Ryan Brown
Rownd derfynol
Pan ddaeth ei swydd gyda chwmni Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ben, manteisiodd Ryan Brown, gweithredydd cynhyrchu ac arweinydd tîm, ar y cyfle i ailhyfforddi.
Llwyddodd i gael prentisiaeth ar raglen hyfforddi trydanwyr Ford ac erbyn hyn mae’n rhaglennu robotiaid ac yn gweithio gyda nhw, yn trefnu i drwsio dyfeisiau sy’n torri ac yn canfod ffyrdd o arbed arian i’r cwmni.
Mae Ryan, 26 oed, o Borthcawl, wedi helpu i sefydlu adran Technolegau Datblygol ac mae ar fin arbed £29,340 y flwyddyn i’r cwmni trwy wneud darn ar gyfer argraffydd 3D.
Ac yntau wedi cychwyn blwyddyn olaf ei Brentisiaeth Cynnal a Chadw Trydanol, mae’n gobeithio cwblhau HNC mewn Peirianneg Drydanol yng Ngholeg Pen-y-bont a gradd BEng mewn Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.