Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Fy ngweledigaeth i yw y bydd pob person ifanc yn deall sut mae hanes, iaith, amrywiaeth a diwylliant Cymru wedi siapio Cymru i fod yn genedl falch ac unigryw, a bydd yn ysbrydoli pobl ifanc i ddiogelu eu treftadaeth unigryw a'r iaith Gymraeg. Mae’r Cytundeb Cydweithio, a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr yn cefnogi'r weledigaeth hon ac yn pwysleisio pwysigrwydd hanes Cymru ac yn cadarnhau ein hymrwymiad i wella addysgu hanes Cymru drwy sicrhau ein bod yn datblygu cefnogaeth i'n hathrawon i'w addysgu yn ei holl gymhlethdod a'i hamrywiaeth.
Mae gweithredu’r argymhellion a wnaed gan Weithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd yn rhan annatod o addysgu ynghylch profiadau a chyfraniadau amrywiol pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar draws y Cwricwlwm i Gymru a bydd yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o fewn ein system addysg.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf, sy'n nodi'r camau rydym wedi'u cymryd hyd yma i fwrw ymlaen â'r argymhellion o fewn fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ac yn ehangach.
Rwy’n falch bod cynnydd cadarn wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud dysgu am brofiadau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn orfodol o fewn y cwricwlwm newydd, fel rhan annatod o ddysgu hanes Cymru sy’n orfodol. Rwyf hefyd yn falch o'r cynnydd ar y cynnig dysgu proffesiynol ehangach, gan gynnwys Addysg Gychwynnol Athrawon a Gwobr Addysgu Proffesiynol Betty Campbell MBE.
Drwy gynnal cysylltiadau agos rhwng y camau sy'n cael eu cymryd ar draws y maes addysg ac yn y llywodraeth, byddwn yn sicrhau parhad a chynaliadwyedd y gwaith hwn ac yn canolbwyntio ar ei effaith gadarnhaol ar gymdeithas ehangach. Yn gynharach y mis hwn, roeddwn yn falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau yr ydym yn eu cymryd yn ein system addysg fel rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol ac ar Ddysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth cenedlaethol.
Ni ellid bod wedi cyflawni’r hyn a wnaed hyd yma heb y gefnogaeth gref gan ein rhanddeiliaid.
Rwy’n ddiolchgar iawn am yr ymgysylltu a’r gefnogaeth barhaus a gawsom gan yr Athro Charlotte Williams OBE, cadeirydd y grŵp a rhywun sy’n parhau i gyflawni rôl allweddol o ran cefnogi Llywodraeth Cymru wrth i ni symud ymlaen i weithredu’r argymhellion, ac am y gwaith ymgysylltu sylweddol y mae’n parhau i’w wneud gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allanol.