Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad diweddar ar y newidiadau arfaethedig i rannu eiddo annomestig yng Nghymru at ddibenion prisio. Roedd yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 12 wythnos o 9 Mawrth tan 1 Mehefin 2022.
Roedd yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad o blaid y cynigion ar y cyfan. Rwy’n deall y byddai’n well gan rai o’r talwyr ardrethi yr effeithir arnynt weld y newidiadau yn cael eu hôl-ddyddio i gynnwys y rhestri ardrethi presennol a blaenorol. Fel y nodir yn yr ymgynghoriad, byddai angen deddfwriaeth sylfaenol er mwyn darparu i’r newidiadau gael effaith ôl-weithredol, a byddai’n cymryd nifer o flynyddoedd cyn y gellid cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol fel hon.
Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i baratoi’r is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i wrthdroi penderfyniad Mazars mewn pryd ar gyfer dechrau rhestr ardrethu 2023, a chymhwyso’r newid i restri ardrethi dilynol.
Mae crynodeb o’r ymatebion ar gael yma: https://llyw.cymru/rhannu-eiddo-annomestig-yng-nghymru-ddibenion-prisio