Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Ar 22 Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i lansio trafodaethau masnach gyda’r Gulf Cooperation Council (GCC).
Mae GCC, a elwir yn Cooperation Council for the Arab States of the Gulf hefyd, yn undeb ranbarthol, rynglywodraethol wleidyddol ac economaidd sy’n cynnwys Bahrain, Kuwait, Oman, Qatar, Saudi Arabia a’r Emiradau Arabaidd Unedig.
Mae cryn dipyn o fasnachu eisoes rhwng y DU a gwladwriaethau CGG ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mesurau i sicrhau cynnydd pellach. Yn 2021, roedd y masnachu nwyddau rhwng Cymru a gwladwriaethau’r GCC wedi cyrraedd £1.2 biliwn, a mewnforion ac allforion yn werth oddeutu £733 miliwn a £493 miliwn yn y drefn honno. Gallai Cytundeb Masnach Rydd gynhwysfawr gyda’r GCC gynnig cyfleoedd ar gyfer busnesau i sicrhau neu gryfhau y masnach nwyddau a gwasanaethau gyda gwladwriaethau’r GCC.
Fodd bynnag, mae gennym bryderon am drafodaethau gyda rhai o wladwriaethau'r GCC. Mae ein dull o ymdrin â pholisi masnach, sy'n seiliedig ar ddefnyddio lens Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn golygu ein bod yn ystyried bod cytundebau masnach yn ymwneud â mwy nag enillion economaidd yn unig. Credwn y dylai cytundebau masnach gynnwys darpariaethau ar faterion allweddol eraill megis hawliau gweithwyr a rhyw a'r amgylchedd. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar lefel swyddogion a gweinidogion lle bynnag y bo modd er mwyn sicrhau bod ein pryderon yn cael eu clywed. Byddem yn cefnogi'r cynnydd o fewn unrhyw gytundeb ar y materion a nodir uchod, gan gynnwys penodau a darpariaethau penodol lle y bo'n briodol. Yn ogystal, fel aelod o'r Beyond Oil and Gas Alliance (BOGA), mae Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i hwyluso'r broses o reoli cynhyrchu olew a nwy. Felly, byddem am weld cytundeb masnach gyda'r GCC sy'n cynnwys trefniadau pontio cryf i gefnogi pob parti i arallgyfeirio oddi wrth gynhyrchu olew a chanolbwyntio ar ynni adnewyddadwy.
Byddwn yn ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i ddeall effeithiau'r fargen fasnach ar sectorau yng Nghymru ac yn nodi cyfleoedd posibl i gynhyrchwyr o Gymru yn y trafodaethau sydd ar y gweill.