfawr i'r adolygiad hwn.
Fe fyddwn ni’n gweithio i sicrhau bod gyda ni’r cymwysterau galwedigaethol sydd eu hangen yng Nghymru, a’u bod ar gael i bob dysgwr yn ôl eu diddordebau, eu hanghenion a'u huchelgais addysgol.
Bydd gwella'r ddarpariaeth a'r ystod o gymwysterau galwedigaethol Cymreig yn hanfodol i sicrhau ein bod ni’n cyflawni anghenion economi Cymru at y dyfodol, gan ofalu ar yr un pryd bod ein myfyrwyr yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu a symud ymlaen.
Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian:
Mae cymwysterau galwedigaethol yn rhan hanfodol bwysig o'n system addysg. Mae angen inni sicrhau eu bod nhw’n addas ar gyfer anghenion y Gymru fodern.
Bydd yr adolygiad hwn yn chwarae rhan bwysig o ran ein helpu ni i ehangu'r ystod o gymwysterau galwedigaethol Cymreig sydd gyda ni i wasanaethu ein heconomi a'n cymdeithas.