Corinna Roberts
Rownd derfynol
Dywed Corinna Roberts fod cwblhau ei phrentisiaeth wedi rhoi hwb mawr i’w hyder a’i sgiliau ac wedi dod â gwerth a syniadau newydd i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yng Nghasnewydd lle mae’r fam ifanc yn gweithio.
Llwyddodd Corinna, 26 oed, sy’n byw yn Nhonypandy, i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes a sicrhau swydd barhaol yn y Gwasanaeth Sifil, gan ymdopi ar yr un pryd â chyfrifoldebau bod yn rhiant a dysgu i reoli ei hiechyd meddwl.
Gyda chefnogaeth y darparwr hyfforddiant ALS Training, mae’n bwriadu symud ymlaen naill ai i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) neu i gymhwyster arall.
Pan ymunodd Corinna â’r IPO roedd yn ymgodymu ag anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) difrifol, gorbryder ac iselder ond erbyn hyn mae’n helpu pobl eraill fel swyddog amrywiaeth a chynhwysiant ac mae wedi sefydlu’r rhaglen gyntaf o’i math ym maes ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.